Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth) (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 31 Mawrth 2003.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diddymu

2.  Diddymir rheoliad 4 o Reoliadau Addysg (Cyfyngu Cyflogaeth) (Cymru) 2000(1) a rheoliad 28 o Reoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001(2)).

Dehongli

3.  Heblaw pan fo'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn y rheoliadau hyn —

  • mae i “asiant” yr ystyr a roddir i “agent” yn adran 15A(1) o Ddeddf 1998;

  • ystyr “athro neu athrawes gofrestredig” (“registered teacher”) yw —

    (a)

    person sydd ar hyn o bryd wedi'i gofrestru o dan adran 3 o Ddeddf 1998;

    (b)

    person a gofrestrwyd o dan adran 3 o Ddeddf 1998 ar adeg unrhyw ymddygiad neu dramgwydd honedig ar ei ran; neu

    (c)

    person sydd wedi gwneud cais i gael ei gofrestru o dan adran 3 o Ddeddf 1998;

  • mae i “cyflogwr perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant employer” yn adran 142 o Ddeddf Addysg 2002(3);

  • ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru;

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;

  • ystyr “gwasanaethau” (“services”) yw gwasanaethau a ddarparwyd i gyflogwr perthnasol yng Nghymru ac mae'n cynnwys gwasanaethau proffesiynol a gwirfoddol;

  • mae i “gweithiwr” yr ystyr a roddir i “worker” yn adran 15A(1) o Ddeddf 1998;

  • ystyr “mater perthnasol” (“relevant issue”) yw mater sy'n codi pan fydd amgylchiadau'r achos, gan gynnwys achlysuron o ymddygiad heblaw'r hwnnw sydd o dan sylw, o'r fath eu bod yn codi mater sy'n ymwneud â diogelwch a lles plant;

  • ystyr “Pwyllgor” (“Committee”) yw Pwyllgor Ymchwilio, Pwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol neu Bwyllgor Ymddygiad Proffesiynol a sefydlwyd o dan Reoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001;

  • ystyr “Pwyllgor Ymchwilio” (“Investigating Committee”) yw pwyllgor a sefydlwyd o dan reoliad 3(1) o Reoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001; ac

  • ystyr “trefniadau” yw trefniadau o'r math y cyfeirir atynt yng nghyswllt y gair “arrangements” yn adran 15A(1) o Ddeddf 1998 i weithiwr gyflawni gwaith yng Nghymru.

Adroddiadau gan gyflogwr

4.  Pan—

(a)fo cyflogwr perthnasol wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau person am reswm —

(i)nad yw'r person yn gymwys i weithio â phlant;

(ii)sy'n ymwneud â chamymddygiad y person; neu

(iii)sy'n ymwneud â iechyd y person os yw mater perthnasol yn codi; neu

(b)y gallai cyflogwr perthnasol fod wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau person am reswm o'r fath pe na bai'r person wedi rhoi'r gorau i ddarparu'r gwasanaethau hynny,

rhaid i'r cyflogwr roi adroddiad am ffeithiau'r achos a darparu'r holl wybodaeth a restrwyd yn Rhan I o'r Atodlen sydd ar gael i'r cyflogwr mewn perthynas â pherson o'r fath i'r Cynulliad Cenedlaethol.

5.—(1Pan —

(a)fo cyflogwr perthnasol wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau person sy'n athro neu athrawes gofrestredig am reswm sy'n ymwneud â'i anghymwysedd proffesiynol; neu

(b)y gallai cyflogwr perthnasol fod wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau person sy'n athro neu athrawes gofrestredig am reswm sy'n ymwneud â'i anghymwysedd proffesiynol pe na bai wedi rhoi'r gorau i ddarparu'r gwasanaethau hynny,

rhaid i'r cyflogwr roi adroddiad am ffeithiau'r achos a darparu'r holl wybodaeth a restrwyd yn Rhan I o'r Atodlen sydd ar gael i'r cyflogwr mewn perthynas â pherson o'r fath i'r Cyngor.

(2Rhaid i'r Cyngor sicrhau bod yr holl wybodaeth a ddarparwyd iddynt o dan y rheoliad hwn ar gael i Bwyllgor Ymchwilio.

Adroddiadau gan asiant

6.  Pan —

(a)fo asiant wedi terfynu trefniadau am reswm —

(ii)nad yw'r gweithiwr yn gymwys i weithio â phlant;

(ii)sy'n ymwneud â chamymddygiad y gweithiwr; neu

(iii)sy'n ymwneud â iechyd y gweithiwr os yw mater perthnasol yn codi;

(b)y gallai asiant fod wedi terfynu trefniadau am reswm o'r fath, pe na bai'r gweithiwr wedi'u terfynu; neu

(c)y gallai asiant fod wedi ymatal rhag gwneud trefniadau newydd ar gyfer gweithiwr am reswm o'r fath, pe na bai'r gweithiwr wedi peidio â rhoi ei hun ar gael i weithio,

rhaid i'r asiant roi adroddiad am ffeithiau'r achos a darparu'r holl wybodaeth a restrwyd yn Rhan II o'r Atodlen sydd ar gael i'r asiant mewn perthynas â'r gweithiwr i'r Cynulliad Cenedlaethol.

7.—(1Pan—

(a)fo asiant wedi terfynu trefniadau i weithiwr sy'n athro neu athrawes gofrestredig gyflawni gwaith am reswm sy'n ymwneud â'i anghymwysedd proffesiynol;

(b)y gallai asiant fod wedi terfynu trefniadau am reswm sy'n ymwneud â'i anghymwysedd proffesiynol pe na bai'r gweithiwr wedi'u terfynu; neu

(c)y gallai asiant fod wedi ymatal rhag gwneud trefniadau newydd ar gyfer gweithiwr sy'n athro neu athrawes gofrestredig am reswm sy'n ymwneud â'i anghymwysedd proffesiynol pe na bai'r gweithiwr wedi peidio â rhoi ei hun ar gael i weithio,

rhaid i'r asiant roi adroddiad am ffeithiau'r achos a darparu'r holl wybodaeth a restrwyd yn Rhan II o'r Atodlen sydd ar gael i'r asiant mewn perthynas â'r athro neu athrawes gofrestredig i'r Cyngor.

(2Rhaid i'r Cyngor sicrhau bod yr holl wybodaeth a ddarperir iddynt o dan y rheoliad hwn ar gael i Bwyllgor Ymchwilio.

Llofnodwyd a ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

5 Mawrth 2003

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources