Search Legislation

Rheoliadau Diwygio Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro â Lloeren) (Cymru) 2000 2002

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 677 (Cy.74)

PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU

Rheoliadau Diwygio Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro â Lloeren) (Cymru) 2000 2002

Wedi'u gwneud

12 Mawrth 2002

Yn dod i rym

1 Ebrill 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol gan yr adran 2(2) uchod a phob pŵ er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cychwyn ac eithrio

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro â Lloeren) (Cymru) 2000 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.

(2Ni fydd y ffaith bod rheoliad 5 o'r Rheoliadau hyn yn diddymu erthygl 4(2) o'r Gorchymyn yn effeithio ar ei chymhwyso mewn achos (pa bryd bynnag y mae'n digwydd) am dramgwydd yr honnir ei fod wedi'i gyflawni cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Gorchymyn” yw Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro â Lloeren) (Cymru) 2000(3).

(2Dehongler ymadroddion a ddefnyddir mewn darpariaethau sy'n cael eu mewnosod gan y Rheoliadau hyn i mewn i'r Gorchymyn yn yr un modd â phetaent wedi'u mewnosod felly gan orchymyn a wnaed o dan adran 30(2) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981(4).

Diwygio'r Gorchymyn

3.  Yn erthygl 2(1) (dehongli) o'r Gorchymyn mewnosoder yr is-baragraff canlynol yn union ar ôl y diffiniad o “cwch pysgota Prydeinig perthnasol”—

ystyr “dydd o'r wythnos” yw diwrnod heblaw dydd Sadwrn, dydd Sul neu wyl gyhoeddus;.

4.—(1Diwygir erthygl 3 (olrhain cychod pysgota â lloeren) o'r Gorchymyn fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (3), dilëir is-baragraff (b) gan fewnosod yn union ar ôl is-baragraff (a)—

a

(b)yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (6), gael ei chadw yn hollol weithredol,.

(3Dilëir paragraff (4) gan roi'r paragraffau canlynol yn ei le—

(4) Heb gyfyngu ar baragraff (3)(b) yn gyffredinol, rhaid peidio â barnu bod dyfais olrhain loerennol yn hollol weithredol at ddibenion yr is-baragraff hwnnw yn ystod unrhyw gyfnod y mae'n methu â gweithredu yn unol â pharagraff (5).

(5) Rhaid i ddyfais olrhain loerennol sydd wedi'i gosod ar gwch pysgota y mae'r erthygl hon yn gymwys iddi drosglwyddo'r wybodaeth a fynnwyd, yn y fformat a ragnodir gan Atodiad II i Reoliad 1489/97, i Ganolfan Monitro Pysgodfeydd—

(a)pan yw'r ddyfais olrhain loerennol yn gallu cael ei pholio—

(i)o leiaf bob dwy awr; neu

(ii)mewn achos y pennir cyfnod hwyaf uwch ar ei gyfer yn Atodiad I i Reoliad 1489/97, yn ôl cyfnodau nad ydynt yn uwch na'r cyfnod hwyaf hwnnw; neu

(b)pan nad yw'r ddyfais olrhain loerennol yn gallu cael ei pholio, o leiaf bob awr.

(6) Rhaid peidio â thrin y naill na'r llall o'r amgylchiadau canlynol fel rhai sy'n arwain at dorri'r gofyniad ym mharagraff (3)(b)—

(a)pan yw'r ddyfais wedi'i throi i ffwrdd o dan yr amodau a ganiateir gan Atodiad I i Reoliad 1489/97 (aros yn y porthladd am fwy na 48 awr, ar yr amod bod yr adroddiad nesaf yn dod o'r un lleoliad â'r un blaenorol);

(b)pan yw'r ddyfais yn methu yn dechnegol neu'n cau gweithredu o fewn ystyr “technical failure or non-function” yn Erthygl 6.2 o Reoliad 1489/97 tra bod y cwch pysgota naill ai yn y porthladd neu ar ganol taith bysgota a awdurdodir gan yr Erthygl honno.

(7) Drwy gydol unrhyw gyfnod—

(a)pan nad yw cwch pysgota Prydeinig perthnasol neu gwch pysgota o'r Alban y mae'r erthygl hon yn gymwys iddo yn y porthladd, a

(b)pan yw'r ddyfais olrhain loerennol sydd wedi'i gosod ar y cwch yn methu â gweithredu am unrhyw reswm yn unol â pharagraff (5),

heb ragfarnu Erthygl 6.1 o Reoliad 1489/97 (y gofyniad i drosglwyddo gwybodaeth i ganolfannau monitro gwladwriaethau'r faner ac, os yw'n briodol, gwladwriaethau'r arfordir drwy ddulliau eraill o leiaf bob 24 awr), rhaid trosglwyddo'r wybodaeth a fynnwyd i Ganolfan Monitro Pysgodfeydd y Deyrnas Unedig drwy un o'r dulliau a bennir yn yr Erthygl honno o leiaf bob dwy awr..

5.  Mae Erthygl 4(2) (tramgwyddau) o'r Gorchymyn yn cael ei diddymu.

6.  Yn erthygl 5(1) (cosbau) o'r Gorchymyn yn lle “neu (4)” mewnosodir “neu (7)”.

7.  Yn erthygl 6(3), dilëir y geiriau “adran 90 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980,”.

8.—(1Mae Erthygl 7 (pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeining mewn perthynas â chychod pysgota) o'r Gorchymyn yn cael ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (1), yn lle “i (4)” rhoddir “i (8)”.

(3Ar ôl paragraff (4) mewnosodir—

(5) Os yw'n ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig fod y ddyfais olrhain loerennol ar gwch pysgota Prydeinig perthnasol neu gwch pysgota o'r Alban wedi methu â gweithredu, pan nad oedd y cwch yn y porthladd, yn unol ag erthygl 3(5) o'r Gorchymyn hwn, gall y swyddog hwnnw, yn ddarostyngedig i baragraff (7), unrhyw bryd y mae'r cwch mewn porthladd, gyflwyno i'r capten neu'r perchennog hysbysiad o dan baragraff (6).

(6) Mae'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (5) yn hysbysiad—

(a)sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r cwch gael ei gadw yn y porthladd o adeg cyflwyno'r hysbysiad hyd nes i'r cyfnod monitro penodedig ddod i ben; a

(b)sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r ddyfais gael ei gosod (mor agos ag y mae ei chyflwr yn caniatáu) fel ei bod yn trosglwyddo'r wybodaeth a fynnwyd i Ganolfan Monitro Pysgodfeydd y Deyrnas Unedig—

(i)yn achos dyfais sydd wedi'i dylunio i allu cael ei pholio, o leiaf bob dwy awr; a

(ii)yn achos dyfais nad yw wedi'i dylunio felly, o leiaf bob awr.

(7) Rhaid peidio â chyflwyno hysbysiad o dan baragraff (6) yn ddiweddarach na 30 diwrnod ar ôl y diwrnod diwethaf y methodd y ddyfais olrhain loerennol â gweithredu yn unol ag erthygl 3(5) o'r Gorchymyn hwn ym marn y swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.

(8) Yn yr erthygl hon—

(a)ym mharagraffau (5) a (7) mae'r cyfeiriad at erthygl 3(5) o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaeth i'r un perwyl a wnaed drwy orchymyn sy'n gymwys i ddyfroedd y tu hwnt i'r môr tiriogaethol cyfagos â Chymru;

(b)ym mharagraff (6) ystyr “y cyfnod monitro penodedig” yw cyfnod o 24 awr sy'n cael ei bennu yn yr hysbysiad (a rhaid i'r cyfnod hwnnw beidio â dechrau yn hwyrach na 9.00 a.m. ar y diwrnod o'r wythnos ar ôl y diwrnod y mae'r hysbysiad yn cael ei gyflwyno)..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Mawrth 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro â Lloeren) (Cymru) 2000 (O.S. 2000/1078 (Cy.71)) (“y Gorchymyn”), sy'n cynnwys darpariaethau ar gyfer gorfodi deddfwriaeth y Gymuned Ewropeaidd sy'n ei gwneud yn ofynnol bod lleoliad cychod pysgota uwchlaw maint arbennig yn cael ei fonitro â lloeren. Fel yn achos y Gorchymyn hwnnw, mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chychod pysgota yn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru.

Mae'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan y Rheoliadau hyn yn newid y Gorchymyn mewn dwy brif ffordd. Mae Rheoliad 4 yn diwygio erthygl 3 o'r Gorchymyn sy'n creu rhwymedigaethau ynghylch gosod a gweithredu dyfeisiau olrhain lloerennol, drwy egluro'r gofyniad yn erthygl 3(3)(b) bod dyfais olrhain loerennol yn cael ei chadw'n hollol weithredol. Yn benodol mae'r drafftio newydd yn ei gwneud yn glir nad yw'r gofyniad hwnnw yn cael ei dorri naill ai pan fydd y ddyfais olrhain loerennol yn cael ei throi i ffwrdd yn y porthladd o dan amodau a ganiateir gan ddeddfwriaeth berthnasol y GE neu os oes diffyg technegol neu os yw'n methu â gweithio pan fydd y cwch yn y porthladd neu pan nad yw'r cyfnod dros dro pryd y mae deddfwriaeth berthnasol y GE yn caniatáu pysgota gyda dyfais ddiffygiol wedi dod i ben eto.

Mae Rheoliad 4 yn gosod gofyniad ychwanegol bod rhaid darparu'r wybodaeth a fynnwyd am leoliad bob dwy awr i Ganolfan Monitro Pysgodfeydd y Deyrnas Unedig drwy delecs, ffacs, ffôn neu radio, os nad yw ei ddyfais olrhain yn gweithio, tra bod cwch pysgota y mae erthygl 3 o'r Gorchymyn yn gymwys iddo ar y môr.

Mae'r prif newid arall yn cael ei wneud gan reoliad 8, sy'n rhoi pŵ er gorfodi ychwanegol i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig mewn achos lle mae'r ddyfais olrhain loerennol ar fwrdd cwch pysgota Prydeinig wedi methu â gweithio. Gall y swyddog gyflwyno hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r cwch aros yn y porthladd nes bod y cyfnod monitro o 24 awr yn dod i ben. Yn ystod y cyfnod hwn rhaid gosod y ddyfais olrhain loerennol i ddarlledu'r wybodaeth a fynnwyd am leoliad bob dwy awr (bob awr yn achos dyfais nad yw wedi'i dylunio i allu cael ei pholio gan y Ganolfan Fonitro).

Mae'r diwygiadau eraill sy'n cael eu gwneud gan y Rheoliadau yn rhai canlyniadol. Maent yn cynnwys diddymu amddiffyniad mewn achos troseddol penodol sydd wedi'i ddisodli drwy'r newidiadau sy'n cael eu gwneud gan reoliad 4 (gweler rheoliadau 1(2) a 5).

(4)

1981 p. 29; cafodd O.S. 2000/191 ei wneud o dan adran 30(2).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources