- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn:
mae i “apêl” (“appeal”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 16;
ystyr “apelydd” (“appellant”) yw'r person sy'n dwyn apêl yn unol â rheoliad 16;
ystyr “asiant” (“agent”) yw unrhyw berson sy'n gweithredu ar ran person arall gydag awdurdod y person hwnnw;
mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a briodolir i “electronic communication” yn adran 15 (1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(1);
ystyr “cyfnod apêl” (“appeal period”) yw'r cyfnod o chwe wythnos o ddyddiad y penderfyniad sy'n arwain at yr apêl neu, os yw'r penderfyniad hwnnw yn benderfyniad i roi cyfarwyddyd, o ddyddiad y cyfarwyddyd;
ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Cefn Gwlad Cymru;
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod heblaw dydd Sadwrn, dydd Sul, dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ŵyl banc; ac mae hysbysiad sy'n cael ei roi ar ôl 4.30pm ar ddiwrnod gwaith i'w drin fel petai wedi'i roi ar y diwrnod gwaith nesaf;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000;
ystyr “fforwm mynediad lleol perthnasol” (“relevant local access forum”) yw fforwm mynediad lleol a sefydlwyd o dan adran 94 o'r Ddeddf y mae'r ardal y mae'n gweithredu ynddi yn cynnwys y tir y mae cyfarwyddyd neu gyfarwyddyd arfaethedig yn berthnasol iddo;
ystyr “ffurlen apêl” (“appeal form”) yw dogfen sy'n cynnwys, pan fydd wedi'i chwblhau, yr wybodaeth a ddynodir yn rheoliad 16(5);
ystyr “hawl mynediad” (“right of access”) yw hawl y cyhoedd, mewn perthynas â thir mynediad, a honno'n hawl a roddwyd o dan adran 2(1) o'r Ddeddf; ac
mae “person” (“person”) a “personau” (“persons”) yn cynnwys unigolion, corfforaethau a chyrff anghorfforedig.
(2) Oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad hwnnw.
(3) Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod sy'n cael ei ddatgan yn y Rheoliadau hyn yn gyfnod o ddyddiad penodol, nid yw'r dyddiad hwnnw i'w gynnwys ac, os yw'r diwrnod neu'r diwrnod olaf y mae'n ofynnol gwneud rhywbeth arno o dan y Rheoliadau hyn, neu'n unol â hwy yn ddydd Sul, yn ddydd Nadolig, yn ddydd Gwener y Groglith, yn ŵyl banc neu'n ddydd sydd wedi'i bennu ar gyfer diolchgarwch neu alar cyhoeddus, mae'r gofyniad i fod yn gymwys fel petai'r cyfeiriad at y dydd hwnnw yn gyfeiriad at y dydd cyntaf ar ôl hynny nad yw'n un o'r mathau o ddyddiau a grybwyllwyd uchod.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: