- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Porthiant (Diwygio) (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 1 Mai 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gynwys i Gymru yn unig.
2. Diwygir Rheoliadau Porthiant (Diwygio) (Cymru) 2001(1)) yn unol â rheoliadau 3 i 6.
3. In rheoliad 2 (dehongli), ar ôl y diffiniad “y Gyfarwyddeb Deunyddiau Porthiant” ym mharagraff (1) mewnosoder y diffiniad canlynol —
ystyr “y Gyfarwyddeb Orfodi” (“the Enforcement Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 95/53/EC sy'n sefydlu'r egwyddorion sy'n llywodraethu trefn archwiliadau swyddogol ym maes maeth anifeiliaid(2) fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/20/EC(3), Cyfarwyddeb 2000/77/EC o Senedd Ewrop a'r Cyngor(4) a Chyfarwyddeb 2001/46/EC o Senedd Ewrop a'r Cyngor(5));”.
4. Yn y ddau reoliad 7(1) a 24(1), yn lle'r ymadrodd “and the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002” rhodder yr ymadrodd “, the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002 and the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2003.”.
5. Yn rheoliad 12 ( rheoli porthiant a deunyddiau porthiant sy'n cynnwys deunyddiau annymunol), yn lle paragraff (9) rhodder y paragraff canlynol —
“(9) Os oes gan berson y mae paragraff cyntaf Erthygl 16a o'r Gyfarwyddeb Orfodi yn gymwys iddo dystiolaeth bod unrhyw ddeunydd porthiant a bennir yng ngholofn 2 o Bennod A o Ran II o Atodlen 7, y mae wedi ei ddwyn i Gymru o drydydd gwlad neu wedi ei gylchredeg ac y mae ef yn ei ddal neu'n berchen arno, yn cynnwys unrhyw sylwedd a bennir yng ngholofn 1 o'r Bennod honno yn fwy na'r lefel a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn 3 o'r Bennod honno, rhaid iddo —
(a)hysbysu'r Asiantaeth a'r awdurdod y mae dyletswydd ganddynt, yn rhinwedd adran 67(1A), orfodi Rhan IV o'r Ddeddf mewn perthynas â'r deunydd porthiant o dan sylw; a
(b)rhoi iddynt yr wybodaeth a bennir yn ail baragraff Erthygl 16a o'r Gyfarwyddeb Orfodi.”.
6. Yn Atodlen 3 (ychwanegion a ganiateir a darpariaethau ynghylch eu defnyddio) —
(a)yn lle'r troednodyn i Ran VII o'r Tabl (cyffeithyddion a ganiateir) rhodder y troednodyn canlynol —
“(1) Note also that (as referred to in Part IX of this Table) one preservative is permitted by virtue of Commission Regulation (EC) No. 1594/1999(6) and one by Commission Regulation (EC) No. 1252/2002(7)).”; a
(b)yn lle'r darpariaethau yn Rhan IX o'r Tabl (Rheoliadau'r Gymuned Ewropeaidd y rheolir ychwanegion drwyddynt) rhodder y darpariaethau a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
7.—(1) I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, caiff Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999(8) eu diwygio yn unol â pharagraffau 2 a 3 o'r rheoliad hwn.
(2) Ym mhob un o'r darpariaethau a bennir ym mharagraff 3, yn lle'r ymadrodd “and the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002” rhodder yr ymadrodd “, the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002 and the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2003”.
(3) Dyma'r darpariaethau: rheoliadau 7(2) a (4), testun is-adran (8) o adran 67 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970(9) fel y'i haddaswyd gan reoliad 9 a thestun is-adran (17) o adran 76 o'r Ddeddf honno fel y'i haddaswyd gan reoliad 10.
8.—(1) I'r graddau y maent yn gynwys i Gymru, caiff Rheoliadau Porthiant (Sefydliadau a Chanolwyr) 1999(10) eu diwygio yn unol â'r paragraff 2 yn y rheoliad hwn.
(2) Ym mharagraff (2) o reoliad 2 (diffiniad “porthiant” a diffiniadau perthnasol a dehongli cyffredinol), ar ddiwedd y diffiniad “Directive 95/53” ychwaneger y geiriau “, Directive 2000/77/EC of the European Parliament and of the Council and Directive 2001/46/EC of the European Parliament and of the Council”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(11))
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
2 Ebrill 2003
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: