Search Legislation

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 955 (Cy.129)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

31 Mawrth 2003

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3).

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 38, 39, 78, 126 (4) a 127 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, a pharagraffau 1977 a 2A o Atodlen 12 iddi(1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2003.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3) daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2003.

(3Daw Rheoliadau 2, 3, 4, 8 a 9 i rym ar 6 Ebrill 2003.

  • Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall —

  • ystyr “Rheoliadau 1997” (“the 1997 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997(2);

  • ystyr “Rheoliadau 1986” (“the 1986 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986(3).

(4Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio rheoliad 1 o Reoliadau 1997

2.—(1Diwygir rheoliad 1 o Reoliadau 1997 (enwi, cychwyn a dehongli), yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2Hepgorir y diffiniadau o —

  • amount withdrawn

  • disabled person’s tax credit

  • working families' tax credit.

(3Yn y mannau priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosodir y diffiniadau canlynol—

“child tax credit” means child tax credit under section 8 of the Tax Credits Act 2002(4);

“disability element” means the disability element of working tax credit as specified in section 11(3) of the Tax Credits Act 2002;

“gross annual income” means income that is calculated for a tax year for the purposes of Part I of the Tax Credits Act 2002 in accordance with regulations made under section 7 of that Act;

“working tax credit” means working tax credit under section 10 of the Tax Credits Act 2002;.

Diwygio rheoliad 8 o Reoliadau 1997

3.—(1Diwygir rheoliad 8 o Reoliadau 1997 (cymhwyster — cyflenwi teclynnau optegol) yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2Ym mharagraff (3) —

(a)ar ôl is-baragraff (k) mewnosodir yr is-baragraff canlynol—

(l)he is a member of a family—

(i)that has a gross annual income of £14,200 or less, and

(ii)one member of which is receiving—

(aa)working tax credit and child tax credit, or

(bb)working tax credit which includes a disability element; or

(cc)child tax credit, but is not eligible to receive working tax credit..

(b)hepgorir is-baragraffau (c), (d), (g) ac (h).

(3Yn lle paragraff (4) rhoddir y paragraff canlynol—

(4) In paragraph (3), “family” has the meaning assigned to it by section 137(1) of the Social Security Contributions and Benefits Act 1992(5) as it applies to income support except that —

(a)in sub-paragraph (j) it has the meaning assigned to it by section 35 of the Jobseekers Act 1995(6); and

(b)in sub-paragraph (l) it has the meaning assigned to it by regulation 2(2) of the Tax Credits (Definition and Calculation of Income) Regulations 2002(7)..

Mewnosod rheoliad 12A yn Rheoliadau 1997

4.  Ar ôl rheoliad 12 o Reoliadau 1997 (defnyddio talebau i gyflenwi cyfarpar optegol) mewnosodir y rheoliad canlynol—

Notices of entitlement

12A(1) If a person is entitled to the payment of, or contribution towards, the cost incurred for the supply of an optical appliance because he or she is a member of a family described in regulation 8(3)(l), the National Assembly for Wales will issue a notice of entitlement;

(2) A notice of entitlement issued in accordance with paragraph (1) will apply to —

(a)the person to whom it is issued and who is named on the notice of entitlement, and

(b)any other members of his or her family.

(3) A notice of entitlement issued in accordance with paragraph (1) will be effective—

(a)from such date; and

(b)for such period,

as the National Assembly for Wales may determine.

(4) Any change in the financial or other circumstances of a person who is a member of a family in respect of which a notice has been issued in accordance with paragraph (1), during the period for which the notice of entitlement has been issued, will not affect the validity of the notice of entitlement in respect of that period..

Diwygio rheoliad 19 o Reoliadau 1997

5.  Yn rheoliad 19 o Reoliadau 1997 (gwerth adbrynu taleb ar gyfer ailosod neu drwsio)—

(a)ym mharagraff 1(b), yn lle “£44.60”, rhoddir “£45.70”; a

(b)ym mharagraph (3)(c) yn lle “£11.50”, rhoddir “£11.80”.

Diwygio'r Atodlenni i Reoliadau 1997

6.—(1Yn Atodlen 1 Reoliadau 1997 (codau llythrennau taleb a gwerthoedd ar yr wyneb — cyflenwi ac ailosod) yng ngholofn (3) (gwerth taleb ar yr wyneb), am bob swm a bennir yng ngholofn 1 o'r tabl isod amnewidier y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn 2 o'r tabl hwnnw.

TABL

(1)(2)
Swm blaenorolSwm newydd
£ 30.50£ 31.30
£ 46.40£ 47.60
£ 63.20£ 64.80
£ 142.70£ 146.30
£ 52.70£ 54.00
£ 67.00£ 68.70
£ 81.00£ 83.00
£ 157.00 (y ddau dro y mae'n ymddangos)£ 160.90
£ 44.60£ 45.70

(2Yn Atodlen 2 i Reoliadau 1997 (prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd, sbectol fach a sbectol arbennig a theclynnau cymhleth)—

(a)ym mharagraff 1(1)(a) (prism — lens golwg unigol), yn lle “£9.90” rhoddir “£10.10”;

(b)ym mharagraff 1(1)(b) (prism — lens arall), yn lle “£11.90” rhoddir “£12.20”;

(c)ym mharagraff 1(1)(c) (lens golwg unigol arlliw), yn lle “£3.30” rhoddir “£3.40”;

(ch)ym mharagraff 1(1)(d) (lens arlliw arall), yn lle “£3.80” rhoddir “£3.90”;

(d)ym mharagraff 1(1)(e) (sbectol fach)—

(i)yn lle “£50.20” rhoddir “£51.50”,

(ii)yn lle “£44.60” rhoddir “£45.70”, a

(iii)yn lle “£24.20” rhoddir “£24.80”;

(dd)ym mharagraff 1(1)(g) (fframiau a weithgynhyrchwyd yn arbennig) yn lle“£50.20” rhoddir “£51.50”;

(e)ym mharagraff 2(a) (isafswm taliad am declyn cymhleth — lens golwg unigol), yn lle “£10.70” rhoddir “£11.00”.

(f)ym mharagraff 2(b) (isafswm taliad am declyn cymhleth — lensys eraill), yn lle “£27.00” rhoddir “£27.70”.

(3Yn lle Atodlen 3 i Reoliadau 1997 (gwerthoedd talebau — trwsio), rhoddir yr Atodlen 3 a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Defnyddio'r Rheoliadau hyn

7.  Mae'r diwygiadau a wneir gan reoliadau 5 a 6 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â thaleb a dderbyniwyd neu a ddefnyddiwyd yn unol â rheoliad 12 neu 17 o Reoliadau 1997 ar neu ar ôl 1 Ebrill 2003.

Diwygio rheoliad 2 o Reoliadau 1986

8.—(1Diwygir Rheoliad 2 o Reoliadau 1986 (dehongli), yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2Hepgorir y diffiniadau o—

  • amount withdrawn

  • disabled person’s tax credit

  • working families' tax credit.

(3Yn y lleoedd priodol ac yn nhrefn yr wyddor mewnosodir y diffiniadau canlynol—

“child tax credit” means child tax credit under section 8 of the Tax Credits Act 2002(8);

“disability element” means the disability element of working tax credit as specified in section 11(3) of the Tax Credits Act 2002;

“gross annual income” means income that is calculated for a tax year for the purposes of Part I of the Tax Credits Act 2002 in accordance with regulations made under section 7 of that Act;

“working tax credit” means working tax credit under section 10 of the Tax Credits Act 2002;.

Diwygio rheoliad 13 o Reoliadau 1986

9.—(1Diwygir Rheoliad 13 o Reoliadau 1986 (profion golwg — cymhwyster) yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2Ym mharagraff (2) ,

(a)ar ôl is-baragraff (j) mewnosodir yr is-baragraff canlynol—

(k)he is a member of a family—

(i)that has a gross annual income of £14,200 or less, and

(ii)one member of which is receiving—

(aa)working tax credit and child tax credit, or

(bb)working tax credit which includes a disability element; or

(cc)child tax credit, but is not eligible to receive working tax credit..

(b)hepgorir is-baragraffau (c), (d), (g) ac (h).

(3Yn lle paragraff (3) rhoddir y paragraff canlynol—

(3) In paragraph (2), “family” has the meaning assigned to it by section 137(1) of the Social Security Contributions and Benefits Act 1992(9) as it applies to income support except that —

(a)in sub-paragraph (j) it has the meaning assigned to it by section 35 of the Jobseekers Act 1995(10); and

(b)in sub-paragraph (l) it has the meaning assigned to it by regulation 2(2) of the Tax Credits (Definition and Calculation of Income) Regulations 2002(11)..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(12))

D. Elis- Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

31 Mawrth 2003

Rheoliad 3(3)

YR ATODLEN ATODLEN I REOLIADAU 1997 FEL Y'I HAMNEWIDIR GAN Y RHEOLIADAU HYN

Regulations 19(2) and (3)

SCHEDULE 3VOUCHER VALUES — REPAIR

(1)(2)
Nature of repairLetter Codes — Value
ABCDEFGH&I
££££££££
Repair or replacement of one lens9.7517.9026.5067.2521.1028.4535.6074.55
Repair or replacement of two lenses19.4535.7553.00134.5042.2556.9071.25149.15
Repair or replacement of: —
the front of a frame10.0010.0010.0010.0010.0010.0010.0010.00
a side of a frame5.955.955.955.955.955.955.955.95
the whole frame11.8011.8011.8011.8011.8011.8011.8011.80

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (“Rheoliadau 1997”) a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 (“Rheoliadau 1986”).

Mae Rheoliadau 1997 yn darparu ar gyfer cynllun taliadau i'w gwneud gan yr Awdurdodau Iechyd ac Ymddiriedolaethau GIG drwy gyfrwng system dalebau mewn perthynas â chostau a dynnir gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â phrofion golwg a chyflenwi, amnewid a thrwsio teclynnau optegol.

Mae Rheoliadau 1986 yn cynnwys darpariaeth ar gyfer trefnu gwasanaethau offthalmig cyffredinol o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae rheoliadau 2 a 3 yn diwygio rheoliad 1 o Reoliadau 1997 i hepgor y diffiniadau o “amount withdrawn”, “disabled person’s tax credit” a “working families tax credit”, rhoi diffinaid newydd yn lle “family” a mewnosod diffiniadau ar gyfer “child tax credit”, “disability element” , “gross annual income” a “working tax credit”.

Mae'r diwygiadau'n adlewyrchu'r newidiadau a wnaed gan Ddeddf Credydau Treth 2002 ac yn cyflwyno i'r categorïau o bersonau sydd â hawl i gael cymorth tuag at y gost o gyflenwi teclynnau optegol (o dan Reoliadau 1997) a chael prawf llygaid o dan wasanaethau offthalmig cyffredinol (o dan Reoliadau 1986) aelodau o deulu y mae eu hincwm yn disgyn o dan derfyn penodol ac sy'n derbyn credyd treth plant a chredyd treth gwaith, neu gredyd treth gwaith gydag elfen o anabledd. Yn ychwanegol, mae teulu sy'n cael credyd treth plant ond nad oes ganddo hawl i gredyd treth gwaith hefyd yn cael ei gynnwys yn y diffiniad ar yr amod bod ei incwm o fewn yr un terfyn penodedig.

Seilir y terfyn incwm ar incwm blynyddol gros y teulu (h.y. yr incwm cyn didynnu treth a chyfraniadau yswiriant cenedlaethol).

Mae'r newidiadau a wneir gan y diwygiadau hyn yn disodli'r hawl i gael cymorth tuag at y gost o gyflenwi teclynnau optegol a chael prawf llygaid o dan wasanaethau offthalmig cyffredinol a seiliwyd ar dderbyn credyd treth i deuluoedd sy'n gweithio a chredyd treth i bobl anabl.

Mae rheoliad 4 o'r rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliad 12A newydd yn Rheoliadau 1997 i ddarparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gyhoeddi hysbysiadau hawl wedi'u seilio ar yr hawl o dan y Ddeddf Credydau Treth.

Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 19 o Reoliadau 1997 (gwerth adbrynu taleb ar gyfer ailosod neu drwsio) i gynyddu gwerth taleb optegol a ddyrodwyd tuag at y gost o ailosod lens gyffwrdd unigol, a chynyddu mwyafswm y cyfraniad drwy daleb at gost trwsio ffrâm sbectol.

Mae rheoliad 6(1) yn diwygio Atodlen 1 o Reoliadau 1997 i gynyddu gwerth y talebau a ddyroddir tuag at gostau cyflenwi ac ailosod gwydrau a lensys cyffwrdd.

Rheoliad 6(2) yn diwygio Atodlen 2 i Reoliadau 1997 i gynyddu gwerthoedd ychwanegol y talebau ar gyfer prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd a theclynnau mewn categorïau penodol.

Mae rheoliad 6(3) a'r Atodlen yn amnewid Atodlen 3 newydd yn Rheoliadau 1997 i gynyddu gwerth y talebau a roddir tuag at y gost o drwsio ac ailosod teclynnau optegol.

Tua 2.5%, ar gyfartaledd, yw graddfa'r cynnydd.

Mae rheoliad 7 yn darparu bod y cynnydd yng ngwerthoedd y daleb a wneir gan reoliadau 5 a 6 yn gymwys yn unig i dalebau a dderbynir neu a ddefnyddir ar ôl 1 Ebrill 2003.

Mae rheoliadau 8 a 9 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliadau 2 a 13 o Reoliadau 1986 yn sgil diddymu credyd treth i deuluoedd sy'n gweithio a chredyd treth i bobl anabl a'u disodli gan gredyd treth plant a chredyd treth gwaith Ddeddf Credydau Treth 2002.

(1)

1977 p.49; gweler adran 128(1), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) (“Deddf 1990”), adran 26(2)(g) ac (i) i gael y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.

Diwygiwyd adran 38 gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53) (“Deddf 1980”), adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 51; gan Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48) (“Deddf 1984”), adran 1(3); gan O.S.1985/39, erthygl 7(11); gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49) (“Deddf 1988”), adran 13(1); a chan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) (“Deddf 1995”), Atodlen 1, paragraff 27.

Cafodd adran 39 ei hestyn gan Ddeddf 1988, adran 17; a'i diwygio gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p. 53), adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 52, gan Ddeddf 1984, adran 1(4) ac Atodlen 1, paragraff 1 ac Atodlen 8; gan O.S.1985/39, erthygl 7(12); a chan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 28.

Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990 adran 65(2) a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) (“Deddf 1999”), Atodlen 4, paragraff 37(6).

Amnewidiwyd paragraff 2(1) o Atodlen 12 gan Ddeddf 1988, Atodlen 2, paragraff 8(1). Cafodd paragraff 2A o Atodlen 12 ei fewnosod gan Ddeddf 1984, Atodlen 1, Rhan 1, paragraff 3 a'i ddiwygio gan Ddeddf 1988, aadran 13(2) a (3).

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 38, 39, 78, 126(4) a 127, a pharagraffau 2 a 2A o Ddeddf 1977 ac Atodlen 12 iddi, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999.

(10)

1995 p.18.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources