Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004

Cyhoeddusrwydd ar gyfer penderfyniadau a chyfarwyddiadau

11.—(1O fewn 28 diwrnod ar ôl gwneud penderfyniad o dan reoliad 9(1), rhaid i'r awdurdod cyfrifol anfon at bob corff ymgynghori—

(a)copi o'r penderfyniad; a

(b)os yw wedi penderfynu nad yw'n ofynnol i'r cynllun neu'r rhaglen gael asesiad amgylcheddol, datganiad o'i resymau dros y penderfyniad hwnnw.

(2Rhaid i'r awdurdod cyfrifol—

(a)sicrhau bod copi o'r penderfyniad, ac unrhyw ddatganiad o'r rhesymau sy'n mynd gydag ef, ar gael yn ei brif swyddfa i'w archwilio gan y cyhoedd ar bob adeg resymol ac yn ddi-dâl; a

(b)o fewn 14 diwrnod ar ôl gwneud copi o benderfyniad o'r fath, cymryd y camau hynny y mae'n ystyried eu bod yn briodol i ddwyn i sylw'r cyhoedd—

(i)teitl y cynllun, rhaglen neu addasiad y mae'r penderfyniad yn ymwneud â hwy;

(ii)bod yr awdurdod cyfrifol wedi penderfynu bod y cynllun, rhaglen neu addasiad yn debygol, neu yn ôl y digwydd, nad ydynt yn debygol o gael effeithiau amgylcheddol arwyddocaol ac, yn unol â hynny, bod angen neu, yn ôl y digwydd, nad oes angen asesiad amgylcheddol mewn perthynas â'r cynllun, rhaglen neu addasiad; a

(iii)y cyfeiriad (a all gynnwys gwefan) lle gellir archwilio neu lle gellir cael copi o'r penderfyniad ac unrhyw ddatganiad o'r rhesymau sydd gydag ef.

(3Os bydd awdurdod cyfrifol yn cael cyfarwyddyd o dan reoliad 10(3), rhaid iddo—

(a)sicrhau bod copi o'r cyfarwyddyd ar gael yn ei brif swyddfa i'w archwilio gan y cyhoedd ar bob adeg resymol ac yn ddi-dâl; a

(b)o fewn 14 diwrnod ar ôl cael cyfarwyddyd o'r fath, cymryd y camau hynny y mae'n ystyried eu bod yn briodol i ddwyn i sylw'r cyhoedd—

(i)teitl y cynllun, rhaglen neu addasiad y mae'r cyfarwyddyd yn ymwneud â hwy;

(ii)bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi rhoi cyfarwyddyd bod y cynllun, rhaglen neu addasiad yn debygol o gael effeithiau amgylcheddol arwyddocaol ac, yn unol â hynny, bod angen asesiad amgylcheddol mewn perthynas â'r cynllun, rhaglen neu addasiad; a

(iii)y cyfeiriad (a all gynnwys gwefan) lle gellir archwilio neu lle gellir cael copi o gyfarwyddyd y Cynulliad Cenedlaethol (a datganiad o'i resymau dros roi'r cyfarwyddyd).

(4Nid oes dim ym mharagraff (2)(b)(iii) neu (3)(b)(iii) sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod cyfrifol ddarparu copi o'r dogfennau o dan sylw yn ddi-dâl; ond os codir tâl, rhaid iddo fod yn swm rhesymol.