Offerynnau Statudol Cymru
2003 Rhif 3037 (Cy.285)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled (Cymru) 2003
Wedi'u gwneud
26 Tachwedd 2003
Yn dod i rym
28 Tachwedd 2003
Wrth arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(e), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990() ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo(), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi ystyried, yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, y cyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor(), sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled (Cymru) 2003, a dônt i rym ar 28 Tachwedd 2003 a byddant yn gymwys i Gymru'n unig.
Dehongli
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “awdurdod bwyd” (“food authority”) yw'r ystyr sydd iddo yn adran 5(1A) a (3)(a) a (b) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “cynnyrch dynodedig” (“designated product”) yw unrhyw gynnyrch coco neu siocled a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 1, fel y'i darllenir gydag unrhyw Nodyn i'r Atodlen honno ac unrhyw un o ddarpariaethau rheoliad 3 ac Atodlen 2 sy'n ymwneud â'r cynnyrch hwnnw; ac ystyr “cynnyrch siocled dynodedig” a “chynnyrch coco dynodedig” yw unrhyw gynnyrch o'r fath sydd yn gynnyrch siocled neu'n gynnyrch coco yn y drefn honno;
ystyr “Cytundeb AEE” (“EEA Agreement”) yw Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd() a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992, fel y'i haddaswyd gan y Protocol() a lofnodwyd ar 17 Mawrth 1993;
ystyr “defnyddiwr olaf” (“ultimate consumer”)yw unrhyw berson sy'n prynu ac eithrio —
(a)
at ddibenion ailwerthu,
(b)
at ddibenion sefydliad arlwyo, neu
(c)
at ddibenion busnes gweithgynhyrchu.
ystyr “disgrifiad neilltuedig” (“reserved description”), o ran unrhyw gynnyrch dynodedig, yw unrhyw ddisgrifiad a bennir mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw yng ngholofn 1 o Atodlen 1;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys cynnig rhywbeth ar werth neu ei ddatgelu ar gyfer ei werthu neu ei gael yn eich meddiant i'w werthu a dehonglir “gwerthiant ” (“sale”) yn unol â hynny;
ystyr “Gwladwriaeth yr AEE” (“EEA State”)yw Gwladwriaeth sy'n un o Bartïon Contractio Cytundeb AEE;
mae “paratoi” (“preparation”) yn cynnwys gweithgynhyrchu a phrosesu neu drin o unrhyw fath;
ystyr “Rheoliadau 1996” (“the 1996 Regulations”) yw Rheoliadau Labelu Bwyd 1996();
ystyr “sefydliad arlwyo” (“catering establishment”) yw bwyty, ffreutur, clwb, tafarn, ysgol, ysbyty neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu symudol) lle, wrth gynnal busnes, y caiff bwyd ei baratoi i'w gyflenwi i'r defnyddiwr olaf ac yn barod i'w fwyta heb baratoi pellach; a
nid yw “sylweddau bwytadwy eraill” (“other edible substances”) yn cynnwys brasterau llysiau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3 neu lenwad unrhyw gynnyrch a bennir yng ngholofn 2 o eitem 7 neu o eitem 10(a) o Atodlen 1;
(2) Caiff unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad neu Atodlen â Rhif ei ddehongli fel cyfeiriad at y rheoliad neu'r Atodlen sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn.
Brasterau llysiau mewn cynhyrchion siocled
3.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, ceir ychwanegu brasterau llysiau, heblaw saim coco, a bennir yn Atodlen 2 at y cynhyrchion siocled hynny a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 3, 4, 5, 6, 8 a 9 o Atodlen 1.
(2) Ni chaiff ychwanegyn yn unol â pharagraff (1) fod yn fwy na 5 y cant o'r cynnyrch gorffenedig, ar ôl tynnu cyfanswm pwysau unrhyw sylweddau bwytadwy eraill a ddefnyddir yn unol â Nodyn 1 o Atodlen 1, heb leihau isafswm cynnwys y saim coco neu gyfanswm y solidau coco powdr.
Cwmpas y Rheoliadau
4. Mae'r rheoliadau hyn yn gymwys i gynhyrchion dynodedig a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl ac sy'n barod i'w cyflenwi i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo.
Disgrifiadau neilltuedig
5. Ni chaiff unrhyw berson werthu unrhyw fwyd â label, pa un a yw ynghlwm wrth y papur lapio neu'r cynhwysydd neu wedi'i argraffu arnynt, os yw'r label yn ddisgrifiad neilltuedig neu'n deillio o ddisgrifiad neilltuedig, neu os yw'r label yn dwyn neu'n cynnwys disgrifiad neilltuedig neu rywbeth sy'n deillio o ddisgrifiad neilltuedig neu unrhyw air neu ddisgrifiad sy'n sylweddol debyg i ddisgrifiad neilltuedig onid yw —
(a)y bwyd hwnnw'n gynnyrch dynodedig y mae'r disgrifiad neilltuedig yn ymwneud ag ef;
(b)y disgrifiad hwnnw, neu'r peth hwnnw sy'n deillio ohono neu'r gair hwnnw'n cael eu defnyddio mewn cyd-destun sydd yn dangos yn benodol neu'n awgrymu'n glir nad yw'r sylwedd y mae'n cyfeirio ato ond yn un o gynhwysion y bwyd hwnnw; neu
(c)bod y disgrifiad hwnnw, y peth hwnnw sy'n deillio ohono neu'r gair hwnnw yn cael eu defnyddio mewn cyd-destun sy'n dangos yn benodol neu'n awgrymu'n glir nad yw'r bwyd hwnnw'n gynnyrch dynodedig ac nad yw'n cynnwys cynnyrch dynodedig.
Labelu a disgrifio cynhyrchion dynodedig
6.—(1) Heb ragfarnu Rhan II o Reoliadau 1996 yn gyffredinol, ni chaiff unrhyw berson werthu unrhyw gynnyrch dynodedig onid yw'r manylion canlynol wedi'u marcio arno neu ar label ynghlwm wrtho —
(a)yn ddarostyngedig i baragraffau (2)(a) a (3) isod, ddisgrifiad neilltuedig o'r cynnyrch hwnnw;
(b)yn ddarostyngedig i baragraff (2) o reoliad 7, yn achos cynnyrch siocled dynodedig sydd, yn unol â rheoliad 3, yn cynnwys brasterau llysiau heblaw saim coco, ddatganiad amlwg a hawdd ei ddarllen sy'n dweud “contains vegetable fats in addition to cocoa butter”;
(c)lle y defnyddir y geiriau “milk chocolate” yn ddisgrifiad neilltuedig neu yn addasiad o'r disgrifiad neilltuedig o gynnyrch siocled dynodedig, dangoser ar y cynnyrch beth yw cynnwys solidau llaeth powdr ar ffurf “milk solids:…% minimum”, ar yr amod —
(i)o ran cynnyrch siocled dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitem 4(a) o Atodlen 1, nad yw'r cynnwys solidau llaeth powdr a ddangosir yn llai na 14 y cant; a
(ii)o ran cynnyrch siocled dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitem 5 o Atodlen 1, nad yw'r cynnwys solidau llaeth powdr yn llai nag 20 y cant;
(ch)yn ddarostyngedig i baragraff (4) isod, yn achos cynnyrch dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitem 2(c), 2(d), 2(e), 3, 4, 5, 8 neu 9 o Atodlen 1, dangoser beth yw cyfanswm cynnwys solidau coco powdr ar ffurf “cocoa solids…% minimum”;
(d)yn achos cynnyrch coco a bennir yng ngholofn 2 o eitem 2(b) neu 2(e), dangoser beth yw'r cynnwys saim coco.
(2) Pan werthir cynhyrchion siocled dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 3, 4, 5, 6, 7 a 10 o Atodlen 1 mewn pecyn amrywiaeth —
(a)ceir rhoi, yn lle'r disgrifiad neilltuedig, “assorted chocolates” neu “assorted filled chocolates” neu enw tebyg; a
(b)caiff y rhestr o gynhwysion y mae'n ofynnol gan Reoliadau 1996 eu nodi ar fwyd neu ar label bwyd fod yn un rhestr o gynhwysion ar gyfer yr holl gynhyrchion yn y pecyn amrywiaeth.
(3) At y disgrifiadau neilltuedig “chocolate”, “milk chocolate” a “couverture chocolate” ceir ychwanegu gwybodaeth neu ddisgrifiadau sy'n ymwneud â meini prawf ansawdd ar yr amod bod y cynnyrch yn cynnwys —
(a)yn achos y disgrifiad neilltuedig “chocolate”, dim llai na chyfanswm o 43 y cant o solidau coco powdr, gan gynnwys dim llai na 26 y cant o saim coco;
(b)yn achos y disgrifiad neilltuedig “milk chocolate”, dim llai na chyfanswm o 30 y cant o solidau coco powdr a dim llai na 18 y cant o solidau llaeth powdr a gafwyd drwy ddadhydradu'n rhannol neu'n gyfan gwbl laeth cyflawn, llaeth hanner sgim neu laeth sgim, neu hufen, neu a gafwyd o hufen, menyn neu fraster llaeth wedi'u dadhydradu'n rhannol neu'n gyfan gwbl, yn cynnwys dim llai na 4.5 y cant o fraster llaeth;
(c)yn achos y disgrifiad neilltuedig “couverture chocolate”, dim llai nag 16 y cant o solidau coco powdr di-fraster.
(4) Caiff cyfanswm cynnwys solidau coco y mae'n ofynnol gan baragraff (1)(ch) uchod ei nodi ar gynnyrch dynodedig neu ar label y cynnyrch ei gyfrifo ar ôl tynnu i ffwrdd bwysau sylweddau bwytadwy eraill y darparwyd ar eu cyfer yn Nodyn 1 o Atodlen 1 ond heb dynnu i ffwrdd bwysau unrhyw gynhwysyn a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 1 yn un o gynhwysion y cynnyrch hwnnw neu bwysau unrhyw fraster llysiau a ychwanegir yn unol â rheoliad 3.
Dull o farcio neu labelu
7.—(1) Bydd Rheoliadau 35, 36(1) a (5) a 38 o Reoliadau 1996 (sy'n ymwneud â'r dull o farcio neu labelu bwyd) yn gymwys i'r manylion y mae'n ofynnol gan reoliad 6 o'r Rheoliadau hyn eu nodi ar gynnyrch dynodedig neu ar ei label fel pe baent yn fanylion y mae'n ofynnol gan Reoliadau 1996 eu nodi ar fwyd neu ar ei label.
(2) Bydd yr wybodaeth y mae'n ofynnol gan baragraff (1)(b) o reoliad 6 ei nodi ar gynnyrch siocled dynodedig neu ar ei label —
(a)yn yr un maes gwelediad â'r rhestr o gynhwysion y mae'n ofynnol eu nodi ar y cynnyrch neu ei label gan Reoliadau 1996;
(b)yn gyfan gwbl ar wahân i'r rhestr honno;
(c)mewn llythrennau trwm nad ydynt yn llai o faint na'r llythrennau a ddefnyddiwyd ar gyfer y rhestr; ac
(ch)wedi'i lleoli yn agos at y disgrifiad neilltuedig, a allai ymddangos hefyd mewn man arall ar yr hyn a farciwyd neu ar y label.
Dulliau o gosbi a gorfodi
8.—(1) Bydd unrhyw berson sy'n torri neu'n peidio â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau rheoliad 5 neu 6 yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(2) Bydd pob awdurdod bwyd yn gorfodi'r Rheoliadau hyn yn ei ardal ac yn eu gweithredu.
Amddiffyniad mewn cysylltiad ag allforion
9. Mewn unrhyw achosion yn ymwneud â thramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd profi'r canlynol yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir—
(a)bod y bwyd yr honnir bod y tramgwydd wedi'i gyflawni mewn cysylltiad ag ef wedi'i fwriadu ar gyfer ei allforio i wlad a chanddi ddeddfwriaeth sy'n cyfateb i'r Rheoliadau hyn a bod y bwyd yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honno; a
(b)yn achos allforio i Wladwriaeth yr AEE, bod y ddeddfwriaeth yn cydymffurfio â darpariaethau Cyfarwyddeb 2000/36/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n ymwneud â chynhyrchion siocled a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl().
Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990
10. Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni yn cael ei ddehongli at ddibenion y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —
(a)adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.);
(b)adran 3 (rhagdybiaethau y bwriedir bwyd ar gyfer ei fwyta gan bobl);
(c)adran 20 (tramgwyddau y mae'r bai amdanynt ar berson arall);
(ch)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 8, 14 neu 15 o'r Ddeddf;
(d)adran 22 (amddiffyniad o gyhoeddi wrth redeg busnes);
(dd)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(e)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
(f)adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r math a grybwyllir yn yr is-adran fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e) uchod;
(ff)adran 35(1) (cosbi am dramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e) uchod;
(g)adran 35(2) a (3) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (f) uchod;
(ng)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); a
(h)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
Diwygiadau a dirymiadau
11.—(1) Yn Rheoliadau 1996 (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru) yn rheoliad 4(2) (cwmpas Rhan II) caiff is-baragraff (b) ei hepgor.
(2) Caiff y cofnodion canlynol sy'n ymwneud â'r Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled 1976() eu hepgor (i'r graddau y maent yn berthnasol i Gymru)
(a)yn Rheoliadau Bwyd (Adolygu Cosbau) 1982(), yn Atodlen 1;
(b)yng Ngorchymyn Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (Addasiadau Canlyniadol) (Cymru a Lloegr) 1990(), yn Atodlen 1 Rhan I, Atodlen 2, Atodlen 3 Rhan I ac Atodlenni 6 a 12;
(c)yn Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Allforion) 1991()), yn Atodlen 1, Rhan I;
(ch)yn Rheoliadau Bwyd (Esemptiadau'r Lluoedd) (Dirymiadau) 1992(), yn Atodlen 1 Rhan I;
(d)yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995()), yn Atodlen 9;
(dd)yn Rheoliadau 1996, yn rheoliad 49(4)(a) ac Atodlen 9;
(e)yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) 1999(), yn rheoliad 14(1);
(f)yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2001(), yn rheoliad 9(2).
(3) Yn Atodlen 9 i Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru) caiff y cofnod sy'n ymwneud â Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled (Diwygio) 1982()) ei hepgor.
(4) I'r graddau y mae'r Rheoliadau y maent yn ymddangos ynddynt yn gymwys i Gymru, yn lle'r cyfeiriadau canlynol i Gyfarwyddeb 73/241/EEC() caiff cyfeiriadau at Gyfarwyddeb 2000/36/EC()) eu rhoi —
(a)yn Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995(), yn Atodlen 2;
(b)yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995(), yn Atodlen 3 ac Atodlen 7.
(5) Dirymir drwy hyn Reoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled 1976 a Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled (Diwygio) 1982 (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru).
Darpariaeth drosiannol
12. Mewn unrhyw achos mewn cysylltiad â thramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd profi'r canlynol yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir —
(a)marciwyd neu labelwyd y bwyd o dan sylw cyn 3 Awst 2003, a
(b)ni fyddai'r materion yr honnir eu bod yn dramgwydd, wedi bod yn dramgwydd o dan Reoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled 1976 fel yr oedd y Rheoliadau yn union cyn dyddiad dod i rym y Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998()
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Tachwedd 2003
Rheoliadau 2, 3 a 6
ATODLEN 1CYNHYRCHION COCO A SIOCLED A'U DISGRIFIADAU NEILLTUEDIG
Colofn 1 | Colofn 2 |
---|
Disgrifiadau Neilltuedig | Cynhyrchion Dynodedig |
---|
Nodiadau
1. —
(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 3 a pharagraph (2) o'r Nodyn hwn, ceir ychwanegu sylweddau bwytadwy eraill at y cynhyrchion siocled dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 3, 4, 5, 6, 8 a 9 o''r Atodlen hon:
Ar yr amod nad yw'r paragraff hwn yn awdurdodi ychwanegu —
(a) saim anifeiliaid a pharatodau a geir ohonynt nad ydynt yn deillio o laeth yn unig; neu
(b) blodiau, starts mewn gronynnau neu starts powdr ac eithrio'n unol â'r diffiniadau a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 8 a 9 o'r Atodlen hon; neu
(c) sylweddau bwytadwy eraill a bod y cyfrannau ohonynt a ychwanegir yn fwy na 40 y cant o gyfanswm pwysau'r cynnyrch gorffenedig.
(2) Dim ond y cyflasynnau hynny nad ydynt yn dynwared blas siocled neu saim llaeth y ceir eu hychwanegu at y cynhyrchion dynodedog a bennir yng nholofn 2 o eitemau 2, 3, 4, 5, 6, 8 a 9 o'r Atodlen hon.
2. —
(1) Caiff isafswm cynnwys y cynhyrchion siocled dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 3, 4, 5, 6, 8 a 9 o'r Atodlen hon eu cyfrifo ar ôl tynnu i ffwrdd bwysau'r sylweddau bwytadwy eraill y darperir ar eu cyfer yn Nodyn 1 i'r Atodlen hon.
(2) Yn achos y cynhyrchion siocled dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 7 a 10 o'r Atodlen hon, caiff isafswm y cynhwysion ei gyfrifo ar ôl tynnu i ffwrdd bwysau'r sylweddau bwytadwy eraill y darperir ar eu cyfer yn Nodyn 1 i'r Atodlen hon, yn ogystal â phwysau'r llenwad.
(3) Caiff cynnwys siocled y cynhyrchion siocled dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 7 a 10 o'r Atodlen hon ei gyfrifo mewn perthynas â chyfanswm pwysau'r cynnyrch gorffenedig, yn cynnwys y llenwad.
3. Yn yr Atodlen hon, mae “sugars” yn cynnwys siwgrau yr ymdrinnir â hwy yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2001/111/EC() a siwgrau eraill.
|
1. Cocoa butter
| Y saim a geir o ffa coco neu rannau o ffa coco y mae iddo'r nodweddion canlynol:—
nad yw mwy na 1.75 y cant o'i gynnwys yn asid brasterog rhydd (wedi'i fynegi fel asid oleig); aco ran saim coco wedi'i wasgu, nad yw mwy na 0.35 y cant ohono'n ddeunydd na ellir ei droi'n sebon (a bennir trwy ddefnyddio ether petroliwm);
neuo ran saim coco arall, nad yw mwy na 0.5 y cant ohono'n ddeunydd na ellir ei droi'n sebon (ac wedi'i bennu yn yr un modd).
|
2.—(a) Cocoa powder neu Cocoa
| Y cynnyrch a geir o droi ffa coco sydd wedi'u glanhau, y plisgyn wedi'i dynnu, a'r ffa wedi'u rhostio, yn bowdr ac na yw llai nag 20 y cant o'i gynnwys yn saim coco, wedi'i gyfrifo yn unol â phwysau'r deunydd sych, ac nad yw mwy na 9 y cant ohono'n ddwr. |
(b)Fat-reduced cocoa neu Fat-reduced cocoa powder
| Coco powdr y mae llai nag 20 y cant o'i gynnwys yn saim coco, wedi'i gyfrifo'n unol â phwysau'r deunydd sych. |
(c)Powdered chocolate neu Chocolate in powder
| Cynnyrch sy'n gymysgedd o goco powdr a siwgrau, ac nad yw llai na 32 y cant o'i gynnwys yn goco powdr. |
(ch)Drinking chocolate neu Sweetened cocoa neu Sweetened cocoa powder
| Cynnyrch sy'n gymysgedd o goco powdr a siwgrau, ac nad yw llai na 25 y cant o'i gynnwys yn goco powdr. |
(d)Fat-reduced drinking chocolate neu Fat-reduced sweetened cocoa neu Fat-reduced sweetened cocoa powder
| Cynnyrch sy'n gymysgedd o goco powdr a bennir yn eitem 2(b) a siwgrau, ac nad yw llai na 25 y cant o'i gynnwys yn goco powdr o'r fath. |
3.—(a) Chocolate
| (a)Cynnyrch a geir o gynhyrchion coco a siwgrau ac, yn ddarostyngedig i eitem 3(b), nad yw llai na chyfanswm o 35 y cant o'i gynnwys yn solidau coco, a dim llai na 18 y cant o'r cyfanswm hwnnw'n saim coco a dim llai na 14 y cant ohono'n solidau coco difraster sych.
|
(b)Os ychwanegir at “Chocolate”
(i)“vermicelli” neu “flakes”
| (b)(i)Cynnyrch a gyflwynir ar ffurf gronynnau neu fflochenni ac nad oes llai na chyfanswm o 32 y cant o'i gynnwys yn solidau coco sych, a dim llai na 12 y cant o'r cyfanswm hwnnw'n saim coco a dim llai na 14 y cant ohono'n solidau coco difraster sych.
|
(ii)“couverture”
| (ii)Cynnyrch nad yw llai na chyfanswm o 35 y cant o'i gynnwys yn solidau coco sych, a dim llai na 31 y cant o'r cyfanswm hwnnw'n saim coco a dim llai na 2.5 y cant ohono'n solidau coco difraster sych.
|
(iii)“Gianduja” neu un o ddeilliannau “Gianduja”
| (iii)Y cynnyrch siocled cnau a geir (1) o siocled y mae o leiaf cyfanswm o 32 y cant o'i gynnwys yn solidau coco sych ac isafswm o 8 y cant o'r cyfanswm hwnnw'n solidau coco difraster sych, a (2) o gnau cyll wedi'u malu'n fân a bod y gyfran o'r rheini'n gyfran o'r fath fel bod 100 gram o'r cynnyrch yn cynnwys dim llai nag 20 gram a dim mwy na 40 gram o gnau cyll; gellir fod wedi ychwanegu ato —
laeth, neu solidau llaeth sych a geir drwy anweddu, neu'r ddau, a bod y gyfran o'r rheini'n gyfran o'r fath fel nad yw mwy na 5 y cant o gynnwys y cynnyrch gorffenedig yn solidau llaeth sych;
cnau almon, cnau cyll a chnau o fathau gwahanol, naill ai'n gyfan neu mewn darnau, a bod cyfrannau'r rheini'n gyfrannau o'r fath fel nad ydynt, ynghyd â'r cnau cyll wedi'u malu, yn fwy na 60 y cant o gyfanswm pwysau'r cynnyrch.
|
4.—(a) Milk chocolate
| (a)Y cynnyrch a geir o gynhyrchion coco, siwgrau a llaeth neu gynhyrchion llaeth ac, yn ddarostyngedig i eitem 4(b) —
nad yw llai na chyfanswm o 25 y cant o'i gynnwys yn solidau coco sych;
nad yw llai nag 14 y cant o'i gynnwys yn solidau llaeth sych a geir drwy ddadhydradu llaeth cyflawn, llaeth hanner sgim neu sgim, neu hufen yn rhannol neu'n gyfan gwbl, neu o hufen, menyn neu saim llaeth wedi'u dadhydradu'n rhannol neu'n gyfan gwbl;
nad yw llai na 2.5 y cant o'i gynnwys yn solidau coco difraster sych;
nad yw llai na 3.5 y cant o'i gynnwys yn saim llaeth;
nad yw llai na 25 y cant o'i gynnwys yn saim (saim coco a saim llaeth).
|
(b)Os ychwanegir at “Milk chocolate” —
(i)“vermicelli” neu “flakes”
| (b)(i)Cynnyrch a gyflwynir ar ffurf gronynnau neu fflochenni nad yw llai na chyfanswm o 20 y cant o'i gynnwys yn solidau coco sych, dim llai na 12 y cant yn solidau llaeth sych a geir drwy ddadhydradu llaeth cyflawn, llaeth hanner sgim neu sgim, neu hufen yn rhannol neu'n gyfan gwbl, neu o hufen, menyn neu saim llaeth wedi'u dadhydradu'n rhannol neu'n gyfan gwbl ac nad yw llai na chyfanswm o 12 y cant o'i gynnwys yn saim (saim coco a saim llaeth).
|
(ii)“couverture”
| (ii)Cynnyrch y mae o leiaf cyfanswm o 31 y cant o'i gynnwys yn saim (saim coco a saim llaeth).
|
(iii)“Gianduja” neu un o ddeilliannau “Gianduja”
| (iii)Y cynnyrch siocled llaeth cnau a geir (1) o siocled llaeth y mae isafswm o 10 y cant o'i gynnwys yn solidau llaeth sych, a geir drwy ddadhydradu llaeth cyflawn, llaeth hanner sgim neu sgim, neu hufen, yn rhannol neu'n gyfan gwbl, neu o hufen, menyn neu saim llaeth wedi'u dadhydradu'n rhannol neu' gyfan gwbl, a (2) o gnau cyll wedi'u malu'n fân a bod cyfran y rheini'n gyfran o'r fath fel nad yw 100 gram o'r cynnyrch yn cynnwys llai na 15 gram ac nid mwy na 40 gram o gnau cyll; a gellid bod wedi ychwanegu ato gnau almon, cnau cyll a chnau o fathau eraill, naill ai'n gyfan neu'n ddarnau, a bod cyfrannau'r rheini'n gyfrannau o'r fath fel nad ydynt, ynghyd â'r cnau cyll wedi'u malu, yn fwy na 60 y cant o gyfanswm pwysau'r cynnyrch.
|
(c)Os rhoddir yn lle “Milk” —
(i)“cream”
| (c)(i)Cynnyrch y mae isafswm o 5.5 y cant o'i gynnwys yn saim llaeth.
|
(ii)“skimmed milk”
| (ii)Cynnyrch nad yw mwy nag 1 y cant o'i gynnwys yn saim llaeth.
|
5. Family milk chocolate neu Milk chocolate
| Cynnyrch a geir o gynhyrchion coco, siwgrau a llaeth neu gynhyrchion llaeth y mae —
nid llai na chyfanswm o 20 y cant o'i gynnwys yn solidau coco sych;
nid llai nag 20 y cant yn solidau llaeth sych a geir drwy ddadhydradu llaeth cyflawn, llaeth hanner sgim neu sgim, neu hufen, yn rhannol neu'n gyfan gwbl, neu o hufen, menyn neu saim llaeth wedi'u dadhydradu'n rhannol neu'n gyfan gwbl;
nid llai na 2.5 y cant o'i gynnwys yn solidau coco difraster sych;
nid llai na 5 y cant yn saim llaeth;
nid llai na chyfanswm o 25 y cant yn saim (saim coco a saim llaeth).
|
6. White chocolate
| Cynnyrch a geir o saim coco, llaeth neu gynhyrchion llaeth a siwgrau ac y mae nid llai nag 20 y cant o'i gynnwys yn saim coco ac nid llai na 14 y cant yn solidau llaeth sych a geir drwy ddadhydradu llaeth cyflawn, llaeth hanner sgim neu sgim, neu hufen, yn rhannol neu'n gyfan gwbl, neu o hufen, menyn, neu saim llaeth wedi'u dadhydradu'n rhannol neu'n gyfan gwbl, ac y mae nid llai na 3.5 y cant ohono'n saim llaeth. |
7. Filled chocolate neu Chocolate with ... ... ... ... filling neu Chocolate with ... ... ... ... centre
| Cynnyrch â llenwad, os cynnyrch a bennir yng ngholof 2 o eitem 3, 4, 5 or 6 o'r Atodlen hon yw'r rhan allanol ohono ac os nad yw'r rhan allanol honno'n fwy na 25 y cant o gyfanswm pwysau'r cynnyrch, ond nid yw'n cynnwys unrhyw gynnyrch â llenwad, os cynhyrchion wedi'u pobi, toes, bisged neu iâ bwytadwy sydd y tu mewn iddo. |
8. Chocolate a la taza
| Cynnyrch a geir o gynhyrchion coco, siwgrau, a blawd neu starts gwenith, reis neu indrawn, nad yw llai na chyfanswm o 35 y cant ohono'n solidau coco sych, ac nid llai na 18 y cant o'r cyfanswm hwnnw'n saim coco ac nid llai na 14 y cant ohono'n solidau coco difraster sych, ac nid mwy nag 8 y cant ohono'n flawd neu'n starts. |
9. Chocolate familiar a la taza
| Cynnyrch a geir o gynhyrchion coco, siwgrau, a blawd neu o starts gwenith, reis neu indrawn, nad yw llai na chyfanswm o 30 y cant o'i gynnwys yn solidau coco sych, ac nid llai na 18 y cant o'r cyfanswm hwnnw'n saim coco ac nid llai na 12 y cant ohono'n solidau coco difraster sych ac nid mwy na 18 y cant yn flawd neu'n starts. |
10. A chocolate neu A praline
| Cynnyrch nad yw'n fwy o faint nag un llond ceg ac sy'n cynnwys:—
(a) y cynnyrch a bennir yng ngholofn 2 o eitem 7 o'r Atodlen hon; neu
(b) un siocled neu gyfuniad neu gymysgedd o siocled o fewn ystyr unrhyw ddiffiniadau a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 3, 4, 5 a 6 o'r Atodlen hon ac unrhyw sylwedd bwytadwy arall, ar yr amod nad yw'r siocled yn llai na 25 y cant o gyfanswm pwysau'r cynnyrch.
|
Rheoliadau 2 and 3
ATODLEN 2SEIMIAU LLYSIAU A AWDURDODIR
1. Yn ddarostyngedig i baragraffau canlynol yr Atodlen hon, seimiau sy'n cyfateb i saim coco ac sy'n cydymffurfio â'r meini prawf canlynol, boed hynny wrthynt eu hunain neu'n gyfuniad ohonynt, yw'r seimiau llysiau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3:—
(a)seimiau llysiau nad lorel mohonynt, sy'n gyfoethog o ran triglyseridau cymesur monoannirlawn o'r math POP, POSt a StOSt;
(b)gellir eu cymysgu ni waeth beth fyddo'u cyfrannau gyda saim coco, ac maent yn gydweddol â'i nodweddion ffisegol (ymdoddbwynt a thymheredd crisialu, cyfradd toddi, yr angen am gyfnod tymheru);
(c)fe'u ceir yn unig trwy broses coethi neu broses ffracsiynu, neu'r ddwy, sy'n hepgor addasu'r strwythur triglyserid yn ensymatig.
2. I gydymffurfio â'r meini prawf a bennir ym mharagraff 1 uchod, ceir defnyddio'r seimiau llysiau canlynol, a geir o'r planhigion a restrir yn y Tabl isod:—
Enw arferol y saim llysiau | Enw gwyddonol y planhigion y gellir cael y seimiau a restrir ohonynt |
---|
1. Illipe, Coeden wêr Borneo neu Tengkawang
| Shorea spp. |
2. Olew palmwydd
| Elaeis guineensisElaeis olifera |
3. Sal
| Shorea robusta |
4. Shea
| Burtyrospermum parkii |
5. Kokum gurgi
| Garcinia indica |
6. Cnewllyn mango
| Mangifera indica |
3. Gellir defnyddio olew cneuen goco mewn siocled ar gyfer cynhyrchu hufen iâ a chynhyrchion tebyg wedi'u rhewi.
4. Yn yr Atodlen hon —
Nodyn Esboniadol
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gweithredu Cyfarwyddeb 2000/36/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn cysylltiad â chynhyrchion coco a siocled a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl (OJ Rhif L197, 3.8.2000, t.19). Maent yn dirymu ac yn cymryd lle Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled 1976, fel y'u diwygiwyd, mewn perthynas â Chymru.
Mae'r Rheoliadau —
(a)yn rhagnodi diffiniadau a disgrifiadau neilltuedig ar gyfer cynhyrchion coco a siocled dynodedig (rheoliad 2 ac Atodlen 1);
(b)yn pennu'r brasterau llysiau, ac eithrio saim coco, y gellir eu hychwanegu at gynhyrchion siocled dynodedig (rheoliad 3 a Atodlen 2);
(c)yn cymhwyso'r Rheoliadau at gynhyrchion coco a siocled dynodedig a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl ac sy'n barod i'w cyflenwi i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo (rheoliad 4);
(ch)yn cyfyngu ar ddefnyddio disgrifiadau neilltuedig a hynny i'r cynhyrchion coco a siocled y mae'r disgrifiadau'n berthnasol iddynt (rheoliad 5);
(d)yn ei gwneud yn ofynnol bod disgrifiadau neilltuedig a datganiadau penodedig yn cael eu cymhwyso at gynhyrchion coco a siocled dynodedig ac yn rhagnodi'r dull o'u marcio neu o'u labelu (rheoliadau 6 a 7);
(dd)yn pennu cosb, cyfrifoldebau gorfodi ac, yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC ar reoli bwydydd yn swyddogol (OJ Rhif L186 30.6.1989, t.23) a'r Cytundeb Ardal Economaidd Ewropeaidd, amddiffyniad mewn perthynas ag allforion (rheoliadau 8 a 9);
(e)yn cymhwyso amrywiol ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 10);
(f)yn dileu'r esemptiad i gynhyrchion coco a siocled yn Rhan II o Reoliadau Labelu Bwyd 1996, dirymu'r Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled blaenorol a gwneud diwygiadau canlyniadol a darpariaeth drosiannol (rheoliadau 11 a 12).
Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac wedi ei osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi sy'n nodi sut y mae prif elfennau deddfwriaeth Ewropeaidd y cyfeirir ati uchod wedi'u trawsosod yn y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW.