- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
1. Rhaid i feddiannydd daliad gydweithio ag unrhyw arolygydd milfeddygol yng ngwaith paratoi cofnod yn ôl y categorïau o foch a gedwir ar y daliad a rhaid iddo sicrhau bod y cyfrifiad yn cael ei ddiweddaru a'i ddangos i arolygydd ar ei gais. Yn achos daliadau lle na chedwir moch y tu mewn, ceir gwneud y cyfrifiad drwy amcangyfrif.
2. Rhaid i'r meddiannydd sicrhau—
(a)bod pob mochyn ar y daliad yn cael eu cyfyngu i'r man lle y cedwir hwy neu i fan arall ar y daliad lle y gellid eu cadw ar wahân i foch fferal; a
(b)bod moch fferal yn cael eu rhwystro rhag mynd at unrhyw ddeunydd y gallai'r moch ar y daliad fynd ato.
3. Ni chaiff neb symud mochyn i mewn i'r daliad nac ohono os nad oes trwydded wedi ei rhoi i wneud hynny gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu yn unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol.
4. Rhaid i'r meddiannydd sicrhau bod dull priodol o ddiheintio yn cael ei ddarparu a'i ddefnyddio wrth y mynedfeydd a'r allanfeydd yn y mannau hynny o'r daliad y cedwir moch ynddynt ac wrth fynedfeydd ac allanfeydd y daliad ei hunan.
5. Rhaid i'r meddiannydd sicrhau ei fod yn rhoi gwybod i'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol am unrhyw foch fferal sy'n marw ar y daliad a rhaid iddo gadw carcasau'r moch hynny ar y daliad nes bydd arolygydd milfeddygol wedi rhoi gwybod iddo nad oes angen gwneud hynny rhagor.
6. Ni chaiff neb ddod—
(a)â charcas nac unrhyw ran o fochyn fferal; na
(b)ag unrhyw ddeunydd na chyfarpar y gallai moch fferal yn yr ardal heintiedig fod wedi mynd atynt, i mewn i ddaliad yn yr ardal heintiedig.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: