- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 28 Tachwedd 2003 a byddant yn gymwys i Gymru yn unig.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “awdurdod bwyd” yr un ystyr ag sydd i “food authority” yn adran 5(1A) a (3)(a) a (b) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “cynnyrch siwgr penodedig” (“specified sugar product”) yw unrhyw fwyd a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 1 (fel y'i darllenir gyda'r Nodiadau sy'n ymwneud â'r Atodlen honno) ond nid yw'n cynnwys unrhyw fwyd o'r fath sydd ar ffurf siwgr eisin, siwgr candi neu siwgr lwmp;
ystyr “Cytundeb yr AEE” (“EEA Agreement”) yw'r Cytundeb ynghylch yr Ardal Economaidd Ewropeaidd(1) a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992 fel y'i haddaswyd gan y Protocol(2) a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993;
ystyr “defnyddiwr olaf” (“ultimate consumer”) yw unrhyw berson sy'n prynu heblaw—
er mwyn ailwerthu,
at ddibenion sefydliad arlwyo, neu
at ddibenion busnes gweithgynhyrchu.
ystyr “disgrifiad neilltuedig” (“reserved description”), o ran unrhyw gynnyrch siwgr penodedig, yw unrhyw ddisgrifiad mewn cysylltiad â'r cynnyrch hwnnw yng ngholofn 1 o Atodlen 1 (fel y'i darllenir gyda'r nodiadau sy'n ymwneud â'r Atodlen honno) a lle y defnyddir disgrifiad o'r fath yn y Rheoliadau hyn rhaid ei ddehongli fel y cynnyrch y mae'r disgrifiad hwnnw yn berthnasol iddo;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
mae ystyr “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys cynnig neu ddangos ar werth neu fod ym meddiant rhywun ar gyfer ei werthu, a rhaid dehongli ffurfiau sy'n deillio ohono yn unol â hynny;
ystyr “Gwladwriaeth yr AEE” (“EEA State”) yw Gwladwriaeth sydd yn rhan o Gontract Cytundeb yr AEE;
mae ystyr “paratoi” (“preparation”) yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw fath o brosesu neu driniaeth a rhaid dehongli ffurfiau sy'n tarddu o “baratoi” yn unol â hynny;
ystyr “Rheoliadau 1996” (“the 1996 Regulations”) yw Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(3);
ystyr “sefydliad arlwyo” (“catering establishment”) yw bwyty, ffreutur, clwb, tafarn, ysgol, ysbyty neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu stondin symudol) lle, wrth gynnal busnes, y paratoir bwyd i'w ddosbarthu i'r cwsmer olaf a'r bwyd hwnnw yn barod i'w fwyta heb ei baratoi ymhellach;
ystyr “siwgr candi” (“candy sugar”) yw siwgr crisial os yw unrhyw ochr o'r crisialau yn hwy nag un sentimetr;
ystyr “siwgr eisin” (“icing sugar”) yw gronynnau mân o siwgr gwyn neu siwgr claerwyn neu gymysgedd ohonynt;
ystyr “siwgr lwmp” (“sugar in loaf form”) yw darn o siwgr crisial wedi ei gydgasglu ar ffurf côn fel arfer, nad yw ei bwysau'n llai na 250 gram;
3. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gynhyrchion siwgr penodedig, y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl ac sydd yn barod i'w dosbarthu i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo.
4. Ni chaiff neb werthu bwyd gyda label, boed honno wedi ei glynu wrth y deunydd lapio neu'r cynhwysydd ai peidio, neu wedi ei hargraffu arno, os yw'n dangos neu'n cynnwys unrhyw ddisgrifiad neilltuedig neu unrhyw ymadrodd sy'n deillio ohono, neu unrhyw air neu ddisgrifiad sy'n sylweddol debyg iddo heblaw—
(a)mai'r cynnyrch siwgr penodedig y mae'r disgrifiad yn ymwneud ag ef yw'r bwyd hwnnw;
(b)bod y disgrifiad, yr ymadrodd sy'n deillio ohono, neu'r gair, yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun sy'n dangos yn ddiamwys neu'n awgrymu yn eglur mai dim ond cynhwysyn yn y bwyd hwnnw yw'r sylwedd y mae'n cyfeirio ato;
(c)bod y disgrifiad, yr ymadrodd sy'n deillio ohono, neu'r gair, yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun sy'n dangos yn ddiamwys neu'n awgrymu yn eglur nad cynnyrch siwgr penodedig mo'r bwyd hwnnw, ac nad yw'n cynnwys dim ohono; neu
(ch)bod y disgrifiad, yr ymadrodd sy'n deillio ohono, neu'r gair yn cael ei ddefnyddio yn enw arferol ar gynnyrch bwyd arall ac nad yw'n debygol o gamarwain y defnyddiwr.
5. Heb iddo leihau effaith gyffredinol Rhan II o Reoliadau 1996, ni chaiff neb werthu unrhyw gynnyrch siwgr penodedig os nad yw wedi ei farcio neu ei labelu â'r manylion canlynol—
(a)disgrifiad neilltuedig y cynnyrch; a
(b)yn achos toddiant siwgr, toddiant siwgr gwrthdro a surop siwgr gwrthdro, faint o sylwedd sych a faint o siwgr gwrthdro sydd yn y cynnyrch.
6. Rhaid i Reoliadau 35, 36(1) a (5) a 38 o Reoliadau 1996 (sy'n ymwneud â sut y mae bwyd yn cael ei farcio neu ei labelu) fod yn gymwys i'r manylion y mae rheoliad 5 o'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu marcio ar gynnyrch siwgr penodedig, neu eu rhoi ar ei label, fel pe baent yn fanylion y mae Rheoliadau 1996 yn ei gwneud yn ofynnol eu marcio ar fwyd neu eu rhoi ar label arno.
7.—(1) Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i reoliad 4 neu 5 o'r Rheoliadau hyn, neu berson nad yw'n cydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(2) Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal.
8. Mewn unrhyw achos sy'n ymwneud â thramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, bydd yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir os bydd yn profi —
(a)y bwriadwyd allforio'r bwyd yr honnir bod y tramgwydd wedi ei wneud mewn cysylltiad ag ef i wlad y mae ganddi ddeddfwriaeth sy'n cyfateb i'r Rheoliadau hyn a bod y bwyd yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honno; a
(b)yn achos allforio i Wladwriaeth yr AEE, bod y ddeddfwriaeth yn cydymffurfio â darpariaethau Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/111/EC(4) sy'n ymwneud â siwgrau penodol y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl.
9. Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn, wedi eu haddasu fel bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni yn cael ei ddehongli at ddibenion y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —
(a)adran 2 (ystyr estynedig gwerthiant, ac yn y blaen);
(b)adran 3 (rhagdybiaeth mai gan bobl y bwriedir i'r bwyd gael ei fwyta);
(c)adran 20 (tramgwyddau y mae'r bai amdanynt ar berson arall);
(ch)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dilys) fel y mae'n gymwys at ddibenion adrannau 8, 14 neu 15 o'r Ddeddf;
(d)adran 22 (amddiffyniad cyhoeddi yng nghwrs cynnal busnes);
(dd)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(e)adran 33(1) (rhwystro swyddogion, ac yn y blaen);
(f)adran 33(2), wedi ei haddasu fel bod rhaid dehongli'r cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” fel cyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath fel y'i crybwyllwyd yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e) uchod;
(ff)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e) uchod;
(g)adran 35(2) a (3) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (f) uchod;
(ng)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac
(h)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu yn ddidwyll).
10.—(1) Dirymir y Rheoliadau canlynol drwy hyn (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru):
(a)Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig 1976(5);
(b)Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Diwygio) 1982(6).
(2) Yn Rheoliadau 1996 (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru)—
(a)hepgorir is-baragraff (a) yn rheoliad 4(2) (cwmpas Rhan II);
(b)hepgorir paragraff (2) yn rheoliad 49 (dirymu a diwygio);
(c)yn Atodlen 3 (enwau generig mewn rhestr o gynhwysion) mewnosodir yng ngholofn 3 (amodau defnyddio'r enw generig) o'r darn sy'n ymwneud â surop glwcos y geiriau canlynol—
“The generic name may not be used where the glucose syrup contains fructose in a proportion of greater than 5% on a dry matter basis”.
(3) Hepgorir y darnau canlynol sy'n ymwneud â Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig 1976 yn narpariaethau'r Rheoliadau a nodir isod, i'r graddau y mae'r Rheoliadau'n gymwys i Gymru—
(a)yn Rheoliadau Bwyd (Adolygu Cosbau) 1982(7), yn Atodlen 1;
(b)yn Rheoliadau Bwyd (Adolygu Cosbau) 1985(8)), yn yr Atodlen, Rhan I;
(c)yng Ngorchymyn Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (Addasiadau Canlyniadol) (Cymru a Lloegr) 1990(9), yn Atodlen 1, Rhan I, Atodlen 2, Atodlen 3, Rhan I ac Atodlenni 6 a 12;
(ch)yn Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Allforio) 1991(10), yn Atodlen 1, Rhan I;
(d)yn Rheoliadau Bwyd (Eithriadau'r Lluoedd) (Dirymu) 1992(11), yn yr Atodlen, Rhan I;
(dd)yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995(12), yn Atodlen 9;
(e)yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) 1999(13)), yn rheoliad 14(1);
(f)yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2002(14), yn rheoliad 9(2).
(4) Yn Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995(15)), i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, hepgorir paragraff (2) yn rheoliad 12.
(5) Yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru—
(a)hepgorir paragraff (4) yn rheoliad 10;
(b)yng ngholofn 1 o Atodlen 2, yn lle'r cyfeiriad at “Directive 73/437/EEC” rhoddir cyfeiriad at “Directive 2001/111/EC”.
(6) Yn Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 2001(16), yn rheoliad 5(1)(c), yn lle'r cyfeiriad at Reoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig 1976 rhoddir cyfeiriad at Reoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 2003.
11. Mewn unrhyw achos sy'n ymwneud â thramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, bydd yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir os bydd yn profi —
(a)bod y bwyd dan sylw wedi cael ei farcio neu ei labelu cyn 12 Gorffennaf 2004, a
(b)na fyddai'r materion sy'n berthnasol i'r tramgwydd honedig yn dramgwydd o dan Reoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig 1976 fel yr oeddynt yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(17)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Tachwedd 2003
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: