- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
29.—(1) Os bydd —
(a)darparwr cofrestredig sy'n rheoli'r cynllun; neu
(b)rheolwr cofrestredig,
yn bwriadu bod yn absennol o'r cynllun am gyfnod parhaus o 28 o ddiwrnodau neu ragor, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r absenoldeb yn ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Ac eithrio pan fydd argyfwng, rhaid i'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gael ei roi dim hwyrach na mis cyn i'r absenoldeb ddechrau, neu cyn pen unrhyw gyfnod byrrach y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cytuno arno, a rhaid i'r hysbysiad bennu —
(a)hyd neu hyd disgwyliedig yr absenoldeb arfaethedig;
(b)y rheswm dros yr absenoldeb;
(c)y trefniadau sydd wedi'u gwneud er mwyn rhedeg y cynllun yn ystod yr absenoldeb; ac
(ch)enw, cyfeiriad a chymwysterau'r person a fydd yn gyfrifol am y cynllun yn ystod yr absenoldeb.
(3) Pan gyfyd absenoldeb y cyfeirir ato ym mharagraff (1) o ganlyniad i argyfwng, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r absenoldeb cyn pen wythnos i'r argyfwng ddigwydd gan bennu'r materion ym mharagraff (2)(a) i (ch).
(4) Os bydd —
(a)darparwr cofrestredig sy'n rheoli'r cynllun; neu
(b)rheolwr cofrestredig,
wedi bod yn absennol o'r cynllun am gyfnod parhaus o 28 o ddiwrnodau neu ragor, ac ni hysbyswyd swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r absenoldeb, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r swyddfa honno yn ysgrifenedig ar unwaith gan bennu'r materion ym mharagraff (2)(a) i (ch).
(5) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan ddaw'r darparwr cofrestredig neu (yn ôl y digwydd) y rheolwr cofrestredig yn ôl i'r gwaith dim hwyrach na saith niwrnod ar ôl y dyddiad dod yn ôl.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include: