- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
TRETH GYNGOR, CYMRU
Wedi'u gwneud
8 Gorffennaf 2003
Yn dod i rym
10 Gorffennaf 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 14(3) a 113(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(1) a pharagraffau 1, 2, 3 ac 8 o Atodiad 4 iddi ac a freinir yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru(2) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 10 Gorffennaf 2003.
2.—(1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr y “Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992(3)
3. Diwygir y Prif Reoliadau fel a ganlyn —
(a)yn rheoliad 35(1) hepgorir —
(i)“(in which case the order shall be in the form specified as Form A in Schedule 2, or a form to the like effect),”; a
(ii)“(in which case the order shall be in the form specified as Form B in that Schedule, or a form to the like effect)”;
(b)yn rheoliad 48(1) hepgorir “, and shall be in the form specified as Form C in Schedule 2, or in a form to the like effect”; a
(c)hepgorir Atodlen 2.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Gorffennaf 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 (fel y'u diwygiwyd) (y “Rheoliadau”) yn rhagnodi'r pwerau y caiff awdurdodau lleol eu defnyddio i gasglu ac adennill treth gyngor. Yn benodol, mae rheoliadau 35(1) a 48(1) o'r Rheoliadau ac Atodlen 2 iddynt yn rhagnodi'r ffurflenni Gorchymyn Dyled a Gwarant Traddodi y mae'n rhaid i Lysoedd Ynadon eu defnyddio yn dilyn ceisiadau iddynt gan awdurdodau lleol ar gyfer gorchmynion neu warantau o'r fath.
Mae Adran yr Arglwydd Ganghellor yn ddiweddar wedi gwneud arolwg o'r ffurflenni a ddefnyddir mewn Llysoedd Ynadon ac maent yn awr yn dymuno defnyddio set newydd o ffurflenni sydd i gyd i fod yn gyson o ran eu harddull. Fel rhan o'r broses hon, mae'n angenrheidiol anghymhwyso'r ffurf ar Orchymyn Dyled a Gwarant Traddodi a grybwyllir uchod.
Mae'r Rheoliadau hyn yn dileu'r gofyniad ei bod yn rhaid i Lysoedd Ynadon ddefnyddio'r ffurf ar Orchymyn Dyled a Gwarant Traddodi penodedig neu ffurf sydd ag effeith tebyg mewn cysylltiad â chasglu ac adennill treth cyngor.
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
O.S. 1992/613, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Cyfraith Statud (Diddymu) 1995 (p.44); rheoliad 3 o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Gorchymyn Atafaelu Enillion) (Cymru) 1992 (O.S. 1992/1741) a'r Atodlen iddynt; rheoliadau 3 i 12 a 15 i 20 o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) 1992 (O.S. 1992/3008); rheoliad 2 o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) 1993 (O.S. 1993/196); rheoliadau 3 i 8 o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Rhif 2) 1993 (O.S. 1993/773) a'r Atodlen iddynt; rheoliadau 3 i 9 o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) 1994 (O.S. 1994/505); rheoliadau 3 i 6 o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) 1995 (O.S. 1995/22); erthygl 2 o Orchymyn Llysoedd Ynadon (Cymru) (Canlyniadau Newidiadau i Lywodraeth Leol) 1996 (O.S. 1996/675) a pharagraff 10 o'r Atodlen iddo; erthygl 30 o Orchymyn Awdurdodau Lleol (Contractio Allan Swyddogaethau Bilio, Casglu a Gorfodi'r Dreth) 1996 (O.S. 1996/1880); rheoliad 2 o Reoliadau Tâl Cymunedol a'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Lwfans Ceisio Gwaith) 1996 (O.S. 1996/2405); rheoliadau 3 a 4 o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) 1997 (O.S. 1997/393); rheoliadau 3 i 8 o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) 1998 (O.S. 1998/295) a'r Atodlen iddynt; rheoliadau 2 i 4 o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) 1999 (O.S. 1999/534); rheoliadau 2 a 3 o Reoliadau Taliadau Cymunedol, Y Dreth Gyngor ac Ardrethu Annomestig (Gorfodi) (Llysoedd Ynadon) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/1076 (Cy.52)); ac erthyglau 2(s) a 38 o Orchymyn Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithredol a Threfniadau Amgen) (Addasu Deddfiadau a Darpariaethau Eraill) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/808 (Cy.89)). Mae yna ddiwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i Gymru.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: