Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/06/2011.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
24.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 4(3), rhaid i'r person cofrestredig beidio â defnyddio safle at ddibenion cartref gofal oni bai—
(a)bod y safle'n addas at ddibenion cyflawni'r nodau a'r amcanion a nodir yn y datganiad o ddiben; a
(b)bod lleoliad y safle'n briodol ar gyfer anghenion y defnyddwyr gwasanaeth.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig, o roi sylw i nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth, sicrhau—
(a)bod dyluniad a chynllun ffisegol y safle sydd i'w ddefnyddio fel y cartref gofal yn diwallu anghenion y defnyddwyr gwasanaeth;
(b)bod y safle sydd i'w ddefnyddio fel y cartref gofal o adeiladwaith cadarn ac yn cael ei gadw mewn cyflwr da y tu allan a'r tu mewn;
(c)bod yr offer a ddarperir yn y cartref gofal i'w ddefnyddio gan ddefnyddwyr gwasanaeth neu gan bersonau sy'n gweithio yn y cartref gofal yn cael ei gynnal-a'i-gadw mewn cyflwr gweithio da;
(ch)bod pob rhan o'r cartref gofal yn cael eu cadw'n lân ac wedi'u haddurno'n rhesymol;
(d)bod llety preifat a chyffredin digonol yn cael ei ddarparu ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth;
(dd)bod maint a chynllun yr ystafelloedd a feddiennir neu a ddefnyddir gan y defnyddwyr gwasanaeth yn addas at eu hanghenion;
(e)bod lle digonol ar gyfer eistedd, hamddena a bwyta yn cael ei ddarparu ar wahân i lety preifat y defnyddiwr gwasanaeth;
(f)bod y lle cyffredin a ddarperir ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth yn addas ar gyfer darparu gweithgareddau cymdeithasol, diwylliannol a chrefyddol sy'n briodol ar gyfer amgylchiadau'r defnyddwyr gwasanaeth;
(ff)bod cyfleusterau addas yn cael eu darparu i'r defnyddwyr gwasanaeth gyfarfod ag ymwelwyr mewn llety cyffredin, ac mewn llety preifat sydd ar wahân i ystafelloedd preifat y defnyddwyr gwasanaeth eu hunain;
(g)bod niferoedd digonol o doiledau, ac o fasnau ymolchi, baddonau a chawodydd wedi'u ffitio â chyflenwad dŵ r poeth ac oer, yn cael eu darparu mewn mannau priodol yn y safle;
(ng)bod unrhyw gyfleusterau arllwys angenrheidiol yn cael eu darparu;
(h)bod darpariaeth addas yn cael ei gwneud ar gyfer storio at ddibenion y cartref gofal;
(i)bod cyfleusterau storio addas yn cael eu darparu i'r defnyddwyr gwasanaeth eu defnyddio;
(j)bod newidiadau addas yn cael eu gwneud, a bod unrhyw gymorth, offer a chyfleusterau, gan gynnwys lifftiau, y mae eu hangen yn cael eu darparu ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth sy'n hen, yn eiddil neu'n anabl yn gorfforol;
(l)bod tiroedd allanol sy'n addas ac yn ddiogel i'r defnyddwyr gwasanaeth eu defnyddio yn cael eu darparu a'u cynnal yn briodol;
(ll)bod awyru, gwresogi a goleuo sy'n addas i'r defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu darparu ym mhob rhan o'r cartref gofal sy'n cael eu defnyddio gan y defnyddwyr gwasanaeth;
(m)bod y safle'n ddiogel rhag mynediad na chafodd ei awdurdodi.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu ar gyfer y staff—
(a)cyfleusterau a llety addas, heblaw llety cysgu, gan gynnwys—
(i)cyfleusterau ar gyfer newid;
(ii)cyfleusterau storio;
(b)llety ar gyfer cysgu, os oes ar y staff angen darpariaeth llety o'r fath mewn cysylltiad â'u gwaith yn y cartref gofal.
(4) [F1 Yn ddarostyngedig i baragraff (4A) rhaid i'r person cofrestredig ]—
(a)cymryd rhagofalon digonol rhag risg tân, gan gynnwys darparu offer tân addas;
(b)darparu dulliau dianc digonol;
(c)gwneud trefniadau addas ar gyfer y canlynol—
(i)canfod, cyfyngu a diffodd tanau;
(ii)rhoi rhybuddion tân;
(iii)gwacâd yr holl bersonau sydd yn y cartref gofal a lleoli'r defnyddwyr gwasanaeth yn ddiogel, os digwydd tân;
(iv)cynnal a chadw'r holl offer tân; a
(v)adolygu'r rhagofalon tân, a phrofi'r offer tân, ar adegau addas;
(ch)gwneud trefniadau i'r personau sy'n gweithio yn y cartref gofal gael hyfforddiant addas mewn atal tân;
(d)sicrhau, drwy gyfrwng ymarferion tân ar adegau addas, fod y personau sy'n gweithio yn y cartref gofal ac, i'r graddau y mae'n ymarferol, y defnyddwyr gwasanaeth, yn ymwybodol o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os digwydd tân, gan gynnwys y weithdrefn ar gyfer arbed bywyd;
(dd)ymgynghori â'r [F2awdurdod tân ac achub] ynghylch y materion a ddisgrifir yn is-baragraffau (a) i (d).
[F3(4A) Pan fydd Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn gymwys i'r cartref gofal —
(a)nid yw paragraff (4) yn gymwys; a
(b)rhaid i'r person cofrestredig sicrhau cydymffurfiad â gofynion y Gorchymyn hwnnw ac ag unrhyw reoliadau a wnaed oddi tano, ag eithrio erthygl 23 (dyletswyddau cyflogeion), mewn perthynas â'r cartref gofal.]
(5) Rhaid i'r person cofrestredig ymgynghori yn briodol â'r awdurdod sy'n gyfrifol am iechyd amgylchedd yr ardal y lleolir y cartref gofal ynddi.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 24(4) wedi eu hamnewid (1.10.2006) gan The Regulatory Reform (Fire Safety) Order 2005 (O.S. 2005/1541), ergl. 1(3), Atod. 3 para. 11(b) (ynghyd ag erglau. 49, 51) (fel y'u diwygiwyd gan The Regulatory Reform (Fire Safety) Subordinate Provisions Order 2006 (O.S. 2006/484), erglau. 1(1), 2)
F2Geiriau yn rhl. 24(4)(f) wedi eu hamnewid (25.10.2005) gan Gorchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/2929), erglau. 1(1), 65(3)
F3Rhl. 24(4A) wedi ei fewnosod (1.10.2006) gan The Regulatory Reform (Fire Safety) Order 2005 (O.S. 2005/1541), ergl. 1(3), Atod. 3 para. 11(d) (ynghyd ag erglau. 49, 51) (fel y'i diwygiwyd gan The Regulatory Reform (Fire Safety) Subordinate Provisions Order 2006 (O.S. 2006/484), erglau. 1(1), 2)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 24 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: