Search Legislation

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol) (Dyfarndaliadau am Wasanaeth a Roddwyd) (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 2676 (Cy.258)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol) (Dyfarndaliadau am Wasanaeth a Roddwyd) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

15 Hydref 2003

Yn dod i rym

16 Hydref 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 18(3A) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(1) ac sydd yn arferadwy yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999(2) i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru, a'r pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 13, 32, 105 a 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(3).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol) (Dyfarndaliadau am Wasanaeth a Roddwyd) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 16 Hydref 2003.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “awdurdod” (“authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

ystyr “awdurdod rhagflaenol” (“predecessor authority”) yw unrhyw awdurdod lleol a oedd yn bodoli yng Nghymru cyn 1 Ebrill 1996 ac nad oedd yn gyngor plwyf, yn gyngor tref nac yn gyngor cymuned;

ystyr “cyfnod cymhwyso” (“qualifying period”) yw'r cyfnod amser y mae'r awdurdod yn penderfynu mai hwnnw yw'r cyfnod y mae'n rhaid i aelod fod wedi bod yn aelod etholedig o awdurdod neu awdurdod rhagflaenol yng Nghymru i gymhwyso ar gyfer dyfarndal am wasanaeth a roddwyd a hwnnw'n gyfnod nad yw'n llai na phymtheng mlynedd erbyn 9 Mai 2003;

ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Blwydd-daliadau 1972(4);

ystyr “dyfarndal am wasanaeth a roddwyd” (“past service award”) yw rhodd arian yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 7 o Ddeddf 1972.

Dyfarndaliadau am wasanaeth a roddwyd

3.  Yn ddarostyngedig i Reoliad 4 caiff awdurdod benderfynu pa aelodau o'r awdurdod hwnnw, a'r rheini'n gynghorwyr yr awdurdod hwnnw, sydd â hawl i ddyfarndal am wasanaeth a roddwyd.

Hawl i ddyfarndaliadau am wasanaeth a roddwyd

4.  Wrth benderfynu pa aelodau sydd â hawl i ddyfarndal am wasanaeth a roddwyd yn unol â Rheoliad 3 rhaid i awdurdod —

(a)ei gwneud yn ofynnol bod aelod wedi treulio cyfnod cymhwyso;

(b)ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i aelod wneud cais ysgrifenedig i Bennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig am ddyfarndal am wasanaeth a roddwyd erbyn y dyddiad a benderfynir gan yr awdurdod a hwnnw'n ddyddiad nad yw'n hwyrach na phum wythnos ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym;

(c)ei gwneud yn ofynnol bod yr aelod yn aelod etholedig o'r awdurdod hwnnw ar y diwrnod sy'n dilyn y diwrnod olaf ar gyfer enwebiadau ar gyfer etholiad cyffredin cynghorwyr awdurdodau yn 2004;

(ch)sicrhau cyn iddo dalu dyfarndal am wasanaeth a roddwyd i aelod a gyflwynodd gais yn unol â pharagraff (b) ei fod wedi'i fodloni nad yw'r aelod ar ôl hynny wedi sefyll etholiad yn etholiadau 2004 ar gyfer awdurdodau; a

(d)sicrhau nad yw'r aelod hefyd yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Tŷ'r Cyffredin, Tŷ'r Arglwyddi neu Senedd Ewrop.

Cyfrifo'r cyfnod cymhwyso

5.—(1Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod cymhwyso yn unol â Rheoliad 4(a) rhaid i awdurdod, yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau a bennir ym mharagraff (2), gymryd i ystyriaeth unrhyw gyfnodau o wasanaeth blaenorol p'un a oedd y cyfnodau hynny o wasanaeth blaenorol gyda'r awdurdod, unrhyw awdurdod arall neu unrhyw awdurdod rhagflaenol.

(2Mae'r cyfyngiadau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) fel a ganlyn —

(a)nid yw cyfnodau gwahardd dros dro i'w hystyried yn gyfnodau gwasanaeth;

(b)pan fydd cyfnodau o wasanaeth blaenorol gydag awdurdod rhagflaenol wedi'u treulio ar yr un pryd â mwy nag un awdurdod o'r fath, dim ond gwasanaeth gydag un gwasanaeth o'r fath sydd i'w gymryd i ystyriaeth.

(3Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod cymhwyso yn unol â Rheoliad 4(a) pan oedd y gwasanaeth yn wasanaeth gydag awdurdod rhagflaenol y daeth ei fodolaeth i ben ar 31 Mawrth 1996, bernir mai un flwyddyn o wasanaeth yw'r cyfnod o wasanaeth o Fai 1995 tan 31 Mawrth 1996 ac eithrio yn achos aelod a oedd hefyd yn aelod o awdurdod ar 1 Ebrill 1996.

Diwygio Rheoliadau

6.  Ym mharagraff F o Atodlen 1 i Reoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001(5) (Swyddogaethau sy'n ymwneud â phensiynau etc.) ychwanegir —

(a)yng ngholofn (1) ar ôl 1 —

  • 1A. Swyddogaethau sy'n ymwneud â phensiynau, lwfansau ac arian rhodd; a; a

(b)yng ngholofn (2), o ran y cofnod yng ngholofn 1 ar gyfer eitem 1A —

  • Rheoliadau o dan adran 18(3A) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42);(6).

7.  Ym mharagraff F o Atodlen 1 i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001(7) (Swyddogaethau sy'n ymwneud â phensiynau etc.) ychwanegir —

(a)yng ngholofn (1) ar ôl 1 —

1A.  Swyddogaethau sy'n ymwneud â phensiynau, lwfansau ac arian rhodd; a; a

(b)yng ngholofn (2), o ran y cofnod yng ngholofn 1 ar gyfer eitem 1A —

  • Rheoliadau o dan adran 18(3A) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42);(8)).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(9)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

15 Hydref 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adran 18(3A) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, fel y'i mewnosodwyd gan adran 99(7) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“Deddf 2000”), yn darparu'r pŵer i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau. Caiff y rheoliadau hynny wneud darpariaeth ar gyfer neu mewn cysylltiad â galluogi cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol i benderfynu pa rai o'u haelodau sydd â hawl i arian rhodd. Mae adran 18(3A) yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999. Mae adran 13(3)(a) o Ddeddf 2000 yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud darpariaeth bod unrhyw un o swyddogaethau awdurdod lleol sydd wedi'i phennu mewn rheoliadau a wnaed o dan yr adran honno yn swyddogaeth nad yw gweithrediaeth i fod yn gyfrifol amdani o dan drefniadau gweithrediaeth. Mae adran 32 o Ddeddf 2000 yn caniatáu i ddiwygiadau cyffelyb gael eu gwneud ynglŷn â chynghorau sy'n gweithredu “trefniadau amgen” gyda Bwrdd yn hytrach na gweithrediaeth.

Mae Rheoliad 3 yn galluogi cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru i benderfynu pa aelodau (sydd yn gynghorwyr) sydd â hawl i arian rhodd (a elwir “dyfarndaliadau am wasanaeth a roddwyd” yn y Rheoliadau hyn) yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 7 o Ddeddf Taliadau Pensiwn 1972.

Mae Rheoliad 3 yn galluogi awdurdodau i benderfynu pa aelodau sydd â hawl i ddyfarndaliadau am wasanaeth a roddwyd, yn ddarostyngedig i'r meini prawf cymhwyster yn Rheoliad 4.

Mae Rheoliad 4 yn mynnu bod rhaid i awdurdodau, wrth benderfynu cymhwyster aelodau ar gyfer dyfarndaliadau am wasanaeth a roddwyd:

  • ei gwneud yn ofynnol bod yr aelod wedi treulio'r cyfnod cymhwyso a benderfynir gan y cyngor sef cyfnod nad yw'n llai na 15 mlynedd o wasanaeth erbyn 9 Mai 2003;

  • ei gwneud yn ofynnol bod yr aelod yn gwneud cais ysgrifenedig i Bennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig erbyn y dyddiad a benderfynir gan yr awdurdod a hwnnw'n ddyddiad nad yw'n hwyrach na phum wythnos ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym;

  • ei gwneud yn ofynnol bod yr aelod yn aelod etholedig o'r awdurdod hwnnw ar y diwrnod sy'n dilyn y diwrnod olaf ar gyfer enwebiadau ar gyfer etholiad cyffredin cynghorwyr cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yn 2004;

  • sicrhau, cyn talu dyfarndal am wasanaeth a roddwyd, na wnaeth yr aelod sefyll yn etholiadau 2004 ar gyfer siroedd a bwrdeistrefi sirol ar ôl gwneud cais i Bennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig am ddyfarndal o'r fath; a

  • sicrhau nad yw'r aelod hefyd yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Tŷ'r Cyffredin, Tŷ'r Arglwyddi neu Senedd Ewrop.

Mae Rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i awdurdod wrth gyfrifo unrhyw gyfnod cymhwyso gymryd i ystyriaeth unrhyw wasanaeth blaenorol (ond heb gynnwys cyfnodau atal) gan gynnwys gwasanaeth pan oedd aelod yn aelod o unrhyw awdurdod Cymreig cyn 1 Ebrill 1996 (heb gynnwys cynghorau plwyf, cynghorau tref a chynghorau cymuned). Pan fydd gan aelod gyfnodau o wasanaeth cyn 1996 gyda mwy nag un awdurdod, a'i fod wedi treulio'r cyfnodau gwasanaeth hynny ar yr un pryd, dim ond gwasanaeth gydag un o'r awdurdodau hynny y caniateir ei ddefnyddio wrth gyfrifo unrhyw gyfnod cymhwyso. Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod cymhwyso ar gyfer gwasanaeth gydag awdurdod a oedd yn bodoli cyn 1996, ac y daeth ei fodolaeth i ben ar 31 Mawrth 1996, bernir mai un flwyddyn o wasanaeth yw'r cyfnod o wasanaeth o Fai 1995 tan Fawrth 1996 oni bai yr oedd aelod hefyd yn aelod o awdurdod ar 1 Ebrill 1996.

Mae Rheoliad 6 yn diwygio Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001 (“Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth 2001”). Mae Rhan II o Ddeddf 2000 yn darparu bod swyddogaethau awdurdod lleol yn cael eu cyflawni gan weithrediaeth awdurdod oni bai bod y swyddogaethau hynny wedi'u pennu'n swyddogaethau nad yw gweithrediaeth yr awdurdod i fod yn gyfrifol amdanynt. Mae'r Rheoliadau hyn yn sicrhau mai un o swyddogaethau'r cyngor fydd y cyfrifoldeb dros benderfynu pa aelodau fydd â hawl i gael dyfarndaliadau am wasanaeth a roddwyd, ac maent yn gwneud hynny drwy ddiwygio Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth 2001.

Mae Rheoliad 7 yn diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001 mewn ffordd debyg i'r diwygiad sy'n cael ei wneud drwy Reoliad 6. Mae effaith Rheoliad 7 fel a ganlyn: pan fydd cyngor yn gweithredu “trefniadau amgen” yn unol â Rhan II o Ddeddf 2000, nid yw'r cyfrifoldeb dros benderfynu pa aelodau sydd â hawl i gael dyfarndaliadau am wasanaeth a roddwyd yn un o swyddogaethau'r Bwrdd ond yn hytrach yn fater i'r cyngor.

Mae Rheoliadau 6 a 7 yn peri bod diwygiadau yn cael eu gwneud hefyd, sef diwygiadau a fydd yn golygu bod swyddogaethau sy'n ymwneud â phensiynau a lwfansau mewn perthynas â rheoliadau a wnaed o dan adran 18(3A) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 yn swyddogaethau nad oes modd i weithrediaeth na Bwrdd cyngor (fel y bo'n briodol) ymdrin â hwy a bod rhaid iddynt fod yn fater i'r cyngor.

(1)

p. 42. Mewnosodwyd adran 18(3A) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 gan adran 99(7) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.

(3)

p. 22.

(4)

p.11.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources