Search Legislation

Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2002

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN I

Tramgwyddau yng Nghymru a Lloegr

1.  Llofruddiaeth.

2.  Dynladdiad.

3.  Herwgipio.

4.  Camgarcharu.

5.  Tramgwydd o dan adran 16 o Ddeddf Tramgwyddau yn erbyn y Person 1861 (bygythion i ladd)(1).

6.  Tramgwydd o dan adran 18, 20 neu 47 o'r Ddeddf honno (clwyfo ac achosi niwed corfforol).

7.  Tramgwydd o dan adran 1 o Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc 1933 (creulondeb i blant)(2).

8.  Tramgwydd o dan adran 1 o Ddeddf Babanladdiad 1938 (babanladdiad)(3).

9.  Tramgwydd o dan adran 1 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 1956 (trais rhywiol)(4)).

10.  Tramgwydd o dan adran 2 neu 3 o'r Ddeddf honno (caffael menyw drwy fygythion neu haeriad anwir).

11.  Tramgwydd o dan adran 4 o'r Ddeddf honno (rhoi cyffuriau er mwyn sicrhau neu hwyluso cyfathrach).

12.  Tramgwydd o dan adran 5 o'r Ddeddf honno (cyfathrach â merch o dan 13).

13.  Tramgwydd o dan adran 6 o'r Ddeddf honno (cyfathrach â merch o dan 16).

14.  Tramgwydd o dan adran 7 o'r Ddeddf honno (cyfathrach â pherson diffygiol)(5).

15.  Tramgwydd o dan adran 9 o'r Ddeddf honno (caffael person diffygiol).

16.  Tramgwydd o dan adran 10 o'r Ddeddf honno (llosgach gan ddyn).

17.  Tramgwydd o dan adran 11 o'r Ddeddf honno (llosgach gan fenyw).

18.  Tramgwydd o dan adran 12 o'r Ddeddf honno drwy gyflawni sodomiaeth â phlentyn o dan 16.

19.  Tramgwydd o dan adran 13 o'r Ddeddf honno drwy gyflawni gweithred anwedduster dybryd gyda phlentyn.

20.  Tramgwydd o dan adran 14 neu 15 o'r Ddeddf honno (ymosodiad anweddus).

21.  Tramgwydd o dan adran 16 o'r Ddeddf honno (ymosodiad gyda'r bwriad o gyflawni sodomiaeth).

22.  Tramgwydd o dan adran 17 o'r Ddeddf honno (herwgydio menyw drwy rym neu er mwyn ei heiddo).

23.  Tramgwydd o dan adran 19 neu 20 o'r Ddeddf honno (herwgydio merch o dan 18 neu 16).

24.  Tramgwydd o dan adran 21 o'r Ddeddf honno (herwgydio person diffygiol o riant neu warcheidwad) drwy gymryd plentyn allan o feddiant rhiant neu warcheidwad y plentyn.

25.  Tramgwydd o dan adran 22 o'r Ddeddf honno (peri i fenywod buteinio).

26.  Tramgwydd o dan adran 23 o'r Ddeddf honno (caffael merch o dan 21).

27.  Tramgwydd o dan adran 24 o'r Ddeddf honno (cadw menyw mewn puteindy neu safle arall).

28.  Tramgwydd o dan adran 25 neu 26 o'r Ddeddf honno (caniatáu i ferch o dan 13, neu rhwng 13 ac 16, ddefnyddio safle ar gyfer cyfathrach).

29.  Tramgwydd o dan adran 27 o'r Ddeddf honno (caniatáu i berson diffygiol ddefnyddio safle ar gyfer cyfathrach).

30.  Tramgwydd o dan adran 28 o'r Ddeddf honno (peri i ferch o dan 16 buteinio neu ei hannog i wneud hynny, neu beri i berson gael cyfathrach â merch o'r fath neu i ymosod yn anweddus arni neu annog person i wneud hynny).

31.  Tramgwydd o dan adran 29 o'r Ddeddf honno (peri i berson diffygiol buteinio neu ei annog i wneud hynny) .

32.  Tramgwydd o dan adran 30 o'r Ddeddf honno (dyn yn byw ar enillion puteindra).

33.  Tramgwydd o dan adran 31 o'r Ddeddf honno (menyw yn arfer rheolaeth ar butain).

34.  Tramgwydd o dan adran 128 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1959 (cyfathrach rywiol â chleifion)(6).

35.  Tramgwydd o dan adran 1 o Ddeddf Anwedduster â Phlant 1960 (ymddygiad anweddus tuag at blentyn ifanc)(7).

36.  Tramgwydd o dan adran 4 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 1967 (caffael eraill i gyflawni gweithredoedd gwrywgydiol)(8) drwy—

(a)caffael plentyn i gyflawni gweithred sodomiaeth gydag unrhyw berson, neu

(b)caffael unrhyw berson i gyflawni gweithred sodomiaeth gyda phlentyn.

37.  Tramgwydd o dan adran 5 o'r Ddeddf honno (byw ar enillion puteindra gwryw).

38.  Tramgwydd o dan adran 9(1)(a) o Ddeddf Dwyn 1968 (byrgleriaeth)(9) drwy fynd i mewn i adeilad neu ran o adeilad gyda'r bwriad o dreisio plentyn.

39.  Tramgwydd o dan adran 4(3) o Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971(10).

40.  Tramgwydd o dan adran 54 o Ddeddf Cyfraith Troseddau 1977 (ysgogi merch o dan 16 oed i ymlosgach)(11)).

41.  Tramgwydd o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1978 (ffotograffau anweddus o blant)(12).

42.  Tramgwydd o dan adran 170 o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979(13)) mewn perthynas â nwyddau y gwaherddir eu mewnforio o dan adran 42 o Ddeddf Cydgrynhoi Tollau 1876 (gwaharddiadau a chyfyngiadau mewn perthynas â phornograffi)(14) os oedd y nwyddau gwaharddedig yn cynnwys ffotograffau anweddus o blant o dan 16 oed.

43.  Tramgwydd o dan adran 1 o Ddeddf Herwgydio Plant 1984 (herwgydio plentyn gan riant)(15) neu adran 32(3) o Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc 1969 (ysgogi etc. personau absennol(16)f).

44.  Tramgwydd o dan adran 160 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (meddu ar ffotograff anweddus o blentyn)(17).

45.  Tramgwydd o dan adran 14 o Ddeddf Plant 1958(18)), adran 16 o Ddeddf Plant Maeth 1980(19) neu adran 70 o'r Ddeddf (tramgwyddau mewn perthynas â maethu'n breifat).

46.  Tramgwydd o dan adran 44(15), 49 neu 50(9) o'r Ddeddf (tramgwyddau rhwystro a thramgwyddau mewn perthynas â herwgydio plentyn mewn gofal).

47.  Tramgwydd o dan adran 63(10), paragraff 1(5) o Atodlen 5 neu baragraff 2(3) o Atodlen 6 i'r Ddeddf (tramgwyddau mewn perthynas â chartrefi gwirfoddol a chartrefi plant)(20).

48.  Tramgwydd o dan adran 78, 79D neu 79F(6) o'r Ddeddf (tramgwyddau mewn perthynas â gwarchod plant a gofal dydd)(21).

49.  Tramgwydd o dan adran 3 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (manteisio ar ffydd)(22).

50.  Tramgwydd mewn perthynas â chartref plant o dan ddarpariaethau canlynol Deddf 2000 neu yn rhinwedd y darpariaethau hynny—

(a)adran 11(1) (methu â chofrestru);

(b)adran 24 (methu â chydymffurfio ag amodau);

(c)adran 25 (torri rheoliadau);

(ch)adran 26 (disgrifiadau ffug o sefydliadau ac asiantaethau); neu

(d)adran 27 (datganiadau ffug mewn ceisiadau).

51.  Tramgwydd—

(a)helpu, annog, cwnsela neu ysgogi person i gyflawni tramgwydd a bennir ym mharagraffau 1 i 50 o'r Atodlen hon, neu beri iddynt wneud hynny; neu

(b)cynllwynio neu geisio cyflawni tramgwydd o'r fath.

Tramgwyddau yn yr Alban

52.  Tramgwydd trais rhywiol.

53.  Llofruddiaeth.

54.  Lladdiad beius.

55.  Tramgwydd o dan adran 60(3), 61(3) neu 62(6) o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968 (tramgwyddau mewn perthynas â sefydliadau preswyl a sefydliadau eraill)(23)), neu yn rhinwedd un o'r adrannau hynny

56.  Tramgwydd o dan adran 32(3) o Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc 1969 (ysgogi etc. person absennol).

57.  Tramgwydd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995(24).

58.  Tramgwydd cyfraith gwlad yn yr Alban, sef plagiwm (dwyn plentyn islaw oedran aeddfedrwydd).

59.  Tramgwydd o dan adran 170 o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979 mewn perthynas â nwyddau y gwaherddir eu mewnforio o dan adran 42 o Ddeddf Cydgrynhoi Tollau 1876 (gwaharddiadau a chyfyngiadau mewn perthynas â phornograffi) os oedd y nwyddau gwaharddedig yn cynnwys ffotograffau anweddus o blant o dan 16.

60.  Tramgwydd o dan adran 52 neu 52A o Ddeddf Llywodraeth Ddinesig (Yr Alban) 1982 (tramgwyddau mewn perthynas â ffotograffau anweddus o blant)(25).

61.  Tramgwydd o dan adran 6 o Ddeddf Herwgydio Plant 1984 (cymryd plentyn o'r Deyrnas Unedig neu ei anfon oddi yno).

62.  Tramgwydd o dan adran 15 o Ddeddf Plant Maeth (Yr Alban) 1984 (tramgwyddau mewn perthynas â maethu'n breifat)(26).

63.  Tramgwydd o dan adran 78 o'r Ddeddf (tramgwyddau mewn perthynas â gwarchod plant a gofal dydd).

64.  Tramgwydd o dan adran 81, 83 neu 89 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995(27) neu adran 17(8) neu 71 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(28)) (tramgwyddau llochesu).

65.  Tramgwydd o dan adran 3 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (manteisio ar ffydd).

66.  Tramgwydd mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal, gwarchod plant neu ofal dydd dros blant, o dan unrhyw un o ddarpariaethau canlynol Deddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001(29) neu yn rhinwedd unrhyw un o'r darpariaethau hynny—

(a)adran 21 (tramgwyddau mewn perthynas â chofrestru);

(b)adran 22 (datganiadau ffug mewn ceisiadau); neu

(c)adran 29(10) (tramgwyddau mewn rheoliadau).

Tramgwyddau yng Ngogledd Iwerddon

67.  Tramgwydd trais rhywiol.

68.  Tramgwydd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(30).

69.  Tramgwydd o dan adran 32(3) o Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc 1969 (ysgogi etc. person absennol).

70.  Tramgwydd o dan Erthygl 3 o Orchymyn Amddiffyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1978 (ffotograffau anweddus)(31).

71.  Tramgwydd o dan adran 170 o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979 mewn perthynas â nwyddau y gwaherddir eu mewnforio o dan adran 42 o Ddeddf Cydgrynhoi Tollau 1876 (gwaharddiadau a chyfyngiadau mewn perthynas â phornograffi) os oedd y nwyddau gwaharddedig yn cynnwys ffotograffau anweddus o blant o dan 16 oed.

72.  Tramgwydd yn groes i Erthygl 9 o Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Gogledd Iwerddon) 1980 (ysgogi merch o dan 16 oed i gael cyfathrach rywiol losgachol)(32).

73.  Tramgwydd o dan i Erthygl 15 o Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Tystiolaeth etc.) (Gogledd Iwerddon) 1988 (meddu ar ffotograffau anweddus o blant)(33)).

74.  Tramgwydd o dan Erthygl 63(15), 68 neu 69(9) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (tramgwyddau rhwystro a thramgwyddau mewn perthynas â herwgydio plentyn mewn gofal)(34).

75.  Tramgwydd o dan adran 32(3), 140(6) neu 144(3) o Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968.

76.  Tramgwydd o dan Erthygl 132 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 neu adran 14 o Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968 (tramgwyddau mewn perthynas â gwarchod plant a gofal dydd)(35)).

77.  Tramgwydd o dan Erthygl 117 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 neu adran 9(1) o Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968 (tramgwyddau mewn perthynas â maethu'n breifat).

78.  Tramgwydd o dan Erthygl 79(3), 81(4), 95(3) neu 97(4) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 neu adran 127(5) neu 129(3) o Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968 (tramgwyddau mewn perthynas â chartrefi gwirfoddol a chartrefi plant).

79.  Tramgwydd o dan adran 3 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (manteisio ar ffydd).

Tramgwyddau eraill

80.  Unrhyw dramgwydd, heblaw'r tramgwyddau a grybwyllir ym mharagraffau 1 i 79, sy'n cynnwys niwed neu fygythiad niwed i berson arall.

81.  Tramgwydd yn rhinwedd—

(a)adran 7 o Ddeddf Tramgwyddwyr Rhywiol 1997 (ymestyn awdurdodaeth: Cymru a Lloegr a Gogledd Iwerddon)(36); neu

(b)adran 16B o Ddeddf Cyfraith Troseddau (Cydgrynhoi) (Yr Alban) 1995 (cyflawni tramgwyddau rhywiol penodol tu allan i'r Deyrnas Unedig)(37).

(1)

1861 p.100. Amnewidiwyd adran 16 gan Ddeddf Cyfraith Troseddau 1977 (p.45).

(4)

1956 p.69. Amnewidiwyd adran 1 gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (p.33).

(5)

Diddymwyd adran 7 gan Ddeddf Iechyd Meddwl 1959 (p.72).

(8)

1967 p.60. Diddymwyd adran 4(2) gan Ddeddf Cyfraith Troseddau 1977.

(10)

1971 p.38.

(11)

1977 p.45.

(12)

1978 p.37.

(13)

1979 p.2.

(14)

1876 p.36.

(15)

1984 p.37.

(16)

1969 p.54.

(17)

1988 p.33.

(20)

Mae darpariaeth ar gyfer diddymu'r darpariaethau hyn wedi'i chynnwys yn Neddf Safonau Gofal 2000.

(21)

Mewnosodwyd adrannau 79D a 79F yn Neddf 1989 gan Ddeddf Safonau Gofal 2000.

(22)

2000 p.44.

(23)

1968 p.49.

(24)

1995 p.46.

(25)

1982 p.45. Mewnosodwyd adran 52A gan adran 161 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (p.33).

(26)

1984 p.56.

(27)

1995 p.36.

(28)

Diddymwyd adrannau 17(8) a 71 o Ddeddf 1968 gan Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.

(30)

1968 p.34 (G.I.). Diwygiwyd Atodlen 1 gan Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Gogledd Iwerddon) 1980; Gorchymyn Herwgydio Plentyn (Gogledd Iwerddon) 1985; Gorchymyn Iechyd Meddwl (Gogledd Iwerddon) 1986. Mae cyfeiriad yng Ngorchymyn Amddiffyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1978 at dramgwyddau o dan Atodlen 1 yn cynnwys tramgwydd o dan Orchymyn Amddiffyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1978.

(35)

Diddymwyd yr adran hon o Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968 a'r adrannau a grybwyllir yn yr is-baragraffau dilynol gan Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995.

(36)

1997 p.51.

(37)

1995 p.39. Mewnosodwyd adran 16B gan adran 8 o Ddeddf Tramgwyddwyr Rhywiol 1997.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources