1. Yn unol ag Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003 yn gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglŷn â gwahardd ailgylchu mewnrywogaethol ar gyfer pysgod, claddu a llosgi sgil-gynhyrchion anifeiliaid a mesurau trosiannol penodol, ni fydd gwahardd bwydo pysgod â phrotein anifeiliaid wedi'i brosesu sy'n deillio o gyrff neu rannau o gyrff pysgod o'r un rhywogaeth yn Erthygl 22(1)(a) o Reoliad y Gymuned yn gymwys.
Mae'r Rhan hon o'r Atodlen yn gorfodi Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglŷn â gwahardd ailgylchu mewnrywogaethol ar gyfer pysgod, claddu a llosgi sgil-gynhyrchion anifeiliaid a mesurau trosiannol penodol. OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.14.