Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Grantiau Cyfalaf) (Cymru) 2002

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 679 (Cy.76)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Grantiau Cyfalaf) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

12 Mawrth 2002

Yn dod i rym

1 Ebrill 2002

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 484, 489 a 569(4) o Ddeddf Addysg 1996(1) ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Grantiau Cyfalaf) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag awdurdodau addysg lleol yng Nghymru yn unig.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “awdurdod addysg” (“education authority”) yw awdurdod addysg lleol yng Nghymru;

  • ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth;

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(3);

  • ystyr “grant” (“grant”) yw grant sy'n daladwy o dan adran 484 o Ddeddf 1996 yn unol â'r Rheoliadau hyn;

  • ystyr “gwariant a gymeradwywyd” (“approved expenditure”) yw unrhyw wariant sydd wedi'i gymeradwyo yn unol â'r ddarpariaeth yn rheoliad 3;

  • ystyr “gwariant a ragnodwyd” (“prescribed expenditure”) yw gwariant gan awdurdod addysg at unrhyw un o'r dibenion a bennir yn yr Atodlen neu mewn cysylltiad â hwy;

  • ystyr “penderfynu” (“determine”) yw penderfynu drwy hysbysiad ysgrifenedig;

  • mae i “safle ysgol” yr ystyr a roddir i “school site” ym mharagraff 2(11) o Atodlen 3 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(4).

(2Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at reoliad yn gyfeiriad at reoliad a gynhwysir ynddynt, mae cyfeiriad mewn rheoliad at baragraff yn gyfeiriad at baragraff yn y rheoliad hwnnw, ac mae cyfeiriad at yr Atodlen yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Gwariant y mae grantiau yn daladwy mewn perthynas â hwy

3.  Ni fydd grantiau yn daladwy ond ar gyfer gwariant a ragnodwyd ac a dynnwyd neu a dynnir yn ystod blwyddyn ariannol a dim ond i'r graddau y mae'r gwariant hwnnw wedi'i gymeradwyo am y flwyddyn honno gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Cyfradd y grantiau

4.  Rhaid talu grantiau ar gyfer gwariant a gymeradwywyd ac a dynnwyd ar 1 Ebrill 2002 neu ar ôl hynny o'r math y cyfeirir ato yn yr Atodlen yn ôl cyfradd o 100 y cant o'r gwariant hwnnw a gymeradwywyd.

Amodau talu grantiau

5.—(1Ni thelir grant onid yw'n ymateb i gais ysgrifenedig oddi wrth awdurdod addysg i'r Cynulliad Cenedlaethol, wedi'i ddilysu gan swyddog o'r awdurdod sy'n gyfrifol am weinyddu eu cyllid neu ddirprwy'r person hwnnw.

(2Rhaid i geisiadau am dalu'r grant ymwneud â gwariant dros un neu ragor o'r cyfnodau a bennir ym mharagraff (3) ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym a rhaid iddynt bennu'r gwariant a gymeradwywyd ac y gwneir cais am grant ar ei gyfer, sef gwariant a dynnwyd gan yr awdurdod addysg yn ystod pob un o'r cyfnodau hynny neu yr amcangyfrifir y bydd yn cael ei dynnu.

(3Y cyfnodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—

(a)o 1 Ebrill hyd at 31 Gorffennaf;

(b)o 1 Ebrill hyd at 30 Tachwedd;

(c)o 1 Rhagfyr hyd at 31 Mawrth.

(4Rhaid i bob awdurdod addysg y talwyd grant iddo neu sy'n ceisio cael taliad grant ar gyfer gwariant a dynnwyd yn ystod unrhyw flwyddyn ariannol, wneud y canlynol cyn 31 Hydref yn ystod y flwyddyn ariannol ddilynol neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl y dyddiad hwnnw—

(a)cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ddatganiad ar ffurflen safonol a ddarperir gan y Cynulliad Cenedlaethol a rhaid i'r datganiad hwnnw bennu'r gwariant a gymeradwywyd ac y mae cais wedi'i wneud neu'n cael ei wneud am grant ar ei gyfer, sef gwariant a dynnwyd gan yr awdurdod addysg yn ystod y flwyddyn honno; a

(b)sicrhau cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol dystysgrif wedi'i llofnodi gan archwilydd a benodwyd gan y Comisiwn Archwilio i Awdurdodau Lleol a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a Lloegr i archwilio cyfrifon yr awdurdod neu unrhyw archwilydd sydd â chymhwyster i gael ei benodi yn rhinwedd adran 3(5), (6) a (7) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998(5) ac sy'n ardystio bod y manylion a roddwyd yn y datganiad, ym marn yr archwilydd, ac a gyflwynwyd gan yr awdurdod yn unol â'r paragraff hwn, wedi'u datgan yn deg a bod y gwariant a dynnwyd wedi'i gymeradwyo at ddibenion adran 484 o Ddeddf 1996(6).

(5Ac eithrio yn ystod y flwyddyn gyntaf ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, ni thelir grant mewn perthynas â gwariant a dynnwyd gan awdurdod addysg yn ystod y cyfnod 1 Awst hyd at 30 Tachwedd mewn unrhyw flwyddyn neu unrhyw gyfnod ar ôl hynny os talwyd grant i'r awdurdod mewn perthynas â gwariant yn ystod blwyddyn ariannol flaenorol ac nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol eto wedi cael tystysgrif yr archwilydd y cyfeirir ati ym mharagraff (4)(b) am y flwyddyn honno.

(6Rhaid i unrhyw dandaliad neu ordaliad o grant sy'n dal heb ei dalu ar ôl cael tystysgrif yr archwilydd y cyfeirir ati ym mharagraff (4)(b), heb ragfarnu camau i adennill unrhyw ordaliad o unrhyw daliad dilynol o grant i'r awdurdod addysg, gael ei addasu â thaliad rhwng yr awdurdod a'r Cynulliad Cenedlaethol.

6.  Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol, adeg cymeradwyo gwariant at ddibenion y Rheoliadau hyn, yn mynnu gwybodaeth mewn perthynas ag unrhyw ddiben a restrir yn yr Atodlen, bydd talu'r grant, at y diben hwnnw yn amodol ar gynnwys yr wybodaeth honno yng nghais yr awdurdod addysg i gael taliad y grant.

7.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, o bryd i'w gilydd, benderfynu ar amodau pellach y bydd talu yn unol â'r Rheoliadau hyn yn ddibynnol ar eu cyflawni.

(2Os penderfynwyd ar amodau yn unol â'r rheoliad hwn ni cheir talu grant oni fydd yr amodau hynny wedi'u cyflawni neu wedi'u tynnu'n ôl yn unol â pharagraff (3).

(3Caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu tynnu'n ôl neu, wedi ymgynghori â'r awdurdod addysg, amrywio'r amodau y penderfynwyd arnynt yn unol â'r rheoliad hwn.

Gofynion y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy

8.  Rhaid i unrhyw awdurdod addysg y talwyd grant iddo, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei fynnu, roi iddo unrhyw wybodaeth bellach y bydd yn ei mynnu i'w alluogi i wirio bod unrhyw grant a dalwyd wedi cael ei dalu'n briodol o dan y Rheoliadau hyn.

9.  Rhaid i unrhyw awdurdod addysg y talwyd grant iddo gydymffurfio ag unrhyw ofynion (gan gynnwys gofynion sy'n ymwneud ag ad-dalu'r grant neu dalu i'r Cynulliad unrhyw symiau sy'n perthyn i werth asedau a gaffaelwyd, a ddarparwyd neu a wellhawyd drwy gymorth grant neu log ar symiau sy'n ddyledus iddo) y bydd y Cynulliad yn penderfynu arnynt yn yr achos dan sylw.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Mawrth 2002

Rheoliadau 2 a 3

YR ATODLENY DIBENION Y MAE GRANTIAU YN DALADWY AR EU CYFER NEU MEWN CYSYLLTIAD Å HWY

Gwella safleoedd ysgolion, gan gynnwys—

(a)gwella, adnewyddu neu amnewid adeiladau, celfi ac offer (heblaw offer technoleg gwybodaeth a chyfathrebu) a ddefnyddir at ddibenion addysgol;

(b)darparu ceblau ar gyfer offer technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a'u gosod fel rhan o wella, adnewyddu neu amnewid o'r fath (ond nid darparu'r offer ei hun a'i osod ); ac

(c)darparu offer diogelwch.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adran 484 o Ddeddf Addysg 1996 yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) i wneud rheoliadau sy'n darparu ar gyfer talu grantiau ar gyfer gwariant a dynnwyd gan awdurdodau addysg lleol at ddibenion addysgol neu mewn cysylltiad â hwy ac y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol y dylid annog yr awdurdodau hynny i'w dynnu er lles addysg yng Nghymru. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer talu grantiau o'r fath.

Mae Rheoliad 1 yn darparu ar gyfer enwi, cychwyn a chymhwyso. Mae'r Rheoliadau yn dod i rym ar 1 Ebrill 2002 ac maent yn gymwys i Gymru yn unig.

Mae Rheoliad 2 yn cynnwys diffiniadau.

Mae Rheoliad 3 yn darparu mai dim ond ar gyfer gwariant a dynnwyd neu a dynnir gan awdurdod addysg lleol at y dibenion a bennir yn yr Atodlen yn ystod blwyddyn ariannol neu mewn cysylltiad â hwy y bydd grantiau yn daladwy, a dim ond i'r graddau y mae'r gwariant wedi'i gymeradwyo am y flwyddyn honno gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y Rheoliadau.

Mae Rheoliad 4 yn darparu yn ôl pa gyfradd y mae grantiau yn daladwy.

Mae Rheoliadau 5 i 7 yn nodi'r amodau sy'n gymwys ar gyfer talu grantiau, gan gynnwys gofynion archwilio.

Mae Rheoliad 8 yn nodi nifer o ofynion eraill y mae'n rhaid i awdurdodau addysg lleol, y mae taliadau grant wedi'u gwneud iddynt, gydymffurfio â hwy .

Mae Rheoliad 9 yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol osod gofynion ychwanegol.

Mae'r Atodlen yn darparu at ba ddibenion neu mewn cysylltiad â pha ddibenion y gall grantiau gael eu talu.

(1)

1996 p.56; mae adrannau 484 a 489 wedi'u diwygio gan adran 140(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a pharagraffau 125 a 126 o Atodlen 30 iddi. I gael ystyr “regulations” gweler adran 579(1).

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(6)

Mae adran 484 wedi'i diwygio gan adran 7(10) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a pharagraff 125 o Atodlen 30 iddi.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources