Search Legislation

Gorchymyn Clwy Clasurol y Moch (Cymru) 2003

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 2456 (Cy.239)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Clwy Clasurol y Moch (Cymru) 2003

Wedi'i wneud

24 Medi 2003

Yn dod i rym

1 Hydref 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 7(1), 8(1), 15(4), 17(1), 23, 25, 28, 35, 38 ac 83(2) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1) a phob pŵer arall sy'n eu galluogi o ran hynny, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Clwy Clasurol y Moch (Cymru) 2003 a daw i rym ar 1 Hydref 2003.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn, os nad yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—

ystyr “abwyfa” (“knacker’s yard”) yw unrhyw safle a ddefnyddir mewn cysylltiad â lladd, blingo neu dorri anifeiliaid na fwriedir i'w cig gael ei fwyta gan bobl;

ystyr carcas (“carcase”) yw carcas mochyn ac mae'n cynnwys rhan o garcas;

ystyr “y clefyd” (“the disease”) yw clwy clasurol y moch;

ystyr “daliad” (“holding”) yw unrhyw fan lle y mae unrhyw fochyn yn cael ei fridio neu ei gadw yn barhaol neu dros dro neu wedi cael eu cadw o fewn 56 diwrnod, ond nid yw'n cynnwys lladd-dy, abwyfa, cyfrwng cludo nac ardaloedd wedi eu ffensio lle y cedwir moch fferal y gellir eu hela;

ystyr “daliad a amheuir” (“suspected holding”) yw daliad y mae hysbysiad o dan erthygl 5 wedi cael ei gyflwyno ynglŷn ag ef;

ystyr “daliad heintiedig” (“infected holding”) yw daliad y mae'r Prif Swyddog Milfeddygol wedi cadarnhau bod y clefyd yn bresennol yno;

ystyr “y feirws” (“the virus”) yw feirws clwy clasurol y moch;

ystyr “lladd-dy” (“slaughterhouse”) yw unrhyw adeilad, safle neu le arall (heblaw cyfleuster trafod anifeiliaid hela a ffermir) ar gyfer cigydda anifeiliaid y bwriedir eu cig i'w fwyta gan bobl, ac mae'n cynnwys unrhyw le sydd ar gael mewn cysylltiad ag ef lle cedwir anifeiliaid cyn eu cigydda;

ystyr “mochyn” (“pig”) yw anifail o dylwyth y suidae;

ystyr “mochyn fferal” (“feral pig”) yw mochyn nas cedwir na bridir ar ddaliad ac nad yw mewn lladd-dy, mewn abwyfa nac ar gyfrwng cludo;

ystyr “y Prif Swyddog Milfeddygol” (“the Chief Veterinary Officer”) yw Prif Swyddog Milfeddygol Prydain Fawr; ac

ystyr “Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol” (“Divisional Veterinary Manager”) yw'r person a benodir dros dro gan yr Ysgrifennydd Gwladol i gael gwybod am anifeiliaid a charcasau sydd wedi eu heintio neu yr amheuir eu bod wedi eu heintio ar gyfer yr ardal lle y mae'r anifeiliaid neu'r carcasau hynny.

(2At ddibenion y Gorchymyn hwn—

(i)yr amheuir bod mochyn neu garcas mochyn wedi ei heintio gan y clefyd os oes ganddo'r arwyddion clinigol, neu namau post mortem neu os yw canlyniadau prawf diagnostig yn dangos ei bod yn bosib bod y feirws yn bresennol yn yr anifail hwnnw neu'r carcas hwnnw;

(ii)mae mochyn neu garcas mochyn wedi ei heintio gan y clefyd os yw'r Prif Swyddog Milfeddygol yn penderfynu ei fod wedi'i heintio ar sail arwyddion clinigol, neu namau post mortem, neu ganlyniadau prawf diagnostig neu amgylchiadau epidemiolegol.

Eithriadau

3.  Nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys pan fo'r feirws yn bresennol mewn amgylchiadau sydd wedi eu hawdurdodi drwy drwydded a roddwyd o dan Orchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig 1998(2).

Hysbysu am y clefyd

4.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n amau bod y clefyd yn bresennol mewn unrhyw fochyn neu garcas—

(a)y mae'n berchen arno; neu

(b)sydd yn ei ofal; neu

(c)y mae yn ei archwilio,

hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol yn ddiymdroi.

(2Rhaid i unrhyw berson sy'n dadansoddi samplau a gymerir o unrhyw anifail neu garcas ac sy'n darganfod tystiolaeth o wrthgorffynnau neu antigenau i'r clefyd neu unrhyw frechiad i'r clefyd hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol yn ddiymdroi.

(3Ni chaiff neb symud yr un mochyn na charcas yr amheuir ei fod wedi ei heintio gan y clefyd, nac unrhyw gig, cynnyrch a wnaed o foch, semen, ofwm nac embryo mochyn, porthiant anifeiliaid, tail (tom) na biswail nac unrhyw offer, deunydd na gwastraff y maent yn debygol o drosglwyddo'r clefyd, o'r daliad nac o le arall lle y cafwyd hyd iddo, nes bydd arolygydd milfeddygol wedi ymweld â'r daliad neu'r lle arall hwnnw a bod yr arolygydd hwnnw naill ai wedi gorfodi cyfyngiadau o dan y Gorchymyn hwn neu wedi hysbysu'r person y mae'r mochyn neu'r carcas a amheuir yn ei ofal, nad oes angen, yn ei farn ef, gwneud hynny.

Camau i'w cymryd tra ymchwilir i amheuaeth o'r clefyd

5.—(1Rhaid i arolygydd milfeddygol sy'n amau bod y clefyd yn bresennol ar unrhyw ddaliad neu y gallasai fod wedi bod yn bresennol yno yn y 56 diwrnod diwethaf neu mewn lle arall neu ar gyfrwng cludo, os yw hysbysiad wedi ei roi o dan erthygl 4 ai peidio—

(a)cyflwyno hysbysiad i feddiannydd y daliad gan orfodi'r cyfyngiadau a'r gofynion a nodwyd ym mharagraff 3; a

(b)gwneud archwiliad i gadarnhau bod y clefyd yn bresennol neu'n absennol.

(2Pan gyflwynir hysbysiad o dan baragraff 1 rhaid i'r meddiannydd —

(a)gydweithio ag unrhyw arolygydd milfeddygol ar baratoi cofnod yn ôl y categorïau canlynol —

(i)sawl mochyn sydd;

(ii)sawl mochyn sydd, yn ôl eu golwg, heb y clefyd;

(iii)sawl mochyn sydd, yn ôl eu golwg, â'r clefyd arnynt;

(iv)sawl mochyn sydd wedi marw;

(b)sicrhau bod y cofnod yn cael ei ddiweddaru i gynnwys y moch sy'n cael eu geni a'r rhai sy'n marw yn ystod y cyfnod pan fo'r cyfyngiadau o dan y paragraff hwn mewn grym a chofnodi sawl mochyn sy'n mynd yn sâl a fu gynt, yn ôl eu golwg, heb y clefyd;

(c)dangos y cofnod i arolygydd ar ei gais;

(ch)sicrhau bod pob mochyn ar y safle yn cael ei gadw yn ei dwlc neu yn rhyw le arall a bennir yn yr hysbysiad;

(d)sicrhau, yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan arolygydd milfeddygol, bod dulliau priodol o ddiheintio yn cael eu rhoi wrth fynedfeydd ac allanfeydd y rhannau hynny o'r safle lle cedwir y moch a'r safle ei hunan.

(3Pan fydd hysbysiad wedi'i gyflwyno o dan baragraff (1), ni chaiff neb—

(a)symud unrhyw fochyn i'r safle neu oddi yno os na wneir hynny yn unol â thrwydded a roddwyd gan arolygydd milfeddygol a rhaid i'r meddiannydd sicrhau nad yw'r moch yn gallu crwydro o'r safle nac i mewn iddo;

(b)symud unrhyw gig, carcas mochyn, cynnyrch a wnaed o foch, semen, ofwm nac embryo mochyn, nac unrhyw borthiant anifeiliaid, offer, deunydd na gwastraff nac unrhyw beth arall y maent yn debygol o drosglwyddo'r clefyd o'r safle, heblaw os yw hynny'n cael ei wneud yn unol â thrwydded a roddwyd gan arolygydd;

(c)dod i mewn i'r safle nac ohono os nad yw'n gwneud hynny yn unol â thrwydded a roddwyd gan arolygydd milfeddygol;

(ch)symud unrhyw gerbyd i mewn i'r safle nac oddi yno os nad yw'n cael ei wneud yn unol â thrwydded a roddwyd gan arolygydd milfeddygol.

Camau pellach i'w cymryd os yw hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan erthygl 5

6.  Os yw hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan erthygl 5, caiff arolygydd milfeddygol, drwy gyflwyno hysbysiad pellach i feddiannydd y daliad neu le arall neu i'r person y mae'n ymddangos iddo sydd â gofal y cyfrwng cludo—

(a)gwahardd symud unrhyw rywogaeth arall o anifail i mewn i'r safle neu oddi yno;

(b)ei gwneud yn ofynnol i'r meddiannydd gymryd pob cam rhesymol i ddifa cnofilod a phryfed ar y safle;

(c)ei gwneud yn ofynnol i'r meddiannydd lanhau a diheintio'r safle neu i'r person y mae'n ymddangos iddo sydd â gofal y cyfrwng cludo ei lanhau a'i ddiheintio a hynny ar ei draul ei hun neu ar draul yr Ysgrifennydd Gwladol mewn unrhyw fodd a bennir yn yr hysbysiad, ac o fewn unrhyw amser a bennir felly;

(ch)yn achos cyfrwng cludo, ei gwneud yn ofynnol ei fod—

(i)yn cael ei ddwyn i'r gyrchfan a bennir yn yr hysbysiad;

(ii)yn cael ei ddadlwytho, ei lanhau a'i ddiheintio fel a bennir yn yr hysbysiad; a

(iii)os pennir hynny, yn cael ei ddadlwytho, ei lanhau a'i ddiheintio o dan oruchwyliaeth arolygydd milfeddygol.

Camau i'w cymryd os cadarnheir bod y clefyd yn bresennol ar ddaliad

7.—(1Os yw'r Prif Swyddog Milfeddygol wedi cadarnhau bod y clefyd yn bresennol ar ddaliad, rhaid i arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad o dan yr erthygl hon i feddiannydd y daliad hwnnw yn ei gwneud yn ofynnol iddo sicrhau y cydymffurfir â'r cyfyngiadau a'r gofynion a geir yn erthygl 5 onid oes hysbysiad o'r fath o dan erthygl 5 wedi ei gyflwyno eisoes; a

(2Pan geir cadarnhad o'r fath caiff arolygydd milfeddygol ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, fod y camau hynny a nodir yn erthygl 6 yn cael ei roi ar waith hefyd neu fel y gwêl orau.

Camau i'w cymryd os cadarnheir bod y clefyd yn bresennol mewn lladd-dy, abwyfa neu ar gyfrwng cludo

8.  Os yw'r Prif Swyddog Meddygol wedi cadarnhau bod y clefyd yn bresennol mewn lladd-dy, mewn abwyfa neu ar gyfrwng cludo, caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad i feddiannydd y lladd-dy, yr abwyfa neu i'r person y mae'r cyfrwng cludo yn ei ofal, yn ei gwneud yn ofynnol iddo sicrhau—

(a)yn achos lladd-dy neu abwyfa, bod pob adeilad, cyfarpar a cherbyd a bennir yn yr hysbysiad yn cael ei lanhau a'i ddiheintio yn unol â'r cyfarwyddiadau, ac o dan oruchwyliaeth arolygydd milfeddygol;

(b)yn achos cyfrwng cludo, ei fod yn cael ei gymryd i gyrchfan, ei ddadlwytho, ei lanhau a'i ddiheintio yn unol â'r cyfarwyddiadau, ac o dan oruchwyliaeth arolygydd milfeddygol;

(c)na ddeuir â'r un mochyn i mewn i'r lladd-dy, yr abwyfa na'r cyfrwng cludo nes bydd o leiaf 24 awr wedi mynd heibio ers cwblhau'r gwaith glanhau a diheintio a wnaed yn unol ag is-baragraffau (a) a (b) uchod.

Camau i'w cymryd o ran daliadau y mae'n bosib y cafodd y clefyd ei drosglwyddo iddynt neu ohonynt

9.—(1Os, yn sgil ymchwiliad i epidemioleg y clefyd ar ddaliad, y mae arolygydd milfeddygol o'r farn bod y clefyd sydd ar ddaliad sydd wedi ei heintio neu ddaliad a amheuir efallai wedi cael ei drosglwyddo i safle arall, neu ohono, caiff gyflwyno hysbysiad o dan erthygl 5 i feddiannydd y safle arall hwnnw.

(2Os yw'r clefyd wedi ei ganfod ar anifeiliaid mewn lladd-dy, mewn abwyfa neu ar gyfrwng cludo, caiff arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad o dan erthygl 5 i feddiannydd unrhyw safle y mae'r anifeiliaid neu garcasau heintiedig sydd yn y lladd-dy hwnnw, yr abwyfa honno neu'r cyfrwng cludo hwnnw wedi dod ohono yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o fewn 56 diwrnod neu, yn achos cyfrwng cludo, unrhyw safle y mae'r cyfwng cludo hwnnw wedi teithio iddo ers hynny.

Parth Rheoli Dros Dro

10.—(1Yn sgil cyflwyno hysbysiad o dan erthygl 5, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy Orchymyn datganiadol, sefydlu parth a elwir “parth rheoli dros dro”.

(2Rhaid i'r parth rheoli dros dro fod wedi ei leoli a bod o'r fath faint ag sydd ei angen, ym marn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, er mwyn atal y clefyd rhag lledaenu.

(3Os yw parth rheoli dros dro wedi ei sefydlu, ni chaiff neb—

(a)symud yr un mochyn o unrhyw ddaliad, lladd-dy neu abwyfa yn y parth ac eithrio yn unol â thrwydded a ddyroddir gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu'n unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol;

(b)symud unrhyw wartheg, defaid, geifr nac anifail cnoi cil arall o unrhyw ddaliad, lladd-dy neu abwyfa yn y parth y mae moch ynddi ac eithrio yn unol â thrwydded a ddyroddir gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu'n unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol; nac

(c)symud yr un mochyn allan o'r parth.

(4Ni fydd y cyfyngiad ym mharagraff (3)(c) yn gymwys i foch sydd wedi eu llwytho ar gerbyd y tu allan i'r parth a'u cludo drwyddo heb i'r cerbyd gael ei lwytho na'i ddadlwytho.

(5Pan fydd parth rheoli dros dro wedi cael ei sefydlu yn Lloegr sy'n cyffwrdd â ffin Cymru caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, fel y barna'n angenrheidiol, sefydlu parth rheoli dros dro cysylltiedig yng Nghymru;

(6Ystyrir bod unrhyw ddaliad, lladd-dy neu abwyfa sy'n rhannol y tu mewn ac yn rhannol y tu allan i barth rheoli dros dro yn gyfan gwbl y tu mewn i'r parth hwnnw.

Parthau diogelu a goruchwylio

11.—(1Pan gadarnheir gan y Prif Swyddog Milfeddygol fod y clefyd yn bresennol, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy Orchymyn datganiadol, sefydlu ardal heintiedig ag iddi barth a elwir yn “barth diogelu” a pharth a elwir yn “barth goruchwylio”.

(2Rhaid i'r parth diogelu gwmpasu ardal sydd o leiaf tri chilometr ei radiws mewn parth goruchwylio sy'n cwmpasu ardal sydd o leiaf deg cilometr ei radiws, a'r daliad, y lladd-dy neu'r abwyfa y cadarnhawyd bod y clefyd yn bresennol yno fydd canolbwynt y ddau barth.

(3Mae Rhan I o Atodlen I yn gymwys i barth diogelu a Rhan II o Atodlen I yn gymwys i barth goruchwylio.

(4Os cadarnheir bod y clefyd yn bresennol ar ddaliad, lladd-dy neu abwyfa yn Lloegr sydd o fewn 10 cilometr i'r ffin â Chymru, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy Orchymyn datganiadol, sefydlu ardal heintiedig yng Nghymru fel y bydd parth diogelu sydd o leiaf tri chilometr ei radiws wedi ei gynnwys mewn parth goruchwylio sydd o leiaf 10 cilometr ei radiws, a'r daliad yn Lloegr y cadarnhawyd bod y clefyd yn bresennol ynddo fydd canolbwynt y ddau.

(5Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru gymryd unrhyw gamau sydd, yn ei farn, eu hangen i sicrhau bod pob person mewn ardal heintiedig yn llwyr ymwybodol o'r cyfyngiadau sydd mewn grym, gan gynnwys drwy roi hysbysiadau neu arwyddion ar eiddo sydd o fewn yr ardal heintiedig.

(6Rhaid i unrhyw ddaliad, lladd-dy neu abwyfa sydd yn rhannol y tu mewn i barth goruchwylio neu barth diogelu ac yn rhannol y tu allan gael ei drin fel petai i gyd o fewn y parth hwnnw.

Glanhau a diheintio

12.—(1Wrth ddiheintio o dan y Gorchymyn hwn, rhaid defnyddio diheintydd sydd wedi ei gymeradwyo at y diben hwnnw o dan Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978(3).

(2Rhaid i weithrediadau glanhau a diheintio ar adeiladau gael eu gwneud o dan oruchwyliaeth arolygydd milfeddygol neu arolygydd yn unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol.

Parth ymchwilio moch fferal

13.—(1Os oes gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru reswm i gredu bod y clefyd yn bresennol ymhlith moch fferal yng Nghymru neu os oes parth archwilio moch fferal wedi cael ei sefydlu yn Lloegr sy'n cyffwrdd â ffin Cymru, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy Orchymyn datganiadol, sefydlu parth ymchwilio moch fferal yng Nghymru y mae darpariaethau paragraff (3) yn gymwys iddo.

(2Rhaid i'r parth ymchwilio moch fferal gwmpasu'r ardal sydd, ym marn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ei hangen er mwyn ei alluogi i wneud archwiliad i gadarnhau bod y clefyd yn bresennol neu'n absennol.

(3Rhaid i unrhyw berson sy'n saethu moch fferal neu sy'n cael hyd i garcas moch fferal mewn ardal ymchwilio moch fferal roi gwybod i'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol. Os yw'r person wedi saethu'r mochyn, rhaid iddo gadw'r carcas am 24 awr a sicrhau ei fod ar gael i'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol ar gyfer unrhyw samplu neu brofion sydd, ym marn y Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol, yn briodol.

Camau i'w cymryd os cadarnheir bod y clefyd yn bresennol mewn mochyn fferal

14.—(1Os cadarnheir bod y clefyd yn bresennol mewn mochyn fferal yng Nghymru, neu os datgenir ardal heintiedig yn Lloegr sy'n cyffwrdd â ffin Cymru, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru sefydlu ardal heintiedig a'i maint yn ddigon i gwmpasu'r ardal yr amheuir bod y clefyd yn bresennol ynddi.

(2Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru gymhwyso rhai o gyfyngiadau a gofynion Atodiad 2, neu'r cyfan ohonynt, yn yr ardal heintiedig a chaiff hefyd atal hela a gwahardd bwydo moch fferal yn yr ardal honno.

(3Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru gymryd unrhyw gamau sydd, yn ei farn, eu hangen i sicrhau bod yr holl bersonau mewn ardal heintiedig yn llwyr ymwybodol o'r cyfyngiadau a'r gofynion sydd mewn grym mewn ardal heintiedig, gan gynnwys drwy roi hysbysiadau neu arwyddion ar eiddo sydd o fewn yr ardal honno.

(4Rhaid i unrhyw ddaliad sydd yn rhannol y tu mewn i ardal heintiedig ac yn rhannol y tu allan ei drin fel petai i gyd o fewn y parth hwnnw.

Brechu

15.  Ni chaiff neb roi brechlyn at glwy clasurol y moch i unrhyw fochyn.

Cydymffurfio â hysbysiadau etc.

16.—(1Rhaid i unrhyw hysbysiad neu drwydded o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig, a chaiff fod yn gyffredinol neu'n benodol, caiff fod yn ddarostyngedig i amodau a gellir ei ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu yn ysgrifenedig ar unrhyw adeg ac yn benodol gellir ei atal neu ei ddirymu os yw'r awdurdod dyroddi o'r farn resymol na chydymffurfir â darpariaethau'r Gorchymyn hwn.

(2Os bydd unrhyw berson yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad yn y Gorchymyn hwn neu ag unrhyw gyfarwyddyd a roddwyd, neu ag unrhyw hysbysiad neu drwydded a gyflwynwyd o'i herwydd, caiff arolygydd, heb ymrwymiad i unrhyw achos sy'n ymwneud â thramgwydd a fo'n codi o ganlyniad i'r methiant hwnnw, gymryd unrhyw gamau sydd eu hangen i sicrhau y cydymffurfir â'r gofynion, y cyfarwyddyd, yr hysbysiad neu'r drwydded neu i sicrhau iddynt gael eu rhoi ar waith.

(3Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol neu'r awdurdod lleol adfer unrhyw dreuliau sy'n deillio o waith arolygydd o dan baragraff (2) fel dyled sifil oddi wrth y person sydd mewn diffyg talu.

Pwerau Cyffredinol Arolygwyr ac Arolygwyr Milfeddygol

17.  Caiff arolygydd neu arolygydd milfeddygol neu swyddog arall Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol sy'n mynd i'r safle o dan y Gorchymyn hwn fynd â'r canlynol gydag ef —

(a)cerbyd (ar yr amod bod mynediad i gerbyd o'r fath yn rhesymol ymarferol);

(b)y cyfarpar hwnnw y mae'n barnu ei fod yn angenrheidiol; ac

(c)unrhyw berson arall y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol at unrhyw ddiben mewn perthynas â gweithredu a gorfodi'r Gorchymyn hwn.

Gorfodi

18.—(1Heblaw lle y darperir fel arall, yr awdurdod lleol fydd yn gweithredu a gorfodi darpariaethau'r Gorchymyn hwn.

(2Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol gyfarwyddo, o ran achosion o ddisgrifiad arbennig neu unrhyw achos penodol, fod y ddyletswydd orfodi a osodir ar awdurdod lleol o dan yr erthygl hon i'w chyflawni gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol ac nid gan awdurdod lleol.

Dirymu

19.  Mae'r Gorchmynion canlynol drwy hyn yn cael eu dirymu i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru—

(a)Gorchymyn Clwy'r Moch (Cyfyngiadau Ardaloedd Heintiedig) 1956(4);

(b)Gorchymyn Clwy'r Moch 1963(5).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

23 Medi 2003

Ben Bradshaw

Yr Is-Ysgrifennydd Seneddol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

24 Medi 2003

Erthygl 11(3)

ATODLEN 1CAMAU SY'N GYMWYS MEWN PARTHAU DIOGELU A GORUCHWYLIO

RHAN ICamau sy'n gymwys mewn parth diogelu

Cyfyngu ar symud

1.  Yn ddarostyngedig i baragraff 2 isod, ni chaiff neb symud na chludo'r un mochyn ar unrhyw ffordd gyhoeddus na phreifat (heblaw, os bydd angen, y ffyrdd gwasanaethu o fewn y daliad) o fewn y parth diogelu.

2.  Nid yw'r gwaharddiad ym mharagraff 1 yn gymwys—

(a)os yw'r symud yn cael ei wneud yn unol â pharagraffau 6 a 7;

(b)i gludo moch a gafodd eu llwytho ar gerbyd neu drên y tu allan i'r parth diogelu ac yn cael eu cludo drwy'r parth hwnnw heb i'r cerbyd gael ei lwytho na'i ddadlwytho yn y parth hwnnw;

(c)i symud na chludo moch o'r tu allan i'r parth diogelu gyda'r bwriad o'u cigydda ar unwaith mewn lladd-dy sydd o fewn y parth diogelu, ar yr amod bod y symud neu'r cludo wedi cael ei drwyddedu gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd yn unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol.

3.  Ni chaiff neb symud unrhyw gerbyd allan o'r parth diogelu os yw'r cerbyd wedi cael ei ddefnyddio i gludo moch o fewn y parth, os nad—

(a)yw wedi cael ei lanhau a'i ddiheintio o dan gyfarwyddyd a goruchwyliaeth arolygydd; a

(b)yw'r symud wedi ei drwyddedu gan arolygydd; ac

(c)yw wedi cael ei yrru drwy'r parth heb ei lwytho neu ei ddadlwytho.

4.  Rhaid i feddiannydd daliad o fewn y parth diogelu sicrhau nad yw'r un rhywogaeth arall o anifail domestig yn mynd i mewn i'r daliad na'i adael os nad awdurdodwyd y symud drwy drwydded a gyhoeddwyd gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu yn unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol.

5.  Ni chaiff neb fynd ag unrhyw semen, ofwm nac embryo moch o ddaliad sydd o fewn y parth diogelu.

6.  Ni chaiff neb symud yr un mochyn yn y parth diogelu o'r daliad lle y cedwir ef am o leiaf 30 diwrnod ar ôl y cwblheir gwaith cychwynnol glanhau a diheintio'r daliad heintiedig. Ar ôl hynny ni chaiff neb symud yr un mochyn heb drwydded i wneud hynny a roddwyd gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd yn gweithredu yn unol â chyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.

7.  Os yw daliad—

(a)wedi bod mewn parth diogelu am hwy na 30 diwrnod oherwydd y bu achosion ychwanegol o'r clefyd yn y parth; a

(b)bod hyn wedi peri problemau ynglŷn â lles neu broblemau eraill o ran cadw'r moch ar y daliad,

ceir symud mochyn oddi ar y daliad ar yr amod bod unrhyw symud o'r fath yn cael ei awdurdodi drwy drwydded a roddwyd gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd yn gweithredu yn unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol.

Hysbysu ynghylch moch yn marw ar ddaliad

8.  Rhaid i feddiannydd unrhyw ddaliad o fewn y parth diogelu roi gwybod i'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol am unrhyw fochyn marw neu heintiedig sydd ar ei ddaliad.

Bioddiogelwch

9.  Rhaid i berson y mae unrhyw gerbyd neu gyfarpar o dan ei ofal, os defnyddiwyd y cerbyd neu'r cyfarpar i gludo moch, da byw arall neu ddeunydd y gellid bod wedi ei heintio gan y clefyd (er enghraifft carcasau, porthiant, gwrtaith a biswail) sicrhau iddo gael ei lanhau a'i ddiheintio neu ei drin fel arall o dan gyfarwyddyd a goruchwyliaeth arolygydd milfeddygol neu arolygydd yn gweithredu yn unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol cyn gynted ag y bo modd ar ôl iddo gael ei ddefnyddio a chyn iddo gael ei ddefnyddio unwaith eto.

10.  Ni chaiff neb fynd i mewn na gadael yr un daliad o fewn y parth diogelu yn gwisgo dillad neu esgidiau ac arnynt arwyddion gweledol eu bod wedi eu halogi â llaid, biswail, carthion na thail anifeiliaid nac unrhyw ddeunydd tebyg heblaw bod personau yn cael glanhau a diheintio ochrau allanol eu hesgidiau wrth fynd i mewn neu adael y safle hwnnw.

RHAN IICamau sy'n gymwys mewn Parth Goruchwylio

Cyfyngu ar symud

11.  Yn ddarostyngedig i baragraff 12, ni chaiff neb symud na chludo yr un mochyn ar unrhyw ffordd gyhoeddus na phreifat (heblaw, os bydd angen, y ffyrdd gwasanaethu o fewn y daliad) o fewn y parth goruchwylio os nad yw wedi cael trwydded i wneud hynny gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd yn unol â chyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.

12.  Ni fydd y gwaharddiadau ym mharagraff 11 yn gymwys—

(a)i gludo moch a lwythwyd i mewn i gerbyd neu drên y tu allan i'r parth goruchwylio ac sy'n cael eu cludo drwy'r parth hwnnw heb i'r cerbyd gael ei lwytho na'i ddadlwytho yn y parth; na

(b)i symud neu gludo moch o'r tu allan i'r parth goruchwylio gyda'r bwriad o'u cigydda ar unwaith mewn lladd-dy sydd o fewn y parth goruchwylio, ar yr amod bod y symud neu'r cludo wedi cael ei drwyddedu gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd yn unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol.

13.  Ni chaiff neb symud yr un cerbyd a ddefnyddir i gludo da byw o'r parth goruchwylio os yw wedi ei ddefnyddio i gludo moch, os nad yw yn gyntaf wedi cael ei lanhau a'i ddiheintio neu os na chafodd ei yrru drwy'r parth heb ei lwytho na'i ddadlwytho.

14.  Rhaid i feddiannydd unrhyw ddaliad o fewn y parth goruchwylio sicrhau nad yw'r un rhywogaeth arall o anifail domestig yn mynd i mewn i'r daliad na'i adael o fewn y saith niwrnod ers sefydlu'r parth hwnnw os nad oes ganddo awdurdod i wneud hynny drwy drwydded gan arolygydd.

15.  Ni chaiff neb fynd ag unrhyw semen, ofwm nac embryo moch o ddaliad sydd o fewn y parth goruchwylio.

Symud moch

16.  Ni chaiff neb symud yr un mochyn o ddaliad sydd yn y parth goruchwylio am o leiaf 21 diwrnod ar ôl i waith cychwynnol glanhau a diheintio'r daliad heintiedig gael ei gwblhau. Ar ôl hynny ni chaiff neb symud yr un mochyn os nad oes ganddo drwydded i hynny gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd.

17.  Os yw daliad—

(i)wedi bod o fewn parth goruchwylio am fwy na 30 diwrnod oherwydd bod achosion ychwanegol o'r clefyd; a

(ii)bod hynny yn peri problemau o ran lles neu broblemau eraill o ran cadw'r moch ar y daliad,

ceir symud moch o'r daliad hwnnw ar yr amod bod y symud wedi ei drwyddedu gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu yn unol â chyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.

Bioddiogelwch

18.  Rhaid i berson y mae unrhyw gerbyd neu gyfarpar o dan ei ofal, os defnyddiwyd y cerbyd neu'r cyfarpar i gludo moch, da byw arall neu ddeunydd y gellid bod wedi ei heintio gan y feirws (er enghraifft carcasau, porthiant, gwrtaith a biswail) sicrhau iddo gael ei lanhau a'i ddiheintio neu ei drin fel arall cyn gynted ag y bo modd ar ôl iddo gael ei ddefnyddio a chyn iddo gael ei ddefnyddio unwaith eto yn unol â chyfarwyddyd arolygydd milfeddygol neu arolygydd neu berson arall a benodir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol sy'n gweithredu yn unol â chyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.

19.  Ni chaiff neb fynd i mewn na gadael yr un daliad o fewn y parth goruchwylio yn gwisgo dillad neu esgidiau ac arnynt arwyddion gweledol eu bod wedi eu halogi â llaid, biswail, carthion na thail anifeiliaid nac unrhyw ddeunydd tebyg heblaw bod personau yn cael glanhau a diheintio ochrau allanol eu hesgidiau wrth fynd i mewn neu adael y safle hwnnw.

Hysbysu ynghylch moch yn marw ar ddaliad

20.  Rhaid i feddiannydd unrhyw ddaliad o fewn y parth goruchwylio roi gwybod i'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol am unrhyw fochyn marw neu heintiedig sydd ar y daliad.

Erthygl 14

ATODLEN 2CAMAU SY'N GYMWYS MEWN ARDAL HEINTIEDIG A SEFYDLIR O DAN ERTHYGL 14

RHAN ICamau sy'n gymwys i ddaliadau yn yr ardal heintiedig

Cyfrifiad moch

1.  Rhaid i feddiannydd daliad gydweithio ag unrhyw arolygydd milfeddygol yng ngwaith paratoi cofnod yn ôl y categorïau o foch a gedwir ar y daliad a rhaid iddo sicrhau bod y cyfrifiad yn cael ei ddiweddaru a'i ddangos i arolygydd ar ei gais. Yn achos daliadau lle na chedwir moch y tu mewn, ceir gwneud y cyfrifiad drwy amcangyfrif.

Ynysu moch

2.  Rhaid i'r meddiannydd sicrhau—

(a)bod pob mochyn ar y daliad yn cael eu cyfyngu i'r man lle y cedwir hwy neu i fan arall ar y daliad lle y gellid eu cadw ar wahân i foch fferal; a

(b)bod moch fferal yn cael eu rhwystro rhag mynd at unrhyw ddeunydd y gallai'r moch ar y daliad fynd ato.

Symud moch

3.  Ni chaiff neb symud mochyn i mewn i'r daliad nac ohono os nad oes trwydded wedi ei rhoi i wneud hynny gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu yn unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol.

Bioddiogelwch

4.  Rhaid i'r meddiannydd sicrhau bod dull priodol o ddiheintio yn cael ei ddarparu a'i ddefnyddio wrth y mynedfeydd a'r allanfeydd yn y mannau hynny o'r daliad y cedwir moch ynddynt ac wrth fynedfeydd ac allanfeydd y daliad ei hunan.

Moch marw neu glaf

5.  Rhaid i'r meddiannydd sicrhau ei fod yn rhoi gwybod i'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol am unrhyw foch fferal sy'n marw ar y daliad a rhaid iddo gadw carcasau'r moch hynny ar y daliad nes bydd arolygydd milfeddygol wedi rhoi gwybod iddo nad oes angen gwneud hynny rhagor.

Moch fferal

6.  Ni chaiff neb ddod—

(a)â charcas nac unrhyw ran o fochyn fferal; na

(b)ag unrhyw ddeunydd na chyfarpar y gallai moch fferal yn yr ardal heintiedig fod wedi mynd atynt, i mewn i ddaliad yn yr ardal heintiedig.

RHAN IICamau sy'n gymwys yn yr ardal heintiedig

Allforio moch, semen, ofa neu embryonau o'r ardal heintiedig

7.  Ni chaiff neb symud yr un mochyn nac unrhyw semen, ofwm nac embryo o'r ardal heintiedig at ddibenion eu hallforio i Aelod-wladwriaeth arall.

Moch fferal

8.  Rhaid i unrhyw berson sy'n dod i gysylltiad â mochyn fferal yn yr ardal heintiedig cymryd camau i sicrhau nad yw'n lledaenu'r clefyd.

9.  Rhaid i unrhyw berson sy'n saethu mochyn fferal neu'n cael hyd i garcas mochyn fferal roi gwybod i'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol. Os y person hwnnw a saethodd y mochyn, rhaid iddo gadw'r carcas am 24 awr ar ôl rhoi gwybod i'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol a sicrhau ei fod ar gael i'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol fel y gallai wneud unrhyw samplu neu brofion sydd, ym marn y Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol, yn briodol.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn sy'n gymwys i Gymru, yn rhoi Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/89/EC (OJ Rhif L316, 1.12.2001, t.5) ar waith a honno'n adolygu camau'r Gymuned i reoli clwy clasurol y moch. Mae'n dirymu a disodli Gorchymyn Clwy'r Moch (Cyfyngiadau ar Ardaloedd Heintiedig) 1956 a Gorchymyn Clwy'r Moch 1963.

Mae'r Gorchymyn hwn—

(a)yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n amau bod mochyn neu garcas wedi ei heintio â chlwy clasurol y moch (y clefyd) roi gwybod i'r rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol a pheidio â symud dim byd oddi ar y safle a allai fod wedi cael ei heintio â'r clefyd nes i'r arolygydd milfeddygol gyrraedd (erthygl 4);

(b)yn ei gwneud yn ofynnol i arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad sy'n gorfodi cydymffurfio â'r gofynion a nodir yn yr hysbysiad mewn amgylchiadau lle y mae'n amau bod y clefyd efallai yn bresennol (erthygl 5);

(c)yn caniatáu i arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad pellach sy'n gosod cyfyngiadau ychwanegol i'r rhai sy'n ofynnol gan erthygl 5 (erthygl 6);

(ch)os cadarnheir bod y clefyd yn bresennol ar ddaliad, yn ei gwneud yn ofynnol i arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad i feddiannydd y daliad yn ei gwneud yn ofynnol iddo sicrhau y cydymffurfir â'r cyfyngiadau a'r gofynion yn erthygl 5 ac unrhyw ofynion yn erthygl 6 sy'n gymwys (erthygl 7);

(d)yn nodi'r camau y mae'n rhaid eu cymryd os cadarnheir bod y clefyd yn bresennol mewn lladd-dy, mewn abwyfa neu ar gyfrwng cludo (erthygl 8);

(dd)yn nodi'r camau y dylid eu cymryd pan amheuir bod y clefyd wedi cael ei drosglwyddo i'r safle heintiedig neu sydd o dan amheuaeth neu ohonynt i safle arall neu ohono (erthygl 9);

(e)yn darparu ar gyfer sefydlu parthau rheoli dros dro (erthygl 10);

(f)yn ei gwneud yn ofynnol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, pan gaiff y clefyd ei gadarnhau, ddatgan ardal heintiedig o gwmpas lleoliad y safle lle y cafwyd achos o'r clefyd ac yn darparu eu bod yn cael eu hollti yn barth diogelu a pharth goruchwylio (erthygl 11);

(ff)yn nodi'r gofynion o ran glanhau a diheintio (erthygl 12);

(g)yn nodi'r camau sydd i'w cymryd os y cadarnheir neu yr amheuir bod y clefyd yn bresennol ymhlith moch fferal (erthyglau 13 a 14);

(ng)yn ddarostyngedig i eithriad, yn gwahardd defnyddio'r brechlyn clwy moch clasurol (erthygl 15);

(h)yn rhoi'r pŵer i arolygydd i gymryd camau i sicrhau bod gofynion y Gorchymyn hwn yn cael eu bodloni os yw unrhyw berson yn methu â chydymffurfio â'r cyfyngiadau a'r gofynion hynny (erthygl 16).

Mae methiant i gydymffurfio â'r Gorchymyn hwn yn dramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981.

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ac wedi'i roi yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Is-adran Iechyd Anifeiliaid, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1981 p.22. Gweler adran 86(1) am ddiffiniadau 'the Ministers' a 'the Minister'. Trosglwyddwyd swyddogaethau 'the Ministers', i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau 'the Ministers' i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban mewn cysylltiad â Chymru, i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999 (O.S. 1999/3141) ac wedi hynny fe'u trosglwyddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794).

(3)

O.S. 1978/32 fel y'i diwygiwyd.

(4)

O.S. 1956/1750 fel y'i diwygir gan O.S. 1958/1284.

(5)

O.S. 1963/286 fel y'i diwygir gan O.S. 1991/1030.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources