Search Legislation

Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2003

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 2756 (Cy.267)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

29 Hydref 2003

Yn dod i rym

31 Hydref 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â mesurau yn y meysydd milfeddygol i ddiogelu iechyd y cyhoedd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol —

RHAN 1Cyflwyniad

Teitl, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2003; maent yn gymwys i Gymru ac yn dod i rym ar 31 Hydref 2003.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol neu awdurdod lleol i fod yn arolygydd at ddibenion y Rheoliadau hyn;

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) mewn perthynas â sir neu fwrdeistref sirol yw cyngor y sir neu'r fwrdeistref sirol honno;

ystyr “cymeradwyaeth” (“approval”) ac “awdurdodiad” (“authorisation”) yw cymeradwyaeth neu awdurdodiad (“authorisation”) a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol;

ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

mae dofednod (“poultry”) yn cynnwys pob rhywogaeth gan gynnwys adar gwyllt;

ystyr “Rheoliad y Gymuned” (“the Community Regulation”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar 3 Hydref 2002 yn gosod rheolau iechyd ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid nad ydynt wedi'u bwriadu ar gyfer eu bwyta gan bobl(3) fel y'i diwygiwyd gan y canlynol ac fel y'i darllenir gydag —

(a)

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 808/2003 yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn gosod rheolau iechyd ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid nad ydynt wedi'u bwriadu ar gyfer eu bwyta gan bobl(4);

(b)

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003 yn gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglŷn â'r gwaharddiad ailgylchu mewnrywogaethol ar gyfer pysgod, claddu a llosgi sgil-gynhyrchion anifeiliaid a mesurau trosiannol penodol(5);

(c)

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 813/2003 ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglŷn â chasglu, cludo a gwaredu cyn-fwydydd(6));

(ch)

Penderfyniad y Comisiwn 2003/320/EC ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglŷn â defnyddio olew coginio defnyddiedig mewn bwyd anifeiliaid(7);

(d)

Penderfyniad y Comisiwn 2003/321/EC ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglŷn â'r safonau prosesu ar gyfer gwaed mamaliaid(8));

(dd)

Penderfyniad y Comisiwn 2003/326/EC ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglŷn â gwahanu gweithfeydd oleocemegol Categori 2 a Chategori 3(9);

(e)

Penderfyniad y Comisiwn 2003/327/EC ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglŷn â gweithfeydd hylosgi neu gydhylosgi isel eu cynhwysedd nad ydynt yn hylosgi neu'n cydhylosgi deunydd risg penodedig neu garcasau sy'n eu cynnwys(10).

(2Mae i'r ymadroddion a ddiffinnir yn Rheoliad y Gymuned yr un ystyr â'r termau Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn, a deunydd Categori 1, deunydd Categori 2 a deunydd Categori 3 yw'r sgil-gynhyrchion anifeiliaid a nodir yn Erthyglau 4, 5 a 6 o Reoliad y Gymuned yn y drefn honno.

Cymeradwyaethau etc.

3.  Rhaid i unrhyw gymeradwyaeth, awdurdodiad, cofrestriad, cyfarwyddiadau neu hysbysiad a ddyroddir o dan y Rheoliadau hyn neu Reoliad y Gymuned fod yn ysgrifenedig, a gallant fod yn ddarostyngedig i'r amodau sy'n angenrheidiol i —

(a)sicrhau y cydymffurfir â darpariaethau Rheoliad y Gymuned a'r Rheoliadau hyn; a

(b)diogelu iechyd y cyhoedd a iechyd anifeiliaid.

RHAN 2Casglu, cludo, storio, trafod, prosesu a gwaredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid

Deunydd categori 1

4.—(1Bydd unrhyw berson sy'n meddu ar unrhyw ddeunydd Categori 1 neu sydd â rheolaeth drosto ac sy'n methu â chydymffurfio ag Erthygl 4(2) neu Erthygl 4(3) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.

(2At ddibenion Erthygl 4(2)(b) o Reoliad y Gymuned caniateir prosesu'r deunydd drwy ddefnyddio unrhyw un o ddulliau prosesu 1 i 5.

(3Ni fydd y rheoliad hwn yn gymwys i ddeunydd y cyfeirir ato yn Erthygl 4(1)(e) o Reoliad y Gymuned (gwastraff arlwyo o gyfrwng cludo sy'n gweithredu o'r tu allan i'r Gymuned).

Deunydd categori 2

5.—(1Bydd unrhyw berson sy'n meddu ar unrhyw ddeunydd Categori 2 neu sydd â rheolaeth drosto ac sy'n methu â chydymffurfio ag Erthygl 5(2), Erthygl 5(3) neu Erthygl 5(4) (ac eithrio'r ddarpariaeth yn Erthygl 5(4) ynglŷn ag allforio) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.

(2At ddibenion Erthygl 5(2)(b) o Reoliad y Gymuned caniateir prosesu'r deunydd drwy ddefnyddio unrhyw un o ddulliau prosesu 1 i 5.

(3At ddibenion Erthygl 5(2)(e) o Reoliad y Gymuned caniateir dodi'r sgil-gynhyrchion anifeiliaid a bennir yn yr is-baragraff hwnnw ar dir ar yr amod nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi gosod unrhyw gyfyngiadau ynglŷn ag iechyd anifeiliaid mewn perthynas â'r sgil-gynhyrchion hynny.

Deunydd categori 3

6.  Bydd unrhyw berson sy'n meddu ar unrhyw ddeunydd Categori 3 neu sydd â rheolaeth drosto ac sy'n methu â chydymffurfio ag Erthygl 6(2) neu Erthygl 6(3) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.

Cymysgu sgil-gynhyrchion mamalaidd ac anfamalaidd

7.  Pan gymysgir sgil-gynhyrchion mamalaidd a sgil-gynhyrchion anfamalaidd, rhaid ystyried bod y cymysgedd yn sgil-gynhyrchion mamalaidd.

Casglu, cludo a storio

8.—(1Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag Erthygl 7(1), 7(2) neu 7(5) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.

(2At ddibenion paragraff (1), os bydd gwahanol gategorïau o sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn cael eu cludo mewn un cerbyd ond mewn gwahanol gynwysyddion neu adrannau, ac na ellir gwarantu y bydd y gwahanol fathau o sgil-gynhyrchion yn hollol ar wahân, rhaid trin y sgil-gynhyrchion sy'n cael eu cludo yn unol â'r gofynion ar gyfer y sgil-gynnyrch â'r risg uchaf sy'n cael ei gludo.

(3Yn unol ag Erthygl 7(6) o Reoliad y Gymuned, ni fydd darpariaethau Erthygl 7 yn gymwys i wrtaith sy'n cael ei gludo o fewn y Deyrnas Unedig.

RHAN 3Cyfyngiadau ar fynediad i sgil-gynhyrchion anifeiliaid a'u defnyddio

Mynediad i sgil-gynhyrchion anifeiliaid

9.—(1Ni chaiff neb fwydo unrhyw sgil-gynnyrch anifeiliaid (ac eithrio hylif llaeth neu laeth tor sy'n cael ei ddefnyddio ar y fferm darddiad) i unrhyw anifail a ffermir, nac i unrhyw anifail arall, mochyn arall na dofednod eraill, onid yw wedi'i brosesu mewn gwaith prosesu Categori 3 a gymeradwywyd.

(2Ni chaiff neb ganiatáu i unrhyw anifail a ffermir, nac unrhyw anifail arall sy'n cnoi cil, nac unrhyw foch na dofednod, gael mynd at unrhyw sgil-gynnyrch anifeiliaid (ac eithrio llaeth, llaeth tor neu wrtaith) onid yw —

(a)wedi'i brosesu mewn gwaith prosesu a gymeradwywyd;

(b) wedi'i drin mewn gwaith bio-nwy neu waith compostio a gymeradwywyd; neu

(c)(yn achos cynnwys y llwybr treulio) wedi'i ddodi ar dir o leiaf dair wythnos cyn bod yr anifail yn cael mynd at y sgil-gynnyrch anifeiliaid.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), ni chaiff neb ddod ag unrhyw sgil-gynnyrch anifeiliaid (ac eithrio llaeth, llaeth tor, gwrtaith neu gynnwys llwybr treulio) i mewn i unrhyw safle lle mae unrhyw anifail a ffermir, neu unrhyw anifail arall sy'n cnoi cil, unrhyw fochyn arall neu unrhyw ddofednod eraill yn cael eu cadw, onid yw —

(a)wedi'i brosesu mewn gwaith prosesu a gymeradwywyd; neu

(b)wedi'i drin mewn gwaith bio-nwy neu waith compostio a gymeradwywyd.

(4Ni fydd paragraff (3) yn gymwys —

(a)i sgil-gynhyrchion anifeiliaid y daethpwyd â hwy i safle mewn cerbyd sy'n dod ar y safle er mwyn casglu sgil-gynhyrchion eraill, ar yr amod nad yw'r sgil-gynhyrchion y daethpwyd â hwy i'r safle yn cael eu symud o'r cerbyd tra bod hwnnw ar y safle; neu

(b)i sgil-gynhyrchion anifeiliaid y daethpwyd â hwy i ganolfannau casglu, gweithfeydd bwyd anifeiliaid anwes, llosgyddion neu safleoedd eraill a gymeradwywyd ac sydd wedi'u lleoli ar yr un safle â'r anifeiliaid a bennwyd yn y paragraff hwnnw ac a oedd yn gweithredu ar 1 Tachwedd 2002 ar yr amod nad yw'r anifeiliaid yn cael mynd at y sgil-gynhyrchion.

(5Ni chaiff neb ganiatáu i unrhyw anifeiliaid gael mynd at ddeunydd mewn gwaith bio-nwy neu waith compostio, ac eithrio yn achos adar gwyllt a gaiff fynd at ddeunydd o'r fath yn ystod ail gyfnod compostio neu ran ddilynol.

(6Yn y rheoliad hwn mae “sgil-gynnyrch anifeiliaid” yn cynnwys gwastraff arlwyo o bob math, gan gynnwys gwastraff arlwyo nad yw Rheoliad y Gymuned yn gymwys iddo oherwydd Erthygl 1.2(e) o'r Rheoliad hwnnw.

(7Nid yw'r rheoliad hwn yn gwahardd bwydo sgil-gynhyrchion anifeiliaid i anifeiliaid o dan Erthygl 23(2) o Reoliad y Gymuned fel y'i gorfodir gan reoliad 26(3) o'r Rheoliadau hyn.

(8Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r rheoliad hwn yn euog o dramgwydd.

Cyfyngiadau ar ddefnydd

10.  Yn ddarostyngedig i reoliad 12(1), bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag Erthygl 22(1) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.

Tir pori

11.—(1At ddibenion Erthygl 22(1)(c) o Reoliad y Gymuned, mae tir pori yn dir y bwriedir ei ddefnyddio i bori neu gnydio ar gyfer porthiant ar ôl dodi neu ddyddodi gwrteithiau organig a deunyddiau i wella'r pridd o fewn y cyfnodau canlynol —

(a)deufis yn achos moch; a

(b)tair wythnos yn achos anifeiliaid eraill a ffermir.

(2Bydd unrhyw berson sydd —

(a)yn defnyddio tir pori ar gyfer pori o fewn y cyfnod a bennwyd ym mharagraff (1); neu

(b)yn bwydo i foch neu anifeiliaid eraill a ffermir o fewn y cyfnod hwnnw unrhyw beth sydd wedi'i gnydio o dir pori yn ystod y cyfnod hwnnw;

yn euog o dramgwydd.

Ailgylchu pysgod o fewn rhywogaethau

12.—(1Er gwaethaf rheoliad 10, ni fydd yn dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn i fwydo pysgod â phrotein anifail wedi'i brosesu sy'n deillio o gyrff neu rannau pysgod (ac eithrio pysgod a ffermir o'r un rhywogaeth) os yw hynny'n cael ei wneud yn unol ag Erthyglau 2 i 4 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003 ac Atodiad 1 iddo.

(2Y Cynulliad Cenedlaethol fydd yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 5 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003.

(3Yn unol ag Erthygl 10 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003, ni fydd y rheoliad hwn yn gymwys tan 1 Ionawr 2004.

RHAN 4Safleoedd a gymeradwywyd ac awdurdodau cymwys

Yr awdurdod cymwys

13.—(1Y Cynulliad Cenedlaethol fydd yr awdurdod cymwys at ddibenion rhoi cymeradwyaethau o dan Bennod III a Phennod IV o Reoliad y Gymuned, Atodiadau'r Rheoliad hwnnw a'r Rheoliadau hyn.

(2Y Cynulliad Cenedlaethol hefyd fydd yr awdurdod cymwys ar gyfer —

(a)gwirio gweithfeydd hanner-ffordd yn unol ag Erthyglau 10(2)(d) a 10(3)(d) o Reoliad y Gymuned;

(b)gwirio gweithfeydd storio yn unol ag Erthygl 11(2)(b) o'r Rheoliad hwnnw;

(c)dilysu a gwirio gweithfeydd prosesu Categori 1 a Chategori 2 yn unol ag Erthyglau 13(2)(c) a 13(2)(e) o'r Rheoliad hwnnw, goruchwylio gweithfeydd Categori 1, 2 a 3 yn unol ag Atodiad V, Pennod IV, paragraff 1 i'r Rheoliad hwnnw, a dilysu'r gweithfeydd hynny yn unol ag Atodiad V, Pennod V, paragraff 1 i'r Rheoliad hwnnw;

(ch)awdurdodi defnyddio dros dro waith prosesu Categori 2 ar gyfer prosesu deunydd Categori 1 yn unol ag Atodiad VI, Pennod 1, paragraff 2 i'r Rheoliad hwnnw;

(d)gwirio gweithfeydd oleocemegol yn unol ag Erthygl 14(2)(d) o'r Rheoliad hwnnw ac yntau fydd y person y mae'n rhaid dangos cofnodion iddo yn unol ag Erthygl 14(2)(c) o'r Rheoliad hwnnw;

(dd)gwirio gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio yn unol ag Erthygl 15(2)(c) o'r Rheoliad hwnnw;

(e)dilysu a gwirio gweithfeydd prosesu Categori 3 yn unol ag Erthygl 17(2)(c) a 17(2)(e) o'r Rheoliad hwnnw;

(f)awdurdodi defnyddio dros dro waith prosesu Categori 3 ar gyfer prosesu deunydd Categori 1 neu Gategori 2 yn unol ag Atodiad VII, Pennod 1, paragraff 2 i'r Rheoliad hwnnw, neu ddefnyddio gwaith prosesu Categori 2 fel canolfan gasglu yn unol ag Atodiad IX, paragraff 3 i'r Rheoliad hwnnw;

(ff)derbyn cofnodion ynglŷn â gwaith bwyd anifeiliaid anwes neu waith technegol y mae'n rhaid eu dangos yn unol ag Erthygl 18(2)(a)(iv) o'r Rheoliad hwnnw;

(g)cydnabod labordai at ddibenion dadansoddi samplau o weithfeydd bwyd anifeiliaid anwes a gweithfeydd technegol yn unol ag Erthygl 18(2)(a)(iii) o'r Rheoliad hwnnw, derbyn gwybodaeth o dan Erthygl 18(2)(a)(v) o'r Rheoliad hwnnw, a gwirio gweithfeydd bwyd anifeiliaid anwes a gweithfeydd technegol yn unol ag Erthygl 18(2)(b) o'r Rheoliad hwnnw;

(ng)arolygu a goruchwylio yn unol ag Erthygl 26 o'r Rheoliad hwnnw;

(h)rhoi cyfarwyddiadau at ddibenion Atodiad II, Pennod II, paragraff 4 i'r Rheoliad hwnnw;

(i)cyflwyno dogfennau masnachol o dan Atodiad II, Pennod V i'r Rheoliad hwnnw;

(j)awdurdodi pwynt nodweddiadol yn siambr ymlosgi llosgydd yn unol ag Atodiad IV, Pennod II, paragraff 3 i'r Rheoliad hwnnw, a'u harchwilio yn unol ag Atodiad IV, Pennod VII, paragraff 8 i'r Rheoliad hwnnw(11);

(l)awdurdodi gofynion penodol yn unol ag Atodiad VI, Pennod II, Rhan C, paragraffau 14 a 15 i'r Rheoliad hwnnw(12).

Cymeradwyo safleoedd

14.—(1Ni chaiff neb weithredu unrhyw un o'r canlynol, sef —

(a)gwaith hanner-ffordd categori 1, 2 neu 3;

(b)gwaith storio;

(c)gwaith hylosgi neu gydhylosgi;

(ch)gwaith prosesu categori 1 neu gategori 2;

(d)gwaith oleocemegol categori 2 neu gategori 3;

(dd)gwaith bio-nwy neu waith compostio;

(e)gwaith prosesu categori 3;

(f)gwaith bwyd anifeiliaid anwes neu waith technegol;

i storio, prosesu, trin, gwaredu neu ddefnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid, oni bai bod y safle, gweithredydd y safle ac unrhyw gyfarpar wedi'u cymeradwyo at y diben hwnnw yn unol â'r Rheoliadau hyn a Rheoliad y Gymuned.

(2Rhaid i weithredydd safle a gymeradwywyd sicrhau —

(a)bod y safle yn cael ei gynnal a'i gadw a'i weithredu yn unol â'r canlynol —

(i)amodau'r gymeradwyaeth, a

(ii)gofynion Rheoliad y Gymuned a'r Rheoliadau hyn; a

(b)bod unrhyw berson a gyflogir gan y gweithredydd, ac unrhyw berson y caniateir iddo fynd i mewn i'r safle, yn cydymffurfio â'r amodau a'r gofynion hyn.

(3Rhaid i weithredydd gwaith hylosgi uchel ei gynhwysedd waredu'r lludw yn unol ag Atodiad IV, Pennod VII, paragraff 4 i Reoliad y Gymuned yn yr un modd â gweithredydd gwaith hylosgi isel ei gynhwysedd.

(4Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r rheoliad hwn yn euog o dramgwydd.

Gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio

15.—(1Bydd darpariaethau Rhan I o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn yn gymwys i waith bio-nwy a gwaith compostio sy'n cael eu defnyddio ar gyfer trin sgil-gynhyrchion anifeiliaid (gan gynnwys gwastraff arlwyo) yn ychwanegol at ofynion paragraffau 1 i 11 o Atodiad VI, Pennod II i Reoliad y Gymuned.

(2Yn unol ag Erthygl 6.2(g) ac Atodiad VI, Pennod II, paragraff 14 i Reoliad y Gymuned —

(a)caniateir i wastraff arlwyo gael ei drin mewn gwaith bio-nwy neu waith compostio naill ai yn unol ag Atodiad VI, Pennod II, paragraffau 12 neu 13 i Reoliad y Gymuned neu yn unol â Rhan II o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn; a

(b)rhaid trin unrhyw sgil-gynnyrch anifeiliaid arall sy'n cael ei drin mewn gwaith bio-nwy neu waith compostio yn unol ag Atodiad VI, Pennod II, paragraffau 12 neu 13 i Reoliad y Gymuned.

(3Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r rheoliad hwn yn euog o dramgwydd.

Compostio gwastraff arlwyo ar y safle y mae'n tarddu ohono

16.  Yn unol ag Erthygl 6.2(g) ac Atodiad VI, Pennod II, paragraff 14 o Reoliad y Gymuned, nid yw darpariaethau'r Bennod honno a darpariaethau rheoliad 14(1)(dd) uchod yn gymwys i gompostio gwastraff arlwyo categori 3 ar y safle y mae'n tarddu ohono ar yr amod —

(a)mai dim ond ar dir ar y safle hwnnw y mae'r deunydd pydredig yn cael ei ddodi arno,

(b)nad oes unrhyw anifeiliaid cnoi cil na moch yn cael eu cadw ar y safle, ac

(c)os yw dofednod yn cael eu cadw ar y safle, fod y deunydd yn cael ei gompostio mewn cynhwysydd diogel sy'n atal y dofednod rhag mynd ato tra bydd y deunydd yn pydru.

Hunanwiriadau gweithfeydd prosesu a gweithfeydd hanner-ffordd

17.—(1Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag Erthygl 25(1) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.

(2Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag Erthygl 25(2) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.

(3Rhaid i'r gweithredydd gofnodi'r camau sy'n cael eu cymryd yn unol ag Erthygl 25(2) o Reoliad y Gymuned, a bydd methu â gwneud hynny yn dramgwydd.

Samplu mewn gweithfeydd prosesu

18.—(1Os yw gwaith prosesu yn prosesu deunydd Categori 1 neu ddeunydd Categori 2, a bod y deunydd sy'n cael ei brosesu i'w anfon i fan tirlenwi (neu, yn achos deunydd Categori 2, i waith bio-nwy neu waith compostio), rhaid i'r gweithredydd, a hynny heb fod yn llai nag unwaith bob wythnos —

(a)cymryd o allfa'r popty y mae'r deunydd yn cael ei brosesu ynddo sampl o 50 gram o leiaf o ddeunydd wedi'i brosesu; a

(b)anfon y sampl i labordy a gymeradwywyd i'w brofi am Clostridium perfingens.

(2Yn achos gweithfeydd prosesu Categori 3, os bwriedir i'r deunydd wedi'i brosesu gael ei ddefnyddio mewn porthiant, rhaid i'r gweithredydd —

(a)cymryd sampl nodweddiadol o'r deunydd bob diwrnod y mae'r deunydd yn cael ei draddodi o'r safle; a

(b)anfon y sampl i labordy a gymeradwywyd i'w brofi am Salmonela ac Enterobacteriaceae.

(3Yn achos gweithfeydd prosesu Categori 3, os na fwriedir i'r deunydd wedi'i brosesu gael ei ddefnyddio mewn porthiant, rhaid i'r gweithredydd —

(a)cymryd sampl, a hynny heb fod yn llai nag unwaith bob wythnos, o'r deunydd sy'n cael ei draddodi o'r safle; a

(b)anfon y sampl i labordy a gymeradwywyd i'w brofi am Salmonela ac Enterobacteriaceae.

(4Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r rheoliad hwn yn euog o dramgwydd.

Samplu mewn gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio

19.—(1Yn achos gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio, rhaid i'r gweithredydd, o dro i dro yn ôl yr hyn a bennir yn y gymeradwyaeth, gymryd sampl nodweddiadol o ddeunydd sydd wedi'i drin yn ôl y paramedrau ynglŷn ag amser a thymheredd a bennir yn Rhan II o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn neu yn Rheoliad y Gymuned a'i anfon i'w brofi am Salmonela ac Enterobacteriaceae (neu, yn achos deunydd sy'n deillio o wastraff arlwyo, Salmonela yn unig) mewn labordy a gymeradwywyd i gynnal y profion hynny.

(2Ni chaiff neb draddodi unrhyw ddeunydd o waith bio-nwy neu waith compostio nes bod canlyniadau'r prawf wedi dod i law o'r labordy.

(3Os bydd profion yn cadarnhau nad yw deunydd sydd wedi'i drin yn cydymffurfio â'r terfynau yn Atodiad VI, Pennod II, paragraff 15 i Reoliad y Gymuned, rhaid i'r gweithredydd —

(a)hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith gan roi manylion llawn am y methiant, natur y sampl ac o ba swp yr oedd yn deillio;

(b)sicrhau na fydd unrhyw weddill traul na chompost, yr amheuir ei fod wedi'i halogi neu y mae'n hysbys ei fod wedi'i halogi, yn cael eu symud o'r safle oni bai —

(i)ei fod wedi'i ail-drin o dan oruchwyliaeth y Cynulliad Cenedlaethol a'i ailsamplu a'i ailbrofi gan y Cynulliad Cenedlaethol, a bod yr ailbrofi wedi dangos bod y gweddill traul neu'r compost a aildriniwyd yn cydymffurfio â'r safonau yn Rheoliad y Gymuned; neu

(ii)ei fod wedi'i draddodi i'w brosesu neu i'w hylosgi mewn gwaith prosesu neu losgydd a gymeradwywyd neu (yn achos gwastraff arlwyo) wedi'i draddodi i fan tirlenwi; ac

(c)cofnodi'r camau a gymerwyd yn unol â'r rheoliad hwn.

(4Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r rheoliad hwn yn euog o dramgwydd.

Samplau a anfonir i labordai

20.—(1Pryd bynnag y bydd gweithredydd yn anfon sampl i labordy yn unol â'r Rhan hon, rhaid i'r gweithredydd anfon gyda'r sampl yr wybodaeth ganlynol mewn ysgrifen —

(a)enw a chyfeiriad y safle lle cymerwyd y sampl;

(b)y dyddiad pan gymerwyd y sampl; ac

(c)disgrifiad o'r sampl a manylion sy'n dynodi p'un ydyw.

(2Bydd yn dramgwydd i unrhyw berson ymyrryd â sampl a gymerwyd o dan y Rheoliadau hyn gyda'r bwriad o effeithio ar ganlyniad y prawf.

(3Rhaid i'r gweithredydd gadw cofnod o holl ganlyniadau profion labordy.

(4Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r rheoliad hwn yn euog o dramgwydd.

Labordai

21.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo labordai o dan y rheoliad hwn i gynnal un neu ragor o'r profion yn y rheoliad hwn os caiff ei fodloni bod gan y labordai hynny y cyfleusterau, y personél a'r gweithdrefnau gweithredu angenrheidiol i wneud hynny.

(2Wrth benderfynu a ddylid rhoi cymeradwyaeth neu barhau i wneud hynny, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol i'r labordy lwyddo i gynnal unrhyw brofion rheoli ansawdd y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn barnu'n rhesymol eu bod yn dda.

(3Rhaid i weithredydd labordy a gymeradwywyd o dan y rheoliad hwn sy'n cynnal profion at ddibenion y Rheoliadau hyn neu Reoliad y Gymuned wneud hynny yn unol â'r darpariaethau canlynol, a bydd methu â gwneud hynny yn dramgwydd.

(4Rhaid cynnal prawf ar gyfer Clostridium perfingens yn unol â'r dull yn Atodlen 2, neu (os yw hynny wedi'i bennu yn y gymeradwyaeth) â dull sy'n cydymffurfio ag ISO 7937/1997 (BS-EN 13401:1999) (Enumeration of Clostridium perfingens) neu ddull cyfwerth(13).

(5Rhaid cynnal prawf salmonela yn unol â'r dull yn Atodlen 2, neu (os yw hynny wedi'i bennu yn y gymeradwyaeth) â dull sy'n cydymffurfio ag —

(a)ISO 6579/2002/BS-EN 12824:1998 (Detection of Salmonella) neu ddull cyfwerth(14); neu

(b)NMKL 71: 1993 neu ddull cyfwerth(15).

(6Rhaid cynnal prawf Enterobacteriaceae yn unol â'r dull yn Atodlen 2, neu (os yw hynny wedi'i bennu yn y gymeradwyaeth) â dull sy'n cydymffurfio ag ISO 7402/1993 (BS 5763: Rhan 10: 1993) (Enumeration of Enterobacteriaceae) neu ddull cyfwerth(16)).

(7Pan fydd profion yn cael eu cynnal er mwyn datgelu un o'r canlynol, rhaid i weithredydd labordy a gymeradwywyd o dan y rheoliad hwn hysbysu ar unwaith y Cynulliad Cenedlaethol a gweithredydd y safle —

(a)os yw'r profion yn methu â chadarnhau bod y deunydd yn rhydd rhag Clostridium perfringens;

(b)os yw'r profion yn methu â chadarnhau bod y deunydd yn rhydd rhag Salmonela; ac

(c)os nad yw'r deunydd yn llwyddo yn y prawf ar gyfer Enterobacteriaceae ym mharagraff 5, Rhan III o Atodlen 2;

a bydd methu â gwneud hynny yn dramgwydd.

(8Rhaid i weithredydd labordy a gymeradwywyd o dan y rheoliad hwn hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol, o ran deunydd wedi'i brosesu, ar ddiwrnod cyntaf pob mis o nifer, math a chanlyniadau'r profion a gynhaliwyd yn ystod y mis blaenorol, a bydd methu â gwneud hynny yn dramgwydd.

(9Rhaid i waith ailbrosesu yn unol ag Erthygl 25(2)(c) a (d) o Reoliad y Gymuned gael ei gyflawni o dan oruchwyliaeth y Cynulliad Cenedlaethol.

(10Os yw'r sampl wedi'i anfon i labordy a gymeradwywyd o safle y tu allan i Gymru, rhaid dehongli'r gofyniad ym mharagraff (7) i hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol fel gofyniad i hysbysu'r awdurdod cymwys ar gyfer y safle y mae'r sampl wedi'i anfon ohono.

RHAN 5Rhoi sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion wedi'u prosesu ar y farchnad

Rhoi ar y farchnad brotein anifeiliaid wedi'i brosesu a chynhyrchion eraill wedi'u prosesu y gellid eu defnyddio yn ddeunydd porthiant

22.  Bydd unrhyw berson sy'n rhoi ar y farchnad brotein anifeiliaid wedi'i brosesu neu gynhyrchion eraill wedi'u prosesu y gellid eu defnyddio'n ddeunydd porthiant ac nad ydynt yn bodloni gofynion Erthygl 19 o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.

Rhoi ar y farchnad fwyd i anifeiliaid anwes, bwyd cnoi i gŵ n a chynhyrchion technegol

23.—(1Bydd unrhyw berson sy'n rhoi ar y farchnad fwyd i anifeiliaid anwes, bwyd cnoi i gŵn, cynhyrchion technegol (ac eithrio deilliadau braster a gynhyrchwyd o ddeunydd Categori 2) neu'r sgil-gynhyrchion anifeiliaid hynny y cyfeirir atynt yn Atodiad VIII i Reoliad y Gymuned ac nad ydynt yn bodloni gofynion Erthygl 20(1) o'r Rheoliad hwnnw yn euog o dramgwydd.

(2Bydd unrhyw berson sy'n rhoi ar y farchnad ddeilliadau braster a gynhyrchwyd o ddeunydd Categori 2 nad ydynt yn bodloni gofynion Erthygl 20(3) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.

Rhoi ar y farchnad gompost neu weddillion traul i'w defnyddio ar dir amaethyddol

24.  Rhaid i unrhyw berson sy'n rhoi ar y farchnad gompost neu weddillion traul i'w defnyddio ar dir amaethyddol sicrhau bod label arno neu arnynt neu fod dogfennau yn mynd gydag ef neu gyda hwy yn y fath fodd ag i dynnu sylw'r derbynnydd at ofynion rheoliad 11 (darpariaethau ynglŷn â thir pori) a bydd unrhyw berson sy'n methu â gwneud hynny yn euog o dramgwydd.

RHAN 6Rhan-ddirymiadau

Yr awdurdod cymwys ar gyfer Pennod V o Reoliad y Gymuned

25.  Y Cynulliad Cenedlaethol fydd yr awdurdod cymwys at ddibenion Pennod V o Reoliad y Gymuned.

Rhan-ddirymiadau ynglŷn â defnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid

26.—(1Caniateir defnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid at ddibenion diagnostig, dibenion addysgol neu ddibenion ymchwil os yw hynny'n unol ag awdurdodiad.

(2Caniateir defnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid ar gyfer tacsidermi —

(a)os yw'n unol ag awdurdodiad ; a

(b)os yw mewn gwaith technegol a gymeradwywyd.

(3Caniateir bwydo sgil-gynhyrchion a bennir yn Erthygl 23(2)(b) o Reoliad y Gymuned i —

(a)anifeiliaid sw;

(b)anifeiliaid syrcas;

(c)ymlusgiaid ac adar ysglyfaethus heblaw anifeiliaid sw neu syrcas;

(ch)cŵ n o gynelau cydnabyddedig neu heidiau o gŵ n hela cydnabyddedig; neu

(d)cynrhon ar gyfer abwyd pysgota;

os yw'n unol ag awdurdodiad.

(4Mae'r Cynulliad Cenedlaethol i gynnal cofrestr o safleoedd sy'n cael eu defnyddio i fwydo sgil-gynhyrchion anifeiliaid o'r fath i anifeiliaid sw neu syrcas, cwn o gynelau cydnabyddedig neu heidiau o gwn hela cydnabyddedig a chynrhon ar gyfer abwyd pysgota a fydd yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol —

(a)enw'r gweithredydd;

(b)cyfeiriad y safle; ac

(c)y busnes sy'n cael ei redeg ar y safle.

(5Bydd unrhyw berson sy'n defnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid at unrhyw un o'r dibenion yn y rheoliad hwn ac eithrio yn unol ag awdurdodiad yn euog o dramgwydd.

Canolfannau casglu

27.—(1At ddibenion Erthygl 23(2) o Reoliad y Gymuned, ni chaiff unrhyw berson weithredu canolfan gasglu fel y'i diffinnir yn Atodiad 1 i Reoliad y Gymuned, at ddibenion bwydo sgil-gynhyrchion anifeiliaid —

(a)i gŵ n o gynelau cydnabyddedig neu heidiau o gŵ n hela cydnabyddedig; neu

(b)i gynrhon ar gyfer abwyd pysgota;

oni bai bod y safle a gweithredydd y safle wedi'u hawdurdodi.

(2Rhaid i weithredydd y safle a awdurdodwyd —

(a)sicrhau bod y safle yn cael eu cynnal a'u cadw a'u gweithredu yn unol —

(i)ag amodau'r awdurdodiad; a

(ii)â gofynion Rheoliad y Gymuned a'r Rheoliadau hyn; a

(b)sicrhau bod unrhyw berson a gyflogir gan y gweithredydd, ac unrhyw berson a wahoddir i'r safle, yn cydymffurfio â'r amodau a'r gofynion hyn.

(3Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r rheoliad hwn yn euog o dramgwydd.

Claddu anifeiliaid anwes

28.  Yn unol ag Erthygl 24(1)(a) o Reoliad y Gymuned, caniateir i anifeiliaid anwes meirw gael eu claddu.

Claddu yn achos brigiad clefyd

29.—(1Yn unol ag Erthygl 24(1)(c) o Reoliad y Gymuned, os oes brigiad clefyd sydd wedi'i grybwyll yn Rhestr A o Swyddfa Ryngwladol Clefydau Episootig, ni fydd yn dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn i sgil-gynhyrchion anifeiliaid gael eu gwaredu fel gwastraff drwy eu llosgi neu eu claddu ar y safle (fel y diffinnir “burning or burial on site” yn Rhan A o Atodiad II i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003) os yw'r sgil-gynnyrch anifeiliaid yn cael ei gludo, a'i gladdu neu ei losgi, yn unol —

(a)â hysbysiad a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan Erthygl 24(1)(c) yn awdurdodi gwaredu yn unol â'r ddarpariaeth honno; a

(b)â darpariaethau Erthygl 6 o Reoliad y Comisiwn EC Rhif 811/2003 a Rhan B o Atodiad II iddo.

(2Y Cynulliad Cenedlaethol fydd yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 6 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003 a Rhan B o Atodiad II iddo.

Llosgi a chladdu gwenyn a chynhyrchion gwenyna

30.  Yn unol ag Erthygl 8 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003, caniateir gwaredu gwenyn a chynhyrchion gwenyna drwy eu claddu neu eu llosgi ar y safle os yw hynny'n cael ei wneud yn unol â'r Erthygl honno.

RHAN 7Cofnodion

Cofnodion

31.  Caiff unrhyw gofnod y mae'n ofynnol ei gadw o dan y Rheoliadau hyn fod ar ffurf ysgrifenedig neu electronig a rhaid iddo gael ei gadw am ddwy flynedd o leiaf.

Cofnodion ar gyfer traddodi, cludo neu dderbyn sgil-gynhyrchion anifeiliaid

32.  Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag Erthygl 9(1) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.

Cofnodion ar gyfer claddu neu losgi sgil-gynhyrchion anifeiliaid

33.  Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag Erthygl 9 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003 yn euog o dramgwydd.

Cofnodion ar gyfer gwaredu neu ddefnyddio ar y safle

34.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i weithredydd unrhyw safle sy'n gwaredu neu'n defnyddio unrhyw sgil-gynnyrch anifeiliaid (ac eithrio gwrtaith neu ddeunydd nad yw wedi'i gynnwys yn Rheoliad y Gymuned o dan Erthygl 1(2) o'r Rheoliad hwnnw), neu gynnyrch wedi'i brosesu ar y safle wneud cofnod wrth waredu neu ddefnyddio o bob gwarediad neu ddefnydd yn dangos y dyddiad pan waredwyd neu pan ddefnyddiwyd y sgil-gynnyrch anifeiliaid a maint a disgrifiad o'r deunydd a waredwyd neu a ddefnyddiwyd, a bydd methu â gwneud hynny yn dramgwydd.

(2Ni fydd y gofyniad ym mharagraff (1) yn gymwys i waredu ar y safle drwy fwydo sgil-gynhyrchion anifeiliaid neu gynhyrchion wedi'u prosesu i ymlusgiaid ac adar ysglyfaethus ac eithrio anifeiliaid sw neu syrcas.

Cofnodion danfon i'w cadw gan weithredwyr gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio a gymeradwywyd

35.—(1Rhaid i weithredydd unrhyw safle bio-nwy neu safle compostio gofnodi —

(a)y dyddiad y danfonwyd y gwastraff arlwyo i'r safle;

(b)maint y gwastraff arlwyo a disgrifiad ohono gan gynnwys datganiad ynghylch a gymerwyd camau yn y tarddle i sicrhau bod y gwastraff yn wastraff heb gig ; ac

(c)enw'r cludydd;

a bydd methu â gwneud hynny yn dramgwydd.

Cofnodion triniaeth ar gyfer gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio

36.  Rhaid i weithredydd gwaith bio-nwy neu waith compostio sy'n trin gwastraff arlwyo neu sgil-gynhyrchion anifeiliaid eraill gofnodi —

(a)y dyddiadau pan gafodd y deunydd ei drin;

(b)disgrifiad o'r deunydd a driniwyd;

(c)maint y deunydd a driniwyd;

(ch)canlyniad pob gwiriad a gyflawnwyd yn y pwyntiau critigol a nodir o dan baragraff 4 o Ran I o Atodlen 1; a

(d)digon o wybodaeth i ddangos bod y deunydd wedi'i drin yn ôl y paramedrau gofynnol;

a bydd methu â gwneud hynny yn dramgwydd.

Cofnodion ar gyfer labordai a gymeradwywyd

37.  Rhaid i weithredydd labordy a gymeradwywyd o dan reoliad 21 gofnodi —

(a)enw a chyfeiriad y safle lle cymerwyd y sampl;

(b)y dyddiad pan gymerwyd y sampl;

(c)disgrifiad o'r sampl a dull ei adnabod;

(ch)y dyddiad pan dderbyniwyd y sampl yn y labordy;

(d)y dyddiad pan brofwyd y sampl yn y labordy; ac

(dd)canlyniad y prawf;

a bydd methu â gwneud hynny yn dramgwydd.

Cofnodion i'w cadw ar gyfer llwythi o gompost neu weddill traul

38.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i feddiannydd safle y mae anifeiliaid cnoi cil, moch neu ddofednod yn cael eu cadw arno gofnodi —

(a)y dyddiad y daethpwyd â'r compost neu'r gweddill traul i'r safle hwnnw;

(b)maint a disgrifiad o'r compost neu'r gweddill traul;

(c)y tir y dodwyd y compost neu'r gweddill traul arno;

(ch)dyddiad ei ddodi; a

(d)y dyddiad pan roddwyd y tir dan gnwd gyntaf neu'r dyddiad y caniatawyd i anifeiliaid cnoi cil, moch neu ddofednod fynd ar y tir, p'un bynnag yw'r cynharaf;

a bydd methu â gwneud hynny yn dramgwydd.

(2Ni fydd y gofyniad ym mharagraff (1) i gadw cofnodion yn gymwys yn achos unrhyw gyflenwad o gompost neu weddill traul sydd i'w ddefnyddio ar unrhyw safle a ddefnyddir fel annedd yn unig.

RHAN 8Gweinyddu a gorfodi

Rhoi cymeradwyaethau

39.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi cymeradwyaeth o dan y Rheoliadau hyn os yw wedi'i fodloni y cydymffurfiwyd â gofynion Rheoliad y Gymuned a'r Rheoliadau hyn.

(2Rhaid i gymeradwyaeth bennu —

(a)cyfeiriad y safle a gweithredydd y safle;

(b)y rhannau o'r safle lle gellir derbyn a phrosesu neu drin y sgil-gynhyrchion anifeiliaid; ac

(c)y cyfarpar, y dulliau y mae'n rhaid prosesu neu drin y sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn unol â hwy a'r paramedrau y mae'n rhaid eu prosesu neu eu trin o'u mewn.

(3Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn gwrthod rhoi'r gymeradwyaeth, neu'n ei chymeradwyo yn ddarostyngedig i amod, rhaid iddo wneud y canlynol drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r ceisydd —

(a)rhoi'r rhesymau dros ei gwrthod neu dros yr amod; a

(b)hysbysu o hawliau'r ceisydd i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn 21 diwrnod gan ddechrau ar y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad ac i gael gwrandawiad gan berson annibynnol a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Atal, diwygio neu ddirymu cymeradwyaethau, awdurdodiadau a chofrestriadau

40.—(1Mae'r Cynulliad Cenedlaethol, drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r gweithredydd —

(a)yn gorfod atal cymeradwyaeth, awdurdodiad neu gofrestriad os caiff ei fodloni nad yw unrhyw un o'r amodau y rhoddwyd y gymeradwyaeth, yr awdurdodiad neu'r cofrestriad odano yn cael ei gyflawni; a

(b)yn cael atal neu ddiwygio cymeradwyaeth, awdurdodiad neu gofrestriad os caiff ei fodloni nad yw'r gweithredydd yn cydymffurfio â darpariaethau Rheoliad y Gymuned neu'r Rheoliadau hyn.

(2Bydd atal neu ddiwygio o dan baragraff (1) —

(a)yn gorfod cael effaith ar unwaith os yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn ei fod yn angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid;

(b)fel arall yn cael effaith ar y dyddiad a nodwyd yn yr hysbysiad a rhaid i'r dyddiad hwnnw beidio â bod yn llai nag 21 diwrnod ar ôl cyflwyno'r hysbysiad.

(3Rhaid i'r hysbysiad —

(a)pennu'r dyddiad y mae'n dod yn effeithiol arno;

(b)rhoi'r rhesymau dros yr ataliad neu'r diwygiad (ac, mewn achos o dan is-baragraff (2)(a), y rhesymau pam y bernir bod atal neu ddiwygio ar unwaith yn angenrheidiol); ac

(c)esbonio hawl gweithredydd y safle i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn cyfnod o 21 diwrnod gan ddechrau ar y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad arno a chael gwrandawiad gan berson annibynnol a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(4Pan fydd apêl o dan reoliad 41, ni fydd y diwygiad neu'r ataliad yn effeithiol tan y penderfyniad terfynol gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â'r rheoliad canlynol, onid yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol yn ystyried ei fod yn angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid i'r diwygiad neu'r ataliad fod yn effeithiol o ddyddiad cynharach, y mae'n rhaid iddo fod wedi'i bennu mewn hysbysiad ysgrifenedig i'r gweithredydd.

(5Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddirymu cymeradwyaeth neu gofrestriad drwy hysbysiad ysgrifenedig os yw wedi'i fodloni, o gymryd holl amgylchiadau'r achos i ystyriaeth, na fydd y safle yn cael ei redeg yn unol â Rheoliad y Gymuned a'r Rheoliadau hyn —

(a)yn dilyn apêl yn unol â'r rheoliad canlynol sy'n cadarnhau ataliad; neu

(b)ar ôl cyfnod o 21 diwrnod ar ôl cyflwyno hysbysiad diwygio neu atal pan na chafwyd unrhyw adolygiad o'r fath.

Apelau

41.—(1Caiff ceisydd neu weithredydd y cyflwynir hysbysiad iddo o dan reoliad 39 neu 40 o fewn 21 diwrnod gan ddechrau ar y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad —

(a)darparu sylwadau ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol; a

(b)darparu hysbysiad ynghylch a ydynt yn dymuno ymddangos gerbron person annibynnol a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol neu beidio.

(2Os yw ceisydd neu weithredydd yn rhoi hysbysiad o'i ddymuniad i ymddangos gerbron person annibynnol a chael gwrandawiad gan y person hwnnw —

(a)rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benodi person annibynnol i wrando ar y sylwadau a phennu terfyn amser erbyn pryd y mae'n rhaid cyflwyno'r sylwadau;

(b)rhaid i'r person a benodir beidio â bod, ac eithrio gyda chydsyniad y ceisydd neu'r gweithredydd, yn swyddog i'r Cynulliad Cenedlaethol;

(c)os yw'r ceisydd neu'r gweithredydd yn gofyn am hynny, rhaid i'r gwrandawiad fod yn gyhoeddus;

(ch)os yw'r ceisydd neu'r gweithredydd yn gofyn am hynny, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi iddo gopi o adroddiad y person a benodwyd.

(3Rhaid i'r person annibynnol gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad Cenedlaethol.

(4Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi hysbysiad ysgrifenedig o'i benderfyniad terfynol a'r rhesymau drosto i'r ceisydd neu'r gweithredydd.

(5Y Cynulliad Cenedlaethol fydd yn gyfrifol am dalu ffioedd rhesymol a threuliau'r person annibynnol mewn perthynas â'r apêl ac eithrio —

(a)os yw'n cadarnhau'r hysbysiad a gyflwynwyd o dan reoliad 39 neu 40; a

(b)os yw wedi'i fodloni ei bod yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau i'r ceisydd neu'r gweithredydd ysgwyddo rhan neu'r cyfan o'r treuliau.

(6Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni ei bod yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau i'r ceisydd neu'r gweithredydd ysgwyddo rhan neu'r cyfan o holl ffioedd a threuliau rhesymol y person annibynnol, rhaid iddo hysbysu'r ceisydd neu'r gweithredydd o'r gyfran y mae wedi'i fodloni y dylai'r ceisydd neu'r gweithredydd eu hysgwyddo.

(7Bydd y ceisydd, y gweithredydd a'r Cynulliad Cenedlaethol bob un yn gyfrifol am eu costau eu hunain, sef y costau a dynnwyd mewn perthynas â'r apêl.

Hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol gwaredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid neu wastraff arlwyo

42.  Os bydd arolygydd yn barnu ei bod yn angenrheidiol at ddibenion iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd neu os na chydymffurfir ag unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn neu yn Rheoliad y Gymuned, caiff yr arolygydd —

(a)cyflwyno hysbysiad i unrhyw berson sydd â meddiant neu reolaeth ar unrhyw sgil-gynnyrch anifeiliaid yn ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw ei waredu yn y modd a bennir yn yr hysbysiad, neu

(b)cyflwyno hysbysiad i feddiannydd unrhyw safle yn gwahardd dod â sgil-gynhyrchion anifeiliaid i mewn i'r safle, neu ddim ond caniatáu hyn mewn ffordd a bennir yn yr hysbysiad.

Glanhau a diheintio

43.—(1Os bydd arolygydd yn amau yn rhesymol fod unrhyw gerbyd, cynhwysydd neu safle y mae'r Rheoliadau hyn neu Reoliad y Gymuned yn gymwys iddynt yn risg iechyd i anifail neu i'r cyhoedd, caiff yr arolygydd gyflwyno hysbysiad i'r person sydd â gofal dros y cerbyd neu'r cynhwysydd, neu i feddiannydd y safle, yn ei gwneud yn ofynnol i'r cerbyd, y cynhwysydd neu'r safle gael ei lanhau a'i ddiheintio.

(2Caiff yr hysbysiad —

(a)pennu dull y glanhau a'r diheintio;

(b)pennu dull gwaredu unrhyw ddeunydd sydd ar ôl yn y cerbyd, y cynhwysydd neu'r safle; ac

(c)gwahardd symud unrhyw sgil-gynnyrch anifeiliaid i'r cerbyd neu'r cynhwysydd neu i'r safle hyd nes bod y gwaith glanhau a diheintio gofynnol wedi'i gwblhau'n foddhaol.

Cydymffurfio â hysbysiadau

44.—(1Rhaid cydymffurfio ag unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Rheoliadau hyn ar draul y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo, ac os na chydymffurfir ag ef, caiff arolygydd drefnu cydymffurfedd ag ef ar draul y person hwnnw.

(2Bydd unrhyw berson y cyflwynir hysbysiad iddo ac sy'n mynd yn groes i ddarpariaethau'r hysbysiad hwnnw neu'n methu â chydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd.

Pwerau mynediad

45.—(1Os bydd gofyn iddo wneud hynny, caiff arolygydd, drwy ddangos dogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos awdurdod yr arolygydd, fynd ar unrhyw safle (ac eithrio unrhyw safle a ddefnyddir fel annedd yn unig) ar bob adeg resymol at ddibenion gweinyddu a gorfodi'r Rheoliadau hyn a Rheoliad y Gymuned.

(2Caiff arolygydd —

(a)atafaelu unrhyw sgil-gynhyrchion anifeiliaid a'u gwaredu yn ôl yr angen;

(b)cyflawni unrhyw ymholiadau, archwiliadau a phrofion;

(c)cymryd unrhyw samplau;

(ch)gweld, ac archwilio a chopïo unrhyw gofnodion (ar ba ffurf bynnag y cedwir hwy) sy'n cael eu cadw o dan y Rheoliadau hyn neu Reoliad y Gymuned, neu fynd â'r cofnodion hynny oddi yno i'w gwneud yn bosibl eu copïo;

(d)mynd at, archwilio a gwirio gweithrediad, unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig sy'n cael ei ddefnyddio neu sydd wedi'i ddefnyddio mewn cysylltiad â'r cofnodion; ac at y diben hwn caiff ofyn i unrhyw berson sydd â gofal dros y cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'u gweithredu, i roi i'r arolygydd unrhyw gymorth y bydd yn rhesymol i'r arolygydd ofyn amdano ac, os cedwir cofnod drwy gyfrwng cyfrifiadur, caiff ofyn i'r cofnodion gael eu cyflwyno ar ffurf sy'n caniatáu mynd â hwy oddi yno.

(dd)marcio unrhyw anifail, sgil-gynnyrch anifeiliaid neu beth arall at ddibenion eu hadnabod; ac

(e)mynd â'r personau canlynol gydag ef —

(i)y personau eraill y mae'r arolygydd yn barnu eu bod yn angenrheidiol;

(ii)unrhyw gynrychiolydd y Comisiwn Ewropeaidd sy'n gweithredu at ddibenion Rheoliad y Gymuned.

(3Bydd unrhyw berson sy'n difwyno, difodi neu dynnu unrhyw farc a ddodwyd o dan baragraff (2) yn euog o dramgwydd.

(4Os bydd ynad heddwch wedi'i fodloni ar wybodaeth ysgrifenedig ar lw fod sail resymol i arolygydd fynd i mewn i unrhyw safle (gan eithrio safle sy'n cael ei ddefnyddio fel annedd yn unig) at unrhyw ddiben a grybwyllir yn y rheoliad hwn a bod y naill neu'r llall o'r canlynol yn wir, sef —

(a)bod mynediad i'r safle wedi'i wrthod, neu y disgwylir iddo gael ei wrthod, a bod hysbysiad o'r bwriad i wneud cais am warant wedi'i roi i'r meddiannydd; neu

(b)y byddai cais am fynediad, neu roi hysbysiad o'r fath, yn rhwystro bwriad y mynediad, neu fod yna frys ynghylch yr achos, neu nad yw'r safle yn cael ei feddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol,

caiff yr ynad heddwch ddyroddi gwarant yn awdurdodi arolygydd i fynd i'r safle at y diben hwnnw gan ddefnyddio grym rhesymol os oes ei angen.

(5Bydd pob gwarant a ddyroddir o dan y rheoliad hwn yn parhau mewn grym am gyfnod o fis.

(6Caiff arolygydd sy'n mynd i mewn i unrhyw safle yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu warant a ddyroddir odano, fynd â'r canlynol gydag ef —

(a)y personau eraill y mae'r arolygydd yn barnu eu bod yn angenrheidiol; a

(b)unrhyw gynrychiolydd y Comisiwn Ewropeaidd sy'n gweithredu at ddibenion Rheoliad y Gymuned.

(7Os bydd arolygydd yn mynd i unrhyw safle nad yw wedi'i feddiannu, rhaid iddo ei adael wedi'i ddiogelu mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd pan aeth yno gyntaf.

(8Yn y rheoliad hwn mae “safle” yn cynnwys unrhyw gerbyd neu gynhwysydd.

Rhwystro

46.—(1Bydd unrhyw berson —

(a)sy'n fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith,

(b)sydd heb achos rhesymol, yn methu â rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae'r person hwnnw yn rhesymol ofyn amdano er mwyn i'r person hwnnw gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn,

(c)sy'n rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith unrhyw wybodaeth y mae'r person hwnnw sy'n rhoi'r wybodaeth yn gwybod ei bod yn dwyllodrus neu'n gamarweiniol; neu

(ch)sy'n methu â dangos cofnod, pan ofynnir iddo wneud hynny, i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith;

yn euog o dramgwydd.

(2Ni chaniateir dehongli dim ym mharagraff (1)(b) fel pe bai'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn neu roi unrhyw wybodaeth os byddai gwneud hynny yn gallu argyhuddo'r person hwnnw.

Cosbau

47.—(1Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn agored —

(a)ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na chwe mis, neu'r ddau; neu

(b)ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy neu garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na dwy flynedd, neu'r ddau.

(2Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd wedi'i wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran —

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall tebyg yn y corff corfforaethol, neu

(b)unrhyw berson sy'n cymryd arno ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath,

bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o dramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(3At ddibenion paragraff (2) uchod, ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.

Gorfodi

48.—(1Mae'r Rheoliadau hyn i'w gorfodi gan y Cynulliad Cenedlaethol ynglŷn â'r canlynol —

(a)safleoedd sydd wedi'u trwyddedu o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Archwilio) 1995(17);

(b)safleoedd sydd wedi'u trwyddedu o dan Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningen (Hylendid ac Archwilio) 1995(18);

(c)safleoedd sydd wedi'u trwyddedu o dan Reoliadau Cig Adar Hela Gwyllt (Hylendid ac Archwilio) 1995(19);

(ch)safleoedd cyfun fel y diffinnir “combined premises” yn Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) 1994(20));

(d)safleoedd cyfun fel y diffinnir “combined premises” yn Rheoliadau Briwgig a Pharatoadau Cig (Hylendid) 1995(21).

(2Ac eithrio fel a bennir ym mharagraff (1) mae'r Rheoliadau hyn i'w gorfodi gan yr awdurdod lleol.

(3Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, fod dyletswydd i orfodi a osodir ar awdurdod lleol o dan y rheoliad hwn i'w chyflawni gan y Cynulliad Cenedlaethol ac nid gan yr awdurdod lleol.

Cyflwyno hysbysiadau a dogfennau eraill

49.—(1Caniateir cyflwyno unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall sydd i'w chyflwyno o dan y Rheoliadau hyn neu mewn perthynas â hwy naill ai —

(a)drwy ei thraddodi i'r person y mae i'w chyflwyno iddo; neu

(b)drwy ei gadael, neu ei hanfon drwy'r post at y person hwnnw yng nghyfeiriad arferol neu gyfeiriad hysbys diwethaf y person hwnnw; neu

(c)yn achos corff corfforaethol, drwy ei thraddodi i ysgrifennydd neu glerc y corff hwnnw yn ei swyddfa gofrestredig neu ei brif swyddfa, neu drwy ei hanfon drwy'r post at y person hwnnw yn y swyddfa honno.

(2Os bydd hysbysiad neu ddogfen arall i'w rhoi neu i'w chyflwyno i'r perchennog, priodor, gweithredydd neu feddiannydd unrhyw safle ac nad yw'n ymarferol ar ôl ymchwiliad rhesymol i ganfod enw a chyfeiriad y person y dylid rhoi neu gyflwyno'r hysbysiad neu'r ddogfen iddo, neu fod y safle heb ei feddiannu, caniateir rhoi neu gyflwyno'r ddogfen drwy ei chyfeirio at y person o dan sylw drwy'r disgrifiad “perchennog”, “priodor”, “gweithredydd” neu “feddiannydd” y safle (a'u henwi) ac —

(a)drwy draddodi'r ddogfen i ryw berson ar y safle; neu

(b)os nad oes unrhyw berson ar y safle y gellir traddodi'r ddogfen iddo, drwy osod y ddogfen, neu gopi ohoni, ar ran amlwg o'r safle.

Darpariaethau trosiannol

50.—(1Bydd effaith i Atodlen 3 (mesurau trosiannol).

(2Bydd effaith Rhan I o Atodlen 3 (ailgylchu pysgod o fewn rhywogaethau) yn peidio ar 1 Ionawr 2004.

(3Bydd effaith Rhan II o Atodlen 3 (casglu, cludo a gwaredu cyn-fwydydd) yn peidio ar 1 Ionawr 2006.

(4Bydd effaith Rhan III o Atodlen 3 (olew coginio defnyddiedig mewn bwyd anifeiliaid) yn peidio ar 1 Tachwedd 2004.

(5Bydd effaith Rhan IV o Atodlen 3 (gwaed mamaliaid) yn peidio ar 1 Ionawr 2005.

(6Bydd effaith Rhan V o Atodlen 3 (gweithfeydd oleocemegol sy'n defnyddio brasterau wedi'u rendro o ddeunyddiau Categori 2 a 3) yn peidio ar 1 Ionawr 2005.

(7Bydd effaith Rhan VI o Atodlen 3 (llosgyddion isel eu cynhwysedd neu weithfeydd cydhylosgi nad ydynt yn hylosgi nac yn cydhylosgi deunyddiau risg penodedig neu garcasau sy'n eu cynnwys) yn peidio ar 1 Ionawr 2005.

Diwygio a dirymu

51.—(1Mae Rheoliadau TSE (Cymru) 2002 yn cael eu diwygio yn unol ag Atodlen 4.

(2I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, mae Gorchymyn Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid 1999(22) a Gorchymyn Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Diwygio) (Cymru) 2001(23) yn cael eu dirymu.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(24)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

29 Hydref 2003

Rheoliad 15

ATODLEN 1Gofynion ychwanegol ar gyfer gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio

RHAN 1

Safleoedd

1.—(1Rhaid bod —

(a)man dderbyn lle mae sgil-gynhyrchion anifeiliaid sydd heb eu trin (gan gynnwys gwastraff arlwyo) yn cael eu derbyn,

(b)man lle mae cerbydau a chynwysyddion yn cael eu glanhau a'u diheintio gyda chyfleusterau digonol ar gyfer gwneud hynny, ac

(c)man lân lle mae compost neu weddill traul yn cael ei storio.

(2Rhaid i'r man lân fod wedi'i gwahanu'n ddigonol oddi wrth y fan dderbyn a'r fan lle mae cerbydau a chynwysyddion yn cael eu glanhau a'u diheintio er mwyn atal y deunydd sydd wedi'i drin rhag cael ei halogi. Rhaid gosod lloriau fel na all hylifau ollwng i'r fan lân o'r mannau eraill.

(3Rhaid i'r man derbyn fod yn un hawdd i'w glanhau a'i diheintio a rhaid bod ganddi le neu gynhwysydd sydd wedi'i amgáu ac y gellir ei gloi i dderbyn a storio'r sgil-gynhyrchion anifeiliaid sydd heb eu trin.

2.  Rhaid dadlwytho'r sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn y fan dderbyn a naill ai —

(a)eu trin ar unwaith, neu

(b)eu storio yn y fan dderbyn a'u prosesu heb oedi amhriodol.

3.  Rhaid i'r gwaith gael ei weithredu yn y fath fodd —

(a)ag i beidio â chaniatáu i ddeunydd sydd wedi'i drin gael ei halogi â deunydd sydd heb ei drin neu sydd wedi'i drin yn rhannol neu hylifau sy'n deillio ohono; a

(b)ag i beidio â chaniatáu i ddeunydd sydd wedi'i drin yn rhannol gael ei halogi â deunydd nad yw wedi'i drin i'r un graddau neu â hylifau sy'n deillio ohono.

4.  Rhaid i'r gweithredydd nodi, rheoli a monitro pwyntiau critigol addas yng ngweithrediad y gwaith i ddangos —

(a)bod cydymffurfedd â'r Rheoliadau hyn a Rheoliad y Gymuned;

(b)nad yw deunydd sydd wedi'i drin wedi'i halogi â deunydd sydd heb ei drin neu ddeunydd sydd wedi'i drin yn rhannol neu â hylifau sy'n deillio ohono; ac

(c)nad yw deunydd sydd wedi'i drin yn rhannol wedi'i halogi â deunydd nad yw wedi'i drin i'r un graddau neu â hylifau sy'n deillio ohono.

5.  Rhaid glanhau cynwysyddion, llestri a cherbydau sy'n cael eu defnyddio ar gyfer cludo sgil-gynhyrchion anifeiliaid sydd heb eu trin yn y man bwrpasol cyn iddynt adael y safle a chyn bod unrhyw ddeunydd sydd wedi'i drin yn cael ei lwytho. Yn achos cerbydau sy'n cludo gwastraff arlwyo sydd heb ei drin yn unig ac nad ydynt yn cludo deunydd sydd wedi'i drin ar ôl hynny, dim ond olwynion y cerbyd y mae angen eu glanhau.

RHAN IISystemau a pharamedrau ar gyfer trin gwastraff arlwyo

1.  Oni fydd cymeradwyaeth yn caniatáu system wahanol yn benodol, rhaid trin gwastraff arlwyo drwy un o'r systemau a bennir yn y tabl isod. Rhaid i'r system sicrhau y bydd y deunydd yn cael ei drin yn ôl y paramedrau canlynol:

Compostio

SystemCompostio mewn adweithydd caeedigCompostio Mewn adweithydd caeedigCompostio mewn rhenciau wedi'u hamgáu
Mwyafswm Maint y gronyn40cm6cm40cm
Isafbwynt Tymheredd60°C70°C60°C
Lleiafswm amser a dreuliwyd ar isafbwynt y tymheredd2 ddiwrnod1 awr8 diwrnod (yn ystod y cyfnod, rhaid troi'r rhenc o leiaf dair gwaith heb fod yn llai aml na phob dau ddiwrnod)

Bydd y gofynion ynglŷn ag amser a thymheredd yn cael eu bodloni fel rhan o'r broses gompostio.

Bio-nwy

SystemBio-nwy mewn adweithydd caeedigBio-nwy mewn adweithydd caeedig
Mwyafswm maint y gronyn5cm6cm
Isafbwynt tymheredd57°C70°C
Lleiafswm amser a dreuliwyd ar isafbwynt y ymheredd5 awr1 awr

2.  Fel rheol rhaid i'r gymeradwyaeth bennu un o'r dulliau yn y tabl, ond caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo system wahanol os yw wedi'i fodloni ei fod yn sicrhau'r un gostyngiad mewn pathogenau â'r dulliau hynny (gan gynnwys unrhyw amodau ychwanegol sy'n cael eu gosod ar gyfer y dulliau hynny) ac os felly rhaid i'r system gyfan gael ei disgrifio'n llawn yn y gymeradwyaeth.

Gweithfeydd compostio

3.  Os yw'r gymeradwyaeth ar gyfer gwaith compostio yn pennu un o'r dulliau yn y tabl, rhaid bod ynddi hefyd y naill neu'r llall o'r amodau canlynol —

(a)y bydd mesurau yn cael eu cymryd yn y tarddle i sicrhau na fydd cig yn cael ei gynnwys yn y gwastraff arlwyo ac ar ôl i'r deunydd gael ei drin y bydd yn cael ei storio am 18 diwrnod o leiaf, neu

(b)y bydd y deunydd yn cael ei drin eto, ar ôl y driniaeth gyntaf, gan ddefnyddio un o'r dulliau sydd yn y tabl ac wedi'i bennu yn y gymeradwyaeth (ddim o reidrwydd yr un dull ag a ddefnyddiwyd ar gyfer y driniaeth gyntaf) ac eithrio, os yw'r driniaeth mewn rhenc, nad oes angen i'r ail driniaeth fod mewn rhenc wedi'i hamgáu.

Gweithfeydd bio-nwy

4.  Rhaid i gymeradwyaeth gwaith bio-nwy bennu un o'r dulliau yn y tabl ac yn ychwanegol ei gwneud yn ofynnol bod y naill neu'r llall o'r canlynol yn cael ei wneud —

(a)y bydd mesurau yn cael eu cymryd yn y tarddle i sicrhau na fydd cig yn cael ei gynnwys yn y gwastraff arlwyo; neu

(b)bod y deunydd, ar ôl iddo gael ei drin, yn cael ei storio am 18 diwrnod o leiaf wedi'r driniaeth (nid oes angen ei storio mewn system wedi'i hamgáu).

Rheoliad 21

ATODLEN 2Dulliau Profi

RHAN IY DULL AR GYFER YNYSU CLOSTRIDIUM PERFRINGENS

Amser profi

1.  Rhaid dechrau'r profion pan dderbynnir y sampl neu ar y diwrnod gwaith cyntaf sy'n caniatáu i'r dull hwn gael ei gwblhau. Os na ddechreuir y prawf ar ddiwrnod derbyn y sampl rhaid ei storio mewn oergell rhwng 2°C ac 8°C nes bydd ei angen. Os cafodd y sampl ei roi mewn oergell, rhaid ei dynnu o'r oergell a'i storio ar wres ystafell am o leiaf un awr cyn i'r prawf ddechrau.

Samplau

2.  Rhaid cyflawni'r profion drwy ddefnyddio dwy gyfran 10 gram o bob sampl a gyflwynir i'w phrofi. Rhaid i bob sampl 10 gram gael ei rhoi'n aseptigol mewn cynhwysydd sterilaidd sy'n cynnwys 90 ml Clostridium perfringens o wanedydd a wnaed o 0.1% pepton a 0.8% sodiwm clorid wrth pH o 7 a'i chymysgu'n drwyadl nes bod y sampl mewn daliant gwastad.

Planiadau

3.  Am bob cyfran o'r sampl rhaid trosglwyddo 1 ml o'r hydoddiant i ddysgl petri sterilaidd 90 mm (yn ddyblyg), y mae'n rhaid ychwanegu 15 ml o agar Shahidi - Ferguson agar (SF agar) (25) ar dymheredd o 47°C±1°C ac ar unwaith ei gymysgu gan bwyll drwy droelli'r ddysgl 5 gwaith yn glocwedd a 5 gwaith yn wrthglocwedd.

4.  Pan fydd yr agar wedi ceulo, rhaid troshaenu pob plât agar â 10 ml SF pellach o agar ar dymheredd o 47°C±1°C. Pan fydd y droshaen wedi ceulo a chyda caeadau'r platiau at i fyny, rhaid deor y platiau'n anerobig ar 37°C±1°C am 20 awr±2 awr.

Samplau â chytrefi Clostridium perfringens

5.  Ar ôl y deoriad rhaid archwilio pob set o blatiau dyblyg am gytrefi sy'n nodweddu Clostridium perfringens (du). Bydd y sampl yn methu dros dro os bydd unrhyw gytrefi sy'n nodweddu Clostridium perfringens yn bresennol, ac yn yr achos hwnnw rhaid dilyn y weithdrefn ganlynol er mwyn cadarnhau ai cytrefi o Clostridium perfringens ydynt ai peidio.

6.  Yn achos pob plât, rhaid is-feithrin 10 cytref nodweddiadol o Clostridium perfringens ar blât agar SF pellach. Os oes llai na 10 cytref ar y plât, rhaid is-feithrin pob cytref nodweddiadol ar blât pellach. Rhaid deor y platiau'n anerobig ar 37°C±1°C am 20 awr±2 awr.

7.  Os oes gordyfiant ar arwynebedd y platiau ac nad yw'n bosibl dethol cytrefi nodweddiadol a ynyswyd yn dda, rhaid is-feithrin 10 cytref a amheuir ar ddyblygiadau o blatiau agar SF a'u deor yn anerobig ar 37°C±1°C am 20 awr±2 awr.

8.  Rhaid is-feithrin un gytref nodweddiadol o bob plât ar yr agar SF a'i deor yn anerobig ar 37°C±1°C am 20 awr±2 awr.

Cytrefi a gafodd eu his-feithrin

9.  Ar ôl y deoriad rhaid archwilio pob plât am nodweddion cytrefi o Clostridium perfringens. Rhaid i bob cytref sy'n nodweddu Clostridium perfringens

(a)gael trywanblaniad i gyfrwng symudoldeb nitrad(26); a

(b)eu plannu naill ai mewn cyfrwng gelatin lactos(27) neu mewn disgiau gelatin golosg(28);

a'u deor yn anerobig ar 37°C±1°C am 20 awr±2 awr.

Archwilio'r is-feithriniadau

Symudoldeb

10.  Rhaid archwilio symudoldeb cyfrwng nitrad am y math o dyfiant ar hyd y llinell drywanu. Os oes tystiolaeth o dyfiant yn tryledu i mewn i'r cyfrwng oddi wrth y llinell drywanu, rhaid ystyried bod y bacteria yn symudol.

Rhydwytho nitrad i nitrid

11.  Ar ôl archwilio symudoldeb cyfrwng nitrad, rhaid ychwanegu 0.2 ml i 0.5 ml o adweithydd canfod nitrid iddo. Bydd lliw coch yn ffurfio yn cadarnhau bod y bacteria wedi rhydwytho nitrad i nitrid. Rhaid diystyrru meithriniadau sy'n dangos adwaith wan (h.y. lliw pinc). Os nad yw lliw coch yn ymffurfio cyn pen 15 munud, rhaid ychwanegu swm bach o lwch zinc a gadael i'r plât sefyll am 15 munud. Os bydd lliw coch yn ymffurfio ar ôl ychwanegu llwch zinc, bydd hyn yn cadarnhau nad yw nitrad wedi'i rydwytho i nitrid.

Cynhyrchu nwy ac asid o lactos a gelatin yn troi'n hylif

12.  Rhaid archwilio'r cyfrwng gelatin lactos am bresenoldeb swigod bach nwy yn y cyfrwng.

13.  Rhaid archwilio'r cyfrwng gelatin lactos am liw. Mae lliw melyn yn dangos bod y lactos wedi eplesu.

14.  Rhaid oeri'r cyfrwng gelatin lactos am un awr ar 2 — 8°C ac yna'i wirio i weld a yw'r gelatin wedi hylifo. Os yw'r cyfrwng wedi ymsolido, rhaid ei ailddeor yn anerobig am 18 — 24 awr eto, oeri'r cyfrwng am un awr eto ar 2 — 8°C a'i wirio eto i weld a yw'r gelatin wedi hylifo.

15.  Rhaid penderfynu ar bresenoldeb Clostridium perfringens ar sail y canlyniadau o baragraffau 10 i 14. Rhaid ystyried bod bacteria sy'n cynhyrchu cytrefi duon ar agar SF, yn ansymudol, yn rhydwytho nitrad i nitrid, yn cynhyrchu nwy ac asid o lactos ac yn hylifo gelatin o fewn 48 awr yn Clostridium perfringens.

Profion Rheoli

16.  Rhaid cynnal profion rheoli bob dydd wrth ddechrau profi gan ddefnyddio —

(a)Clostridium perfringens heb fod yn fwy na saith diwrnod oed ar adeg ei ddefnyddio;

(b)Escherichia coli NCTC 10418((29) neu sylwedd cyfwerth iddo nad yw'n fwy na saith diwrnod oed ar adeg ei ddefnyddio; ac

(c)protein anifeiliaid wedi'i brosesu neu gompost neu weddill traul sy'n rhydd rhag Clostridium perfringens.

17.  Rhaid rhoi darnau 10 gram o brotein anifail wedi'i rendro yn aseptigol yn y naill a'r llall o ddau gynhwysydd sterilaidd sy'n cynnwys 90 ml o Ddŵ r Pepton Byfferog (BPW)(30) a'i gymysgu'n drwyadl nes bod y samplau mewn daliant gwastad.

18.  Rhaid rhoi un gytref o Clostridium perfringens mewn 10 ml BPW a'i chymysgu i ffurfio daliant gwastad. Rhaid ychwanegu 0.1 ml o'r daliad at y daliad yn y paragraff blaenorol. Rhaid ailadrodd hyn ar gyfer Escherichia coli.

19.  Yna caiff y rhain eu trin a'u harchwilio yn yr un modd â'r samplau prawf. Os na ffurfir cytrefi nodweddiadol yna rhaid bod profion y diwrnod hwnnw'n annilys a rhaid eu hailadrodd.

RHAN IIY DULLIAU AR GYFER YNYSU SALMONELA

A. Y DULL BACTERIOLEGOL

1.  Rhaid dechrau'r profion pan geir y sampl neu ar y diwrnod gwaith cyntaf sy'n caniatáu i'r dull hwn gael ei gwblhau. Os na ddechreuir y prawf ar ddiwrnod cael y sampl rhaid ei storio mewn oergell hyd nes y bydd ei hangen. Os cafodd y sampl ei rhoi mewn oergell rhaid ei thynnu o'r oergell a'i storio ar wres ystafell am o leiaf bedair awr cyn i'r prawf ddechrau.

Diwrnod 1

2.  Rhaid gweithredu'r profion yn ddeublyg drwy ddefnyddio dwy gyfran 25 gram o bob sampl a gyflwynir i'w phrofi. Rhaid rhoi'r ddwy sampl 25 gram yn aseptigol mewn cynhwysydd sterilaidd sy'n cynnwys 225 ml o Ddwr Pepton Byfferog (BPW) a'u deor ar 37°C±1°C am 18 awr±2 awr.

Diwrnod 2

3.  Rhaid plannu 0.1 ml o'r jariad o BPW wedi'i ddeor mewn 10 ml o gawl Rappaports Vassiliadis (cawl RV)(31) a'i ddeor ar 41.5°C±0.5°C am 24 awr ±3awr.

Diwrnod 3

4.  Rhaid gosod y cawl RV ar ddau blât 90 milimetr o Agar Gwyrdd Gloyw (BGA)(32) neu ar un plât 90 milimetr o BGA ac un plât 90 milimetr o Agar Sylos Lysin Deocsicolad (XLD)(33) gan ddefnyddio dolen 2.5 mm mewn diamedr. Rhaid plannu defnyn yn y platiau ac sydd wedi'i gymryd o ymyl wyneb yr hylif drwy dynnu'r ddolen dros y cyfan o un plât mewn patrwm igam ogam gan fynd ymlaen i'r ail blât heb aildrydanu'r ddolen. Rhaid i'r bwlch rhwng llinellau'r ddolen fod yn 0.5 cm — 1.0 cm. Rhaid deor y platiau ar 37°C ±2°C dros nos am 24 ± 3 awr.

5.  Rhaid ailddeor y cawl RV gweddilliol ar 41.5°C±0.5°C am 24 awr ychwanegol.

Diwrnod 4

6.  Rhaid archwilio'r platiau a rhaid is-feithrin lleiafswm o dair cytref o bob plât sy'n dangos amheuaeth o dyfiant Salmonela —

(a)ar blât agar gwaed;

(b)ar blât agar MacConkey(34); ac

(c)i gyfrwng biocemegol sy'n addas i adnabod Salmonela.

Rhaid deor y cyfryngau hyn ar 37°C dros nos.

7.  Rhaid i'r cawl RV a ailddeorwyd gael ei osod ar blatiau fel a ddisgrifir ym mharagraff 4.

Diwrnod 5

8.  Rhaid i'r cyfrwng cyfansawdd wedi'i ddeor neu'r hyn sy'n gyfwerth iddo gael ei archwilio a rhaid cofnodi'r canlyniadau, gan ddiystyrru'r meithriniadau y mae'n amlwg nad ydynt yn rhai Salmonela. Rhaid cyflawni profion sleidiau serolegol sy'n defnyddio Salmonela amryfalent “O” ac amryfalent “H” (cyfnod 1 a 2) sera cyflynedig ar gytrefi detholedig a amheuir a gasglwyd o blatiau agar gwaed neu blatiau MacConkey. Os bydd adweithiau yn un neu ddau o'r sera, rhaid dosbarthu'r cytrefi drwy seroleg sleidiau ac anfon is-feithriniad at un o Labordai Milfeddygol Rhanbarthol Asiantaeth Labordai Milfeddygol yr Adran dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar gyfer teipio pellach.

9.  Rhaid archwilio'r platiau y cyfeirir atynt ym mharagraff 7 a chymryd camau pellach yn ôl paragraff 6 ac 8.

B. Y DULL DARGLUDIANT TRYDANOL

1.  Rhaid dechrau'r profion pan geir y sampl neu ar y diwrnod gwaith cyntaf sy'n caniatáu i'r dull hwn gael ei gwblhau. Os na ddechreuir y prawf ar ddiwrnod cael y sampl rhaid ei storio mewn oergell hyd nes y bydd ei angen. Os cafodd y sampl ei roi mewn oergell rhaid ei dynnu o'r oergell a'i storio ar wres ystafell am o leiaf bedair awr cyn i'r prawf ddechrau.

Diwrnod 1

2.  Rhaid gweithredu'r profion yn ddeublyg drwy ddefnyddio dwy gyfran 25 gram o bob sampl a gyflwynir i'w phrofi. Rhaid rhoi'r ddwy sampl 25 gram yn aseptigol mewn cynhwysydd sterilaidd sy'n cynnwys 225 ml o Ddŵr Pepton/Lysin/Glwcos Byfferog (BPW/L/G)(35) a'u deor ar 37°C am 18 awr.

Diwrnod 2

3.  Rhaid ychwanegu'r BPW/L/G a ddeorwyd at gyfrwng Dwlsitol Selenit Cystin Trimethylamin-N-Ocsid (SC/T/D)(36) a Glwcos Lysin Decarbocsylas (LD/G)(37) mewn celloedd neu bantiau dargludo trydannol. Ar gyfer celloedd neu bantiau sy'n cynnwys cyfrwng mwy na 5 ml rhaid ychwanegu 0.2 ml o BPW/L/G ac ar gyfer celloedd neu bantiau sy'n cynnwys cyfrwng 5 ml neu lai rhaid ychwanegu 0.1 ml o BPW/L/G. Rhaid bod y celloedd neu'r pantiau wedi'u cysylltu â chyfarpar mesur dargludiant trydanol addas a osodwyd i fonitro a chofnodi newidiadau yn y dargludiant trydanol fesul 6 munud dros gyfnod o 24 awr. Rhaid cadw tymheredd y celloedd a'r pantiau ar 37°C.

Diwrnod 3

4.  Ar ddiwedd y cyfnod 24 awr, rhaid i'r wybodaeth a gofnodwyd gan y cyfarpar mesur dargludiant gael ei dadansoddi a'i dehongli gan ddefnyddio'r meini prawf a ddiffinnir gan weithgynhyrchwyr y cyfarpar. Os dynodir dros dro bod pant neu gell yn cadarnhau bod Salmonela'n bresennol, rhaid cadarnhau'r canlyniad drwy is-feithrin cynnwys y pant neu'r gell ar ddwy blât 90 milimedr o BGA neu ar un blât 90 milimedr o BGA ac un blât 90 milimedr o Agar Sylos Lysin Deocsicolad (XLD) sy'n defnyddio dolen 2.5 mm diamedr. Rhaid plannu defnyn yn y platiau ac sydd wedi'i gymryd o ymyl wyneb yr hylif drwy dynnu'r ddolen dros y cyfan o'r naill blât mewn patrwm igam ogam gan fynd ymlaen i'r blât arall heb ailwefru'r ddolen. Rhaid i'r bwlch rhwng llinellau'r ddolen fod yn 0.5 cm — 1.0 cm. Rhaid deor y platiau ar 37°C dros nos.

Diwrnod 4

5.  Rhaid archwilio'r platiau a rhaid is-feithrin lleiafswm o dair cytref o bob plât sy'n dangos amheuaeth o dyfiant Salmonela —

(a)ar blât agar gwaed;

(b)ar blât agar MacConkey; ac

(c)i gyfrwng biocemegol sy'n addas i adnabod Salmonela.

Rhaid deor y cyfryngau hyn ar 37°C dros nos.

Diwrnod 5

6.  Rhaid i'r cyfrwng cyfansawdd wedi'i ddeor neu'r hyn sy'n gyfwerth iddo gael ei archwilio a chofnodi'r canlyniadau, gan ddiystyrru'r meithriniadau y mae'n amlwg nad ydynt yn rhai Salmonela. Rhaid cyflawni profion sleidiau serolegol sy'n defnyddio Salmonela amryfalent “O” ac amryfalent “H” (cyfnod 1 a 2) sera cyfludol ar gytrefi detholedig a amheuir a gasglwyd o blatiau agar gwaed neu blatiau MacConkey. Os bydd adweithiau yn un neu ddau o'r sera, rhaid anfon is-feithriniad at un o Labordai Milfeddygol Rhanbarthol Asiantaeth Labordai Milfeddygol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar gyfer teipio pellach.

RHAN IIIY DULL AR GYFER YNYSU ENTEROBACTERIACEAE

1.  Rhaid dechrau'r profion pan geir y sampl neu ar y diwrnod gwaith cyntaf sy'n caniatáu i'r dull hwn gael ei gwblhau. Os na ddechreuir y prawf ar ddiwrnod cael y sampl rhaid ei storio mewn oergell rhwng 2°C a 8°C hyd nes y bydd ei hangen. Os cafodd y sampl ei rhoi mewn oergell rhaid ei thynnu o'r oergell a'i storio ar wres ystafell am o leiaf un awr cyn i'r prawf ddechrau.

Samplau

2.  Rhaid gweithredu'r profion drwy ddefnyddio pum cyfran 10 gram o bob sampl a gyflwynir i'w phrofi. Rhaid rhoi pob sampl 10 gram yn aseptigol mewn cynhwysydd sterilaidd sy'n cynnwys 90 ml o Ddwr Pepton Byfferog a'u cymysgu'n drylwyr hyd nes bod y samplau mewn daliant gwastad.

Planiadau

3.  Am bob cyfran o'r sampl rhaid trosglwyddo 1 ml o hydoddiant i ddysgl petri ddi-haint 90 mm (yn ddeublyg). Rhaid bod y platiau wedi'u labelu i ddynodi'r gyfran o sampl y cymerwyd hwy oddi wrtho. Rhaid ychwanegu 15 ml o Agar Glwcos Bustl Fioled Coch (VRBGA)(38) ar dymheredd o 47°C±2°C i bob dysgl petri ac ar unwaith ei gymysgu gan bwyll drwy droelli'r ddysgl bum gwaith yn glocwedd a phum gwaith yn wrthglocwedd.

4.  Unwaith mae'r agar wedi ceulo, rhaid troshaenu pob plât agar â 10 ml VRBGA pellach o agar ar dymheredd o 47°C±2°C. Pan fydd y droshaen wedi ceulo a chyda'r platiau at i fyny rhaid deor y platiau'n anerobig ar 37°C±1°C am 20 awr±2 awr.

Samplau â chytrefi Enterobacteriaceae

5.  Ar ôl y deoriad rhaid archwilio pob set o blatiau dyblyg am gytrefi sy'n nodweddu Enterobacteriaceae (cytrefi porffor 1 — 2 mm mewn diamedr). Rhaid cyfrif yr holl gytrefi nodweddiadol ar bob plât a chymryd y cymedr Rhif yddol o'r platiau dyblyg.

Bydd y sampl yn methu dros dro naill ai —

(a)os bydd unrhyw gymedr Rhif yddol dros 30(39); neu

(b)os bydd tri neu ragor o gymedrau Rhif yddol dros 10;

ac yn yr achos hwnnw rhaid dilyn y weithdrefn ganlynol er mwyn cadarnhau a ydyw'r cytrefi yn Enterobacteriaceae neu beidio.

6.  Ar ôl cyfrif y cytrefi, rhaid cymryd cytrefi nodweddiadol ar hap o'r platiau agar, a rhaid i'r nifer fod o leiaf yn ail isradd y cytrefi a gyfrifwyd. Rhaid is-feithrin y cytrefi ar blât agar gwaed a'u deor yn aerobig ar 37°C±1°C am 20 awr±2 awr.

Archwilio'r is-feithriniadau

7.  Rhaid cyflawni prawf ocsidas a phrawf eplesiad glwcos ar bob un o'r pum cytref a gafodd eu his-feithrin. Rhaid ystyried bod cytrefi sy'n ocsidas-negyddol ac eplesiad glwcos-cadarnhaol yn Enterobacteriaceae.

8.  Os na phrofir bod yr holl gytrefi yn Enterobacteriaceae, rhaid i'r cyfanswm cyfrif ym mharagraff 5 gael ei leihau yn gymesur cyn cadarnhau a ddylai'r sampl fethu neu beidio.

Dulliau rheoli

9.  Rhaid cynnal profion rheoli bob dydd wrth ddechrau profi gan ddefnyddio —

(a)Escherichia coli NCTC 10418 heb fod yn fwy na saith diwrnod oed ar adeg ei ddefnyddio; a

(b)protein anifeiliaid neu gompost neu weddill traul wedi'i brosesu sy'n rhydd rhag Enterobacteriaceae.

10.  Rhaid rhoi cyfran 10 gram o brotein anifail wedi'i rendro yn aseptigol mewn cynhwysydd sterilaidd sy'n cynnwys 90 ml BPW a'i gymysgu'n drwyadl nes bod y sampl mewn daliant gwastad.

11.  Rhaid rhoi un gytref o Escherichia coli mewn 10 ml BPW a'i gymysgu i ffurfio daliant gwastad. Rhaid ychwanegu 0.1 ml o'r daliad at y daliad yn y paragraff blaenorol.

12.  Yna caiff rhain eu trin a'u harchwilio yn yr un modd â'r samplau prawf. Os na ffurfir cytrefi nodweddiadol yna rhaid bod profion y diwrnod hwnnw'n annilys a rhaid eu hailadrodd.

rheoliad 50

ATODLEN 3Mesurau Trosiannol

RHAN IGWAHARDD AILGYLCHU MEWNRYWOGAETHOL AR GYFER PYSGOD(40)

1.  Yn unol ag Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003 yn gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglŷn â gwahardd ailgylchu mewnrywogaethol ar gyfer pysgod, claddu a llosgi sgil-gynhyrchion anifeiliaid a mesurau trosiannol penodol, ni fydd gwahardd bwydo pysgod â phrotein anifeiliaid wedi'i brosesu sy'n deillio o gyrff neu rannau o gyrff pysgod o'r un rhywogaeth yn Erthygl 22(1)(a) o Reoliad y Gymuned yn gymwys.

RHAN IICASGLU, CLUDO A GWAREDU CYN-FWYDYDD(41)

1.—(1Y Cynulliad Cenedlaethol fydd yr awdurdod cymwys ar gyfer rhoi cymeradwyaethau o dan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 813/2003 ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglŷn â chasglu, cludo a gwaredu cyn-fwydydd.

(2Caniateir i gyfarwyddiadau, at ddibenion Erthygl 3(3) o'r Rheoliad hwnnw, gan yr awdurdod cymwys gael eu rhoi gan arolygydd.

2.  At ddibenion Erthygl 1(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 813/2003, fel rhan-ddirymiad o Erthygl 6(2)(f) ac Erthygl 7 o Reoliad y Gymuned, caniateir i gyn-fwydydd nad ydynt wedi'u cymysgu ag unrhyw sgil-gynhyrchion anifeiliaid eraill (ac eithrio gwastraff arlwyo Categori 3) gael eu casglu, eu cludo a'u gwaredu neu eu trin yn yr un modd â gwastraff arlwyo.

3.  Pan fydd cyn-fwydydd yn cael eu cymysgu â deunydd Categori 1 neu ddeunydd Categori 2 rhaid i unrhyw berson sy'n meddu ar y deunydd neu'n ei reoli sicrhau ei fod yn cael ei waredu yn unol ag Erthygl 1(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 813/2003; a bydd unrhyw berson sy'n methu â gwneud hynny yn euog o dramgwydd.

4.  Pan fydd cyn-fwydydd yn cael eu hanfon i gael eu gwaredu mewn safle tirlenwi a gymeradwywyd, rhaid i unrhyw berson sy'n meddu ar y deunydd neu'n ei reoli gydymffurfio ag Erthygl 1(3) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 813/2003 a bydd unrhyw berson sy'n methu â gwneud hynny yn euog o dramgwydd.

5.  Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir o dan Erthygl 3(3) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 813/2003 yn euog o dramgwydd.

6.  Yn y Rhan hon nid yw “cyn-fwydydd” yn cynnwys gwastraff o gynhyrchu cynhyrchion sydd wedi'u bwriadu i gael eu coginio cyn cael eu bwyta.

RHAN IIIOLEW COGINIO DEFNYDDIEDIG MEWN BWYD ANIFEILIAID(42)

Cwmpas

1.  Er gwaethaf y gwaharddiad ar fwydo anifeiliaid a ffermir â gwastraff arlwyo neu ddeunyddiau bwyd sy'n cynnwys gwastraff arlwyo neu'n deillio ohono, caniateir defnyddio olew coginio defnyddiedig ar gyfer cynhyrchu bwyd anifeiliaid os yw wedi'i gasglu, wedi'i drin ac wedi'i flendio yn unol â'r Rhan hon.

2.  Mae'r Rhan hon wedi'i chyfyngu i olew coginio defnyddiedig —

(a)sy'n deillio o fwytai, cyfleusterau arlwyo, a cheginau, gan gynnwys ceginau canolog a cheginau aelwydydd, yn unig; a

(b)sydd wedi'i fwriadu ar gyfer cynhyrchu bwyd anifeiliaid.

Cymeradwyaethau

3.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo —

(a)casglwyr olew coginio defnyddiedig os yw wedi'i fodloni y bydd y casglydd yn cydymffurfio â gofynion y Rhan hon; a

(b)gweithredwyr safleoedd lle mae olew coginio defnyddiedig yn cael ei drin neu ei gymysgu ag olewau eraill os yw wedi'i fodloni bod y safleoedd a'r gweithredu yn cydymffurfio â gofynion y Rhan hon.

(2Dim ond os oedd y casglydd neu'r gweithredydd yn casglu, trin neu flendio olewau coginio defnyddiedig ar 1 Tachwedd 2002 y caniateir rhoi'r gymeradwyaeth.

4.  Rhaid i'r gymeradwyaeth bennu —

(a)enw'r gweithredydd a chyfeiriad y safle a gymeradwywyd;

(b)yn achos safle trin, y rhannau o'r safle lle caniateir i olew coginio defnyddiedig gael ei dderbyn a'i drin; ac

(c)y dyddiad dod i ben, y mae rhaid iddo beidio â bod yn hwyrach na 31 Hydref 2004.

5.—(1Rhaid atal y gymeradwyaeth ar unwaith os nad yw'r amodau y cafodd ei rhoi odani yn cael eu bodloni mwyach.

(2Pan fydd wedi'i hatal, dim ond os bydd holl ofynion Rheoliad y Gymuned wedi'u bodloni y caniateir adfer y gymeradwyaeth.

Ymrwymiadau cyffredinol

6.—(1Rhaid i olew coginio defnyddiedig gael ei gasglu, ei gludo, ei storio, ei drafod, ei drin, a'i ddefnyddio yn unol â'r Rhan hon.

(2Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â pharagraff (1) yn euog o dramgwydd.

(3Rhaid gwaredu unrhyw olew coginio defnyddiedig nad yw'n cydymffurfio â darpariaethau'r Rhan hon yn unol â chyfarwyddyd arolygydd drwy hysbysiad.

7.  Rhaid i olew coginio defnyddiedig —

(a)cael ei gasglu gan gasglydd a gymeradwywyd;

(b)cael ei drin gan weithredydd a gymeradwywyd ar safle trin a gymeradwywyd; ac

(c)cael ei gymsygu ag olewau eraill gan weithredydd a gymeradwywyd ar safle blendio a gymeradwywyd.

Casglu a chludo olew coginio defnyddiedig

8.—(1Rhaid casglu a chludo olew coginio defnyddiedig mewn cynwysyddion â chaeadau neu mewn cerbydau sy'n ddiogel rhag gollwng a rhaid dynodi'r olew hwnnw yn y fath fodd ag i sicrhau bod modd olrhain y cynnwys, hyd yn oed ar ôl iddo gael ei gymysgu, i bob safle tarddiad.

(2Rhaid i gasglwyr gymryd pob mesur angenrheidiol i sicrhau bod yr olew coginio defnyddiedig yn rhydd rhag halogiad â sylweddau niweidiol.

(3Rhaid i gynwysyddion y gellir eu hailddefnyddio, a phob eitem o ran cyfarpar neu offer y gellir ei hailddefnyddio ac sy'n dod i gysylltiad ag olew coginio defnyddiedig, gael eu glanhau, eu golchi a'u diheintio ar ôl pob defnydd arnynt.

(4Rhaid i gerbydau neu gynwysyddion sy'n cario unrhyw ddeunydd a allai halogi'r olew coginio defnyddiedig gael eu glanhau a'u diheintio'n drylwyr cyn iddynt gael eu defnyddio i gario olew coginio defnyddiedig.

Safleoedd a gymeradwywyd a rhedeg safleoedd blendio

9.  Rhaid i weithredydd safle a gymeradwywyd sicrhau bod y safle yn cydymffurfio â'r darpariaethau yn y Rhan hon a'i fod yn cael ei redeg yn unol â hwy.

10.—(1Cyn ei gymysgu ag olew arall, rhaid i weithredydd safle blendio sicrhau bod pob swp o olew coginio defnyddiedig yn cael ei brofi i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r safonau ym mharagraff 16 o'r Rhan hon. Rhaid i swp beidio â bod yn fwy na 30 tunnell.

(2Rhaid i gasglwyr a gweithredwyr safleoedd a gymeradwywyd sicrhau na fydd olew coginio defnyddiedig nad yw'n cydymfurfio â'r safonau ym mharagraff 16 o'r Rhan hon yn cael ei ddefnyddio.

Safleoedd a gymeradwywyd

11.—(1Rhaid i safleoedd a gymeradwywyd fod wedi'u hadeiladu yn y fath fodd ag i sicrhau eu bod yn hawdd i'w glanhau a'u diheintio.

(2Rhaid i bersonau ac anifeiliaid heb awdurdod beidio â chael mynd i'r safle.

(3Rhaid bod gan y safle gyfleusterau digonol ar gyfer glanhau a diheintio'r cynwysyddion neu'r llestri y mae'r olew coginio defnyddiedig yn cael ei dderbyn ynddynt ac, os yw'n briodol, y cerbydau y mae'n cael ei gludo ynddynt.

(4Rhaid bod gan y safle doiledau a chyfleusterau ymolchi digonol i'r staff.

(5Rhaid bod gan y safle le dan orchudd, sydd wedi'i farcio'n glir, i dderbyn olew coginio defnyddiedig.

(6Os yw'n briodol, rhaid bod gan y safle fan storio ar wahân ar gyfer unrhyw olew coginio defnyddiedig nad yw'n addas i'w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid.

(7Rhaid selio tanciau ag awyrellau sydd wedi'u lleoli a'u sgrinio mewn ffordd sy'n atal halogion neu blâu rhag mynd i mewn iddynt.

(8Rhaid selio pibellau pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.

Hunanwiriadau'r gweithredydd

12.—(1Rhaid i weithredwyr safleoedd a gymeradwywyd gymryd pob mesur sy'n angenrheidiol i gydymffurfio â gofynion y Rhan hon.

(2Rhaid iddynt sefydlu, gweithredu a chynnal gweithdrefn sydd wedi'i datblygu yn unol ag egwyddorion y system dadansoddi peryglon a phwyntiau rheoli critigol (HACCP).

(3Yn benodol rhaid iddynt —

(a)nodi a rheoli'r pwyntiau rheoli critigol ar y safle;

(b)sefydlu a gweithredu dulliau ar gyfer monitro a gwirio pwyntiau rheoli critigol o'r fath a chadw cofnodion o'r gwiriadau hynny am ddwy flynedd o leiaf; ac

(c)sicrhau bod modd olrhain pob swp sy'n cael ei dderbyn a'i anfon.

13.—(1Rhaid i weithredydd safle blendio a gymeradwywyd gyflawni gwiriadau a chymryd samplau at ddibenion gwirio cydymffurfedd â'r safonau ym mharagraff 16.

(2Os bydd canlyniadau gwiriad neu brawf yn dangos nad yw'r olew coginio defnyddiedig yn cydymffurfio â darpariaethau'r Rhan hon, rhaid i'r gweithredydd —

(a)darganfod achosion y methiannau cydymffurfio;

(b)sicrhau na chaiff unrhyw olew ei anfon i'w ddefnyddio mewn porthiant;

(c)cychwyn gweithdrefnau dadhalogi a glanhau priodol; ac

(ch)pan fydd olew coginio defnyddiedig eisoes wedi'i anfon i'w ddefnyddio mewn porthiant, neu wedi'i ymgorffori mewn porthiant, cymryd yr holl fesurau angenrheidiol i sicrhau na fydd y porthiant yn cynnwys yr olew yn cael ei fwydo i dda byw.

14.—(1Rhaid i'r gweithredydd gofnodi canlyniadau'r gwiriadau a'r profion.

(2Rhaid i'r gweithredydd gadw sampl o bob llwyth o olew coginio defnyddiedig a anfonwyd o'r safle am o leiaf chwe mis ar ôl dyddiad ei anfon.

Y gofynion o ran hylendid mewn safleoedd a gymeradwywyd

15.—(1Rhaid glanhau cynwysyddion, llestri ac, os yw'n briodol, cerbydau sy'n cael eu defnyddio i gludo olew coginio defnyddiedig mewn man ddynodedig.

(2Rhaid cymryd mesurau atal yn erbyn adar, cnofilod, trychfilod neu fermin arall yn systemataidd.

(3Rhaid peidio â storio olew coginio defnyddiedig y bwriedir ei ddefnyddio yn yr un man ag olew coginio defnyddiedig nad yw'n addas i'w ddefnyddio mewn bwyd neu gynhyrchion anifeiliaid a allai greu risg i iechyd anifeiliaid neu iechyd pobl.

(4Rhaid sefydlu a dogfennu gweithdrefnau glanhau ar gyfer pob rhan o'r safle.

(5Rhaid i waith rheoli hylendid gynnwys archwilio'r amgylchedd a'r cyfarpar.

(6Rhaid cofnodi amserlenni archwilio a chanlyniadau'r archwilio.

(7Rhaid cadw gosodiadau a chyfarpar mewn cyflwr da.

(8Rhaid calibradu cyfarpar mesur o leiaf unwaith y flwyddyn.

(9Rhaid glanhau tanciau a phibellau yn fewnol o leiaf unwaith y flwyddyn neu pan fydd dŵ r a halogion ffisegol wedi cronni.

(10Rhaid trafod a storio olew coginio defnyddiedig sydd wedi'i drin yn y fath fodd ag i atal halogiad.

Manyleb ar gyfer olew coginio defnyddiedig i'w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid

16.—(1Rhaid i olew coginio defnyddiedig fodloni'r safonau gofynnol canlynol cyn iddo gael ei ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid.

(2Halogiad ffisegol:

(a)lleithder ac amhureddau: <3%

(b)amhureddau: <0.15%.

(3Presenoldeb olew mwynol: yn absennol.

(4Presenoldeb asidau brasterog ocsidiedig: >88% o'i gynnwys yn asidau brasterog echludadwy.

(5Bod presenoldeb gweddillion plaleiddiaid yn cydymffurfio â Chyfarwyddeb 2002/32/EC(43) Senedd Ewrop a'r Cyngor ar sylweddau annymunol mewn bwyd anifeiliaid.

(6Presenoldeb biffenylau polyclorinedig (PCB)s: <100ppb ar gyfer y saith prif gytras(44).

(7Presenoldeb Salmonela: yn absennol.

(8Presenoldeb braster anifeiliaid:

(a)Asid pentadecanöig (C15): <0.2%

(b)Cis.9 – asid hecsadecanöig (C16:1): <2%

(c)Asid heptadeconig (C17): <0.4%

(ch)Cis.9 – asid heptadecanöig (C17:1) <0.3%

(d)Asidau brasterog y mae hyd eu cadwyn yn 20 atom carbon neu fwy (C20+): <5%

Dogfennau masnachol

17.—(1Caiff dogfennau masnachol fod ar ffurf ysgrifenedig neu electronig.

(2Rhaid bod dogfen fasnachol ysgrifenedig neu allbrint o ddogfen electronig yn mynd gyda llwyth o olew coginio defnyddiedig tra bydd yn cael ei gludo.

(3Rhaid i'r cynhyrchydd, y derbynnydd a'r cludydd gadw copi bob un o ddogfen fasnachol ysgrifenedig neu, yn achos gwybodaeth electronig, cofnod o'r wybodaeth honno.

(4Rhaid i ddogfennau masnachol gynnwys yr wybodaeth ganlynol —

(a)cyfeiriad y safle y cymerwyd yr olew coginio defnyddiedig ohono;

(b)y dyddiad y cymerwyd yr olew coginio defnyddiedig o'r safle;

(c)ansawdd yr olew coginio defnyddiedig a disgrifiad ohono;

(ch)maint yr olew coginio defnyddiedig;

(d)enw a chyfeiriad y cludydd;

(dd)cyrchnod yr olew coginio defnyddiedig; ac

(e)cyfeirif unigryw sy'n cysylltu'r casglydd a'r cynhwysydd neu'r cerbyd â'r safle y cymerwyd yr olew coginio defnyddiedig ohono.

Cofnodion

18.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n anfon, yn cludo neu'n derbyn olew coginio defnyddiedig gadw cofnod sy'n cynnwys yr wybodaeth a bennir yn y ddogfen fasnachol.

(2Ar gyfer olew coginio defnyddiedig sy'n addas i'w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid, rhaid bod modd olrhain yr olew yn llawn hefyd drwy'r cofnodion o'r safle tarddiad nes iddo gael ei ymgorffori yn y bwyd anifeiliaid.

(3Ar gyfer olew coginio defnyddiedig nad yw'n addas i'w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid, rhaid i'r person sy'n anfon yr olew i'w waredu gadw cofnod hefyd sy'n dangos dull a man ei waredu a'r dyddiad yr anfonwyd yr olew i gael ei waredu.

Rhestr o safleoedd

19.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gadw rhestr o enwau a chyfeiriadau'r personau canlynol a gymeradwywyd:

(a)casglwyr olew coginio defnyddiedig;

(b)gweithredwyr safleoedd trin; ac

(c)gweithredwyr safleoedd blendio.

(2Rhaid pennu Rhif adnabod swyddogol ar gyfer pob casglydd a gweithredydd safle a gymeradwywyd.

(3Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn trefnu bod y rhestr hon ar gael i'r cyhoedd.

RHAN IVGWAED MAMALIAID(45)

Cyffredinol

1.  Fel rhan-ddirymiad o Atodiad VII, Pennod 11, paragraff 1 i Reoliad y Gymuned, caniateir i waed mamaliaid gael ei brosesu yn unol â'r Rhan hon.

2.  Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo defnyddio dulliau prosesu 2 i 5 neu 7 o Atodiad V i Reoliad y Gymuned ar gyfer prosesu gwaed mamalaidd.

3.—(1Rhaid atal y gymeradwyaeth ar unwaith os nad yw'r amodau y cafodd ei rhoi odanynt yn cael eu bodloni.

(2Pan fydd wedi'i hatal, dim ond os bydd holl ofynion Rheoliad y Gymuned wedi'u bodloni y caniateir adfer y gymeradwyaeth.

(3Rhaid gwaredu unrhyw ddeunydd nad yw wedi'i brosesu yn unol â'r Rhan hon neu Reoliad y Gymuned yn unol â chyfarwyddyd arolygydd.

4.  Dim ond os oedd y gweithredydd yn prosesu ar y safle hwn, gan ddefnyddio'r cyfarpar hwnnw a defnyddio'r dulliau hynny ar 1 Tachwedd 2002.

5.  Rhaid cydymffurfio â phob darpariaeth berthnasol arall yn Rheoliad y Gymuned.

RHAN VGWEITHFEYDD OLEOCEMEGOL SY'N DEFNYDDIO BRASTERAU WEDI'U RENDRO O DDEUNYDDIAU CATEGORI 2 A CHATEGORI 3(46)

Rhwymedigaethau cyffredinol

1.  Fel rhan-ddirymiad o erthygl 14 o Reoliad y Gymuned, caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo defnyddio gweithfeydd oleocemegol i brosesu brasterau wedi'u rendro sy'n deillio o ddeunydd Categori 2 a deunydd Categori 3 ill dau ar yr amod eu bod yn cydymffurfio â'r amodau canlynol.

2.—(1Rhaid atal y gymeradwyaeth ar unwaith os nad yw'r amodau y cafodd ei rhoi odanynt yn cael eu bodloni.

(2Pan fydd wedi'i hatal, dim ond os bydd holl ofynion Rheoliad y Gymuned wedi'u bodloni y caniateir adfer y gymeradwyaeth.

(3Rhaid gwaredu unrhyw ddeunydd nad yw wedi'i brosesu yn unol â'r Rhan hon neu Reoliad y Gymuned yn unol â chyfarwyddyd arolygydd.

3.  Dim ond i safleoedd a chyfleusterau a oedd yn gweithredu felly ar 1 Tachwedd 2002 y caniateir rhoi'r gymeradwyaeth.

Gofynion penodol

4.—(1Dim ond brasterau wedi'u rendro sy'n deillio o ddeunyddiau Categori 2 a Chategori 3 y caniateir eu defnyddio.

(2Rhaid i frasterau wedi'u rendro sy'n deillio o ddeunyddiau Categori 2 gael eu prosesu yn unol â'r safonau ym Mhennod III o Atodiad VI i Reoliad y Gymuned.

(3Rhaid defnyddio prosesau ychwanegol megis distyllu, hidlo a phrosesu ag amsugnyddion i wella ymhellach ddiogelwch y deilliadau gwêr.

RHAN VIGWEITHFEYDD HYLOSGI NEU GYDHYLOSGI ISEL EU CYNHWYSEDD NAD YDYNT YN HYLOSGI NAC YN CYDHYLOSGI DEUNYDDIAU RISG PENODEDIG NEU GARCASAU SY'N EU CYNNWYS(47)

Rhwymedigaethau cyffredinol

1.  Fel rhan-ddirymiad o Erthygl 12(3) o Reoliad y Gymuned, caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo defnyddio gweithfeydd hylosgi neu gydhylosgi isel eu cynhwysedd nad ydynt yn bodloni'r gofynion sydd wedi'u nodi yn Atodiad IV i Reoliad y Gymuned os ydynt yn cael eu rhedeg yn unol â'r Rhan hon.

2.—(1Rhaid atal y gymeradwyaeth ar unwaith os nad yw'r amodau y cafodd ei rhoi odanynt yn cael eu bodloni.

(2Pan fydd wedi'i hatal, dim ond os bydd holl ofynion Rheoliad y Gymuned, gan gynnwys gofynion Atodiad IV, wedi'u bodloni y caniateir adfer y gymeradwyaeth.

(3Rhaid gwaredu unrhyw ddeunydd nad yw wedi'i hylosgi yn unol â'r Rhan hon neu Reoliad y Gymuned yn unol â chyfarwyddyd arolygydd.

3.  Dim ond ar gyfer llosgyddion a oedd yn weithredol ar 1 Tachwedd 2002 y caniateir rhoi'r gymeradwyaeth.

Gofynion penodol

4.  Rhaid i'r gweithredydd gymryd pob mesur angenrheidiol i sicrhau —

(a)bod sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn cael eu trafod a'u storio'n ddiogel ac yn cael eu hylosgi neu eu cydhylosgi heb oedi gormodol yn y fath fodd ag i'w rhydwytho i ludw sych;

(b)bod y lludw sych yn cael ei waredu'n briodol a bod cofnodion yn cael eu cadw o faint o sgil-gynhyrchion anifeiliaid a gafodd eu hylosgi a disgrifiad ohonynt a dyddiad eu hylosgi;

(c)nad yw'r lludw sych yn cael ei symud o'r siambr ymlosgi oni bai bod yr ymlosgi wedi'i gwblhau; ac

(ch)bod gwaith cludo a storio'r lludw yn y cyfamser yn digwydd mewn cynhwysydd sydd wedi'i gau i atal y lludw rhag cael ei wasgaru yn yr amgylchedd a'i fod yn cael ei waredu'n ddiogel;

a bydd methu â gwneud hynny yn dramgwydd.

5.  Yn achos toriad i lawr neu gamweithio, rhaid i'r gweithredydd leihau'r gweithrediadau neu eu cau i lawr cyn gynted ag y bo'n ymarferol nes bod modd ailgychwyn a bydd methu â gwneud hynny yn dramgwydd.

Rheoliad 51

ATODLEN 4

Diwygiadau

Diwygiadau i Reoliadau TSE (Cymru) 2002

1.  Mae Rheoliadau TSE (Cymru) 2002(48) yn cael eu diwygio yn unol â'r Atodlen hon.

2.  Mae Rheoliadau 33(4), 34(2), 52, 54, 56(1)(a), 56(2)(b), 56(4)(c) a (d), 63 i 68, 69(1), (3), (4) a (5) ac Atodlen 6 yn cael eu dirymu.

3.  Ar ddiwedd rheoliad 13 ychwanegir —

(7) In this Regulation mammalian meat and bone meal does not include any compost or digestion residues resulting from the treatment of animal by-products in a composting or biogas plant in accordance with the Animal By-Products Regulations 2003..

4.  Ar ôl rheoliad 34 mewnosodir —

Mixing specified risk material with other animal material

34A.  Any animal material that comes into contact with, or is mixed with, specified risk material must be treated as specified risk material..

5.  Yn lle rheoliad 40 rhoddir y rheoliad canlynol —

40.  Once specified risk material has been removed from the carcase and treated in accordance with this Part of these Regulations, including any material treated as if it were specified risk material in accordance with regulation 33(5) or 34(4) above, or, in the case of specified solid waste, recovered from the drainage system, the person responsible for its removal or recovery must, without unreasonable delay, send it directly to —

(a)be handled in accordance with the Animal By-Products Regulations 2003; or

(b)to premises licenced under regulation 57.

6.  Yn lle Atodlen 5 (Cymhwyso Rhan IV o'r Rheoliadau at anifeiliaid y cynllun) rhoddir yr Atodlen ganlynol —

SCHEDULE 5APPLICATION OF PART IV OF THE REGULATIONS TO SCHEME ANIMALS

PROVISION OF THE REGULATIONSEXTENT TO WHICH THE PROVISON APPLIES TO SCHEME ANIMALS
Regulation 33(3)Not applicable
Regulation 33(4)Subject to the modification that from the point at which specified risk material derived from a scheme animal is removed from the slaughterhouse, it may come into contact with any other animal material from such an animal
Regulation 34Not applicable
Regulation 39(3)(b)Not applicable
Regulation 57Not applicable

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth yng Nghymru ar gyfer gweinyddu a gorfodi Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar 3 Hydref 2002 yn gosod rheolau iechyd ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid nad ydynt wedi'u bwriadu ar gyfer eu bwyta gan bobl (OJ Rhif L273, 10.10.2002, t.1) (“Rheoliad y Gymuned”). Maent yn dirymu Gorchymyn Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid 1999, O.S.1999/646, a Gorchymyn Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Diwygio) (Cymru) 2001, O.S. 2001/1735 (Cy. 122).

Maent yn gwneud darpariaeth hefyd ar gyfer gorfodi'r mesurau canlynol, sy'n diwygio Rheoliad y Gymuned ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer trefniadau trosiannol —

(a)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 808/2003 yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn gosod rheolau iechyd ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid nad ydynt wedi'u bwriadu ar gyfer eu bwyta gan bobl(49);

(b)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003 yn gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglŷn â gwahardd ailgylchu mewnrywogaethol ar gyfer pysgod, claddu a llosgi sgil-gynhyrchion anifeiliaid a mesurau trosiannol penodol(50);

(c)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 813/2003 ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglŷn â chasglu, cludo a gwaredu cyn-fwydydd(51);

(ch)Penderfyniad y Comisiwn 2003/320/EC ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglŷn â defnyddio olew coginio defnyddiedig mewn bwyd anifeiliaid(52);

(d)Penderfyniad y Comisiwn 2003/321/EC ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglŷn â'r safonau prosesu ar gyfer gwaed mamaliaid(53);

(dd)Penderfyniad y Comisiwn 2003/326/EC ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglŷn â gwahanu gweithfeydd oleocemegol Categori 2 a rhai Categori 3(54));

(e)Penderfyniad y Comisiwn 2003/327/EC ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglŷn â gweithfeydd hylosgi neu gydhylosgi isel eu cynhwysedd nad ydynt yn hylosgi nac yn cydhylosgi deunydd risg penodedig neu garcasau sy'n eu cynnwys(55).

Bwriedir gwneud darpariaeth yng Nghymru drwy offeryn ar wahân ar gyfer gweinyddu a gorfodi mesurau yn Rheoliad y Gymuned ynglŷn ag allforio a masnachu rhwng Aelod-wladwriaethau.

Mae Rheoliad y Gymuned yn categoreiddio deunydd sy'n ffurfio neu'n cynnwys sgil-gynhyrchion anifeiliaid y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt fel a ganlyn —

deunydd categori 1 lle mae'r sgil-gynhyrchion

(a)

yn rhannau o gyrff anifeiliaid yr amheuir eu bod wedi'u heintio ag enseffalopathi sbyngffurf trosglwyddadwy (“TSE”), neu anifeiliaid y cadarnhawyd eu bod wedi'u heintio â TSE, neu anifeiliaid a laddwyd wrth ddifa'r clefyd hwnnw, yn rhannau o gyrff anifeiliaid nad ydynt wedi'u ffermio nac yn rhai gwyllt (oni amheuir bod yr anifeiliaid gwyllt wedi'u heintio â chlefydau trosglwyddadwy), yn enwedig anifeiliaid anwes, anifeiliaid sw ac anifeiliaid syrcas, ac anifeiliaid ar gyfer arbrofion;

(b)

yn ddeunydd risg penodedig (“DRP”) o dan Reoliad (EC) Rhif 999/2001, a chyrff cyfan anifeiliaid meirw sy'n cynnwys DRP os nad oedd wedi'i dynnu ohonynt wrth eu gwaredu;

(c)

wedi'u trin â gweddillion halogion amgylcheddol penodol neu'n eu cynnwys;

(ch)

yn cael eu casglu o broses trin dŵ r gwastraff o weithfeydd neu safleoedd prosesu categori 1 lle mae DRP yn cael ei dynnu oddi wrthynt;

(d)

yn wastraff arlwyo o gyfrwng cludo sy'n gweithredu'n rhyngwladol; ac

(dd)

yn ddeunydd categori 1 wedi'i gymysgu â deunydd categori 2 a deunydd categori 3;

deunydd categori 2 lle mae'r sgil-gynhyrchion

(a)

yn wrtaith ac yn cynnwys y llwybr treulio;

(b)

wedi'u casglu o broses trin gwastraff o ladd-dai ac eithrio'r math sydd wedi'i nodi uchod;

(c)

yn cynnwys gweddillion cyffuriau milfeddygol a halogion penodol;

(ch)

yn rhai nad ydynt yn ddeunydd categori 1 ond sydd wedi'u mewnforio o wladwriaethau nad ydynt yn Aelod-wladwriaethau ac sy'n methu â bodloni archwiliadau mewnforio'r Gymuned ond sydd heb eu hailallforio na'u derbyn o dan reolau mewnforio'r Gymuned;

(d)

yn anifeiliaid ac yn rhannau o anifeiliaid nad ydynt yn ddeunydd categori 1 ac nad oeddent wedi'u cigydda i bobl eu bwyta;

(dd)

yn ddeunydd categori 2 wedi'i gymysgu â deunydd categori 3; ac

(e)

yn rhai nad ydynt yn ddeunydd categori 1 nac yn ddeunydd categori 3;

deunydd categori 3 lle mae'r sgil-gynhyrchion yn deillio o anifeiliaid sy'n ffit i bobl eu bwyta yn unol â deddfwriaeth y Gymuned ac sydd

(a)

yn rhannau o'r anifeiliaid hynny nad ydynt wedi'u bwriadu ar gyfer eu bwyta gan bobl am resymau masnachol;

(b)

yn rhannau o'r anifeiliaid hynny nad ydynt eu hunain yn ffit i bobl eu bwyta;

(c)

yn grwyn, yn garnau, yn gyrn, yn wrych moch ac yn blu (ac (ch) yn waed anifeiliaid anghilgnöol) o anifeiliaid sydd wedi'u nodi fel y cyfryw mewn archwiliadau cyn iddynt gael eu cigydda mewn lladd-dy;

(d)

wedi deillio o gynhyrchu cynhyrchion a oedd wedi'u bwriadu ar gyfer eu bwyta gan bobl;

(dd)

yn gyn-fwydydd a oedd yn tarddu o anifeiliaid ac eithrio gwastraff arlwyo nad oeddent bellach wedi'u bwriadu ar gyfer eu bwyta gan bobl am resymau masnachol neu oherwydd diffygion nad ydynt yn creu risg i bobl;

(e)

yn llaeth crai o anifeiliaid nad ydynt yn amlygu unrhyw arwyddion clinigol o glefyd y gellir ei drosglwyddo drwy'r cynnyrch hwnnw;

(f)

yn deillio o anifeiliaid môr, ac eithrio mamaliaid môr, a ddaliwyd yn y môr agored at ddibenion cynhyrchu blawd pysgod;

(ff)

yn deillio o bysgod sy'n dod o weithfeydd sy'n gweithgynhyrchu cynhyrchion pysgod i bobl eu bwyta;

(g)

yn blisg, yn sgil-gynhyrchion deorfeydd ac wyau wedi cracio (ac (ng) yn waed, crwyn, carnau, plu, gwlân, cyrn, blew a ffwr) o anifeiliaid nad oes unrhyw arwyddion clinigol arnynt o glefyd y gellid ei drosglwyddo drwy'r cynnyrch hwnnw; ac

(h)

yn wastraff arlwyo ac eithrio o gyfrwng cludo sy'n gweithredu'n rhyngwladol.

Mae'r Rheoliadau yn darparu fel a ganlyn:

(a)ei bod yn dramgwydd penodol i gategoreiddio, casglu, cludo, gwaredu, storio, prosesu neu ddefnyddio deunydd categori 1, categori 2, neu gategori 3 onid yw'n unol â Rheoliad y Gymuned (rheoliadau 4, 5 a 6);

(b)ei bod yn dramgwydd penodol i gasglu, cludo, dynodi neu storio sgil-gynhyrchion anifeiliaid onid yw'n unol â Rheoliad y Gymuned (rheoliad 8);

(c)bod bwydo anifeiliaid a ffermir â sgil-gynhyrchion anifeiliaid heb eu prosesu yn cael ei wahardd a bod y cyfle sydd gan anifeiliaid i fynd at sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn cael ei reoli (rheoliad 9).

Mae rheoliad 10 yn gorfodi'r cyfyngiadau ar ddefnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn Erthygl 22 o Reoliad y Gymuned. Mae hyn yn cynnwys ailgylchu mewnrywogaethol, bwydo gwastraff arlwyo i anifeiliaid fferm a dodi gwrteithiau organig ar dir pori. Mae rheoliad 11 yn diffinio tir pori. Mae rheoliad 12 yn caniatáu ailgylchu pysgod o fewn rhywogaethau ar ôl 1 Ionawr 2004. Tan hynny mae'n cael ei ganiatáu drwy fesur trosiannol yn Rhan VI o Atodlen 4.

Mae Rheoliadau 13 i 16 yn darparu ar gyfer cymeradwyo safleoedd ar gyfer y gwahanol fathau o ddulliau trin sgil-gynhyrchion anifeiliaid. Mae Rheoliad 16 yn darparu nad oes angen cymeradwyaeth ar gyfer compostio ar safle y deilliodd y deunydd a gompostiwyd ohono os cydymffurfiwyd ag amodau'r rheoliad hwnnw.

Mae Rheoliadau 17 i 21 yn darparu ar gyfer gwiriadau mewn gweithfeydd, wrth samplu ac mewn labordai a gymeradwywyd.

Mae Rheoliadau 22 i 24 yn rheoleiddio gosod ar y farchnad sgil-gynhyrchion anifeiliaid amrywiol sydd wedi'u prosesu.

Mae Rheoliadau 25 i 27 yn darparu rhan-ddirymiadau ynglŷn â defnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid ar gyfer tacsidermi a bwydo rhai anifeiliaid penodedig. Mae Rheoliad 28 yn caniatáu claddu anifeiliaid anwes.

Mae Rheoliad 29 a 30 yn darparu ar gyfer claddu neu losgi yn achos brigiad clefyd neu ar gyfer llosgi neu gladdu gwenyn a chynhyrchion gwenyna.

Mae Rheoliadau 31 i 38 yn darparu ar gyfer cadw cofnodion.

Mae Rheoliadau 39 i 41 yn darparu ar gyfer ceisiadau am gymeradwyaethau, atal neu ddirymu cymeradwyaethau ac apêl yn erbyn hysbysiad i ddiwygio, atal neu ddirymu cymeradwyaeth.

O dan reoliadau 42 i 44 caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i sgil-gynnyrch anifeiliaid neu wastraff arlwyo gael ei waredu ac yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gerbyd, cynhwysydd neu safle gael ei lanhau a'i ddiheintio. Rhaid cydymffurfio ag unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Rheoliadau hyn ar draul y person y mae'r hysbysiad wedi'i gyflwyno iddo.

Mae Rheoliadau 45 a 46 yn darparu pwerau mynediad a thramgwydd o rwystro arolygydd.

Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gweithfeydd bio-nwy a chompostio, ac mae Atodlen 2 yn darparu ar gyfer dulliau profi.

Mae Atodlen 3 yn cynnwys darpariaethau trosiannol o ran ailgylchu pysgod o fewn rhywogaethau, gwaredu cyn-fwydydd, olewau coginio defnyddiedig mewn bwyd anifeiliaid, gwaredu gwaed mamaliaid, gweithfeydd oleocemegol a llosgyddion isel eu cynhwysedd.

Mae torri'r Rheoliadau yn dramgwydd sy'n dwyn cosb ar gollfarn ddiannod o ddirwy hyd at yr uchafswm statudol neu gyfnod o chwe mis yn y carchar. O gollfarnu ar dditiad, dirwy heb derfyn neu dymor o ddwy flynedd yn y carchar yw'r gosb (rheoliad 48).

Mae'r Rheoliadau yn cael eu gorfodi gan yr awdurdod lleol ac eithrio ar safleoedd penodedig (rheoliad 49).

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi ac mae ar gael oddi wrth yr Is-adran Iechyd Anifeiliaid, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(3)

OJ Rhif L273, 10.10.2002, t.1.

(4)

OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.1.

(5)

OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.14.

(6)

OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.22.

(7)

OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.24.

(8)

OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.30.

(9)

OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.42.

(10)

OJ Rhif L117 13.5.2003, t.44.

(11)

Ychwanegwyd Pennod VII at Atodiad IV gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 808/2003.

(12)

Ychwanegwyd y paragraffau hyn gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 808/2003.

(13)

Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig, British Standards House, 389 Chiswick High Road, Llundain W4 4AL.

(14)

Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig; gweler uchod.

(15)

Cyhoeddwyd gan y Pwyllgor Nordig ar Ddadansoddi Bwyd, Y Sefydliad Milfeddygol Cenedlaethol, Adran Bwyd a Hylendid, Blwch Post 8156, N-0033, Oslo, Norwy.

(16)

Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig; gweler uchod.

(19)

O.S. 1995/2148 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/3205.

(21)

O.S. 1995/3205 fel y'i diwygiwyd gan O.S.1996/3124.

(24)

1998 p.38.

(25)

Agar Shahidi-Ferguson - Gweler Shahidi, S. A. a Ferguson, A. R. (1971) Applied Microbiology 21:500-506.American Society for Microbiology, 1913 1 St N.W., Washington DC 20006, UDA.

(26)

Cyfrwng symudoldeb nitrad - Gweler Hauschild AHW, Gilbert RJ, Harmon SM, O'Keefe MF, Vahlefeld R, (1997) ICMSF Methods Study VIII, Canadian Journal of Microbiology 23, 884-892. National Research Council of Canada, Ottawa ON K1A oR6, Canada.

(27)

Cyfrwng Gelatin Lactos - Gweler Hauschild AHW, Gilbert RJ, Harmon SM, O'Keefe MF, Vahlefield R, (1997) ICMSF Methods Study VIII, Canadian Journal of Microbiology 23, 884-892.

(28)

Disgiau gelatin golosg - Gweler Mackie and McCartney, (1996) Practical Medical Microbiology 14, 509. Churchill Livingstone, Robert Stevenson House, 1-3 Baxter’s Place, Leith Walk, Caeredin EH1 3AF.

(29)

The National Collection of Type Cultures, Central Public Health Laboratory, 61 Colindale Ave, Llundain NW9 5HT.

(30)

Dŵ r Pepton Byfferog — Gweler Edel, W. and Kampelmacher, E.H. (1973) Bulletin of World Health Organisation, 48: 167-174, World Health Organisation Distribution and Sales, CH-1211, Genéve 27, Y Swisdir (ISSN 0042-9686).

(31)

Rappaports Vassiliadis Broth — Gweler Vassiliadis P, Pateraki E, Papaiconomou N, Papadkis J A, and Trichopoulos D (1976) Annales de Microbiologie (Institute Pasteur) 127B: 195-200, Elsevier, 23 rue Linois, 75724 Paris, Cedex 15, Ffrainc.

(32)

Brilliant Green Agar — Gweler Edel W and Kampelmacher E H (1969) Bulletin of World Health Organisation 41:297-306, World Health Organisation Distribution and Sales, CH-1211, Genéve 27, Y Swisdir (ISSN 0042-9686).

(33)

Xylose Lisene Deoxycholate Agar — Gweler Taylor W I, (1965) American Journal of Clinical Pathology, 44:471-475, Lippincott and Raven, 227E Washington Street, Philadelphia PA 19106, UDA.

(34)

MacConkey agar — Gweler (1963) International Standards for Drinking Water, World Health Distribution and Sales, CH-1211, Genéve 27, Y Swisdir.

(35)

Buffered Peptone Water/Lysine/Glucose — Gweler Ogden I D (1988) International Journal of Food Microbiology 7:287-297, Elsevier Science BV, PO Box 211, 1000 AE, Amsterdam, Yr Iseldiroedd (ISSN 0168-1695).

(36)

Selenite Cystine Trimethylamine-N-Oxide Dulcitol — Gweler Easter, M C and Gibson, D M, (1985) Journal of Hygiene 94:245-262, Cambridge University Press, Caer-grawnt.

(37)

Lysine Decarboxylase Glucose — Gweler Ogden I D (1988) International Journal of Food Microbilogy 7:287-297, Elsevier Science BV, PO Box 211, 1000 AE, Amsterdam, Yr Iseldiroedd (ISSN 0168-1695).

(38)

Violet Red Bile Glucose Agar — Gweler Mossell D A A, Eelderink I, Koopmans M, van Rossem F (1978) Laboratory practice 27 No. 12 1049-1050; Emap Maclaren, PO Box 109, Maclaren House, 19 Scarbrook Road, Croydon CR9 1QH.

(39)

Mae cymedr Rhif yddol o 30 yn gyfwerth i 3x10 2 uned ffurfio cytref fesul gram o'r sampl gwreiddiol.

(40)

Mae'r Rhan hon o'r Atodlen yn gorfodi Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglŷn â gwahardd ailgylchu mewnrywogaethol ar gyfer pysgod, claddu a llosgi sgil-gynhyrchion anifeiliaid a mesurau trosiannol penodol. OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.14.

(41)

Mae'r Rhan hon o'r Atodlen yn gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 813/2003 ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglŷn â chasglu, cludo a gwaredu cyn-fwydydd, OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.22.

(42)

Mae'r Rhan hon o'r Atodlen yn gorfodi Penderfyniad y Comisiwn 2003/320/EC ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglŷn â defnyddio mewn bwyd olewau coginio defnyddiedig, OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.24.

(43)

OJ Rhif L 140, 30.05.2002, t.10.

(44)

Biffenylau polyclorinedig ICES7.

(45)

Mae'r Rhan hon o'r Atodlen yn gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 2003/321/EC ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglŷn â'r safonau prosesu ar gyfer gwaed mamaliaid, OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.30.

(46)

Mae'r Rhan hon o'r Atodlen yn gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 2003/326/EC ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglŷn â gwahanu gweithfeydd oleocemegol Categori 2 a Chategori 3, OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.42.

(47)

Mae'r Rhan hon o'r Atodlen yn gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 2003/327/EC ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglŷn â gweithfeydd hylosgi neu gydhylosgi isel eu cynhwysedd nad ydynt yn hylosgi nac yn cydhylosgi deunyddiau risg penodedig neu garcasau sy'n eu cynnwys, OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.44.

(49)

OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.1.

(50)

OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.14.

(51)

OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.22.

(52)

OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.24.

(53)

OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.30.

(54)

OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.42.

(55)

OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.44.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources