- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Rheoliad 2
Colofn 1 | Colofn 2 |
---|---|
Disgrifiadau Neilltuedig | Cynhyrchion Siwgr Penodedig |
Nodiadau: 1. Ceir defnyddio'r disgrifiad neilltuedig “sugar” neu “white sugar” fel ymadrodd arall ar gyfer y disgrifiad neilltuedig “extra-white sugar” yn achos y cynnyrch a ddisgrifir ym mharagraff 3 uchod. 2. Yn achos surop siwgr gwrthdro sy'n cynnwys crisialau yn y toddiant, rhaid ychwanegu'r ymadrodd goleddfu “crystallised” at ddisgrifiad y cynnyrch. 3. Os bydd cynnyrch siwgr penodedig a ddisgrifir ym mharagraff 7 neu 8 uchod yn cynnwys mwy na 5% o ffrwctos ar sail sylwedd sych, rhaid i'r disgrifiad neilltuedig fod naill ai yn “glucose-fructose syrup” neu “fructose-glucose syrup”, neu naill ai yn “dried glucose-fructose syrup” neu “dried fructose-glucose syrup” yn ôl y digwydd er mwyn adlewyrchu pa un yw'r gyfran fwyaf, y glwcos ynteu'r ffrwctos. 4. Ceir rhoi ymadroddion goleddfu a ddefnyddir yn gyffredin ar y cynhyrchion a ddisgrifir ym mharagraffau 1 i 11 uchod, yn ogystal â'r disgrifiad neilltuedig ar yr amod na fydd hynny yn debygol o gamarwain y defnyddiwr o'i herwydd. 5. Ceir defnyddio'r disgrifiad “white” mewn cysylltiad ag unrhyw gynnyrch a ddisgrifir ym mharagraff 4 uchod os nad yw'r lliw yn y toddiant yn fwy na 25 o unedau ICUMSA wedi ei bennu yn unol â dull y Comisiwn Rhyngwladol dros Ddulliau Unffurf o Ddadansoddi Siwgr (“ICUMSA”) wedi ei osod ym mharagraff 3 o Bennod A yn yr Atodiad i Reoliad (EEC) Rhif 1265/69(1). 6. Ceir defnyddio'r disgrifiad “white” mewn cysylltiad ag unrhyw un o'r cynhyrchion a ddisgrifir ym mharagraff 5 a 6 uchod os nad oes mwy na 0.1% o fwynau dargludedd ac os nad yw'r lliw yn y toddiant yn fwy na 25 o unedau ICUMSA wedi ei bennu fel y'i gosodir ym mharagraff 1 o Bennod A yn yr Atodiad i Reoliad (EEC) Rhif 1265/69. 7. Caiff cynhyrchion siwgr penodedig gynnwys unrhyw sylwedd a ganiateir yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 88/344/EEC ynghylch cyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-Wladwriaethau sy'n ymwneud â thoddyddion echdynnu a ddefnyddir wrth gynhyrchu bwydydd a chynhwysion bwyd(2) neu Gyfarwyddeb y Cyngor 89/107 ynghylch cyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-Wladwriaethau sy'n ymwneud ag ychwanegion bwyd a awdurdodir i'w defnyddio mewn bwydydd y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl.(3) | |
1. Semi-white sugar | Swcros wedi ei buro a'i grisialu, o ansawdd da sy'n deg ei fasnachu, gyda'r nodweddion canlynol: (a) nid yw'r polareiddio yn llai na 99.5°Z (b) nid yw'n cynnwys mwy na 0.1% o siwgr gwrthdro o ran pwysau (c) nid yw'n colli mwy na 0.1% o ran pwysau ar ôl ei sychu |
2. Sugar neu white sugar | Swcros wedi ei buro a'i grisialu, o ansawdd da sy'n deg ei fasnachu, gyda'r nodweddion canlynol: (a) nid yw'r polareiddio yn llai na 99.7°Z (b) nid yw'n cynnwys mwy na 0.04% o siwgr gwrthdro o ran pwysau (c) nid yw'n colli mwy na 0.06% o ran pwysau ar ôl ei sychu (ch) nid yw'r math o liw yn fwy na naw pwynt, wedi ei bennu yn unol â pharagraff (2) o Atodlen 2 |
3. Extra-white sugar | Mae gan y cynnyrch yr un nodweddion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 2(a), (b) ac (c) yn yr Atodlen hon ac nad yw cyfanswm y pwyntiau a bennir yn ôl darpariaethau paragraffau 2 i 4 o Atodlen 2 yn fwy na wyth, ac nid yn fwy:
|
4. Sugar solution | Toddiant dyfrllyd swcros gyda'r nodweddion canlynol: (a) nid yw'r sylwedd sych yn llai na 62% o ran pwysau (b) nid yw'n cynnwys mwy na 3% o siwgr gwrthdro (cymhareb ffrwctos i ddecstros = 1.0 ± 0.2) o ran pwysau'r sylwedd sych (c) nid yw'r mwynau dargludedd yn fwy na 0.1% o ran pwysau'r sylwedd sych, wedi ei bennu yn unol â pharagraff 3 o Atodlen 2 (ch) nid yw'r lliw yn y toddiant yn fwy na 45 o unedau ICUMSA |
5. Invert sugar solution | Toddiant dyfrllyd swcros wedi ei wrthdro yn rhannol drwy hydrolysis, nad siwgr gwrthdro yw'r gyfran fwyaf ohono, gyda'r nodweddion canlynol: (a) nid yw'r sylwedd sych yn llai na 62% o ran pwysau (b) nid yw'n cynnwys mwy na 3% o siwgr gwrthdro (cymhareb ffrwctos i ddecstros = 1.0 ± 0.1) ond heb fod yn fwy na 50% o ran pwysau'r sylwedd sych (c) nid yw'r mwynau dargludedd yn fwy na 0.4% o ran pwysau'r sylwedd sych, wedi ei bennu yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 2 |
6. Invert sugar syrup | Toddiant dyfrllyd swcros, wedi ei grisialu ai peidio, sydd wedi ei wrth-droi yn rhannol drwy hydrolysis, y mae'n rhaid iddo gynnwys mwy na 50% o siwgr gwrthdro (cyniferydd ffrwctos/decstros = 1.0 ± 0.1), o ran pwysau'r sylwedd sych, ond y mae'n rhaid fel arall bodloni'r gofynion a osodir ym mharagraff 5(a) ac (c) yn yr Atodlen hon. |
7. Glucose syrup | Toddiant dyfrllyd sacaridau maethol wedi ei buro a'i grynhoi, sydd wedi ei gael o starts neu inswlin neu'r ddau, gyda'r nodweddion canlynol: (a) nid yw'r sylwedd sych yn llai na 70% o ran pwysau (b) nid yw'r decstros cyfwerth yn llai nag 20% o'r sylwedd sych o ran pwysau ac wedi ei fynegi fel D-glwcos (c) nid yw'r mwynau wedi eu sylffadu yn fwy nag 1% o'r sylwedd sych o ran |
8. Dried glucose syrup | Surop glwcos wedi ei sychu yn rhannol, gydag o leiaf 93% sylwedd sych o ran pwysau, ond rhaid iddo fel arall fodloni'r gofynion a osodir ym mharagraff 7(b) ac (c) yn yr Atodlen hon. |
9. Dextrose neu dextrose monohydrate | D-glwcos wedi ei buro a'i grisialu sy'n cynnwys un molecwl o ddwr crisialu, gyda'r nodweddion canlynol: (a) decstros (D-glwcos) heb fod yn llai na 99.5% o sylwedd sych o ran pwysau (b) sylwedd sych heb fod yn llai na 90% o ran pwysau (c) mwynau wedi eu sylffadu heb fod yn fwy na 0.25% o sylwedd sych o ran pwysau |
10. Dextrose neu dextrose anhydrous | D-glwcos wedi ei buro a'i grisialu nad yw'n cynnwys dŵ r crisialu, gyda o leiaf 98% o sylwedd sych o ran pwysau, ond y mae'n rhaid iddo fel arall fodloni'r gofynion a osodir ym mharagraff 9(a) ac (c) yn yr Atodlen hon. |
11. Fructose | D-glwcos wedi ei buro a'i grisialu gyda'r nodweddion canlyniadol:
|
1. Dull 1 yw'r dull o bennu faint a gollir wrth sychu siwgr lledwyn, siwgr neu siwgr gwyn, a siwgr claerwyn.
2. Y dull o bennu math o liw siwgr neu siwgr gwyn a siwgr claerwyn yw dull Sefydliad Brunswick dros Dechnoleg Amaethyddol a'r Diwydiant Siwgr fel y'i disgrifir ym Mhennod A, paragraff 2, o'r Atodiad i Reoliad (EEC) Rhif 1265/69. At ddibenion pennu'r nifer o bwyntiau, mae un pwynt yn cyfateb i 0.5 o unedau.
3. Y dull o bennu faint o fwynau a gynhwysir mewn siwgr claerwyn, toddiant siwgr, toddiant siwgr gwrthdro, surop siwgr gwrthdro a ffrwctos yw dull ICUMSA fel y'i disgrifir ym Mhennod A, paragraff 1, o'r Atodiad i Reoliad (EEC) Rhif 1265/69. At ddibenion pennu'r nifer o bwyntiau, mae un pwynt yn cyfateb i 0.0018% o fwynau.
4. Y dull o bennu'r lliw mewn toddiant siwgr claerwyn a thoddiant siwgr yw dull ICUMSA fel y'i disgrifir ym Mhennod A, paragraff 3 o'r Atodiad i Reoliad (EEC) Rhif 1265/69. At ddibeion pennu'r nifer o bwyntiau at ddibenion paragraff 3 o Atodlen 1, mae un pwynt yn cyfateb i 7.5 o unedau.
5. Dull 2 yw'r dull o bennu faint o sylwedd sych a gynhwysir mewn surop glwcos, surop glwcos wedi ei sychu, decstros neu ddecstros monohydrad a decstros neu ddecstros anhydrus.
6. Dull 3 yw'r dull o bennu faint o sylwedd sych a gynhwysir mewn toddiant siwgr, toddiant siwgr gwrthdro a surop siwgr gwrthdro.
7. Dull 4 yw'r dull o bennu faint o siwgr gwrthdro a gynhwysir mewn siwgr lledwyn.
8. Dull 5 yw'r dull o bennu faint o siwgr gwrthdro a gynhwysir mewn siwgr neu siwgr gwyn a siwgr claerwyn.
9. Dull 7 yw'r dull o bennu faint o siwgr gwrthdro a gynhwysir mewn toddiant siwgr, toddiant siwgr gwrthdro a surop siwgr gwrthdro.
10. Dull 9 yw'r dull o bennu faint o fwynau wedi eu sylffadu a gynhwysir mewn surop glwcos, surop glwcos wedi ei sychu, decstros neu ddecstros monohydrad, a decstros neu ddecstros anhydrus.
11. Dull 10 yw'r dull o bennu i ba raddau y mae siwgr lledwyn, siwgr neu siwgr gwyn a siwgr claerwyn wedi eu polareiddio.
12. At ddibenion yr Atodlen hon—
(a)mae cyfeiriadau at Ddulliau 1, 2, 3, 4, 5, 7, 9 a 10 yn gyfeiriadau at y Dulliau a bennwyd gan y Rhif au hynny yn Atodiad II i Gyfarwyddeb y Comisiwn 79/796/EEC(4) sy'n gosod dulliau dadansoddi'r Gymuned ar gyfer profi siwgrau penodol y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl, fel y'i darllennir ar y cyd â chyflwyniad yr Atodiad hwnnw;
(b)ystyr “ICUMSA” yw'r Comisiwn Rhyngwladol dros Ddulliau Unffurf o Ddadansoddi Siwgr.
OJ Rhif L163, 1.7.1969, t.1.
OJ Rhif L157, 24.6.1988, t.28.
OJ Rhif L40, 11.2.1989, t.27.
OJ Rhif L239, 22.9.79, t.24.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: