- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
21 Mawrth 2002
Yn dod i rym
1 Ebrill 2002
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Cyfradd y Disgownt ar gyfer 2002/2003) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2. 6.7 y cant fydd cyfradd ganrannol y disgownt a ragnodir ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2002 at ddibenion adran 49 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mawrth 2002
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rhan IV o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 yn gwneud darpariaeth ar gyfer arian cyfalaf awdurdodau lleol.
Mae adran 49(2) o'r Ddeddf honno'n nodi fformwla ar gyfer penderfynu, at ddibenion Rhan IV, werth y gydnabyddiaeth sydd i'w rhoi gan awdurdod o dan drefniant credyd mewn unrhyw flwyddyn ariannol ar ôl y flwyddyn y daw'r trefniant i fodolaeth.
Un o'r elfennau sy'n ffurfio'r fformwla yw cyfradd ganrannol y disgownt a ragnodir ar gyfer blwyddyn ariannol.
Ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2002 mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi cyfradd ganrannol o 6.7 y cant o ddisgownt sy'n 0.3 y cant yn llai na chyfradd y disgownt a ragnodwyd ar gyfer 2001/2002.
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: