Search Legislation

Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2002

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN II

1.  Mae'r person perthnasol yn rhiant i blentyn sydd wedi'i wneud ar unrhyw adeg yn destun gorchymyn o dan—

(a)adran 31(1) o'r Ddeddf (gorchymyn gofal a goruchwylio); neu

(b)erthygl 50(1) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (gorchymyn gofal a goruchwylio).

2.  Mae un o'r gorchmynion canlynol wedi'i wneud ar unrhyw adeg mewn perthynas â phlentyn er mwyn symud y plentyn o ofal y person perthnasol neu er mwyn atal y plentyn rhag byw gyda'r person—

(a)gorchymyn o dan adran 31(1)(a) o'r Ddeddf neu orchymyn o dan adran 1(3)(c) neu 7(7)(a) o Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc 1969 (gorchmynion gofal)(1);

(b)unrhyw orchymyn arall a fuasai wedi'i ystyried yn orchymyn gofal yn rhinwedd paragraff 15 o Atodlen 14 i'r Ddeddf (darpariaethau trosiannol ar gyfer plant mewn gofal gorfodol) petai wedi bod mewn grym yn union cyn y diwrnod y daeth Rhan IV o'r Ddeddf i rym(2);

(c)gorchymyn goruchwylio a osododd ofyniad preswylio o dan baragraff 5 o Atodlen 6 i Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddau (Dedfrydu) 2000(3) neu adran 12AA o Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc 1969 (4)(gofyniad i fyw mewn llety awdurdod lleol);

(ch)gorchymyn o dan erthygl 50(1)(a) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995; neu

(d)gorchymyn person ffit, gorchymyn hawliau rhiant neu orchymyn ysgol hyfforddi o dan Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(5)).

3.  Mae gofyniad goruchwylio wedi'i osod o dan—

(a)adran 44 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(6); neu

(b)adran 70 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995

ar unrhyw adeg mewn perthynas ag unrhyw blentyn er mwyn symud y plentyn hwnnw o ofal y person perthnasol.

4.  Mae hawliau a phwerau'r person perthnasol mewn perthynas â'r plentyn wedi'u breinio ar unrhyw adeg mewn awdurdod lleol yn yr Alban—

(a)o dan adran 16 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(7)); neu

(b)yn unol â gorchymyn cyfrifoldebau rhiant o dan adran 86 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.

5.  Mae cofrestriad y person perthnasol wedi'i wrthod ar unrhyw bryd mewn perthynas â chartref gwirfoddol neu gartref plant, neu mae'r person hwnnw wedi rhedeg cartref gwirfoddol neu gartref plant neu yr oedd fel arall yn ymwneud â'i reoli, neu yr oedd ganddo unrhyw fuddiant ariannol ynddo, ac mae cofrestriad y cartref hwnnw wedi'i ganslo o dan y canlynol, yn ôl fel y digwydd—

(a)paragraff 1 o Atodlen 5 i'r Ddeddf(8);

(b)paragraff 1 neu 4 o Atodlen 6 i'r Ddeddf;

(c)adran 127 o Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(9); neu

(ch)Erthygl 80, 82, 96 neu 98 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995.

6.  Mae gwaharddiad wedi'i osod mewn perthynas â'r person perthnasol o dan—

(a)adran 69 o'r Ddeddf, adran 10 o Ddeddf Plant Maeth 1980(10) neu adran 4 o Ddeddf Plant 1958 (y pŵer i wahardd maethu'n breifat)(11));

(b)erthygl 110 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (y pŵer i wahardd maethu'n breifat); neu

(c)adran 10 o Ddeddf Plant Maeth (Yr Alban) 1984 (pwer i wahardd cadw plant maeth).

7.  Mae'r person perthnasol yn berson y mae hysbysiad ysgrifenedig wedi'i rhoi mewn perthynas ag ef gan Fwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan adran 1(3) o Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968 (gwrthod cydsynio bod gofal a chynhaliaeth ar gyfer y plentyn yn cael eu rhoi gan berson)(12);

8.  Mae cofrestriad y person perthnasol wedi'i wrthod ar unrhyw bryd mewn perthynas â darparu gofal dydd neu feithrinfeydd neu waith gwarchod plant neu mae unrhyw gofrestriad o'r fath a oedd gan y person hwnnw wedi'i ganslo o dan, yn ôl fel y digwydd—

(a)adran 1 neu 5 o Ddeddf Rheoleiddio Meithrinfeydd a Gwarchodwyr Plant 1948(13));

(b)Rhan X neu XA o'r Ddeddf(14);

(c)Rhan XI o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995; neu

(ch)adran 11(5) neu 15 o Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(15).

9.  Mae cofrestriad y person perthnasol wedi'i wrthod ar unrhyw adeg neu mae cofrestriad o'r fath wedi'i ganslo—

(a)o dan adran 62 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968 (cofrestru sefydliadau preswyl a sefydliadau eraill)(16); neu

(b)mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal, gwarchod plant neu ofal dydd ar gyfer plant, o dan Rhan I o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001.

10.  Mae'r person perthnasol wedi bod, ar unrhyw adeg, yn destun gorchymyn derbyn, gorchymyn gwarcheidwaeth, gorchymyn goruchwyliaeth a thriniaeth neu orchymyn i'w ryddhau yn ddiamod yn unol ag adran 5 o Ddeddf Gweithdrefn Troseddau (Gorffwylledd) 1964(17) neu adran 6, 14 neu 14A o Ddeddf Apêl Troseddau 1968(18)), yn ôl fel y digwydd.

(1)

Diddymwyd adran 1(3)(c) gan Ddeddf Plant 1989. Diddymwyd adran 7(7)(a) gan Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddau (Dedfrydu) 2000 (c. 6).

(2)

Daeth Rhan IV o'r Ddeddf i rym ar 14 Hydref 1991.

(4)

Diddymwyd adran 12AA gan Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddau (Dedfrydu) 2000.

(5)

1968 p.34 (G.I.). Diddymwyd y darpariaethau sy'n ymwneud â'r gorchmynion hyn gan Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 a Gorchymyn Cyfiawnder Troseddol (Plant) (Gogledd Iwerddon) 1998.

(6)

Diddymwyd adran 44 gan Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.

(7)

Diddymwyd adran 16 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968 gan Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.

(8)

Mae'r ddarpariaeth hon a'r rhai a grybwyllir yn yr is-baragraff canlynol wedi'u diddymu gan Ddeddf Safonau Gofal 2000.

(9)

Diddymwyd adran 127 gan Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995.

(10)

Diddymwyd Deddf Maethu Plant 1980 gan Ddeddf Plant 1989.

(11)

Diddymwyd Rhan I o Ddeddf Plant 1958 gan Deddf Plant Maeth 1980.

(12)

Diwygiwyd adran 1(3) gan Atodlen 16 i Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972 (O.S. 1972/1265 (G.I.14) ac fe'i diddymwyd gan Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995.

(13)

1948 p.53. Diwygiwyd adran 1 gan adran 60 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd a Iechyd y Cyhoedd 1968 (p.46) ac fe'i diddymwyd gan Ddeddf Plant 1989.

(14)

Peidiodd rhan X o Ddeddf Plant 1989 â bod yn gymwys i Gymru yn ddarostyngedig i ddarpariaeth trosiannol, darpariaeth dros dro a darpariaeth ynghylch eithriadau yn yr Atodlen i Orchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 8 (Cymru) a Darpariaethau Trosiannol, Darpariaethau ynghylch Eithriadau a Darpariaethau Canlyniadal) 2002 (O.S. 2002/920).

(15)

Diddymwyd yr adrannau hyn gan Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995.

(16)

Diwygiwyd adran 62 gan adran 3 o Ddeddf Sefydliadau Cofrestredig (Yr Alban) (p.40).

(17)

1964 p.84. Amnewidiwyd adran 5 gan adran 3 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Gorffwylledd ac Anghymhwyster i Bledio)1991(p.25).

(18)

1968 p.19. Amnewidiwyd adrannau 6 ac 14 a mewnosodwyd adran 14A gan adran 4 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Gorffwylledd ac Anghymhwyster i Bledio)1991.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources