- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Porthiant 2000 (O.S. 2000/2481, fel y'u diwygiwyd eisoes) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999 (O.S. 1999/2325, fel y'u diwygiwyd eisoes) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, a Rheoliadau Porthiant (Sefydliadau a Chanolwyr) 1999 (S.I. 1999/1872, fel y'u diwygiwyd eisoes) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu —
(a)ail is-baragraff Erthygl 8.2 of Gyfarwyddeb y Cyngor 95/53/EC sy'n pennu'r egwyddorion sy'n llywodraethu trefniadaeth archwiliadau swyddogol ym maes maeth anifeiliaid (OJ Rhif L265, 8.11.95, t.17); a
(b)Cyfarwyddeb 2001/46/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 95/53/EC sy'n pennu'r egwyddorion sy'n llywodraethu trefniadaeth archwiliadau swyddogol ym maes maeth anifeiliaid a Chyfarwyddebau 70/524/EC, 96/25/EC a 1999/29/EC ar faeth anifeiliaid (OJ Rhif L234, 1.9.2001, t.55).
3. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu ar gyfer gorfodi Rheoliadau'r Gymuned a ganlyn —
(a)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1252/2002 sy'n ymwneud ag awdurdodi dros dro ychwanegyn newydd mewn porthiant (OJ Rhif L183, 12.7.2002, t.10);
(b)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1876/2002 sy'n ymwneud ag awdurdodi dros dro ddefnydd newydd o ychwanegyn mewn porthiant (OJ Rhif .L284, 22.10.2002, t.7); ac
(c)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2188/2002 sy'n ymwneud ag awdurdodi dros dro ddefnyddiau newydd o ychwanegion mewn porthiant (OJ Rhif L333, 10.12.2002, t.5).
4. Mae'r Rheoliadau hyn —
(a)yn diwygio Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001 drwy —
(i)mewnosod i reoliad 2 ddiffiniad o'r term “y Gyfarwyddeb Orfodi” (rheoliad 3),
(ii)gwneud diwygiadau canlyniadol i reoliadau 7(1) a 24(1) (rheoliad 4),
(iii)gosod rhwymedigaeth ar y sawl sy'n gyfrifol am sefydliadau sy'n cynhyrchu cynhyrchion ar gyfer maeth anifeiliaid i hysbysu'r Asiantaeth Safonau Bwyd a'r awdurdod lleol perthnasol a rhoi iddynt wybodaeth benodedig, os oes ganddynt dystiolaeth bod porthiant y maent wedi ei fewnforio neu beri ei gylchredeg yn cynnwys sylweddau annymunol penodol ar lefelau sy'n uwch na'r uchafswm a ragnodir (rheoliad 5), a
(iv)ychwanegu tri rheoliad newydd y Comisiwn i'r rhestr o Reoliadau'r Comisiwn yr awdurdodwyd marchnata ychwanegion porthiant odani ac a gynhwysir yn Rhan IX o'r Tabl i Atodlen 3, ac sy'n gwneud diwygiad canlyniadol i'r troednodyn i Ran VII o'r Tabl hwnnw (rheoliad 6 a'r Atodlen); a
(b)diwygio Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999 drwy wneud diwygiadau canlyniadol i ddarpariaethau penodol (rheoliad 7), a
(c)gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Porthiant (Sefydliadau a Chanolwyr) 1999 (rheoliad 8).
5. Paratowyd asesiad o effaith y Rheoliadau hyn ac fe'i gosodwyd yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae copïau ar gael oddi wrth Uned Bwydydd Anifeiliaid yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EN.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: