- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
11.—(1) O fewn 28 diwrnod ar ôl gwneud penderfyniad o dan reoliad 9(1), rhaid i'r awdurdod cyfrifol anfon at bob corff ymgynghori—
(a)copi o'r penderfyniad; a
(b)os yw wedi penderfynu nad yw'n ofynnol i'r cynllun neu'r rhaglen gael asesiad amgylcheddol, datganiad o'i resymau dros y penderfyniad hwnnw.
(2) Rhaid i'r awdurdod cyfrifol—
(a)sicrhau bod copi o'r penderfyniad, ac unrhyw ddatganiad o'r rhesymau sy'n mynd gydag ef, ar gael yn ei brif swyddfa i'w archwilio gan y cyhoedd ar bob adeg resymol ac yn ddi-dâl; a
(b)o fewn 14 diwrnod ar ôl gwneud copi o benderfyniad o'r fath, cymryd y camau hynny y mae'n ystyried eu bod yn briodol i ddwyn i sylw'r cyhoedd—
(i)teitl y cynllun, rhaglen neu addasiad y mae'r penderfyniad yn ymwneud â hwy;
(ii)bod yr awdurdod cyfrifol wedi penderfynu bod y cynllun, rhaglen neu addasiad yn debygol, neu yn ôl y digwydd, nad ydynt yn debygol o gael effeithiau amgylcheddol arwyddocaol ac, yn unol â hynny, bod angen neu, yn ôl y digwydd, nad oes angen asesiad amgylcheddol mewn perthynas â'r cynllun, rhaglen neu addasiad; a
(iii)y cyfeiriad (a all gynnwys gwefan) lle gellir archwilio neu lle gellir cael copi o'r penderfyniad ac unrhyw ddatganiad o'r rhesymau sydd gydag ef.
(3) Os bydd awdurdod cyfrifol yn cael cyfarwyddyd o dan reoliad 10(3), rhaid iddo—
(a)sicrhau bod copi o'r cyfarwyddyd ar gael yn ei brif swyddfa i'w archwilio gan y cyhoedd ar bob adeg resymol ac yn ddi-dâl; a
(b)o fewn 14 diwrnod ar ôl cael cyfarwyddyd o'r fath, cymryd y camau hynny y mae'n ystyried eu bod yn briodol i ddwyn i sylw'r cyhoedd—
(i)teitl y cynllun, rhaglen neu addasiad y mae'r cyfarwyddyd yn ymwneud â hwy;
(ii)bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi rhoi cyfarwyddyd bod y cynllun, rhaglen neu addasiad yn debygol o gael effeithiau amgylcheddol arwyddocaol ac, yn unol â hynny, bod angen asesiad amgylcheddol mewn perthynas â'r cynllun, rhaglen neu addasiad; a
(iii)y cyfeiriad (a all gynnwys gwefan) lle gellir archwilio neu lle gellir cael copi o gyfarwyddyd y Cynulliad Cenedlaethol (a datganiad o'i resymau dros roi'r cyfarwyddyd).
(4) Nid oes dim ym mharagraff (2)(b)(iii) neu (3)(b)(iii) sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod cyfrifol ddarparu copi o'r dogfennau o dan sylw yn ddi-dâl; ond os codir tâl, rhaid iddo fod yn swm rhesymol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include: