- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
41.—(1) Mae'r darpariaethau yn yr erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â threfniadau gweithrediaeth awdurdod lleol sy'n cynnwys gweithrediaeth maer a chabinet.
(2) At ddibenion yr erthygl hon, dylid ystyried bod maer etholedig, dirprwy faer neu aelod o'r weithrediaeth yn analluog i weithredu dim ond os ydyw yn cael ei wahardd o swydd neu'n anaddas i weithredu am resymau iechyd.
(3) Os am unrhyw resymau—
(a)nad oes modd i'r maer etholedig weithredu neu bod y swydd o faer etholedig yn wag;
(b)nad oes modd i'r dirprwy faer weithredu neu bod y swydd o ddirprwy faer yn wag; ac
(c)mai dim ond un aelod arall o'r weithrediaeth sy'n gallu gweithredu,
rhaid i'r aelod arall hwnnw weithredu yn lle'r maer etholedig.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), os am unrhyw reswm—
(a)nad oes modd i'r maer etholedig weithredu neu bod y swydd o faer etholedig yn wag; a
(b)nad oes modd i unrhyw aelod arall o'r weithrediaeth ymddwyn neu, oherwydd bod swyddi gwag, nad oes unrhyw aelodau eraill o'r weithrediaeth ar gael,
bydd yr awdurdod, cyn gynted ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol, yn penodi cynghorydd o'r awdurdod (“y maer dros dro”) (“the interim mayor”) i weithredu yn lle'r maer etholedig a phenodi o leiaf ddau, ond nid mwy na naw, cynghorydd o'r awdurdod (“yr aelodau dros dro”) (“the interim members”) i weithredu yn lle aelodau'r weithrediaeth a benodwyd gan y maer etholedig.
(5) Ni chaiff y maer dros dro a'r aelodau dros dro benodi cynghorwyr yr awdurdod i'r weithrediaeth na'u symud o'u swyddi.
(6) At ddibenion adran 11(8) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (gweithrediaethau awdurdod lleol), bydd y maer dros dro a'r aelodau dros dro yn cael eu trin fel nad ydynt yn aelodau o'r weithrediaeth.
(7) Ac eithrio adran 80 o Ddeddf 1972 (datgymhwysiadau mewn perthynas ag ethol a dal swydd fel aelod o awdurdod lleol) neu adran 35 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1985 (datgymhwyso), ni chaiff person ei ddatgymhwyso rhag bod yn aelod o awdurdod lleol neu, fel y digwydd, awdurdod ar y cyd dim ond am fod y person hwnnw yn faer dros dro neu'n aelod dros dro.
(8) Pan fo'r maer dros dro neu'r aelod dros dro yn peidio â bod yn gynghorydd, bydd y person hwnnw yn peidio â bod ar yr un pryd yn faer dros dro neu, fel y digwydd, yn aelod dros dro.
(9) Gall yr awdurdod, os yw'n tybio bod hynny'n briodol, symud y maer dros dro neu aelod dros dro o'u swydd.
(10) Bydd unrhyw faer dros dro ac aelod dros dro, oni bai fod y person hwnnw yn ymddiswyddo fel maer dros dro, neu fel y digwydd, fel aelod dros dro, sy'n peidio â bod yn gynghorydd neu'n cael eu symud o'u swyddi, yn dal swydd hyd—
(a)nes y bydd y maer etholedig yn gallu gweithredu;
(b)pan fo swydd maer etholedig yn wag, tan y bydd maer etholedig newydd yn dechrau yn y swydd; neu
(c)bod aelod o'r weithrediaeth a benodwyd gan y maer etholedig yn gallu gweithredu,
p'un bynnag a ddigwydd gyntaf.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: