Search Legislation

Gorchymyn Traffig Ffyrdd (Ardal Barcio a Ganiateir ac Ardal Barcio Arbennig)(Sir Gaerfyrddin) 2004

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 104 (Cy.11)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Traffig Ffyrdd (Ardal Barcio a Ganiateir ac Ardal Barcio Arbennig)(Sir Gaerfyrddin) 2004

Wedi'i wneud

20 Ionawr 2004

Yn dod i rym

1 Chwefror 2004

GAN FOD Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi gwneud cais i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) wneud Gorchymyn o dan baragraffau 1(1) a 2(1) o Atodlen 3 i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991(1) mewn perthynas â'r sir honno a'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ymghynghori â Phrif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys yn unol â gofynion paragraff 1(3) a 2(3) o'r Atodlen honno a Chyngor y Tribiwnlysoedd yn unol â gofynion adran 8 o Ddeddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992(2);

YN AWR, GAN HYNNY, mae'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan baragraffau 1(1), 2(1) a 3(3) o Atodlen 3 i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 a phob pŵ er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw(3), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

(1)

1991 p. 40. Diwygiwyd Atodlen 3 gan Orchymyn Deddf Traffig Ffyrdd 1991 (Diwygio Atodlen 3)(Cymru a Lloegr) 1996 (O.S.1996/500), gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19), Atodlen 7, paragraff 43 a Deddf Llywodraeth Leol etc. (yr Alban) 1994 (p.39), Atodlen 13, paragraff 171.

(3)

Trosglwyddwyd y pwerau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

Back to top

Options/Help