- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
8.—(1) Ni chaiff person ddarparu cynllun lleoli oedolion oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.
(2) Nid yw person yn ffit i ddarparu cynllun lleoli oedolion oni bai bod y person yn —
(a)unigolyn sy'n darparu cynllun lleoli oedolion —
(i)heb fod mewn partneriaeth ag eraill ac sy'n bodloni gofynion paragraff (3); neu
(ii)mewn partneriaeth ag eraill a'i fod ef a phob un o'r partneriaid yn bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3); neu
(b)corff ac —
(i)mae wedi hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol am enw, cyfeiriad a safle unigolyn (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “yr unigolyn cyfrifol”) o fewn y corff ac sy'n gyfarwyddwr, yn rheolwr, yn ysgrifennydd neu uwch swyddog arall yn y corff ac sy'n gyfrifol am reoli'r cynllun; a
(ii)bod yr unigolyn hwnnw yn bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3).
(3) Y gofynion yw bod —
(a)y person yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da;
(b)y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ddarparu neu (yn ôl y digwydd) fod yn gyfrifol am reoli'r cynllun; ac
(c)mae gwybodaeth neu (yn ôl y digwydd) ddogfennau llawn a boddhaol mewn perthynas â phob un o'r materion a restrir yn Atodlen 3 ar gael mewn perthynas â'r person hwnnw.
(4) Nid yw person yn ffit i ddarparu cynllun lleoli oedolion os —
(a)yw ef wedi cael ei ddyfarnu'n fethdalwr neu os y dyfarnwyd i'w ystad gael ei secwestrio ac (yn y naill achos neu'r llall) os na ryddhawyd ef ac os na ddirymwyd neu ddadwnaed y gorchymyn methdalu; neu
(b)yw ef wedi gwneud compównd neu drefniant gyda'i gredydwyr, neu os yw wedi rhoi gweithred ymddiried ar eu cyfer, ac nad yw ef wedi'i ryddhau mewn perthynas ag ef neu â hi.
9.—(1) Rhaid i'r darparwr cofrestredig benodi unigolyn i reoli'r cynllun os—
(a)nad oes rheolwr cofrestredig mewn perthynas â'r cynllun; a
(b)yw'r darparwr cofrestredig —
(i)yn gorff;
(ii)yn rhedeg y cynllun mewn partneriaeth;
(iii)heb fod yn berson ffit i reoli cynllun; neu
(iv)heb fod, neu heb fwriad o fod, yng ngofal y cynllun yn llawnamser o ddydd i ddydd.
(2) Os digwydd y canlynol—
(a)bod y darparwr cofrestredig, neu
(b)os penodwyd o dan baragarff (1), bod y rheolwr cofrestredig,
yn bwriadu bod, neu yn debygol o fod, neu a fu, yn absennol o swyddfeydd y cynllun am gyfnod parhaus o 28 o ddiwrnodau neu ragor, rhaid i'r darparwr cofrestredig benodi unigolyn i reoli'r cynllun yn ystod absenoldeb y darparwr neu (yn ôl y digwydd) y rheolwr cofrestredig.
(3) Pan fydd y darparwr cofrestredig yn penodi person i reoli'r cynllun, rhaid iddo ef hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith am —
(a)enw'r person a benodwyd felly; a
(b)yn ddarostyngedig i gofrestru, y dyddiad pryd y daw'r penodiad yn effeithiol.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig enwebu person i fod yng ngofal y cynllun ar bob adeg y mae'r swyddfeydd y cynllun ar agor ar gyfer busnes a phan fydd y person cofrestredig yn absennol o'r fangre.
(5) Nid oes caniatâd i enwebu person at ddibenion paragraff (4) oni bai bod gwybodaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â phob un o'r materion a restrir yn Atodlen 3 ar gael mewn perthynas ag ef ac a ddarparwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol.
10.—(1) Ni chaiff person reoli cynllun oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.
(2) Nid yw person yn ffit i reoli cynllun oni bai —
(a)ei fod yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da;
(b)o ystyried natur y cynllun a nifer yr oedolion perthnasol a'u hanghenion —
(i)bod gan y person y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad sy'n angenrheidiol i reoli'r cynllun; a
(ii)bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i reoli'r cynllun; ac
(c)bod gwybodaeth neu (yn ôl y digwydd) ddogfennau llawn a boddhaol mewn perthynas â phob un o'r materion a restrir yn Atodlen 3 ar gael mewn perthynas â'r person.
11.—(1) Rhaid i'r darparwr cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig, gan roi sylw i natur y cynllun lleoli oedolion a nifer yr oedolion perthnasol a'u hanghenion ddarparu neu (yn ôl y digwydd) reoli'r cynllun â gofal, cymhwysedd a sgil digonol.
(2) Os yw'r darparwr cofrestredig —
(a)yn unigolyn, rhaid i'r unigolyn hwnnw ymgymryd, neu
(b)yn gorff, rhaid iddo sicrhau bod yr unigolyn cyfrifol yn ymgymryd,
o bryd i'w gilydd ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol i sicrhau bod ganddo'r arbenigedd, y profiad a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i sicrhau y darperir y cynllun â gofal, cymhwysedd a'r sgil digonol.
(3) Os yw'r cynllun yn cael ei redeg gan unigolion mewn partneriaeth, rhaid i'r partneriaid sicrhau bod un ohonynt yn ymgymryd â hyfforddiant fel sy'n ofynnol gan baragraff (2).
(4) Rhaid i'r rheolwr cofrestredig ymgymryd o bryd i'w gilydd ag unrhyw hyfforddiant sy'n angenrheidiol i sicrhau bod ganddo'r arbenigedd, y profiad a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i reoli'r cynllun.
12. Pan gollfernir y person cofrestredig neu'r unigolyn cyfrifol am unrhyw dramgwydd troseddol, p'un ai yng Nghymru neu yn rhywle arall, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig ar unwaith am—
(a)dyddiad a lle'r gollfarn;
(b)y tramgwydd; ac
(c)y gosb a osodwyd mewn perthynas â'r tramgwydd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include: