- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 6(2)
Unrhyw awdurdod mynediad mewn perthynas â thir y mae'r cyfarwyddyd arfaethedig yn ymwneud ag ef.
Y Gymdeithas Brydeinig ar gyfer Saethu a Chadwraeth
Cyngor Mynydda Prydain
Cymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad
Yr Asiantaeth Cefn Gwlad (os oes gan y tir o dan sylw ffin â Lloegr)
Undeb Amaethwyr Cymru
Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr (Cymru)
Cymdeithas y Mannau Agored
Cymdeithas y Crwydwyr
Rheoliad 18
1. Yn rheoliad 2(1), ychwanegwch at y diffiniad o “apêl”, ar ôl y gair “Ddeddf”:
“neu gyfeiriad o dan adran 29(2) o'r Ddeddf.”
2. Dilëwch Rheoliad 4, a rhowch yn ei le:
“4.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r atebydd, o fewn 14 diwrnod gwaith ar ôl iddo gael ffurflen apêl oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol, anfon at y Cynulliad Cenedlaethol ac at yr apelydd:
(a)datganiad a fydd yn gwrthwynebu'r apêl ac, os felly, ei seiliau dros wneud hynny;
(b)datganiad a ydyw'n dymuno cael gwrandawiad gan berson a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad â'r apêl (yn hytrach na bod yr apêl yn cael ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig) ac, os felly, a yw'n dymuno cael gwrandawiad mewn ymchwiliad lleol neu, fel arall, mewn gwrandawiad;
(c)copïau o unrhyw ohebiaeth berthnasol rhwng yr apelydd a'r atebydd;
(ch)copïau o unrhyw sylwadau a wnaed i'r atebydd gan unrhyw berson heblaw'r apelydd mewn perthynas â'r penderfyniad ar ran yr atebydd y mae'r apêl yn perthyn iddo; a
(d)unrhyw wybodeth bellach y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn am ei darparu.
(2) Yn achos apêl o dan adran 6 o'r Ddeddf:
(a)rhaid i'r atebydd, yn ychwanegol, anfon at y Cynulliad Cenedlaethol, cyn i'r cyfnod a bennir ym mharagraff (1) ddirwyn i ben, gopi o ddarn o fap sy'n dangos y rhan honno o'r map dros dro y mae'r apêl yn perthyn iddi;
(b)ni fydd rhaid i'r atebydd anfon y datganiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) ac (1)(b) o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (1) ond rhaid iddo wneud hynny cyn i'r cyfnod a bennir yn rheoliad 5(2)(a) neu 5(2)(b) (pa un bynnag sydd hwyraf) ddirwyn i ben ac mae'n rhaid iddo, yr un pryd, anfon at y Cynulliad Cenedlaethol unrhyw wybodaeth pellach y mae'r Cynulliad Cenedlaethol, erbyn hynny, wedi gofyn i'r atebydd ddarparu; ac
(c)os na fydd, o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (1), yn anfon at y Cynulliad Cenedlaethol y datganiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) ac (1)(b), rhaid i'r atebydd, yn lle hynny, anfon at y Cynulliad Cenedlaethol, o fewn y cyfnod hwnnw, datganiad sy'n cynnwys rhywbeth i ddangos a fydd yn gwrthwynebu'r apêl ac, os felly, y seiliau tebygol dros wneud hynny.”
3. Dilëwch reoliad 5(2)(a) a rhowch yn ei le:
“(a)cyn bod 35 diwrnod yn dirwyn i ben o'r dyddiad yr anfonodd y Cynulliad Cenedlaethol gopi o'r ffurflen apêl wedi'i chwblhau at yr atebydd yn unol â rheoliad 3; neu”.
4. Yn rheoliad 6(1)—
(a)ychwangewch, ar ddechrau is-baragraff(a):
“ac eithrio yn achos apêl o dan adran 30(3) o'r Ddeddf neu gyfeiriad o dan adran 29(2) o'r Ddeddf,”
(b)ychwanegwch, ar ôl is-baragraff (c):
“(ch)yn achos apêl o dan adran 30(3) o'r Ddeddf neu gyfeiriad o dan adran 29(2) o'r Ddeddf, rhoi hysbysiad i:
(i) yr awdurdod mynediad;
(ii)y fforwm mynediad lleol perthnasol;
(iii)unrhyw berson sydd wedi cyflwyno sylwadau i'r awdurdod perthnasol mewn perthynas â'r cyfarwyddyd y mae'r apêl yn ymwneud ag ef yn unol â darpariaethau Rheoliadau mynediad i Gefn Gwlad (Gwahardd neu Gyfyngu Mynediad) (Cymru) 2003; a
(iv)unrhyw berson arall y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn barnu ei bod yn briodol rhoi hysbysiad iddo.”
5. Yn ngeiriau agoriadol rheoliad 6(2), ychwanegwch, ar ôl “o dan baragraff (1)(c)”:
“neu (1)(ch)”.
6. Yn lle rheoliad 6(2)(c), rhowch:
“(c)ar ba seiliau y mae'r apêl wedi'i dwyn, neu, yn achos apêl sydd wedi'i dwyn o dan adran 6 o'r Ddeddf, datganiad o dan ba un o'r seiliau a bennwyd yn adran 6(3) y mae wedi'i dwyn.”
7. Yn rheoliad 6(4), yn lle “yn unol â pharagraff (1)(a), (b) neu (c)”, rhowch:
“yn unol â pharagraff (1)(a), (b), (c) neu (ch).”
8. Yn rheoliad 12(1)(c), ychwanegwch, ar ôl “berson â diddordeb”:
“ac, yn achos apêl o dan adran 30(3) o'r Ddeddf neu gyfeiriad o dan adran 29(2) o'r Ddeddf, unrhyw berson yr oedd hysbysiad wedi'i roi iddo o dan reoliad 6(1)(ch),”
9. Ychwanegwch, ar ddechrau rheoliad 12(1)(ch):
“ac eithrio yn achos apêl o dan adran 30(3) o'r Ddeddf neu gyfeiriad o dan adran 29(2) o'r Ddeddf,”.
10. Ychwanegwch, ar ddechrau rheoliad 22(6)(a):
“ac eithrio yn achos apêl o dan adran 30(3) o'r Ddeddf neu gyfeiriad o dan adran 29(2) o'r Ddeddf,”.
11. Yn lle rheoliad 22(6)(b), rhowch:
“(b)heb fod yn llai na dwy wythnos cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer cynnal yr ymchwiliad, anfon hysbysiad o'r ymchwiliad i unrhyw bersonau neu ddosbarthiadau o bersonau y mae'n barnu eu bod yn briodol ond rhaid iddo gynnwys, yn achos apêl o dan adran 30(3) o'r Ddeddf neu gyfeiriad o dan adran 29(2) o'r Ddeddf, unrhyw berson yr oedd hysbysiad wedi'i roi iddo o dan reoliad 6(1)(ch).”
12. Yn lle pennawd rheoliad 36 (ac ar gyfer y cofnod cyfatebol yn Nhrefn y Rheoliadau) rhowch:
13. Rhowch yn lle rheoliad 36:
“36. Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, onid yw'n rhesymol anymarferol gwneud hynny, gyhoeddi, ar wefan y mae'n ei chynnal, hysbysiad o bob penderfyniad sy'n cael ei wneud o dan y Rheoliadau hyn:
(a)mewn perthynas ag apêl o dan adran 6 o'r Ddeddf a pharhau i wneud hynny nes bod y map terfynol y mae'r apêl yn ymwneud ag ef yn cael ei ddyroddi;
(b)mewn perthynas ag apêl o dan adran 30(3) o'r Ddeddf neu gyfeiriad o dan adran 29(2) o'r Ddeddf a pharhau i wneud hynny am o leiaf chwe mis o ddyddiad y penderfyniad.”
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: