Search Legislation

Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gwahardd neu Gyfyngu Mynediad) (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 142 (Cy.14)

CEFN GWLAD, CYMRU

Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gwahardd neu Gyfyngu Mynediad) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

28 Ionawr 2003

Yn dod i rym

1 Mawrth 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 11, 23(1) a (2), 32 a 44 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000(1) a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw:

Rhan ICYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mynediad i Cefn Gwlad (Gwahardd neu Gyfyngu Mynediad) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Mawrth 2003.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn:

mae i “apêl” (“appeal”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 16;

ystyr “apelydd” (“appellant”) yw'r person sy'n dwyn apêl yn unol â rheoliad 16;

ystyr “asiant” (“agent”) yw unrhyw berson sy'n gweithredu ar ran person arall gydag awdurdod y person hwnnw;

mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a briodolir i “electronic communication” yn adran 15 (1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(2);

ystyr “cyfnod apêl” (“appeal period”) yw'r cyfnod o chwe wythnos o ddyddiad y penderfyniad sy'n arwain at yr apêl neu, os yw'r penderfyniad hwnnw yn benderfyniad i roi cyfarwyddyd, o ddyddiad y cyfarwyddyd;

ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Cefn Gwlad Cymru;

ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod heblaw dydd Sadwrn, dydd Sul, dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ŵyl banc; ac mae hysbysiad sy'n cael ei roi ar ôl 4.30pm ar ddiwrnod gwaith i'w drin fel petai wedi'i roi ar y diwrnod gwaith nesaf;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000;

ystyr “fforwm mynediad lleol perthnasol” (“relevant local access forum”) yw fforwm mynediad lleol a sefydlwyd o dan adran 94 o'r Ddeddf y mae'r ardal y mae'n gweithredu ynddi yn cynnwys y tir y mae cyfarwyddyd neu gyfarwyddyd arfaethedig yn berthnasol iddo;

ystyr “ffurlen apêl” (“appeal form”) yw dogfen sy'n cynnwys, pan fydd wedi'i chwblhau, yr wybodaeth a ddynodir yn rheoliad 16(5);

ystyr “hawl mynediad” (“right of access”) yw hawl y cyhoedd, mewn perthynas â thir mynediad, a honno'n hawl a roddwyd o dan adran 2(1) o'r Ddeddf; ac

mae “person” (“person”) a “personau” (“persons”) yn cynnwys unigolion, corfforaethau a chyrff anghorfforedig.

(2Oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad hwnnw.

(3Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod sy'n cael ei ddatgan yn y Rheoliadau hyn yn gyfnod o ddyddiad penodol, nid yw'r dyddiad hwnnw i'w gynnwys ac, os yw'r diwrnod neu'r diwrnod olaf y mae'n ofynnol gwneud rhywbeth arno o dan y Rheoliadau hyn, neu'n unol â hwy yn ddydd Sul, yn ddydd Nadolig, yn ddydd Gwener y Groglith, yn ŵyl banc neu'n ddydd sydd wedi'i bennu ar gyfer diolchgarwch neu alar cyhoeddus, mae'r gofyniad i fod yn gymwys fel petai'r cyfeiriad at y dydd hwnnw yn gyfeiriad at y dydd cyntaf ar ôl hynny nad yw'n un o'r mathau o ddyddiau a grybwyllwyd uchod.

Rhan IIGWAHARDD NEU GYFYNGU MYNEDIAD YN ÔL DISGRESIWN

Gwahardd neu gyfyngu mynediad yn ôl disgresiwn y person â hawl

3.—(1Rhaid i berson â hawl sy'n dymuno gwahardd neu gyfyngu mynediad i ddarn o dir mynediad o dan adran 22 o'r Ddeddf (gwahardd neu gyfyngu mynediad yn ôl disgresiwn y perchennog ac eraill) gydymffurfio â gofynion y rheoliad hwn er mwyn gwneud hynny.

(2Rhaid i berson â hawl roi i'r awdurdod perthnasol hysbysiad ysgrifenedig, y mae'n rhaid iddo gynnwys:

(a)enw, cyfeiriad a chod post y person â hawl;

(b)os yw'r person â hawl yn rhoi hysbysiad drwy asiant, enw, cyfeiriad a chod post yr asiant hwnnw;

(c)datganiad o natur buddiant y person â hawl yn y tir;

(ch)disgrifiad (boed hynny drwy gyfrwng map neu fel arall) o leoliad a hyd a lled y tir a hwnnw'n ddisgrifiad digon manwl i alluogi'r awdurdod perthnasol i adnabod y tir;

(d)datganiad a yw'r person â hawl yn dymuno gwahardd mynediad neu, fel arall, ei gyfyngu ac, os yw am ei gyfyngu, manylion y cyfyngiad; ac

(dd)y dyddiadau y mae'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad i fod yn gymwys arnynt ac, os yw'r person â hawl yn dymuno i'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad bara am lai na'r cyfan o unrhyw ddiwrnod, rhwng pa amserau y mae'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad i fod ar waith ar y diwrnod hwnnw.

(3Oni fydd paragraff (4) neu (6) yn gymwys, rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig er mwyn iddo ddod i law'r awdurdod perthnasol o leiaf bum diwrnod cyn unrhyw ddiwrnod y mae unrhyw waharddiad neu gyfyngiad i fod yn weithredol arNo.

(4Mae'r paragraff hwn yn gymwys:

(a)os yw'r person â hawl wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r awdurdod perthnasol sy'n cynnwys yr wybodaeth y cyfeiriwyd ati yn is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (2) ond nad yw'n cynnwys yr wybodaeth y cyfeiriwyd ati yn is-baragraff (dd) o'r paragraff hwnnw; a

(b)os oes o leiaf bum diwrnod wedi mynd heibio ers i'r hysbysiad hwnnw ddod i law'r awdurdod perthnasol.

(5Os yw paragraff (4) yn gymwys, caiff y person â hawl wahardd neu gyfyngu mynediad yn unol â'r hysbysiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (4)(a) a'r hysbysiad pellach y cyfeiriwyd ato yn y paragraff hwn drwy roi hysbysiad i'r awdurdod perthnasol o'r wybodaeth y cyfeiriwyd ati yn is-baragraff (dd) o baragraff (2), yn ysgrifenedig neu ar lafar (gan gynnwys dros y ffôn), fel y bydd yn dod i law'r awdurdod perthnasol ar y diwrnod gwaith olaf cyn y bwriedir i'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad fod yn gymwys neu cyn hynny.

(6Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw'r awdurdod perthnasol:

(a)wedi cael hysbysiad, boed ysgrifenedig neu beidio, a hwnnw'n hysbysiad sy'n cynnwys yr wybodaeth y cyfeiriwyd ati yn is-baragraffau (a) i (dd) o baragraff (2);

(b)wedi penderfynu nad oedd yn rhesymol arferol i'r person â hawl gydymffurfio â gofynion paragraff (3) neu (4) o'r rheoliad hwn; ac

(c)yn cyfathrebu'r penderfyniad hwnnw i'r person â hawl, neu os oedd y person â hawl wedi rhoi hysbysiad drwy asiant, i'r asiant hwnnw.

(7Os yw paragraff (6) yn gymwys, mae'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad i ddod yn weithredol heb fod yn gynharach na'r amser y mae'r awdurdod perthnasol yn cyfathrebu'r penderfyniad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (6)(c) i'r person â hawl neu asiant y person â hawl, yn ôl fel y digwydd.

(8Cyn gynted â phosibl ar ôl dod i benderfyniad yn unol â pharagraff (6)(b), rhaid i awdurdod perthnasol, oni bai ei fod eisoes wedi gwneud hynny drwy'r cyfathrebiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (7), gadarnhau'r penderfyniad hwnnw yn ysgrifenedig i'r person â hawl.

(9Caiff person â hawl sydd wedi rhoi hysbysiad yn unol â pharagraff (2) ond nad yw bellach yn dymuno i'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad y mae'n berthnasol iddo ddod yn weithredol, roi, yn ddarostyngedig i baragraff (10), hysbysiad ysgrifenedig o'r ffaith honno i'r awdurdod perthnasol ac, os bydd yr hysbysiad hwnnw yn dod i law'r awdurdod perthnasol o leiaf ddau ddiwrnod gwaith cyn y diwrnod yr oedd y gwaharddiad neu'r cyfyngiad i fod yn gymwys, ni fydd effaith wedyn i'r hysbysiad gwreiddiol.

(10Nid yw paragraff (9) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw dir os yw'r person â hawl, ers 1 Ionawr yn y flwyddyn honno, eisoes wedi rhoi pum hysbysiad i'r awdurdod perthnasol dan sylw o dan y paragraff hwnnw mewn perthynas â'r tir hwnnw neu dir sy'n cynnwys y tir hwnnw.

Cyfyngu mynediad â chŵ n

4.—(1Rhaid i berchennog tir mynediad sy'n dymuno cyfyngu hawl mynediad i ddarn o'r tir mynediad hwnnw o dan adran 23 o'r Ddeddf (cyfyngiadau ar gŵn yn ôl disgresiwn y perchennog) gydymffurfio, er mwyn gwneud hynny, â gofynion y rheoliad hwn.

(2Rhaid i'r perchennog roi i'r awdurdod perthnasol hysbysiad, y mae'n rhaid iddo gynnwys:

(a)enw, cyfeiriad a chod post y perchennog;

(b)os yw'r perchennog yn rhoi hysbysiad drwy asiant, enw, cyfeiriad a chod post yr asiant hwnnw;

(c)datganiad o natur buddiant y perchennog yn y tir;

(ch)disgrifiad (boed hynny drwy gyfrwng map neu fel arall) o leoliad a hyd a lled y tir hwnnw a hwnnw'n ddisgrifiad digon manwl i alluogi'r awdurdod perthnasol i adnabod y tir;

(d)datganiad a yw'r cyfyngiad yn cael ei osod o dan adran 23(1) o'r Ddeddf neu, fel arall, adran 23(2) o'r Ddeddf; ac

(dd)y dyddiadau y mae'r gwahoddiad i fod yn gymwys arnynt ac, os yw'r perchennog yn dymuno i'r cyfyngiad bara am lai na'r cyfan o unrhyw ddiwrnod, rhwng pa amserau y bydd y cyfyngiad ar waith ar y diwrnod hwnnw.

(3Os yw'r cyfyngiad yn cael ei osod o dan adran 23(1) o'r Ddeddf yna, oni fydd paragraff (5) yn gymwys, rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig fel y bydd yn dod i law'r awdurdod perthnasol o leiaf 28 diwrnod cyn unrhyw ddiwrnod pryd y mae cyfyngiad i fod ar waith.

(4Os yw'r cyfyngiad yn cael ei osod o dan adran 23(2) o'r Ddeddf yna, oni fydd paragraff (5) yn gymwys, rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig fel y bydd yn dod i law'r awdurdod perthnasol o leiaf bum diwrnod gwaith cyn unrhyw ddiwrnod pryd y mae cyfyngiad i fod ar waith.

(5Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw'r awdurdod perthnasol yn penderfynu nad oedd yn rhesymol ymarferol i'r perchennog gydymffurfio â gofynion paragraff (3) neu (4) (yn ôl fel y digwydd) ac yn cyfathrebu'r penderfyniad hwnnw i'r perchennog neu, os rhoddodd y perchennog hysbysiad drwy asiant, yr asiant hwnnw.

(6Os yw paragraff (5) yn gymwys, bydd y cyfyngiad yn dod yn weithredol heb fod yn gynharach na'r amser y mae'r awdurdod perthnasol yn cyfathrebu'r penderfyniad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (5) i'r perchennog neu asiant y perchennog, yn ôl fel y digwydd.

(7Cyn gynted â phosibl ar ôl dod i benderfyniad yn unol â pharagraff (5), rhaid i awdurdod perthnasol, oni bai ei fod eisoes wedi gwneud hynny drwy'r cyfathrebiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (5), gadarnhau'r penderfyniad hwnnw yn ysgrifenedig i'r perchennog.

(8Caiff perchennog sydd wedi rhoi hysbysiad yn unol â pharagraff (2) ond nad yw bellach yn dymuno i'r cyfyngiad y mae'n berthnasol iddo ddod yn weithredol (neu, os yw'r cyfyngiad eisoes wedi dod yn weithredol, nad yw'n dymuno iddo bara) roi hysbysiad ysgrifenedig i'r awdurdod perthnasol o'r effaith honno ac—

(a)os yw'n dod i law'r awdurdod perthnasol cyn i'r cyfyngiad ddod yn weithredol, ni fydd effaith wedyn i'r hysbysiad gwreiddiol;

(b)os yw'n dod i law'r awdurdod perthnasol ar ôl i'r cyfyngiad ddod yn weithredol, mae effaith y cyfyngiad yn dod i ben.

Rhan IIIGWAHARDD NEU GYFYNGU MYNEDIAD YN ÔL CYFARWYDDYD YR AWDURDOD PERTHNASOL

Ceisiadau am gyfarwyddiadau yn gwahardd neu'n cyfyngu mynediad

5.—(1Rhaid i berson sydd â buddiant mewn unrhyw dir mynediad ac sy'n dymuno gwneud cais am gyfarwyddyd yn gwahardd neu'n cyfyngu mynediad o dan adran 24(1) o'r Ddeddf (rheoli tir) neu adran 25(3) o'r Ddeddf (osgoi risg tân neu berygl i'r cyhoedd) wneud cais ysgrifenedig i'r awdurdod perthnasol.

(2Rhaid i gais o dan baragraff (1) gynnwys:

(a)enw, cyfeiriad a chod post y ceisydd;

(b)os yw'r cais yn cael ei wneud drwy asiant, enw, cyfeiriad a chod post yr asiant hwnnw;

(c)datganiad o natur buddiant y ceisydd yn y tir (gan gynnwys, os yw'r buddiant hwnnw yn cynnwys hawl comin neu hawl debyg dros dir, disgrifiad o hyd a lled yr hawl honno);

(ch)datganiad ynghylch a yw'r cais yn cael ei wneud o dan adran 24(1) o'r Ddeddf neu, fel arall, o dan adran 25(3) o'r Ddeddf;

(d)disgrifiad (boed hynny drwy gyfrwng map neu fel arall) o leoliad a hyd a lled y tir a hwnnw'n ddisgrifiad digon manwl i alluogi'r awdurdod perthnasol i adnabod y tir;

(dd)manylion am natur a diben y gwaharddiad neu'r cyfyngiad;

(e)y cyfnod penodedig y mae'r ceisydd yn cynnig bod y gwaharddiad neu'r cyfyngiad i fod ar waith ynddo; ac

(f)y rhesymau, os oes rhai, pam na ellir cyflawni'r dibenion y gwneir cais am y cyfarwyddyd ar eu cyfer drwy arfer hawl y ceisydd, os oes un, i wahardd neu gyfyngu mynediad i'r tir o dan adran 22 o'r Ddeddf.

(3Rhaid i geisydd, o fewn unrhyw gyfnod rhesymol y bydd yr awdurdod perthnasol yn gofyn amdano, ddarparu unrhyw wybodaeth bellach ynglŷn â'r cais y bydd yr awdurdod perthnasol yn gofyn yn rhesymol amdani drwy hysbysiad ysgrifenedig i'r ceisydd.

Ymgynghori gan awdurdod perthnasol cyn rhoi cyfarwyddyd yn gwahardd neu'n cyfyngu mynediad

6.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fydd yr awdurdod perthnasol yn ystyried a ddylid rhoi cyfarwyddyd o dan:

(a)adran 24(1) o'r Ddeddf (rheoli tir);

(b)adran 25(1) o'r Ddeddf (osgoi risg tân neu berygl i'r cyhoedd); neu

(c)adran 26 o'r Ddeddf (cadwraeth natur a chadw treftadaeth),

a hwnnw'n gyfarwyddyd y bydd ei effaith yn golygu gwahardd neu gyfyngu mynediad am gyfnod amhenodol neu yn ystod cyfnod sy'n hwy na chwe mis, neu a all fod yn hwy na hynny.

(2Cyn rhoi cyfarwyddyd y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo, rhaid i'r awdurdod perthnasol anfon hysbysiad yn cydymffurfio â gofynion paragraff (4), ynghyd â datganiad yn nodi telerau'r cyfarwyddyd arfaethedig, at bob un o'r cyrff a restrir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn a rhaid iddo gyhoeddi, os yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny, y cyfarwyddyd drafft ar wefan.

(3Yn ychwanegol at y gofynion a nodwyd ym mharagraff (2), rhaid i'r awdurdod perthnasol:

(a)anfon i'r fforwm mynediad lleol perthnasol gopi o'r canlynol:

(i)datganiad sy'n nodi telerau'r cyfarwyddyd arfaethedig;

(ii)os yw'r cwestiwn o roi'r cyfarwyddyd yn cael ei ystyried o ganlyniad i gael cais, y cais hwnnw ac unrhyw wybodaeth bellach sy'n cael ei darparu gan y ceisydd i'w ategu;

(iii)os yw'r cwestiwn o roi'r cyfarwyddyd yn cael ei ystyried o ganlyniad i gyngor a roddwyd i'r awdurdod perthnasol gan y corff ymgynghorol perthnasol, sylwedd y cyngor hwnnw;

(iv)unrhyw wybodaeth arall sy'n berthnasol i'r cyfarwyddyd arfaethedig yn ei farn ef; a

(b)anfon at y ceisydd neu asiant y ceisydd yn ôl fel y digwydd, gopïau o unrhyw ddogfennau a anfonwyd i'r fforwm mynediad lleol, ac eithrio'r dogfennau hynny a gafodd yr awdurdod perthnasol oddi wrth y ceisydd neu asiant y ceisydd.

(4Rhaid i hysbysiad sy'n cydymffurfio â gofynion y paragraff hwn:

(a)datgan unrhyw gyfeirnod a ddyrannwyd i'r mater gan yr awdurdod perthnasol;

(b)rhoi manylion am y modd y caiff aelodau o'r cyhoedd archwilio, a chymryd copi o'r dogfennau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (3)(a);

(c)datgan y caiff sylwadau ysgrifenedig, y caniateir iddynt gael eu cyflwyno naill ai yn Gymraeg neu'n Saesneg, gael eu cyflwyno i'r awdurdod perthnasol erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad, a rhaid i'r dyddiad hwnnw beidio â bod yn gynt na dwy wythnos ar ôl y dyddiad y mae'r awdurdod perthnasol yn cydymffurfio â pharagraff (2); ac

(ch)datgan y caiff copïau o unrhyw sylwadau sy'n dod i law'r awdurdod perthnasol gael eu rhoi ar gael i bartïon eraill y maent yn ymwneud â hwy.

Ymgynghori mewn perthynas â chyfarwyddiadau yn dirymu neu'n amrywio cyfarwyddiadau sy'n bodoli eisoes

7.  Os yw'r awdurdod perthnasol yn ystyried rhoi cyfarwyddyd y byddai ei effaith yn golygu dirymu neu amrywio cyfarwyddyd sy'n bodoli eisoes ac os yw'n ofynnol iddo ymgynghori, cyn gwneud hynny, ag unrhyw berson o dan adran 27(5) neu 27(6) o'r Ddeddf, rhaid iddo, yn ychwanegol at unrhyw ofyniad arall a gynhwysir yn y Rheoliadau hyn, anfon datganiad sy'n nodi telerau'r cyfarwyddyd arfaethedig, ynghyd â hysbysiad yn cydymffurfio â gofynion rheoliad 6(4) at bob person o'r fath.

Ystyried sylwadau

8.  Os yw'n ofynnol i awdurdod perthnasol o dan y Rheoliadau hyn roi hysbysiad i unrhyw berson ei fod yn ystyried rhoi cyfarwyddyd, rhaid iddo ystyried, cyn penderfynu a ddylai roi cyfarwyddyd, unrhyw sylwadau a gyflwynwyd gan y person hwnnw o fewn yr amser a ganiateir ar gyfer cyflwyno sylwadau ac fe gaiff ystyried, os yw'n barnu bod hynny'n briodol, unrhyw sylwadau eraill sy'n dod i'w law.

Penderfyniadau gan awdurdod perthnasol a ddylid rhoi cyfarwyddyd

9.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys:

(a)pan fo cais am gyfarwyddyd wedi'i wneud i'r awdurdod perthnasol; neu

(b)pan fo'r awdurdod perthnasol wedi cael ei gynghori i roi cyfarwyddyd o dan adran 26(1) o'r Ddeddf gan y corff ymgynghorol perthnasol.

(2Os yw'r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i'r awdurdod perthnasol, yn ddarostyngedig i baragraff (5), benderfynu a ddylid rhoi cyfarwyddyd, naill ai'n unol â'r cais neu'r cyngor y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1) neu ynghyd ag unrhyw addasiadau y bydd yn penderfynu arnynt, o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (3) neu (4), yn ôl fel y digwydd.

(3Os y bydd y gwaharddiad neu'r cyfyngiad ar waith yn ystod cyfnod o 6 mis neu lai yna, yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i'r awdurdod perthnasol benderfynu a ddylid rhoi cyfarwyddyd o fewn chwe wythnos (neu unrhyw gyfnod hwy y bydd y ceisydd neu, yn ôl fel y digwydd, y corff ymgynghorol perthnasol yn cytuno arno) ar ôl cael y cais neu'r cyngor.

(4Os bydd y gwaharddiad neu'r cyfyngiad ar waith yn ystod cyfnod o fwy na chwe mis, neu os bydd y gwaharddiad neu'r cyfyngiad ar waith yn ystod cyfnodau cyfatebol, o ba bynnag hyd, yn ystod dwy flynedd galendr wahanol neu ragor, rhaid i'r awdurdod perthnasol benderfynu a ddylid rhoi cyfarwyddyd o fewn 16 wythnos ar ôl cael y cais neu'r cyngor.

(5Os yw'r rheoliad hwn yn gymwys a bod yr awdurdod perthnasol yn cael y cais neu'r cyngor y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1)—

(a)cyn y dyddiad cyntaf y mae'r hawl mynediad i fod yn gymwys i bob tir y mae'r cyfarwyddyd arfaethedig yn ymwneud ag ef; a

(b)y mae'r cyfnod y byddai'n ofynnol i'r awdurdod, yn unol â pharagraff (2), benderfynu ynddo a ddylid rhoi cyfarwyddyd yn dod i ben cyn y dyddiad hwnnw,

yna nid yw'n ofynnol i'r awdurdod perthnasol benderfynu a ddylid rhoi'r cyfarwyddyd o fewn y cyfnod hwnnw os nad yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny, ond yn hytrach rhaid iddo wneud hynny cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r cyfnod hwnnw ddod i ben ond beth bynnag heb fod yn hwyrach na'r dyddiad y cyfeiriwyd ato yn is-baragraff (a).

(6Os yw'r awdurdod perthnasol yn ei gwneud yn ofynnol i geisydd ddarparu gwybodaeth bellach o dan reoliad 5(3), rhaid peidio â chynnwys y cyfnod rhwng rhoi'r hysbysiad o'r gofyniad hwnnw gan yr awdurdod perthnasol a'r dyddiad y mae'r wybodaeth o dan sylw yn dod i law wrth gyfrifo unrhyw gyfnod y mae'n ofynnol i'r awdurdod perthnasol benderfynu ynddo a ddylid rhoi cyfarwyddyd.

Ffurf ar gyfarwyddiadau yn gwahardd neu'n cyfyngu mynediad

10.—(1Rhaid i gyfarwyddyd a roddir o dan adran 24(1), 25(1) neu 26(1) o'r Ddeddf gan awdurdod perthnasol:

(a)dwyn y dyddiad y cafodd ei roi arno;

(b)nodi'r ddarpariaeth yn y Ddeddf y mae wedi'i roi odani;

(c)disgrifio (boed hynny drwy gyfrwng map neu fel arall) leoliad a hyd a lled y tir y mae'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad i fod yn gymwys iddo;

(ch)pennu ai effaith y cyfarwyddyd yw gwahardd mynediad i'r tir, neu fel arall, gyfyngu arno;

(d)yn achos cyfarwyddyd sy'n cyfyngu mynediad ond nad yw'n ei wahardd, pennu graddau'r cyfyngiad; ac

(dd)pennu'r cyfnod pryd y mae'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad i fod yn gymwys neu, os oes rhywun ac eithrio'r person sy'n rhoi'r cyfarwyddyd i gael y pŵer i benderfynu'r cyfnod hwnnw yn unol ag adran 24(2)(b)(i), 25(2)(b)(i), 26(2)(c)(i) neu 28(2)(c)(i) o'r Ddeddf, yn ôl fel y digwydd, unrhyw amodau sy'n gymwys i'r pŵer hwnnw.

(2Rhaid i gyfarwyddyd a roddir o dan adran 27(2) o'r Ddeddf sy'n dirymu neu'n amrywio cyfarwyddyd sy'n bodoli eisoes:

(a)dwyn y dyddiad y cafodd ei roi arno;

(b)nodi o dan ba ddarpariaeth yn y Ddeddf y mae wedi'i roi;

(c)bod yn un y mae copi o'r cyfarwyddyd y mae'n ei ddirymu neu'n ei amrywio wedi'i atodi iddo;

(ch)datgan a yw ei effaith yn dirymu'r cyfarwyddyd sy'n bodoli eisoes neu'n ei amrywio; a

(d)os ei effaith yw amrywio'r cyfarwyddyd sy'n bodoli eisoes, datgan sut y mae'n cael ei amrywio.

Rhoi cyfarwyddyd

11.  Mae cyfarwyddyd y mae awdurdod perthnasol yn penderfynu ei roi wedi'i roi pan fydd person sydd wedi'i awdurdodi gan yr awdurdod perthnasol i wneud hynny yn ei lofnodi ac yn ei ddyddio.

Cyhoeddi penderfyniadau ar gyfarwyddiadau

12.—(1Rhaid i'r canlynol gael ei wneud yn achos copi o unrhyw gyfarwyddyd a roddir neu, os yw rheoliad 9 yn gymwys ac os penderfyniad yr awdurdod perthnasol yw peidio â rhoi cyfarwyddyd, rhaid iddo gael ei wneud yn achos hysbysiad i'r perwyl hwnnw, a hynny cyn gynted â phosibl ar ôl i'r cyfarwyddyd gael ei roi neu ar ôl i'r penderfyniad i beidio â rhoi cyfarwyddyd gael ei wneud, yn ôl fel y digwydd:

(a)os yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny, ei gyhoeddi gan yr awdurdod perthnasol ar wefan;

(b)os oedd y cyfarwyddyd wedi'i roi (neu os byddai wedi'i roi pe na bai'r awdurdod perthnasol wedi penderfynu peidio â rhoi cyfarwyddyd) o ganlyniad i gais, ei anfon at y ceisydd, neu asiant y ceisydd, yn ôl fel y digwydd;

(c)os cafodd y cyfarwyddyd ei roi (neu os byddai wedi'i roi pe na bai'r awdurdod perthnasol wedi penderfynu peidio â rhoi cyfarwyddyd) o dan adran 26 o'r Ddeddf, ei anfon i'r corff ymgynghorol perthnasol (os nad y Cyngor yw'r awdurdod perthnasol a bod y bwriad i wneud y cyfarwyddyd yn fwriad o dan adran 26(3)(a) o'r Ddeddf);

(ch)os oedd cyfarwyddyd wedi'i roi mewn modd gwahanol i gais gan berchennog y tir y mae'n ymwneud ag ef, a bod yr awdurdod perthnasol yn gwybod pwy yw'r perchennog, ei anfon at y perchennog;

(d)os oedd cyfarwyddyd wedi'i roi (neu os byddai wedi'i roi pe na bai'r awdurdod perthnasol wedi penderfynu peidio â rhoi cyfarwyddyd) yn dilyn ymgynghoriad â fforwm mynediad lleol perthnasol yn unol â rheoliad 6(3), gael ei anfon at y fforwm mynediad lleol hwnnw;

(dd)os yw cyfarwyddyd yn ymwneud â thir nad yw'r awdurdod perthnasol yn awdurdod mynediad ar ei gyfer hefyd, a bod y cyfarwyddyd yn cael ei roi naill ai o dan adran 24 neu 25 o'r Ddeddf, ei anfon at yr awdurdod mynediad mewn perthynas â'r tir hwnnw;

(e)os oedd yn ofynnol i'r awdurdod perthnasol, cyn rhoi'r cyfarwyddyd, ymgynghori ag unrhyw berson o dan adran 27(5) neu 27(6) o'r Ddeddf, ei anfon at y person hwnnw; ac

(f)os yw cyfarwyddyd yn cael ei roi gan awdurdod perthnasol heblaw'r Cyngor, gael ei anfon at y Cyngor.

(2Os yw'n ofynnol i'r awdurdod perthnasol anfon copi o gyfarwyddyd y mae wedi'i roi, neu roi hysbysiad ei fod wedi penderfynu peidio â rhoi cyfarwyddyd, at unrhyw berson yn unol â pharagraff (1)(b), (c) neu (e), ac nad oedd y penderfyniad i roi cyfarwyddyd yn y termau y cafodd ei roi, neu i beidio â rhoi cyfarwyddyd, yn ôl fel y digwydd, yn unol â chais neu sylwadau eraill a gyflwynwyd gan y person hwnnw, rhaid i'r awdurdod perthnasol anfon, yr un pryd, at y person hwnnw ei resymau dros y penderfyniad hwnnw.

Rhan IVHYSBYSU O GYFNODAU GWAHARDD A CHYFYNGU

Hysbysu o waharddiad neu gyfyngiad

13.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys os yw'n ofynnol o dan gyfarwyddyd:

(a)i geisydd am gyfarwyddyd o dan adran 24(1) o'r Ddeddf; neu

(b)i berson a bennwyd mewn cyfarwyddyd a roddwyd gan yr awdurdod perthnasol o dan adran 25(1) neu 26(1) o'r Ddeddf,

er mwyn i'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad ddod yn weithredol, hysbysu'r awdurdod perthnasol bod y gwaharddiad neu'r cyfyngiad hwnnw wedi dechrau.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), rhaid rhoi'r hysbysiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1) yn ysgrifenedig fel y bydd yn dod i law'r awdurdod perthnasol o leiaf bum diwrnod (neu'r nifer arall o ddiwrnodau sydd wedi'i bennu yn y cyfarwyddyd) cyn bod y gwaharddiad neu'r cyfyngiad yn dechrau a rhaid iddo gynnwys:

(a)enw, cyfeiriad a chod post y person hwnnw;

(b)os oes cyfeirnod wedi'i roi o'r blaen gan yr awdurdod perthnasol i'r person hwnnw at ddibenion hysbysu o dan y rheoliad hwn, y cyfeirnod hwnnw; ac

(c)y dyddiadau ac, os bydd y gwaharddiad neu'r cyfyngiad yn para am lai na 24 awr ar ddyddiad penodol, yr amserau pan fydd y gwaharddiad neu'r cyfyngiad ar waith.

(3Caiff person sydd wedi rhoi hysbysiad yn unol â pharagraff (2) amrywio'r hysbysiad hwnnw neu ei dynnu'n ôl drwy roi hysbysiad ysgrifenedig pellach i'r awdurdod perthnasol, ar yr amod bod hysbysiad o'r fath yn dod i law o leiaf ddau ddiwrnod gwaith cyn y diwrnod y mae'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad y mae'n ymwneud ag ef i ddechrau.

(4Caiff yr awdurdod perthnasol, os yw o'r farn nad oedd yn rhesymol ymarferol rhoi'r hysbysiad yn unol â gofynion y rheoliad hwn, dderbyn hysbysiad sy'n cael ei roi gan berson â hawl i roi hysbysiad o'r fath unrhyw bryd cyn i'r cyfyngiad y mae'n gymwys iddo ddechrau ac, os yw'n penderfynu gwneud hynny, rhaid i'r awdurdod perthnasol anfon hysbysiad o'r penderfyniad hwnnw at y person a roddodd yr hysbysiad cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl iddo ddod i'r penderfyniad hwnnw.

Rhan VHYSBYSU'R CYHOEDD

Hysbysu'r cyhoedd o waharddiad neu gyfyngiad

14.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)pan fydd gwaharddiad neu gyfyngiad mewn perthynas â mynediad dros dir mynediad mewn grym a'i fod wedi'i osod o dan adran 22(1), 23(1) neu 23(2) o'r Ddeddf neu o dan gyfarwyddyd a roddwyd o dan adran 24(1), 25(1) neu 26(1) o'r Ddeddf; a

(b)os oes person sy'n gyfrifol, yn unol â pharagraff (2), dros hysbysu'r cyhoedd, yn unol â pharagraff (3), o'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad o dan sylw ac nad yw'r person hwnnw yn dymuno caniatáu i bersonau fynd ar y tir yn groes i'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad hwnnw.

(2Y person canlynol yw'r person sy'n gyfrifol dros hysbysu'r cyhoedd mewn perthynas â gwaharddiad neu gyfyngiad—

(a)os oedd wedi'i osod o dan adran 22(1), y person â hawl;

(b)os oedd wedi'i osod o dan adran 23(1) neu (2) o'r Ddeddf, perchennog y tir;

(c)os oedd wedi'i osod o dan gyfarwyddyd a roddwyd gan yr awdurdod perthnasol o ganlyniad i gael cais o dan adran 24(1) neu 25(3) o'r Ddeddf, ac os yw i fod ar waith yn ystod cyfnod o chwe mis neu lai, y person a wnaeth y cais;

(ch)os oedd wedi'i osod o dan gyfarwyddyd a roddwyd gan yr awdurdod perthnasol o ganlyniad i gael cais o dan adran 24(1) neu 25(3) o'r Ddeddf ac os yw i fod ar waith yn ystod cyfnod o fwy na chwe mis, yr awdurdod perthnasol;

(d)os oedd wedi'i osod o dan gyfarwyddyd a roddwyd gan yr awdurdod perthnasol o dan adran 25 o'r Ddeddf ac eithrio o ganlyniad i gael cais, yr awdurdod perthnasol;

(dd)os oedd wedi'i osod o dan gyfarwyddyd a roddwyd gan yr awdurdod perthnasol o dan adran 26 o'r Ddeddf o ganlyniad i gael cyngor gan y corff ymgynghorol perthnasol o dan adran 26(4) o'r Ddeddf (ac eithrio cyngor a roddwyd ar gais yr awdurdod perthnasol), y corff ymgynghorol perthnasol; ac

(e)os oedd wedi'i osod o dan gyfarwyddyd a roddwyd gan yr awdurdod perthnasol o dan adran 26 o'r Ddeddf, ond nad yw is-baragraff (dd) yn gymwys, yr awdurdod perthnasol.

(3Os yw'r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i'r person sy'n gyfrifol dros hysbysu'r cyhoedd o'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad roi i unrhyw berson sydd ar y tir neu ar fin mynd ar y tir y mae'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad yn gymwys iddo er mwyn arfer yr hawl mynediad o dan y Ddeddf, unrhyw wybodaeth a fydd yn hysbysu'r person hwnnw o fodolaeth, natur a hyd y gwaharddiad neu'r cyfyngiad hwnnw, a hyd a lled y tir y mae'n gymwys iddo.

(4Dim ond mewn perthynas â phersonau sydd, yn ôl bob golwg, ar y tir neu sydd ar fin mynd arno er mwyn arfer yr hawl mynediad sydd, bryd hynny, wedi'i gwahardd neu wedi'i chyfyngu y mae paragraff (3) yn gymwys iddynt.

(5Caiff yr wybodaeth y mae'n ofynnol ei rhoi o dan baragraff (3) ei rhoi ar lafar.

(6Nid yw'r ddyletswydd i roi gwybodaeth sy'n cael ei gosod gan baragraff (3) yn gymwys os oes camau rhesymol wedi'u cymryd i gyfathrebu, drwy gyfrwng hysbysiadau darllenadwy, yr wybodaeth a bennwyd yn y paragraff hwnnw i bersonau sydd ar fin mynd ar y tir er mwyn arfer yr hawl mynediad o dan y Ddeddf.

(7Wrth benderfynu a oedd camau a gymerwyd i gyfathrebu gwybodaeth yn rhai rhesymol, yn ôl gofynion paragraff (6), rhaid rhoi sylw i unrhyw god ymddygiad a ddyroddwyd gan y Cyngor o dan adran 20(2) o'r Ddeddf.

(8Rhaid i'r awdurdod perthnasol ar gyfer unrhyw dir y mae gwaharddiad neu gyfyngiad yn gymwys iddo, yn ychwanegol at unrhyw ddyletswydd arall sy'n cael ei gosod o dan y rheoliad hwn, gyhoeddi, pryd bynnag y bo'n ymarferol, fanylion am y gwaharddiad neu'r cyfyngiad hwnnw ar wefan.

(9Os nad y Cyngor yw'r awdurdod perthnasol mewn perthynas ag unrhyw dir y mae gwaharddiad neu gyfyngiad yn gymwys iddo, rhaid i'r awdurdod perthnasol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cael hysbysiad o waharddiad neu gyfyngiad arfaethedig, roi manylion ysgrifenedig amdano i'r Cyngor.

Rhan VICYFARWYDDIADAU GAN YR YSGRIFENNYDD GWLADOL

Cymhwyso'r Rheoliadau hyn i gyfarwyddiadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol

15.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae rheoliadau 6, 8 a 10 i 13 yn gymwys i gyfarwyddyd a roddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol, neu y mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn ystyried ei roi, o dan adran 28(1) o'r Ddeddf.

(2Mae'r rheoliadau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) yn gymwys i gyfarwyddyd a roddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol, neu y mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn ystyried ei roi, fel petai'r cyfeiriadau yn y rheoliadau hynny:

(a)at “yr awdurdod perthnasol” yn gyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol;

(b)at adran 24(1), 25(1) neu 26(1) o'r Ddeddf yn gyfeiriadau, ym mhob achos, at adran 28(1) o'r Ddeddf; ac

(c)at berson a bennwyd o dan gyfarwyddyd a roddwyd gan awdurdod perthnasol yn berson sy'n gallu hysbysu'r awdurdod perthnasol o gyfnod pan fydd mynediad i'r tir i'w wahardd neu i'w gyfyngu yn gyfeiriadau at berson a awdurdodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol i roi hysbysiad o'r fath.

(3Nid yw'r darpariaethau mewn unrhyw un o'r rheoliadau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) yn gymwys mewn perthynas â chyfarwyddyd penodol a roddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol, neu y mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn ystyried ei roi, os yw'r Ysgrifennydd Gwladol o'r farn ei fod yn anymarferol neu'n amhriodol iddynt wneud hynny, naill ai yn eu cyfanrwydd neu yn rhannol.

Rhan VIIAPELAU

Apêl yn erbyn penderfyniad gan awdurdod perthnasol

16.—(1At ddibenion y Rheoliadau hyn ystyr “apêl” yw:

(a)unrhyw apêl o dan adran 30(3) o'r Ddeddf (apêl gan berson â buddiant mewn tir yn erbyn penderfyniad gan awdurdod perthnasol i beidio â gweithredu yn unol â chais neu sylwadau a gyflwynwyd gan y person hwnnw); a

(b)unrhyw gyfeiriad o dan adran 29(2) o'r Ddeddf (cyfeiriad gan y corff ymgynghorol perthnasol os yw'r awdurdod perthnasol yn penderfynu peidio â gweithredu yn unol â chyngor a roddwyd gan y corff hwnnw).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), dim ond drwy anfon neu fynd â ffurflen apêl wedi'i chwblhau i'r Cynulliad Cenedlaethol fel ei bod yn dod i law cyn diwedd y cyfnod apelio y caiff apêl gael ei dwyn.

(3Caiff apêl gael ei dwyn hefyd drwy anfon neu fynd â ffurflen apêl wedi'i chwblhau i'r Cynulliad Cenedlaethol fel ei bod yn dod i law ar ôl diwedd y cyfnod apelio os yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn nad oedd yn rhesymol ymarferol i'r apelydd gydymffurfio â gofynion paragraff (2) ac ar yr amod bod y ffurflen apêl sydd wedi'i chwblhau yn dod i law o fewn unrhyw gyfnod pellach ar ôl diwedd y cyfnod apelio y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn barnu ei fod yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.

(4Os yw person sy'n dymuno dwyn apêl yn anfon neu'n mynd â hysbysiad ysgrifenedig o'r bwriad hwnnw i'r Cynulliad Cenedlaethol fel ei bod yn dod i law cyn diwedd y cyfnod apelio yna, ar yr amod bod y person hwnnw yn anfon neu'n mynd â ffurflen apêl wedi'i chwblhau i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn unrhyw gyfnod pellach y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei wneud yn ofynnol, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r person hwnnw, mae'r ffurflen apêl honno i'w thrin fel petai wedi dod i law cyn diwedd y cyfnod apelio.

(5Mae'r wybodaeth y mae'n rhaid i ffurflen apêl sydd wedi'i chwblhau ei chynnwys fel a ganlyn:

(a)enw, cyfeiriad a chod post yr apelydd;

(b)digon o fanylion am y tir y mae'r apêl yn ymwneud ag ef er mwyn ei gwneud yn bosibl i adnabod y tir hwnnw ar fap sydd i'w ddarparu gan yr apelydd;

(c)unrhyw fanylion a fydd yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i ddeall ar ba sail y mae'r apêl wedi'i dwyn;

(ch)natur buddiant yr apelydd yn y tir sy'n destun yr apêl; a

(d)a yw'r apelydd yn dymuno cael ei wrando gan berson a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad â'r apêl (yn hytrach na bod yr apêl yn cael ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig) ac, os felly, a yw'r apelydd yn dymuno cael ei wrando mewn ymchwiliad lleol neu, fel arall, mewn gwrandawiad.

(6Caiff ffurflen apêl fod naill ai yn Gymraeg neu Saesneg ond, os yw'r apelydd yn dymuno bod yr apêl yn cael ei thrin yn gyfan gwbl neu'n rhannol drwy gyfrwng yr iaith heblaw'r un y mae'r ffurflen apêl wedi'i mynegi ynddi, dylai'r ffurflen apêl ymgorffori cais i'r perwyl hwnnw neu rhaid i gais felly fynd gyda hi.

Rhoi effaith i'r penderfyniad ar apêl

17.—(1Os yw apêl yn apêl yn erbyn penderfyniad gan awdurdod perthnasol i beidio â rhoi cyfarwyddyd a bod penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â'r apêl honno yn benderfyniad y dylai'r awdurdod perthnasol roi cyfarwyddyd, rhaid i'r awdurdod perthnasol roi cyfarwyddyd cyn gynted â phosibl, yn unol â phenderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol a rhaid iddo gydymffurfio â gofynion rheoliad 12(1) (ond nid rhai rheoliad 12(2)) mewn perthynas ag ef.

(2Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu ar apêl y dylai telerau cyfarwyddyd fod yn wahanol i rai'r cyfarwyddyd a roddwyd yn wreiddiol gan yr awdurdod perthnasol, rhaid i'r awdurdod perthnasol baratoi, cyn gynted â phosibl, gyfarwyddyd diwygiedig yn unol â'r penderfyniad hwnnw, gan ymgorffori datganiad mai cyfarwyddyd ydyw sydd wedi'i ddiwygio oherwydd y penderfyniad hwnnw, a rhaid iddo gydymffurfio â gofynion rheoliad 12(1) (ond nid rhai rheoliad 12(2)) mewn perthynas ag ef.

(3Mae effaith i gyfarwyddyd y mae'n ofynnol diwygio ei delerau yn unol â phenderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol ar apêl fel y bo wedi'i ddiwygio o ddyddiad y penderfyniad hwnnw.

(4Os penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol, mewn perthynas ag apêl, yw penderfyniad y dylid dileu cyfarwyddyd a roddwyd gan awdurdod perthnasol, rhaid i'r awdurdod perthnasol, cyn gynted â phosibl, baratoi datganiad i'r perwyl hwnnw a chydymffurfio â gofynion rheoliad 12(1) (ond nid rhai rheoliad 12(2)) mewn perthynas ag ef, fel petai'r datganiad yn gyfarwyddyd yn dirymu'r un a roddwyd yn wreiddiol.

(5Mae effaith cyfarwyddyd sy'n cael ei ddileu yn unol â phenderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol ar apêl yn dod i ben o ddyddiad y penderfyniad hwnnw.

(6Mae cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at benderfyniadau'r Cynulliad Cenedlaethol yn cynnwys cyfeiriadau at benderfyniadau gan bersonau a benodwyd ac a awdurdodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol i benderfynu ar apelau.

Gweithdrefnau apelau

18.  Mae Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gweithdrefnau Apelau) Cymru 2002(3) (“y Rheoliadau Gweithdrefnau Apelau”) yn cael eu diwygio yn unol ag Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.

Rhan VIIIAMRYWIOL

Defnyddio cyfathrebiad electronig

19.  Caiff unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol ei hanfon neu yr awdurdodwyd ei hanfon gan un person i berson arall o dan ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn, ei hanfon drwy'r post neu drwy gyfrwng gyfathrebiad electronig a dylid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at ysgrifen, sut bynnag y mae wedi'i fynegi, fel cyfeiriad sy'n cynnwys cyfeiriad at ffurf y mae modd ei storio, ei throsglwyddo i gyfrifiadur ac ohono, a'i darllen drwy gyfrwng cyfrifiadur.

Disgrifiad o dir

20.  Pan fydd y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi hysbysiad i awdurdod perthnasol sy'n cynnwys disgrifiad o unrhyw dir, a bod yr awdurdod perthnasol hwnnw wedi neilltuo o'r blaen i'r darn o dir hwnnw gyfeirnod i'r perwyl hwnnw, dylid ystyried bod dynodi'r tir hwnnw drwy gyfeirio at y rhif hwnnw yn ddigon i gydymffurfio â'r gofyniad hwnnw.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

28 Ionawr 2003

Rheoliad 6(2)

Atodlen 1Y CYRFF SYDD I'W HYSBYSU YN UNOL Å RHEOLIAD 6(2)

  • Unrhyw awdurdod mynediad mewn perthynas â thir y mae'r cyfarwyddyd arfaethedig yn ymwneud ag ef.

  • Y Gymdeithas Brydeinig ar gyfer Saethu a Chadwraeth

  • Cyngor Mynydda Prydain

  • Cymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad

  • Yr Asiantaeth Cefn Gwlad (os oes gan y tir o dan sylw ffin â Lloegr)

  • Undeb Amaethwyr Cymru

  • Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr (Cymru)

  • Cymdeithas y Mannau Agored

  • Cymdeithas y Crwydwyr

Rheoliad 18

Atodlen 2DIWYGIADAU I REOLIADAU MYNEDIAD I GEFN GWLAD (GWEITHDREFNAU APELAU) (CYMRU) 2002

1.  Yn rheoliad 2(1), ychwanegwch at y diffiniad o “apêl”, ar ôl y gair “Ddeddf”:

neu gyfeiriad o dan adran 29(2) o'r Ddeddf.

2.  Dilëwch Rheoliad 4, a rhowch yn ei le:

4.(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r atebydd, o fewn 14 diwrnod gwaith ar ôl iddo gael ffurflen apêl oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol, anfon at y Cynulliad Cenedlaethol ac at yr apelydd:

(a)datganiad a fydd yn gwrthwynebu'r apêl ac, os felly, ei seiliau dros wneud hynny;

(b)datganiad a ydyw'n dymuno cael gwrandawiad gan berson a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad â'r apêl (yn hytrach na bod yr apêl yn cael ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig) ac, os felly, a yw'n dymuno cael gwrandawiad mewn ymchwiliad lleol neu, fel arall, mewn gwrandawiad;

(c)copïau o unrhyw ohebiaeth berthnasol rhwng yr apelydd a'r atebydd;

(ch)copïau o unrhyw sylwadau a wnaed i'r atebydd gan unrhyw berson heblaw'r apelydd mewn perthynas â'r penderfyniad ar ran yr atebydd y mae'r apêl yn perthyn iddo; a

(d)unrhyw wybodeth bellach y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn am ei darparu.

(2) Yn achos apêl o dan adran 6 o'r Ddeddf:

(a)rhaid i'r atebydd, yn ychwanegol, anfon at y Cynulliad Cenedlaethol, cyn i'r cyfnod a bennir ym mharagraff (1) ddirwyn i ben, gopi o ddarn o fap sy'n dangos y rhan honno o'r map dros dro y mae'r apêl yn perthyn iddi;

(b)ni fydd rhaid i'r atebydd anfon y datganiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) ac (1)(b) o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (1) ond rhaid iddo wneud hynny cyn i'r cyfnod a bennir yn rheoliad 5(2)(a) neu 5(2)(b) (pa un bynnag sydd hwyraf) ddirwyn i ben ac mae'n rhaid iddo, yr un pryd, anfon at y Cynulliad Cenedlaethol unrhyw wybodaeth pellach y mae'r Cynulliad Cenedlaethol, erbyn hynny, wedi gofyn i'r atebydd ddarparu; ac

(c)os na fydd, o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (1), yn anfon at y Cynulliad Cenedlaethol y datganiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) ac (1)(b), rhaid i'r atebydd, yn lle hynny, anfon at y Cynulliad Cenedlaethol, o fewn y cyfnod hwnnw, datganiad sy'n cynnwys rhywbeth i ddangos a fydd yn gwrthwynebu'r apêl ac, os felly, y seiliau tebygol dros wneud hynny.

3.  Dilëwch reoliad 5(2)(a) a rhowch yn ei le:

(a)cyn bod 35 diwrnod yn dirwyn i ben o'r dyddiad yr anfonodd y Cynulliad Cenedlaethol gopi o'r ffurflen apêl wedi'i chwblhau at yr atebydd yn unol â rheoliad 3; neu.

4.  Yn rheoliad 6(1)—

(a)ychwangewch, ar ddechrau is-baragraff(a):

ac eithrio yn achos apêl o dan adran 30(3) o'r Ddeddf neu gyfeiriad o dan adran 29(2) o'r Ddeddf,

(b)ychwanegwch, ar ôl is-baragraff (c):

(ch)yn achos apêl o dan adran 30(3) o'r Ddeddf neu gyfeiriad o dan adran 29(2) o'r Ddeddf, rhoi hysbysiad i:

(i) yr awdurdod mynediad;

(ii)y fforwm mynediad lleol perthnasol;

(iii)unrhyw berson sydd wedi cyflwyno sylwadau i'r awdurdod perthnasol mewn perthynas â'r cyfarwyddyd y mae'r apêl yn ymwneud ag ef yn unol â darpariaethau Rheoliadau mynediad i Gefn Gwlad (Gwahardd neu Gyfyngu Mynediad) (Cymru) 2003; a

(iv)unrhyw berson arall y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn barnu ei bod yn briodol rhoi hysbysiad iddo.

5.  Yn ngeiriau agoriadol rheoliad 6(2), ychwanegwch, ar ôl “o dan baragraff (1)(c)”:

neu (1)(ch).

6.  Yn lle rheoliad 6(2)(c), rhowch:

(c)ar ba seiliau y mae'r apêl wedi'i dwyn, neu, yn achos apêl sydd wedi'i dwyn o dan adran 6 o'r Ddeddf, datganiad o dan ba un o'r seiliau a bennwyd yn adran 6(3) y mae wedi'i dwyn.

7.  Yn rheoliad 6(4), yn lle “yn unol â pharagraff (1)(a), (b) neu (c)”, rhowch:

yn unol â pharagraff (1)(a), (b), (c) neu (ch).

8.  Yn rheoliad 12(1)(c), ychwanegwch, ar ôl “berson â diddordeb”:

ac, yn achos apêl o dan adran 30(3) o'r Ddeddf neu gyfeiriad o dan adran 29(2) o'r Ddeddf, unrhyw berson yr oedd hysbysiad wedi'i roi iddo o dan reoliad 6(1)(ch),

9.  Ychwanegwch, ar ddechrau rheoliad 12(1)(ch):

ac eithrio yn achos apêl o dan adran 30(3) o'r Ddeddf neu gyfeiriad o dan adran 29(2) o'r Ddeddf,.

10.  Ychwanegwch, ar ddechrau rheoliad 22(6)(a):

ac eithrio yn achos apêl o dan adran 30(3) o'r Ddeddf neu gyfeiriad o dan adran 29(2) o'r Ddeddf,.

11.  Yn lle rheoliad 22(6)(b), rhowch:

(b)heb fod yn llai na dwy wythnos cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer cynnal yr ymchwiliad, anfon hysbysiad o'r ymchwiliad i unrhyw bersonau neu ddosbarthiadau o bersonau y mae'n barnu eu bod yn briodol ond rhaid iddo gynnwys, yn achos apêl o dan adran 30(3) o'r Ddeddf neu gyfeiriad o dan adran 29(2) o'r Ddeddf, unrhyw berson yr oedd hysbysiad wedi'i roi iddo o dan reoliad 6(1)(ch).

12.  Yn lle pennawd rheoliad 36 (ac ar gyfer y cofnod cyfatebol yn Nhrefn y Rheoliadau) rhowch:

Cyhoeddi penderfyniadau ar apelau

13.  Rhowch yn lle rheoliad 36:

36.  Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, onid yw'n rhesymol anymarferol gwneud hynny, gyhoeddi, ar wefan y mae'n ei chynnal, hysbysiad o bob penderfyniad sy'n cael ei wneud o dan y Rheoliadau hyn:

(a)mewn perthynas ag apêl o dan adran 6 o'r Ddeddf a pharhau i wneud hynny nes bod y map terfynol y mae'r apêl yn ymwneud ag ef yn cael ei ddyroddi;

(b)mewn perthynas ag apêl o dan adran 30(3) o'r Ddeddf neu gyfeiriad o dan adran 29(2) o'r Ddeddf a pharhau i wneud hynny am o leiaf chwe mis o ddyddiad y penderfyniad.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

O dan Bennod II o Ran I o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (adrannau 21 i 33 o'r Ddeddf), caniateir i'r hawl mynediad a roddwyd gan adran 2(1) o'r Ddeddf i unrhyw dir (“tir mynediad”) gael ei gwahardd neu ei chyfyngu. O dan adrannau 23 a 32 o'r Ddeddf, mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) bŵ er i wneud rheoliadau i ddarparu ar gyfer y camau sydd i'w cymryd i roi'r gwaharddiadau neu'r cyfyngiadau hynny ar waith.

Mae adrannau 29 a 30 o'r Ddeddf yn darparu i apêl gael ei dwyn yn erbyn penderfyniadau penodol sy'n ymwneud â gwahardd neu gyfyngu mynediad. O dan adrannau 11 a 32 o'r Ddeddf, mae gan y Cynulliad Cenedlaethol bŵ er i wneud rheoliadau sy'n darparu ar gyfer y gweithdrefnau sydd i fod yn gymwys i apelau o'r fath.

Mae Rheoliad 3 yn nodi'r camau y mae'n rhaid i “berson â hawl” (perchennog y tir) eu cymryd i wahardd neu gyfyngu mynediad yn unol ag adran 22 o'r Ddeddf. Rhaid i'r person perthnasol hysbysu'r “awdurdod perthnasol” (Cyngor Cefn Gwlad Cymru neu, os yw'r tir mewn Parc Cenedlaethol, yr awdurdod Parc Cenedlaethol). Caiff y person perthnasol wahardd neu gyfyngu mynediad yn unol ag adran 22 o'r Ddeddf am uchafswm o 28 diwrnod mewn unrhyw flwyddyn galendr.

Mae Rheoliad 4 yn nodi'r camau y mae'n rhaid i berchennog tir (a ddiffinnir yn adrannau 21 a 45 o'r Ddeddf) eu cymryd er mwyn cyfyngu ar fynediad i'r tir hwnnw â chwn o dan adran 23 o'r Ddeddf. Caniateir cyfyngu ar fynediad i dir â chwn os yw hynny'n angenrheidiol mewn cysylltiad ag wyna neu mewn cysylltiad â rheoli rhostiroedd grugieir.

Mae rheoliadau 5 i 12 yn nodi'r gweithdrefnau y mae'n rhaid eu dilyn mewn perthynas â chyfarwyddiadau gan awdurdodau perthnasol yn gwahardd neu'n cyfyngu mynediad o dan adrannau 24, 25 a 26 o'r Ddeddf, at ddibenion rheoli tir, er mwyn osgoi risg tân neu berygl i'r cyhoedd ac at ddibenion cadwraeth natur neu gadw treftadaeth, yn ôl eu trefn.

Mae rheoliad 13 yn nodi gofynion ynglŷn â hysbysiadau o dan gyfarwyddiadau nad ydynt eu hunain yn pennu'r cyfnodau pan yw'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad i fod yn gymwys, ond yn lle hynny yn rhoi pŵer i berson a bennwyd yn y cyfarwyddyd osod y cyfnod hwnnw drwy hysbysu'r awdurdod perthnasol.

Mae rheoliad 14 yn nodi'r rhwymedigaethau y mae personau ac awdurdodau perthnasol odanynt i hysbysu'r cyhoedd o fodolaeth gwaharddiadau a chyfyngiadau.

Mae rheoliad 15 yn cymhwyso gofynion penodol ynghylch ffurf cyfarwyddiadau, ymgynghori a chyhoeddusrwydd i gyfarwyddiadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwahardd neu'n cyfyngu mynediad at ddibenion amddiffyn neu ddiogelwch cenedlaethol, yn amodol ar ddisgresiwn yr Ysgrifennydd Gwladol i ddatgymhwyso'r gofynion hynny mewn achosion penodol os yw'n amhriodol neu'n anarferol eu cymhwyso.

Mae rheoliadau 16 i 18 yn darparu ar gyfer apelau i'r Cynulliad Cenedlaethol, gan gynnwys addasu Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gweithdrefnau Apelau) (Cymru) 2002 ((O.S. 2002/1794) (Cy. 169)) i fod yn gymwys i apelau o'r fath.

Mae rheoliad 19 yn galluogi cyfathrebiadau electronig i gael eu defnyddio at ddibenion cydymffurfio â'r gofynion sydd wedi'u cynnwys yn y Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 20 yn ei gwneud yn bosibl i dir gael ei ddynodi, wrth roi hysbysiad i'r awdurdod perthnasol o dan y Rheoliadau, â chyfeirnodau a ddyrannwyd gan yr awdurdodau perthnasol at y diben hwnnw.

(1)

2000 p.37. Mae'r pwerau o dan adrannau 11 and 32 yn bwerau i wneud darpariaeth trwy reoliadau. Mae adran 23(1) a (2) yn darpau ar gyfer camau sydd i'w rhagnodi (“prescribed”). Ystyr “prescribed” yw wedi ei ragnodi gan reoliadau ac ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (gweler adran 45(1)).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources