Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/06/2011.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
Rheoliadau 7, 9, 19
1. Prawf cadarnhaol o bwy yw'r person gan gynnwys ffotograff diweddar.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
2. Naill ai—LL+C
(a)os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud ag adran 115(5)(ea) o Ddeddf yr Heddlu 1997 (cofrestru o dan Ran II o Ddeddf Safonau Gofal 2000)(1)), neu os yw'r swydd yn dod o fewn adran 115(3) neu (4) o Ddeddf yr Heddlu 1997(2), tystysgrif cofnod troseddol fanwl a roddwyd o dan adran 115 o'r Ddeddf honno ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi; neu
(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol o dan adran 113 o'r Ddeddf honno, ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi,
gan gynnwys yn y naill achos a'r llall, [F1i'r graddau a ganiatier o dan Ddeddf yr Heddlu 1997] [F2ac yn ddarostyngedig i baragraff 8], y materion a bennir yn adran 113(3A) neu (3C) neu 115(6A) neu (6B) o'r Ddeddf honno(3).
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Atod. 2 para. 2 wedi eu hamnewid (18.10.2002) gan Rheoliadau Deddf Plant 1989 a Deddf Safonau Gofal 2000 (Rheoliadau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2622), rhlau. 1, 2(5)(a)
F2Geiriau yn Atod. 2 para. 2 wedi eu mewnosod (16.9.2004) gan Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoliadau Amrywiol) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/2414), rhlau. 1(b), 2(2)(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
3. Dau dystlythyr ysgrifenedig gan gynnwys tystlythyr oddi wrth y cyflogwr diweddaraf, os oes un.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
4. Pan fo person wedi bod yn gweithio gynt mewn swydd a oedd yn cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, cadarnhad, i'r graddau y bo hynny'n ymarferol resymol, o'r rhesymau pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd i ben.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
5. Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
6. Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau yn y gyflogaeth.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
[F37. Gwiriad gan yr heddlu sef adroddiad a gaiff ei lunio gan neu ar ran prif swyddog heddlu neu aelod arall o heddlu o fewn ystyr Deddf yr Heddlu 1996 sy'n cofnodi, fel ar yr adeg pan gaiff yr adroddiad ei lunio, pob tramgwydd troseddolLL+C
(a)y mae'r person wedi'i euogfarnu mewn perthynas â hwy gan gynnwys euogfarnau a dreuliwyd o fewn ystyr Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 ac y gellir eu datgelu trwy rinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975; neu
(b)y mae'r person wedi derbyn rhybudd mewn perthynas â hwy, ac ar yr adeg pan roddwyd y rhybudd wedi'u cyfaddef.]
Diwygiadau Testunol
F3Atod. 2 para. 7 wedi ei amnewid (18.10.2002) gan Rheoliadau Deddf Plant 1989 a Deddf Safonau Gofal 2000 (Rheoliadau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2622), rhlau. 1, 2(5)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
[F48. Ni fydd y gofyniad ym mharagraff 2 am i dystysgrif gynnwys y materion a bennir yn adran 113(3C) neu 115(6B) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn gymwys mewn perthynas â thystysgrif oedd ar gael at ddibenion y Rheoliadau hyn yn syth cyn 26 Gorffennaf 2004.]LL+C
Diwygiadau Testunol
F4Atod. 2 para. 8 wedi ei fewnosod (16.9.2004) gan Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoliadau Amrywiol) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/2414), rhlau. 1(b), 2(2)(b)
Mae adran 115(ea) i'w mewnosod gan Ddeddf Safonau Gofal 2000, adran 104, ar ddyddiad sydd i'w bennu. Nid yw adrannau 113 a 115, fel y'u diwygiwyd, wedi'u dwyn i rym eto.
Mae swydd o fewn adran 115(3) os yw'n golygu bod y person wrthi'n rheolaidd yn hyfforddi, yn goruchwylio neu'n gofalu am bersonau o dan 18 oed neu os yw'n golygu mai'r unig berson sy'n gyfrifol amdanynt yw deiliad y swydd. Mae swydd o fewn adran 115(4) os yw o fath sydd wedi'i bennu mewn rheoliadau ac yn golygu bod y person wrthi'n rheolaidd yn hyfforddi, yn goruchwylio neu'n gofalu am bersonau 18 oed neu os yw'n golygu mai'r unig berson sy'n gyfrifol amdanynt yw deiliad y swydd.
Mae adrannau 113(3A) a 115(6A) yn cael eu hychwanegu at Ddeddf yr Heddlu 1997 gan adran 8 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1997 (p.14) o ddyddiad sydd i'w bennu, ac wedi'u diwygio gan adrannau 104 a 116 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 25 o Atodlen 4 iddi. Mae adrannu 113(3C) a 115(6B) yn cael eu hychwanegu at Ddeddf yr Heddlu 1997 gan adran 90 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ar ddyddiad sydd i'w bennu.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: