- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Wedi'i wneud
14 Hydref 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pŵ erau a roddwyd iddo gan adrannau 8(2) a (3) a 10(2) o Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:—
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd (Cymru) 2003 (Cychwyn Rhif 1) 2003.
(2) Yn y Gorchymyn hwn —
(3) ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd (Cymru) 2003;
(4) ystyr “Deddf 1977” (“the 1977 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(2).
2.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) 20 Hydref 2003 yw'r dydd a bennwyd i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym at bob diben —
(i)adran 1 ac Atodlen 1;
(ii)paragraffau 5, 14 ac 16 o Atodlen 3 ac adran 7(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â hwy; a
(iii)adran 7(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 4 heblawr cyfeiriad at adran 22(4) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth lechyd Gwladol a Phroffesiynnau Gofal Iechyd 2002.
(2) Dim ond ynglŷn â Chymru y mae'r darpariaethau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) yn cael eu dwyn i rym.
(3) Er gwaethaf diddymu Atodlen 7 i Ddeddf 1977, bydd Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned 1996(3) a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymdeithas y Cynghorau Iechyd Cymuned) 1977(4) yn parhau i gael effaith.
3.—(1) 20 Hydref 2003 yw'r dydd a bennwyd i adrannau 2 a 3 o'r Ddeddf, a pharagraff 10 o Atodlen 2 iddi, ddod i rym at ddibenion gwneud rheoliadau yn unig.
(2) 1 Ebrill 2005 yw'r dydd a bennwyd i adrannau 2, 3 a 7(1) o'r Ddeddf, ac Atodlenni 2 a 3 o'r Ddeddf heblaw paragraff 16 o Atodlen 3, ddod i rym at bob diben sy'n weddill.
4. 20 Hydref 2003 yw'r dydd a bennwyd i adrannau 4, 5 a 6 o'r Ddeddf ddod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Hydref 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Dyma'r Gorchymyn Cychwyn cyntaf o dan Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003 (“y Ddeddf”).
Mae Erthygl 2 yn dwyn i rym adran 1 o'r Ddeddf ac Atodlen 1 iddi. Mae'r rhain yn ymwneud â Chynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru. Mae'r cynghorau a sefydlwyd o dan adran 20 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd 1977 i barhau mewn bodolaeth a rhoddir pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud rheoliadau ynglŷn â'u swyddogaethau. Yn ychwanegol, caiff y Cynulliad sefydlu corff statudol i gynghori a chynorthwyo Cynghorau Iechyd Cymuned ynglŷn â chyflawni eu swyddogaethau.
Bydd cynghorau cymuned yn Lloegr yn parhau i fodoli tan ddyddiad cychwyn adran 22 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002.
Mae Erthygl 3 yn cychwyn at ddibenion gwneud rheoliadau yn unig (ynghylch aelodaeth a swyddogaethau), adrannau 2 a 3 o'r Ddeddf, a pharagraff 10 o Atodlen 2 iddi. Mae'r rhain yn ymwneud â Chanolfan Iechyd Cymru. Mae'r Ganolfan i'w sefydlu, gyda golwg ar ymgymryd â swyddogaethau ynghylch diogelu a gwella iechyd yng Nghymru, ar 1 Ebrill 2005 pan gychwynnir adran 2 a 3 ac Atodlen 2 at bob diben arall.
Ymhlith y darpariaethau a gychwynnir gan Erthygl 2 o'r Gorchymyn y mae darpariaethau ynglŷn â Phroffesiynau Iechyd Cymru. Mae adrannau 4 a 5 o'r Ddeddf yn rhoi pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru sefydlu corff a elwir Proffesiynau Iechyd Cymru ac i wneud darpariaeth i Broffesiynau Iechyd Cymru gyflawni swyddogaethau ynglŷn â phroffesiynau gofal iechyd a chymorth gofal iechyd.
Mae'r Gorchymyn yn cychwyn diwygiadau a diddymiadau canlyniadol hefyd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:
The data on this page is available in the alternative data formats listed: