Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithredol a Threfniadau Amgen) (Addasu Deddfiadau a Darpariaethau Eraill) (Cymru) 2002

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Gweithrediaethau maer a chabinet

41.—(1Mae'r darpariaethau yn yr erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â threfniadau gweithrediaeth awdurdod lleol sy'n cynnwys gweithrediaeth maer a chabinet.

(2At ddibenion yr erthygl hon, dylid ystyried bod maer etholedig, dirprwy faer neu aelod o'r weithrediaeth yn analluog i weithredu dim ond os ydyw yn cael ei wahardd o swydd neu'n anaddas i weithredu am resymau iechyd.

(3Os am unrhyw resymau—

(a)nad oes modd i'r maer etholedig weithredu neu bod y swydd o faer etholedig yn wag;

(b)nad oes modd i'r dirprwy faer weithredu neu bod y swydd o ddirprwy faer yn wag; ac

(c)mai dim ond un aelod arall o'r weithrediaeth sy'n gallu gweithredu,

rhaid i'r aelod arall hwnnw weithredu yn lle'r maer etholedig.

(4Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), os am unrhyw reswm—

(a)nad oes modd i'r maer etholedig weithredu neu bod y swydd o faer etholedig yn wag; a

(b)nad oes modd i unrhyw aelod arall o'r weithrediaeth ymddwyn neu, oherwydd bod swyddi gwag, nad oes unrhyw aelodau eraill o'r weithrediaeth ar gael,

bydd yr awdurdod, cyn gynted ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol, yn penodi cynghorydd o'r awdurdod (“y maer dros dro”) (“the interim mayor”) i weithredu yn lle'r maer etholedig a phenodi o leiaf ddau, ond nid mwy na naw, cynghorydd o'r awdurdod (“yr aelodau dros dro”) (“the interim members”) i weithredu yn lle aelodau'r weithrediaeth a benodwyd gan y maer etholedig.

(5Ni chaiff y maer dros dro a'r aelodau dros dro benodi cynghorwyr yr awdurdod i'r weithrediaeth na'u symud o'u swyddi.

(6At ddibenion adran 11(8) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (gweithrediaethau awdurdod lleol), bydd y maer dros dro a'r aelodau dros dro yn cael eu trin fel nad ydynt yn aelodau o'r weithrediaeth.

(7Ac eithrio adran 80 o Ddeddf 1972 (datgymhwysiadau mewn perthynas ag ethol a dal swydd fel aelod o awdurdod lleol) neu adran 35 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1985 (datgymhwyso), ni chaiff person ei ddatgymhwyso rhag bod yn aelod o awdurdod lleol neu, fel y digwydd, awdurdod ar y cyd dim ond am fod y person hwnnw yn faer dros dro neu'n aelod dros dro.

(8Pan fo'r maer dros dro neu'r aelod dros dro yn peidio â bod yn gynghorydd, bydd y person hwnnw yn peidio â bod ar yr un pryd yn faer dros dro neu, fel y digwydd, yn aelod dros dro.

(9Gall yr awdurdod, os yw'n tybio bod hynny'n briodol, symud y maer dros dro neu aelod dros dro o'u swydd.

(10Bydd unrhyw faer dros dro ac aelod dros dro, oni bai fod y person hwnnw yn ymddiswyddo fel maer dros dro, neu fel y digwydd, fel aelod dros dro, sy'n peidio â bod yn gynghorydd neu'n cael eu symud o'u swyddi, yn dal swydd hyd—

(a)nes y bydd y maer etholedig yn gallu gweithredu;

(b)pan fo swydd maer etholedig yn wag, tan y bydd maer etholedig newydd yn dechrau yn y swydd; neu

(c)bod aelod o'r weithrediaeth a benodwyd gan y maer etholedig yn gallu gweithredu,

p'un bynnag a ddigwydd gyntaf.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill