- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
5.—(1) Ni thelir grant onid yw'n ymateb i gais ysgrifenedig oddi wrth awdurdod addysg i'r Cynulliad Cenedlaethol, wedi'i ddilysu gan swyddog o'r awdurdod sy'n gyfrifol am weinyddu eu cyllid neu ddirprwy'r person hwnnw.
(2) Rhaid i geisiadau am dalu'r grant ymwneud â gwariant dros un neu ragor o'r cyfnodau a bennir ym mharagraff (3) ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym a rhaid iddynt bennu'r gwariant a gymeradwywyd ac y gwneir cais am grant ar ei gyfer, sef gwariant a dynnwyd gan yr awdurdod addysg yn ystod pob un o'r cyfnodau hynny neu yr amcangyfrifir y bydd yn cael ei dynnu.
(3) Y cyfnodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—
(a)o 1 Ebrill hyd at 31 Gorffennaf;
(b)o 1 Ebrill hyd at 30 Tachwedd;
(c)o 1 Rhagfyr hyd at 31 Mawrth.
(4) Rhaid i bob awdurdod addysg y talwyd grant iddo neu sy'n ceisio cael taliad grant ar gyfer gwariant a dynnwyd yn ystod unrhyw flwyddyn ariannol, wneud y canlynol cyn 31 Hydref yn ystod y flwyddyn ariannol ddilynol neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl y dyddiad hwnnw—
(a)cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ddatganiad ar ffurflen safonol a ddarperir gan y Cynulliad Cenedlaethol a rhaid i'r datganiad hwnnw bennu'r gwariant a gymeradwywyd ac y mae cais wedi'i wneud neu'n cael ei wneud am grant ar ei gyfer, sef gwariant a dynnwyd gan yr awdurdod addysg yn ystod y flwyddyn honno; a
(b)sicrhau cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol dystysgrif wedi'i llofnodi gan archwilydd a benodwyd gan y Comisiwn Archwilio i Awdurdodau Lleol a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a Lloegr i archwilio cyfrifon yr awdurdod neu unrhyw archwilydd sydd â chymhwyster i gael ei benodi yn rhinwedd adran 3(5), (6) a (7) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998(1) ac sy'n ardystio bod y manylion a roddwyd yn y datganiad, ym marn yr archwilydd, ac a gyflwynwyd gan yr awdurdod yn unol â'r paragraff hwn, wedi'u datgan yn deg a bod y gwariant a dynnwyd wedi'i gymeradwyo at ddibenion adran 484 o Ddeddf 1996(2).
(5) Ac eithrio yn ystod y flwyddyn gyntaf ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, ni thelir grant mewn perthynas â gwariant a dynnwyd gan awdurdod addysg yn ystod y cyfnod 1 Awst hyd at 30 Tachwedd mewn unrhyw flwyddyn neu unrhyw gyfnod ar ôl hynny os talwyd grant i'r awdurdod mewn perthynas â gwariant yn ystod blwyddyn ariannol flaenorol ac nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol eto wedi cael tystysgrif yr archwilydd y cyfeirir ati ym mharagraff (4)(b) am y flwyddyn honno.
(6) Rhaid i unrhyw dandaliad neu ordaliad o grant sy'n dal heb ei dalu ar ôl cael tystysgrif yr archwilydd y cyfeirir ati ym mharagraff (4)(b), heb ragfarnu camau i adennill unrhyw ordaliad o unrhyw daliad dilynol o grant i'r awdurdod addysg, gael ei addasu â thaliad rhwng yr awdurdod a'r Cynulliad Cenedlaethol.
Mae adran 484 wedi'i diwygio gan adran 7(10) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a pharagraff 125 o Atodlen 30 iddi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: