- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
21.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig lunio a dilyn trefn ysgrifenedig (y cyfeirir ati yn y Rheoliadau hyn fel “y drefn gwyno”) er mwyn ystyried cwynion a wneir iddi gan ofalwr lleoliad oedolion, oedolyn perthnasol neu berson sy'n gweithredu ar ran oedolyn perthnasol.
(2) Rhaid i'r drefn gwyno fod yn briodol i anghenion oedolion perthnasol.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw gŵyn a wneir o dan y drefn gwyno yn cael ei hymchwilio'n llawn.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ond beth bynnag cyn pen 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad pan gafwyd y gŵyn, hysbysu'r person a wnaeth y gŵ yn o'r camau (os oes rhai) sydd i'w cymryd.
(5) Rhaid i'r person cofrestredig roi copi o'r drefn gwyno i —
(a)pob oedolyn y mae wedi'i osod o dan y cynllun; a
(b)ar gais, i unrhyw oedolyn perthnasol neu berson sy'n gweithredu ar ran oedolyn perthnasol.
(6) Pan fydd copi o'r drefn gwyno i'w rhoi yn unol â pharagraff (5) i berson sy'n ddall neu sydd â nam ar ei olwg, rhaid i'r person cofrestredig, os yw'n ymarferol gwneud hynny, roi, yn ogystal â'r copi ysgrifenedig, fersiwn o'r drefn mewn dull sy'n addas i'r person hwnnw.
(7) Rhaid i'r copi o'r drefn gwyno gynnwys —
(a)enw a chyfeiriad swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol; a
(b)y drefn (os oes un) y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i hysbysu i'r person cofrestredig i wneud cwynion i'r Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â'r cynllun.
(8) Rhaid i'r person cofrestredig roi i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar ei chais ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o'r cwynion a wnaed yn ystod y deuddeng mis blaenorol a'r camau a gymerwyd mewn ymateb i bob cwyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include: