Search Legislation

Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2004

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2004, a deuant i rym ar 1 Hydref 2004.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan awdurdodau lleol yng Nghymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

mae i “asiantaeth fabwysiadu” yr un ystyr ag “adoption agency” yn Neddf Mabwysiadu 1976(1);

mae i “credyd treth plant” yr un ystyr â “child tax credit” yn Neddf Credydau Treth 2002 (2));

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002;

ystyr “defnyddiwr gwasanaethau cymorth mabwysiadu” (“adoption support services user”) yw person a bennir yn yr Atodlen;

mae “gwasanaethau cymorth mabwysiadu” (“adoption support services”) i'w dehongli yn unol â rheoliad 3(1);

ystyr “hysbysu” (“notify”) yw hysbysu yn ysgrifenedig;

mae i “plentyn sydd yn derbyn gofal” yr un ystyr ag “a child who is looked after” yn adran 22(1) o Ddeddf Plant 1989(3);

ystyr “Rheoliadau 1983” (“the 1983 Regulations”) yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983(4);

ystyr “rhiant mabwysiadol” (“adoptive parent”) yw person —

(a)

y mae asiantaeth fabwysiadu wedi penderfynu yn unol â rheoliad 11(1) o Reoliadau 1983 y byddai'n rhiant mabwysiadol addas i blentyn;

(b)

y mae asiantaeth fabwysiadu wedi lleoli plentyn gydaf ef i'w fabwysiadu;

(c)

sydd wedi hysbysu ei fwriad, o dan adran 22(1) o Ddeddf Mabwysiadu 1976, i wneud cais am orchymyn mabwysiadu am blentyn; neu

(ch)

sydd wedi mabwysiadu plentyn,

ond nid yw'n cynnwys person os nad yw'r plentyn bellach yn blentyn, neu os yw'r person yn llys-riant neu'n rhiant naturiol y plentyn, neu a oedd yn llys-riant i'r plentyn cyn iddo fabwysiadu'r plentyn; ac

ystyr “teulu mabwysiadol” (“adoptive family”) yw plentyn mabwysiadol, rhiant mabwysiadol y plentyn mabwysiadol, unrhyw blentyn i'r rhiant mabwysiadol ac y mae cyfeiriadau at deulu mabwysiadol person neu gyfeiriadau neu mewn perthynas â theulu mabwysiadol person, i'w dehongli fel y teulu mabywsiadol y mae'r person hwnnw yn aelod ohono.

(2Yn y Rheoliadau hyn —

(a)yn ddarostyngedig i baragraff (b), ystyr “plentyn mabwysiadol” yw plentyn a fabwysiadwyd, neu blentyn y gellir ei fabwysiadu;

(b)mae cyfeiriadau at blentyn mabwysiadol person yn gyfeiradau at blentyn heblaw llysblentyn, a fabwysiadwyd, neu y mae caniatâd i'w fabwysiadu, gan y person hwnnw.

(3Yn rheoliadau 8 i 15, ystyr “plentyn” (“child”) yw plentyn mabwysiadol, ac mae cyfeiriadau at blentyn person yn gyfeiriadau at blentyn, heblaw llysblentyn y person, a fabwysiadwyd neu y mae caniatâd i'w fabwysiadu gan y person hwnnw.

Darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu

3.—(1At ddibenion adran 2(6) o Ddeddf 2002 (diffinio “adoption support services”)(5), rhagnodir y gwasanaethau a ganlyn—

(a)cymorth ariannol sy'n daladwy o dan reoliad 10;

(b)gwasanaethau i alluogi grwpiau o ddefnyddwyr gwasanaethau cymorth mabwysiadu i drafod materion sy'n ymwneud â mabwysiadu;

(c)cymorth mewn perthynas â threfniadau cysylltu rhwng plentyn mabwysiadol a —

(i)perthynas i'r plentyn mabwysiadol; neu

(ii)unrhyw berson y mae gan y plentyn mabwysiadol berthynas ag ef a honno'n berthynas, ym marn yr awdurdod lleol, sydd o fudd i les y plentyn o ran y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (i) i (iii) o adran 1(4)(f) o Ddeddf 2002;

(ch)gwasanaethau y gellir eu darparu i riant mabwysiadol neu blentyn mabwysiadol mewn perthynas ag anghenion therapiwtig y plentyn;

(d)cymorth er mwyn sicrhau bod y berthynas rhwng y plentyn a'i riant mabwysiadol yn parhau, gan gynnwys —

(i)hyfforddiant i rieni mabwysiadol er mwyn diwallu unrhyw anghenion arbennig sydd gan y plentyn;

(ii)gofal seibiant.

(2At ddibenion paragraff 3(1) o Atodlen 4 i Ddeddf 2002, y trefniadau mae'n ofynnol i awdurdodau lleol eu gwneud yw trefniadau er mwyn darparu unrhyw wasanaeth a bennir yng ngholofn (1) o'r Atodlen ar gyfer personau sydd o ddisgrifiad a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn (2) o'r Atodlen hwnnw.

(3Mae'n ofynnol gwneud y trefniadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) o ran unrhyw wasanaeth p'un a yw'r awdurdod lleol wedi penderfynu darparu'r gwasnanaeth i unrhyw berson ai peidio.

Cynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu

4.—(1Rhaid i'r awdurdod lleol benodi person (“cynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu”) i gyflawni'r swyddogaeth a bennir ym mharagraff (2).

(2Swyddogaethau cynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu yw cynghori personau yr effeithir arnynt pan fydd plentyn yn cael ei fabwysiadu neu pan fwriedir mabwysiadu plentyn a rhoi gwybodaeth iddynt am y canlynol —

(a)gwasanaethau a all fod yn briodol i'r personau hynny; a

(b)sut y gellir darparu'r gwasanaethau hynny iddynt.

(3Caiff awdurdodau lleol dim ond penodi person yn gynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysaidu os yw'n fodlon fod ei wybodaeth a phrofiad am —

(a)y broses fabwysiadu; a

(b)effaith mabwysiadu plentyn ar bersonau y mae'n debygol yr effeithir arnynt gan y mabwysiadu,

yn ddigonol at ddibenion rôl cynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu.

Rheidrwydd asesu

5.—(1Rhaid i awdurdod lleol, ar gais oedolyn neu blentyn a bennir yn yr Atodlen, asesu ei anghenion o ran gwasanaethau cymorth mabwysiadu.

(2Caiff awdurdod lleol, ar gais unrhyw berson arall, gynnal asesiad o'i anghenion am wasanaethau cymorth mabwysiadu.

(3Pan fydd awdurdod lleol yn ystyried mabwysiadu ar gyfer plentyn sydd o dan ofal awdurdod lleol, rhaid i'r awdurdod, cyn cwblhau'r adroddiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan rheoliad 7(2)(e) o Reoliadau 1983, asesu anghenion y plentyn o ran gwasanaethau cymorth mabwysiadu.

(4Pan fydd awdurdod lleol yn cynnig lleoli plentyn i'w fabwysiadu gyda ddarpar fabwysiadwr, rhaid i'r awdurdod, cyn cwblhau'r adroddiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan reoliad 9(1) o Reoliadau 1983, asesu anghenion pob aelod o'r teulu mabwysiadol o ran gwasanaethau cymorth mabwysiadu.

(5Os digwydd y canlynol —

(a)bod awdurdod lleol yn adolygu lleoliad plentyn i'w fabwysiadu o dan reoliad 12(2)(k) o Reoliadau 1983; a

(b)nid yw wedi cynnal asesiad yn unol â pharagraff (4) o ran pob aelod o'r teulu mabwysiadol,

rhaid iddo, cyn cwblhau'r adolygiad, asesu anghenion pob aelod o'r teulu mabwysiadol o ran gwasanaethau cymorth mabwysiadu.

(6Pan fydd awdurdod lleol (“yr awdurdod lleoli”) yn ystyried lleoli plentyn sydd o dan ofal gyda ddarpar fabwysiadwr sy'n preswylio yn ardal awdurdod lleol arall (“yr awdurdod adennill”), rhaid i'r awdurdod lleoli ymgynghori yn ysgrifenedig â'r awdurdod adennill am y lleoliad ac am ganlyniadau'r gwaith asesu a wnaed yn unol â pharagraffau (3) a (4) ac yn enwedig am allu'r asiantaethau yn ardal yr awdurdod adennill i ddarparu unrhyw wasanaethau cymorth mabwysiadu a nodwyd.

(7Rhaid i'r awdurdod adennill yng Nghymru ymateb yn ysgrifenedig i'r ymgynghoriad a wnaed yn unol â pharagraff (6) cyn pen wyth niwrnod ar hugain ar ôl ei gael.

(8Pan fydd awdurdod adennill wedi ymateb yn ysgrifenedig i'r ymgynghoriad a wnaed yn unol â pharagraff (6), rhaid i'r sylwadau ysgrifenedig hyn gael eu hystyried gan y panel mabwysiadu wrth ystyried lleoli plentyn yn unol â rheoliad 10 o Reoliadau 1983 a chan yr asiantaeth fabwysiadu wrth ystyried ei benderfyniad yn unol â rheoliad 11 o Reoliadau 1983.

(9Pan fydd cais y person o dan baragraff (1) neu (2) yn ymwneud â gwasanaeth penodol a bennir yn rheoliad 3(1), neu os ymddengys i'r awdurodd lleol fod modd asesu anghenion y person am wasanaethau cymorth mabwysiadu drwy gyfeirio at wasanaeth penodol a bennir felly, caiff yr awdurdod gynnal yr asesiad drwy gyfeirio at y gwasanaeth hwnnw yn unig.

(10Nid oes rhaid i'r awdurdod lleol o dan baragraff (1) asesu anghenion person oni bai —

(a)bod paragraff (11) yn gymwys;

(b)bod paragarff (12) yn gynmwys a bod y person yn gofyn am gael ei asesu —

(i)cyn pen blwyddyn ar ôl dyddiad y gorchymyn mabwysiadu; neu

(ii)cyn pen tair blynedd ar ôl y dyddiad pan leolwyd y plentyn mabwysiadol gyda'r rhieni mabwysiadol; neu

(c)nad yw is-baragraffau (a) a (b) yn gymwys ac mae'r person yn byw yn ardal yr awdurdod lleol.

(11Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fydd plentyn mabwysiadol —

(a)o dan ofal yr awdurdod lleol; neu

(b)heb ei fabwysiadu ond wedi cael ei leoli i'w fabwysiadu gan yr awdurdod lleol.

(12Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fydd plentyn mabwysiadol —

(a)wedi cael ei fabwysiadu gan ei rieni mabwysiadol; a

(b)cyn i'r gorchymyn mabwysiadu gael ei wneud, wedi cael ei leoli i'w fabwysiadu gyda'r rhieni mabwysiadol gan yr awdurdod lleol.

Gweithdrefn asesu

6.—(1Rhaid i'r asesiad o anghenion person am wasanaethau cymorth mabwysiadu gael ei gynnal gan berson a chanddo'r cymwysterau a'r profiad addas, ynghyd â'r sgiliau angenhreidiol at ddibenion yr asesiad.

(2Wrth asesu, rhaid i'r awdurdod lleol ystyried y canlynol—

(a)anghenion y person;

(b)anghenion teulu mabwysiadol y person;

(c)o ran plentyn mabwysiadol a leolwyd i'w fabwysiadu, yr amgylchiadau a arweiniodd at leoli'r plentyn i'w fabwysiadu;

(ch)unrhyw anghenion arbennig sydd gan y plentyn mabwysiadol sy'n codi oherwydd —

(i)bod y plentyn wedi bod o dan ofal yr awdurdod lleol;

(ii)bod y plentyn wedi preswylio'n arferol y tu allan i Ynysoedd Prydain;

(iii)bod y rhiant mabwysiadol yn berthynas i'r plentyn.

(3Rhaid i'r awdurdod lleol, pan fydd yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny—

(a) cyfweld â'r person ac os bydd y person yn blentyn mabwysiadol, ei rieni mabwysiadol;

(b)llunio adroddiad ysgrifenedig o'r asesiad.

(4Rhaid i'r awdurdod lleol, gan ystyried yr asesiad, benderfynu—

(a)a oes ar y person angen gwasanaethau cymorth mabwysiadu; a

(b)os felly, a oes angen darparu'r gwasanaethau hynny iddo,

ac, yn ddarostyngedig i baragraffau (6) a (7), rhaid i'r awdurdod roi hysbysiad o'r penderfyniad yn ysgrifenedig yn unol â pharagraff (5), yn ogystal â'r rhesymau drosto.

(5Rhaid i'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (4) gael ei roi —

(a)pan fydd y person yn oedolyn, i'r person hwnnw;

(b)pan fydd y person yn blentyn ac—

(i)ymddengys i'r awdurdod lleol fod y plentyn yn ddigon hen a'i fod yn deall digon iddi fod yn briodol rhoi'r hysbysiad hwnnw iddo; a

(ii)o ystyried popeth, nid ymddengys yn amhriodol gwneud hynny,

i'r plentyn;

(c)mewn unrhyw achos arall pan fydd y person yn blentyn, i—

(i)y person y mae asiantaeth fabwysiadu wedi penderfynu yn unol â rheoliad 11(1) o Reoliadau 1983 y byddai'n rhiant mabwysiadol addas i'r plentyn;

(ii)y person y lleolwyd y plentyn gydag ef i'w fabwysiadu;

(iii) y person sydd wedi mabwysiadu'r plentyn; neu

os nad yw person yn dod o fewn penawdau (i) i (iii) o'r is-baragraff hwn, y person sy'n bwriadu mabwysiadu'r plentyn.

(6Pan fydd yr asesiad yn ymwneud â darparu gwybodaeth yn unig, ni fydd y gofyniad ym mharagraff (4) i roi hysbysiad yn gymwys pan na fydd yr awdurdod lleol yn ei hystyried yn briodol rhoi hysbysiad.

(7Pan fydd yr asesiad yn ymwneud ag angen person am gymorth ariannol, rhaid rhoi'r hysbysiad a roddir mewn perthynas â phenderfyniad yr awdurod lleol ynghylch darparu cymorth ariannol yn ychwanegol at unrhyw hysbysiad a roddir yn unol â rheoliadau 12 a 13.

Cynllun

7.—(1Os yw'r awdurdod lleol yn penderfynu darparu unrhyw wasanaethau cymorth mabwysiadu i berson, rhaid iddo, ac eithrio pan fydd y gwasanaethau i'w darparu ar un achlysur—

(a)paratoi cynllun y mae'r gwasanaethau i'w darparu yn unol ag ef; a

(b)ei hysbysu ef neu hi am y cynllun.

(2At ddibenion paratoi'r cynllun, rhaid i'r awdurdod lleol ymgynghori â —

(a)y person;

(b)y cynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu (os oes un) a enwebwyd ar gyfer y person;

(c)pan ymddengys i'r awdurdod lleol —

(i)y gall fod angen i fwrdd iechyd lleol ddarparu gwasanaethau i'r person hwnnw; neu

(ii)y gall fod angen darparu gwasanaethau iddo sy'n dod o fewn swyddogaethau awdurdod addysg lleol (o fewn ystyr Deddf Addysg 1996) (6),

y bwrdd iechyd lleol hwnnw neu'r awdurdod addysg lleol hwnnw.

Adolygu darpariaeth gwasanaethau cymorth mabwysiadu

8.—(1Pan fydd yr awdurdod lleol yn darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu i berson, neu pan fydd wedi eu darparu yn ystod y ddeuddeng mis blaenorol, rhaid iddo adolygu'r ddarpariaeth os daw'n hysbys iddo fod amgylchiadau'r person wedi newid.

(2Mae paragraffau (1) i (4) o reoliad 6 yn gymwys i adolygiad o dan y rheoliad hwn fel y maent yn gymwys i asesiad o dan rheoliad 6.

(3Rhaid i'r awdurdod lleol, o ran yr adolygiad—

(a)penderfynu a ddylai amrywio ei ddarpariaeth o wasanaethau cymorth mabwysiadu i'r person; a

(b)adolygu ac, os yw'n briodol, diwygio'r cynllun a baratowyd o dan reoliad 7.

(4Os yw'r awdurdod lleol yn penderfynu amrywio'r ddarpariaeth o wasanaethau cymorth mabwysiadu i'r person, neu ddiwygio'r cynllun, rhaid iddo roi hysbysiad yn unol â pharagraff (5) o reoliad 6; ac y mae paragraffau (6) a (7) o'r rheoliad hwnnw yn gymwys i'r paragraff hwn fel y maent yn gymwys i baragraff (5) o'r rheoliad hwnnw.

Cyfrifoldebau awdurdodau lleol am leoliadau y tu allan i'r ardal

9.—(1Pan fydd awdurdod lleol (“yr awdurdod lleoli”)—

(a)yn ystyried rhoi plentyn i'w fabwysiadu ond nid yw'r plentyn wedi'i leoli; neu

(b)wedi lleoli plentyn i'w fabwysiadu ond nid oes gorchymyn mabwysiadu wedi'i wneud ar gyfer y plentyn; ac

(c)pan fydd awdurdod lleol arall (“yr awdurdod adennill lleol”) yn darparu unrhyw wasanaethau cymorth mabwysiadu mewn perthynas â'r plentyn,

caiff yr awdurdod adennill, yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3), (4) a (5), adennill o'r awdurdod lleoli dreuliau darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu.

(2Ni fydd paragraff (1) yn gymwys o ran treuliau darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu, gan gynnwys cymorth ariannol, i'r graddau mai darparu cyngor a gwybodaeth neu ddarparu cynghorydd cymorth mabwysiadu yw'r gwasanaethau hynny.

(3Bydd paragraff (1) ond yn gymwys o ran y treuliau darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu i'r graddau —

(a)mae'r awdurdod lleoli wedi penderfynu darparu'r gwasanaethau hynny; a

(b)y darperir y gwasanaethau yn unol â'r cynllun a baratowyd o dan reoliad 7 gan yr awdurdod lleoli.

(4Pan fydd awdurdod lleoli yn talu treuliau darparu gwasnaethau cymorth mabwysiadu —

(a)o dan yr amgylchiadau a bennir yn rheoliad 3(1)(b) i (e) yn unol â pharagraff (1); neu

(b)o dan yr amgylchiadau a bennir yn rheoliad 3(1)(a), pan ddarperir y cymorth hwnnw ar ôl gwneud y gorchymyn mabwysiadu,

rhaid i'r awdurdod lleoli barhau i wneud felly am hyd at dair blynedd o ddyddiad y lleoli, yn ddarostyngedig i reoliad 14.

(5Pan fydd cymorth ariannol sy'n unol â rheoliad 3(1)(a) neu lwfans mabwysiadu yn unol â Rheoliadau Lwfansau Mabwysiadu 1991(7) yn cael ei dalu gan yr awdurdod lleoli cyn gwneud y gorchymyn mabwysiadu, rhaid i'r awdurdod lleoli barhau i wneud y taliadau hynny, yn ddarostyngedig i reoliad 14.

(6Mae cyfeiriadau ym mharagraff (3) at wasanaethau cymorth mabwysiadu yn cynnwys unrhyw lwfans a drinnir yn gymorth ariannol sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn, yn rhinwedd rheoliad 16(2).

Amgylchiadau pan ganiateir talu cymorth ariannol

10.—(1 Caniateir talu cymorth ariannol ond i bersonau o'r disgrifiad canlynol a dim ond pan fydd un neu ragor o'r amgylchiadau a bennir ym mharagraff (2) yn bodoli—

(a)person y mae asiantaeth fabwysiadu wedi penderfynu yn unol â rheoliad 11(1) o Reoliadau 1983 y byddai'n rhiant mabwysiadol addas i blentyn, ond nid yw'r plentyn wedi'i leoli;

(b)person y mae'r plentyn wedi'i leoli gydag ef i'w fabwysiadu, ond nid yw'r plentyn wedi'i fabwysiadu;

(c)person sydd wedi mabwysiadu plentyn sydd o dan 18;

(2Dyma'r amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) —

(a)pan na fydd y plentyn wedi'i leoli gyda'r rhieni mabwysiadol i'w fabwysiadu, ac mae cymorth ariannol yn angenrheidiol i sicrhau bod y rhieni mabwysiadol yn gallu gofalu am y plentyn;

(b)pan fydd plentyn wedi'i leoli gyda'r rhieni mabwysiadol i'w fabwysiadu, ac mae cymorth ariannol yn angenrheidiol i sicrhau y gall y rhieni mabwysiadol barhau i ofalu am y plentyn;

(c)pan fydd y plentyn wedi'i fabwysiadu, ac mae cymorth ariannol yn angenrheidiol i sicrhau y gall y rhieni mabwysiadol barhau i ofalu am y plentyn;

(ch)pan fydd yr awdurdod lleol yn fodlon bod y plentyn wedi sefydlu perthynas gref a phwysig gyda'r rhiant mabwysiadol cyn i orchymyn mabwysiadu gael ei wneud;

(d)pan fydd yn ddymunol bod y plentyn yn cael ei leoli gyda'r un rhiant mabwysiadol â'i frodyr neu'i chwiorydd neu gyda phlentyn y mae wedi rhannu cartref ag ef o'r blaen;

(dd)pan fydd angen gofal arbennig ar y plentyn ac sy'n gwneud treulio rhagor o adnoddau yn ofynnol oherwydd salwch, anabledd, anawsterau emosiynol neu ymddygiadol neu ganlyniadau parhaus cam-driniaeth neu esgeulustod yn y gorffennol;

(e)pan fydd yn angenhreidiol oherwydd oedran, rhyw neu darddiad ethnig plentyn i'r awdurdod wneud trefniadau arbennig i hwyluso lleoli'r plentyn i'w fabwysiadu.

(3Ym mhob achos cyn y gellir talu cymorth ariannol, rhaid i'r awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol i'r rhieni mabwysiadol gytuno ar —

(a)hysbysu'r awdurdod lleol ar unwaith os —

(i)nad yw cartref y plentyn bellach gyda hwy (neu gyda'r naill neu'r llall ohonynt), os ydynt wedi newid eu cyfeiriad, neu os yw'r plentyn yn marw, neu

(ii)oes unrhyw newid yn eu hamgylchiadau ariannol neu yn anghenion ariannol neu adnoddau'r plentyn;

ac os rhoddir yr wybodaeth yn llafar, i'w chadarnhau yn ysgrifenedig cyn pen saith niwrnod,

(b)llunio datganiad blynyddol o'u hamgylchiadau ariannol ac anghenion ac amgylchiadau ariannol y plentyn a'i roi i'r awdurdod lleol.

(4Ni thelir cymorth ariannol i ddiwallu unrhyw anghenion i'r graddau y mae unrhyw fudd-dal neu lwfans sy'n gymwys i'r rhieni mabwysiadol oherwydd iddynt fabwysiadu'r plentyn, yn daladwy neu ar gael iddynt o ran yr anghenion hynny.

Swm y cymorth ariannol

11.—(1Swm unrhyw gymorth ariannol fydd y swm y mae'r awdurdod lleol yn penderfynu arno yn unol â pharagraffau (2) i (5).

(2Wrth benderfynu ar swm y cymorth ariannol rhaid i'r awdurdod lleol ystyried —

(a)unhryw argymhellion, mewn perthynas â'r rhiant mabwysiadol neu'r plentyn mabwysiadol, a wnaed gan y panel mabwysiadu i'r awdurdod lleol ar fater y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 10(1)(a) neu (c) o Reoliadau 1983;

(b)yr adnoddau ariannol sydd ar gael i'r rhieni mabwysiadol gan gynnwys credyd treth plant ac unrhyw fudd-dal arall a fyddai ar gael ar gyfer y plentyn pan fabwysiadwyd ef;

(c)y swm y mae ei angen ar y rhieni mabwysiadol o ran eu treuliau a'u rhwymedigaethau rhesymol (ac eithrio treuliau sy'n ymwneud â'r plentyn);

(ch)anghenion neu adnoddau ariannol y plentyn;

(d)gwariant er mwyn hwyluso lleoli'r plentyn gyda rhieni mabwysiadol i'w fabwysiadu, gan gynnwys—

(i)gwariant er mwyn cyflwyno'r plentyn i'w rieni mabwysiadol;

(ii)gwariant cychwynnol sy'n angenrheidiol er mwyn lletya'r plentyn, gan gynnwys darparu dodrefn a chyfarpar tŷ, newidiadau ac addasiadau i'r cartref lle mae'r plentyn yn cael ei letya, darparu cyfrwng cludo a darparu dillad, teganau a phethau eraill sy'n angenrheidiol er mwyn gofalu am y plentyn;

(iii)costau cyfreithiol, gan gynnwys ffioedd llysoedd sy'n daladwy i lys, ac sy'n ymwneud â mabwysiadu'r plentyn;

(iv)costau cyfarpar ar gyfer unrhyw anghenion arbennig sydd gan y plentyn;

(v)cost difrod neu draul yn y cartref lle mae'r plentyn yn cael ei letya pan fydd y gost honno yn codi o anawsterau ymddygiadol arbennig y plentyn;

(vi)cost lleoli plentyn mewn ysgol fyrddio pan fydd y lleoliad yn angenrheidiol er mwyn diwallu anghenion arbennig y plentyn;

(vii)cost diwallu anghenion arbennig y plentyn, gan gynnwys anghenion sy'n codi o anabledd neu salwch difrifol;

(viii)gwariant ar deithio ar gyfer ymweliadau rhwng y plentyn a'r personau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(1)(c).

(3Ac eithrio pan fydd paragraffau (4) a (5 yn gymwys, rhaid i'r cymorth ariannol sy'n daladwy gan yr awdurdod lleol beidio â chynnwys unrhyw elfen o ad-daliad ar gyfer gofal am y plentyn gan rieni mabwysiadol.

(4 Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan—

(a) bydd y rhiant mabwysiadol yn rhiant maeth, neu pan fu'n rhiant maeth, i'r plentyn;

(b)ymddengys i'r awdurdod lleol bod unrhyw gymorth ariannol neu lwfansau sy'n cael eu rhoi i'r rhiant mabwysiadol mewn perthynas â maethu'r plentyn wedi peidio neu y bydd yn peidio;

(c)bydd yr awdurdod lleol wedi penderfynu yn unol â rheoliad 11(1) o Reoliadau 1983 y byddai'r rhiant mabwysiadol yn addas fel rhiant mabwysiadol ar gyfer y plentyn; a

(ch)cyn i'r gorchymyn mabwysiadu gael ei wneud mae'r awdurdod lleol yn penderfynu talu cymorth ariannol ac yn penderfynu y dylai'r cymorth ariannol hwnnw gael ei dalu'n rheolaidd.

(5Mae'r paragraff hwn yn gymwys —

(a)ar unrhyw adeg hyd at y diwrnod (“yr ail ben blwydd”) sy'n digwydd ddwy flynedd ar ôl dyddiad y gorchymyn mabwysiadu mewn perthynas â'r plentyn; a

(b) ar unrhyw adeg ar ôl yr ail ben blwydd, pan fydd unrhyw un o'r amgylchiadau a bennir yn rheoliad 10 (2)(a), (b), (d), (dd) neu (e) wedi bodoli ar y dyddiad pan fydd yr awdurdod lleol yn penderfynu, yn unol â pharagarff (4)(ch), talu cymorth ariannol.

Trefn penderfynu a ddylid talu cymorth ariannol

12.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan—

(a)bydd yr awdurdod lleol yn asesu anghenion person ar gyfer gwasanaethau cymorth mabwysiadu, ac mae'r asesu yn ymwneud ag angen y person am gymorth ariannol; neu

(b)bydd yr awdurdod lleol yn adolygu'r dull o ddarparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu mewn perthynas â pherson, ac mae'r adolygiad yn ymwneud ag angen y person am gymorth ariannol.

(2Rhaid i'r awdurdod lleol—

(a)rhoi gwybodaeth i'r rhieni mabwysiadol am gymorth ariannol, gan gynnwys y sail dros benderfynu ar gymorth ariannol;

(b)yn unol â pharagraff (3) hysbysu'r rhieni mabwysiadol am eu penderfyniad arfaethedig o ran—

(i)a ddylid talu cymorth ariannol;

(ii)y swm arfaethedig, os oes un, a fyddai'n daladwy; a

(iii)a ddylid talu'r cymorth ariannol yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y mae caniatâd i'w gosod yn unol â pharagraff (4);

(c)ystyried unrhyw sylwadau oddi wrth y rhieni mabwysiadol cyn pen y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad;

(ch)penderfynu a ddylid talu cymorth ariannol a'r amodau, os oes rhai, y dylid eu gosod, penderfynu ar y swm, os oes un, a fyddai'n daladwy a hysbysu'r rhieni mabwysiadol am y penderfyniadau hynny.

(3Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (2)(b) ddatgan y cyfnod erbyn pryd y caiff y rhieni mabwysiadol wneud sylwadau i'r awdurdod lleol ynghylch y penderfyniad arfaethedig, a rhaid i'r awdurdod lleol beidio â gwneud penderfyniad o dan baragraff (2)(ch) hyd nes i'r cyfnod hwnnw ddod i ben.

(4Pan fydd yr awdurdod lleol yn penderfynu bod cymorth ariannol i'w dalu at ddiben penodol, caiff dalu'r cymorth ariannol yn ddarostyngedig i amod ar sut mae'r taliad i'w ddefnyddio a chaiff bennu'r dyddiad erbyn pryd y mae'r amod i'w fodloni.

(5Pan fydd yr awdurdod lleol yn fodlon na fodlonwyd amod a hysbyswyd o dan baragraff (2)(ch) erbyn y dyddiad, os pennwyd un, yn yr hysbysiad, caiff ei gwneud yn ofynnol bod y taliad neu ran briodol o'r taliad yn cael ei dalu yn ôl.

Gwybodaeth am gymorth ariannol

13.  Ar ôl penderfynu talu cymorth ariannol, rhaid i'r awdurdod hysbysu'r rhieni mabwysiadol yn ysgrifenedig am y canlynol—

(a)dull penderfynu ar swm y cymorth ariannol;

(b)swm y cymorth ariannol;

(c)pan fydd cymorth ariannol i'w dalu'n rhandaliadau neu'n rheolaidd—

(i)pa mor aml y bydd y taliad yn cael ei wneud;

(ii)y dyddiad (os oes un) y mae cymorth ariannol i'w dalu hyd ato;

(iii)y dyddiad pan delir cymroth ariannol gyntaf;

(ch)pan fydd cymorth ariannol i'w dalu yn un taliad, y dyddiad pryd y mae'r taliad i'w wneud;

(d)pan fydd cymorth ariannol i'w dalu yn ddarostyngedig i unrhyw amodau, yr amodau hynny a chanlyniad methu â bodloni'r amodau hynny;

(dd)y trefniadau a'r weithdrefn ar gyfer adolygu, amrywio a phenderfynu cymorth ariannol;

(e)cyfrifoldebau—

(i)yr awdurdod lleol o dan reoliad 14; a

(ii)y rhieni mabwysiadol yn unol â'u cytundeb o dan reoliad 10(3),

mewn perthynas â'r cymorth ariannol os bydd newid yn amgylchiadau'r rhieni mabwysiadol neu'r plentyn.

Adolygu, amrywio a dod â chymorth ariannol i ben

14.—(1Rhaid i'r awdurdod lleol adolygu unrhyw gymorth ariannol—

(a)yn flynyddol, ar ôl derbyn datganiad oddi wrth y rhieni mabwysiadol ynghylch—

(i)eu hamgylchiadau ariannol;

(ii)anghenion ac adnoddau ariannol y plentyn;

(iii)eu cyfeiriad ac a oes gan y plentyn gartref gyda hwy o hyd (neu gyda'r naill neu'r llall ohonynt); a

(b)os daw unrhyw newid yn amgylchiadau'r rhieni mabwysiadol neu'r plentyn, gan gynnwys unrhyw newid cyfeiriad a ddaw i'w sylw.

(2Bydd paragraffau (3) i (6) yn gymwys pan fydd cymorth ariannol yn daladwy mewn rhandaliadau neu'n rheolaidd.

(3Caiff yr awdurdod lleol amrywio, atal neu ddod â thaliad cymorth ariannol i ben os, o ganlyniad i adolygiad, mae'n ystyried bod angen y rhieni mabwysiadol amdano wedi newid neu wedi peidio ers i'r swm o gymorth ariannol gael ei benderfynu ddiwethaf.

(4Pan fydd y rhieni mabwysiadol yn methu â rhoi datganiad blynyddol i'r awdurdod sy'n unol â'u cytundeb o dan reoliad 10(3)(b), caiff yr awdurdod lleol gymryd bod angen y rhieni mabwysiadol am gymorth ariannol wedi peidio hyd nes i ddatganiad gael ei roi.

(5 Pan fydd talu cymorth ariannol yn cael ei atal, caiff yr awdurdod ailddechrau ei dalu os, o ganlyniad i adolygiad, bydd yr awdurdod lleol o'r farn bod amgylchiadau'r rhieni mabwysiadol yn teilyngu cymorth ariannol.

(6 Rhaid i'r awdurdod ddod â thalu cymorth ariannol i ben pan—

(a)bydd y plentyn yn peidio â bod â chartref gyda'r rhieni mabwysiadol (neu'r naill neu'r llall ohonynt);

(b)bydd y plentyn yn gymwys i gael cymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith yn ei hawl ei hun;

(c)bydd y plentyn yn cyrraedd 18 oed;

(ch)daw unrhyw gyfnod y cytunwyd arno rhwng yr awdurdod lleol a'r rhieni mabwysiadol ar gyfer talu'r lwfans i ben; neu

(d)bydd y plentyn yn marw.

Cyfrinachedd, cadwraeth a mynediad at gofnodion

15.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 15 o Reoliadau 1983, rhaid i'r awdurdod lleol drin unrhyw wybodaeth a geir neu argymhellion a geir i'r penderfyniadau hyn yn rhinwedd y Rheoliadau hyn yn gyfrinachol.

(2Rhaid i'r awdurdod lleol roi cofnod o fanylion am gymorth ariannol mewn perthynas â phlentyn gan gynnwys manylion unrhyw benderfyniad o dan reoliad 11 (swm y cymorth ariannol) ac adolygu o dan reoliad 14 (adolygu, amrywio a dod â lwfansau i ben ) yng nghofnodion yr achos y mae'n ofynnol iddo eu llunio o dan Reoliadau 1983.

Diwygio Rheoliadau Lwfans Mabwysiadau 1991

16.—(1Yn Rheoliad 1(2) o Reoliadau Lwfans Mabwysiadu 1991(8), yn y diffniad o “adoption agency”, mae'r geiriau “or a local authority” wedi'u hepgor.

(2Mae unrhyw lwfans sy'n daladwy gan awdurdod lleol o dan Reoliadau Lwfans Mabwysiadu 1991 yn union cyn 1 Hydref 2004 (“y lwfans”) i'w drin yn effeithiol o'r dyddiad hwnnw ymlaen fel cymorth ariannol sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn, a swm y cymorth ariannol fydd yr un swm, dull ac amlder taliad, a bydd yn daladwy am yr un cyfnod, â'r lwfans.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(9).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

31 Mawrth 2004

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources