- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi'i wneud
18 Tachwedd 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddo gan adran 216, (4)(b) a (5) o Ddeddf Addysg 2002(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2003.
2. Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn yn cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru yn unig.
3. Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at Rannau, adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at Rannau ac adrannau o Ddeddf Addysg 2002 a'r Atodlenni iddi.
4. 1 Rhagfyr 2003 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
5. 4 Rhagfyr 2003 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan II o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
6. 1 Ionawr 2004 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan III o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
7. 9 Ionawr 2004 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan IV o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Tachwedd 2003
Erthyglau 4, 5, 6 a 7
Y ddarpariaeth | Y pwnc |
---|---|
Adran 46 | Fforymau Derbyn |
Adran 188 i'r raddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 16 isod | Arolygiadau ysgolion |
Atodlen 16, paragraffau 1 i 3 | Diwygiadau i Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996 |
Y ddarpariaeth | Y pwnc |
---|---|
Adran 41 | Penderfyniad cyllideb benodedig yr AALl |
Adran 42 | Pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol i osod lleiafswm cyllideb ysgolion |
Adran 215(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 21 isod | Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol |
Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isod | Diddymiadau |
Atodlen 21, | Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol |
Paragraff 100 (1) a (2), | |
Paragraff 113 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym ac eithrio is-baragraffau (a), (b) ac (f), | |
Paragraff 125, | |
Yn Atodlen 22, Rhan 3, diddymu — | Diddymiadau |
Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(3), | |
Adran 46, | |
Yn adran 143, y cofnod mewn perthynas â “local schools budget”. |
Y ddarpariaeth | Y pwnc |
---|---|
Adrannau 157 i 171 | Rheoleiddio ysgolion annibynnol |
Adrannau 172 i 174 | Ysgolion annibynnol: plant ag anghenion addysgol arbennig |
Adran 215(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 21 isod | Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol |
Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isod | Diddymiadau |
Atodlen 21 | Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol |
Paragraff 122(b), | |
Yn Atodlen 22, Rhan 3, diddymu — | Diddymiadau |
Deddf Pensiynau ac Ymddeoliad Barnwyr 1993(4), yn Atodlen 5, y cyfeiriad at “Chairman of an Independent Schools Tribunal”, yn Atodlen 7, paragraff 5(5) (xxvii), | |
Deddf Addysg 1996, adrannau 464 i 478, adran 537(9) a (10), yn adran 568, yn is-adran (2) y geiriau “section 468, 471(1) and 474”, yn is-adran (3) y geiriau o “section 354(6)” hyd at “401” ac is-adran (4), yn adran 580, y cofnodion sy'n ymwneud â “register, registration; registered school; Registrar of Independent Schools”, Atodlen 34, | |
Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996(5), yn adran 10, is-adran (3)(e) ac, yn is-adran (4B), paragraff (f) a'r “or” blaenorol, yn adran 11(5), ym mharagraff (a), “e”, yn adran 20(3), paragraff (b) a'r “or” blaenorol, yn adran 21, yn is-adran (4), paragraff (b) a'r “or” blaenorol, yn Atodlen 3, yn y diffiniad o “appropriate authority” ym mharagraff 1, ym mharagraff (c), “e”, | |
Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(6), yn adran 3, is-adran (3)(c), | |
Deddf Safonau Gofal 2000(7), Adran 100, yn Atodlen 4, paragraff 24. |
Y ddarpariaeth | Y pwnc |
---|---|
Adran 51 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 4 isod | Plant sydd wedi'u gwahardd yn barhaol o ddwy ysgol neu fwy |
Adran 52(1) i (6) | Gwaharddiadau |
Adran 207 awdurdodau addysg lleol | Adennill: addasu rhwng |
Adran 208 | Adennill: achosion arbennig |
Adran 215(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 21 isod | Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol |
Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isod | Diddymiadau |
Atodlen 4, paragraffau 1 a 4 neu fwy | Plant sydd wedi'u gwahardd yn barhaol o ddwy ysgol |
Atodlen 21, | Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol |
Paragraff 1 ond i'r graddau y mae'n ymwneud â lwfansau ar gyfer panelau apêl yn erbyn gwaharddiad, | |
Paragraff 2 ac eithrio is-baragraff (a), | |
Paragraff 22 ond i'r graddau y mae'n amnewid paragraff 15(b) newydd o Atodlen 1 i Ddeddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992, | |
Paragraff 27(1) a (2), | |
Paragraff 112 ac eithrio i'r graddau y mae'n mewnosod y diffiniad o “foundation governor”, | |
Paragraff 113 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym ac eithrio is-baragraffau (b) ac (f), | |
Yn Atodlen 22, Rhan 3, diddymu — | Diddymiadau |
Deddf Llywodraeth Leol 1974(8), adran 25(5)(b), | |
Deddf Addysg 1996(9), adran 492, Yn Atodlen 1, paragraff 7, | |
Deddf Addysg 1997(10). Yn Atodlen 7, paragraff 36, | |
Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, adrannau 64 i 68, Atodlen 18. |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 1 Rhagfyr 2003, 4 Rhagfyr 2003, 1 Ionawr 2004 a 9 Ionawr 2004 y darpariaethau hynny yn Neddf Addysg 2002 a bennir yn Rhannau I, II, III a IV o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
Mae'r cyfeiriadau isod at adrannau ac Atodlenni (heb fanylion pellach) yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 a'r Atodlenni iddi.
Yn achos darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn ac sy'n diwygio deddfwriaeth sy'n bodoli eisoes, mae'r cyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol yn y darpariaethau hynny i'w darllen, mewn perthynas â Chymru, fel cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru — gweler adran 211.
Dyma fydd effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan I o'r Atodlen —
Mae adran 46 yn mewnosod adran 85A newydd o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (“Deddf 1998”), yn ei gwneud yn ofynnol i AALlau sefydlu fforymau derbyn yn unol â rheoliadau sydd i'w gwneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”). Bydd y fforymau yn cynghori AALlau ar faterion sy'n ymwneud â derbyniadau ysgol.
Mae adran 188 a pharagraffau 1 i 3 o Atodlen 16 yn diwygio Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i Brif Arolygydd Cymru roi gwybod i'r Cynulliad Cenedlaethol am ansawdd arweinyddiaeth mewn ysgolion yng Nghymru a rheolaeth arnynt, gan gynnwys a ydyw'r adnoddau ariannol yn cael eu rheoli'n effeithiol. Mae'r wybodaeth hon hefyd i gael ei chynnwys mewn adroddiad gan arolygydd cofrestredig sy'n cynnal arolygiad o'r ysgol.
Dyma fydd effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan II o'r Atodlen —
Mae adran 41 yn mewnosod adran 45A newydd o Ddeddf 1998 sy'n ymwneud â threfniadau cyllido ar gyfer AALlau ac ysgolion. Cyflwynir diffiniadau newydd o “LEA budget” a “schools budget”. Bydd rheoliadau yn nodi'r manylion.
Mae adran 42 yn mewnosod adrannau 45B a 45C newydd o Ddeddf 1998 sy'n galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i osod lleiafswm cyllideb ysgolion ar gyfer AALl os yw'r gyllideb a gynigir gan yr AALl yn annigonol neu os yw'r AALl wedi methu hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o'i gyllideb arfaethedig.
Mae adran 215 ac Atodlenni 21 a 22 yn gwneud mân ddiwygiadau canlyniadol a diddymiadau.
Dyma fydd effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan III o'r Atodlen —
Mae adrannau 157 i 171 yn darparu ar gyfer system newydd i reoleiddio ysgolion annibynnol. Bydd rheoliadau a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 157 yn nodi'r safonau y bydd angen i ysgolion annibynnol eu bodloni. Mae adran 158 yn darparu ar gyfer parhau cofrestr o ysgolion annibynnol sydd i'w gadw gan y Cynulliad Cenedlaethol. Mae adran 159 yn ei gwneud yn dramgwydd i redeg ysgol annibynnol na chofrestrwyd mohoni ac mae'n rhoi hawl i'r Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru fynd ar dir ac i adeiladau.
Mae adran 160 yn nodi'r wybodaeth sydd i'w chynnwys gan berchennog ysgol mewn cais i gofrestru a darparu ar gyfer y Prif Arolygydd i arolygu'r ysgol. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu o dan adran 161 a ydyw'r ysgol yn bodloni safonau'r ysgolion annibynnol oc os ydyw bydd yn cofrestru'r ysgol. O dan adran 162 gall y Cynulliad Cenedlaethol dynnu ysgol o'r gofrestr os bu newid perchennog, newid cyfeiriad neu newid penodedig mewn perthynas â'r disgyblion neu'r llety, ac na chafodd y newid hwnnw ei gymeradwyo. Mae adran 162 hefyd yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â cheisiadau ar gyfer cymeradwyaeth. Mae adrannau 163 a 164 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag arolygu ysgolion annibynnol ac adroddiadau arolygu. Mae adran 165 yn darparu os nad yw ysgol yn bodloni safonau'r ysgolion annibynnol gall y Cynulliad Cenedlaethol dynnu'r ysgol o'r gofrestr neu ei gwneud yn ofynnol i'r ysgol baratoi a gweithredu cynllun gweithredu. Mae adrannau 166 a 167 yn darparu ar gyfer hawl apelio i dribiwnlys a sefydlir o dan Ddeddf Amddiffyn Plant 1999, yn erbyn gwrthodiad i gymeradwyo newid perthnasol, penderfyniad i dynnu ysgol o'r gofrestr, gorchymyn i gymryd camau penodedig neu wrthod amrywio neu ddirymu gorchymyn o'r fath. Mae'r adrannau yn nodi'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud apêl o'r fath a phwerau'r tribiwnlys.
Mae adran 168 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth am ysgol yn cael ei darparu. Mae adran 169 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i dynnu ysgol o'r gofrestr os oes unrhyw berson yn gwneud gwaith yn yr ysgol yn groes i gyfarwyddyd neu orchymyn. Mae adran 170 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chyflwyno hysbysiadau ac mae adran 171 yn cynnwys diffiniadau.
Mae adran 172 yn diwygio'r diffiniad o ysgol annibynnol yn adran 463 o Ddeddf Addysg 1996 (“Deddf 1996”) er mwyn iddo yn awr gynnwys ysgol y mae ganddi o leiaf un disgybl â datganiad o anghenion addysgol arbennig neu sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol. Mae adran 173 yn diwygio adran 327 o Ddeddf 1996 i roi hawl mynediad i AALlau i ysgolion annibynnol i fonitro'r ddarpariaeth a wneir i blant ag anghenion addysgol arbennig. Mae adran 174 yn diwygio adran 347 o Deddf 1996 i ddarparu, pan roddir cydsyniad i leoliad plentyn mewn ysgol annibynnol, bod rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gael ei fodloni bod lle ar gael yn yr ysgol.
Mae adran 215 ac Atodlenni 21 a 22 yn gwneud mân ddiwygiadau canlyniadol a diddymiadau.
Dyma fydd effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan IV o'r Atodlen —
Mae adran 51 ac Atodlen 4, paragraffau 1 a 4, yn diwygio adran 87 o Ddeddf 1998 (sy'n tynnu'r gofyniad i dderbyn plentyn a gafodd ei wahardd yn barhaol o ddwy ysgol neu fwy). Mae adran 87 o Ddeddf 1998, fel y'i diwygiwyd, yn darparu na ddylid ystyried bod plentyn wedi'i wahardd yn barhaol pe bai corff llywodraethu neu banel gwahardd wedi cyfarwyddo bod y plentyn i'w dderbyn yn ôl i'r ysgol, pe bai wedi bod yn ymarferol ac yn briodol i wneud hynny.
Mae adran 52(1) i (6) yn rhoi'r pŵer i bennaeth ysgol a gynhelir, a'r athro neu'r athrawes sydd â gofal uned cyfeirio disgyblion, i wahardd disgybl ar sail disgyblu. Mae'r gweithdrefnau mewn perthynas â gwahardd, derbyn yn ôl ac apelau i'w nodi mewn rheoliadau a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Mae adran 207 yn ailddeddfu adran 492 o Ddeddf 1996 a darparu i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud rheoliadau mewn perthynas ag adennill rhwng awdurdodau. Mae adran 208 yn trosglwyddo'r pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau o dan adran 493 o Ddeddf 1996, sy'n ymwneud ag adennill mewn perthynas â disgyblion wedi'u gwahardd yn barhaol.
Mae adran 215 ac Atodlenni 21 a 22 yn gwneud mân ddiwygiadau canlyniadol a diddymiadau.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol Deddf Addysg 2002 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru trwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adrannau 14 i 17 | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 18(2) | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 19(6) (yn rhannol) | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Adrannau 27 a 28 | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Adran 29 | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Adran 40 (yn rhannol) | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Adran 43 | 1 Tachwedd 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Adran 49 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adrannau 54 i 56 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adrannau 60 i 64 | 1 Awst 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Adran 75 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adrannau 97 a 98 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 99(1) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 100 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 101 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 103 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adrannau 105 i 107 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 108 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 109 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adrannau 111 i 118 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 119 | 1 Hydref 2002 | 2002/2439 |
Adran 120(1) a (3) i (5) | 1 Hydref 2002 | 2002/2439 |
Adran 120(2) | 1 Awst 2003 | 2003/1667 |
Adran 121 | 1 Hydref 2002 | 2002/2439 |
Adran 122 i 129 | 1 Awst 2003 | 2003/1667 |
Adran 130 (yn rhannol) | 1 Hydref 2002 | 2002/2439 |
(yn llawn) | 1 Awst 2003 | 2003/1667 |
Adran 131 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adrannau 132 a 133 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 134 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 135 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adrannau 136 i 140 | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Adran 141 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adrannau 142 i 144 | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 145 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 146 (yn rhannol) | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 148 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 149 | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 150 | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 151(2) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 152 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 178(1) a (4) | 1 Awst 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Adran 179 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 180 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adrannau 181 i 185 | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Adran 188 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 189 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adrannau 191 i 194 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 195 (yn rhannol) | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
(yn llawn) | 1 Medi 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 196 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 197 | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Adran 199 | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Adran 200 | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 201 (yn rhannol) | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adrannau 202 a 203 | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Adran 206 | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Adran 215 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
(yn rhannol) | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
(yn rhannol) | 1 Awst 2003 | 2003/1718 (Cy.185) a 2003/1667 |
(yn rhannol) | 1 Medi 2003 | 2002/3185 (Cy.301) a 2003/1718 (Cy.185) |
Atodlen 1, paragraff 3 (yn rhannol) | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Atodlen 3, paragraffau 1 i 5 | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Atodlen 5 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Atodlen 10, paragraffau 1, 6, 11 a 15 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Atodlen 11 | 1 Hydref 2002 | 2002/2439 |
Atodlen 12, paragraffau 1, 2, 4(1) a (3), 6 a 7, | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Paragraff 12(1) a (2) | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Atodlen 13, paragraffau 1 i 3, 5, 6, 7(1) a (3) ac 8 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Atodlen 16, paragraffau 4 i 9 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Atodlen 17, paragraffau 5(1) i (4), (6) a 6 i 8 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Atodlen 18, paragraffau 1, 4, 5 a 7, | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Paragraff 8 (yn rhannol), | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Paragraffau 13 i 15, | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Paragraffau 2, 3, 6, 8 (yn llawn), 9 i 12 ac 16 i 18 | 1 Medi 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Atodlen 19 | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Atodlen 20 | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Atodlen 21 (yn rhannol) | 1 Hydref 2002 | 2002/2439 |
(yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
(yn rhannol) | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
(yn rhannol) | 1 Awst 2003 | 2003/1667 |
(yn rhannol) | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Atodlen 22 (yn rhannol) | 1 Hydref 2002 | 2002/2439 |
(yn rhannol) | 9 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
(yn rhannol) | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
(yn rhannol) | 1 Awst 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
(yn rhannol) | 1 Medi 2003 | 2002/3185 (Cy.301), 2003/1718 (Cy.185) a 2003/1667 |
Mae amryw o ddarpariaethau Deddf Addysg 2002 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2002/2002 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2018), O.S. 2002/2439, O.S. 2002/2952, O.S. 2003/124, O.S. 2003/1115, O.S. 2003/1667 ac O.S. 2003/2071.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: