- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 20
1. Mewn perthynas â phob oedolyn a leolwyd o dan y cynllun, y gwybodaeth a'r dogfennau a ganlyn —
(a)enw llawn;
(b)dyddiad geni;
(c)yr asesiad y cyfeirir ato yn rheoliad 18(1);
(ch)cynllun yr oedolyn;
(d)y cytundeb lleoli oedolion.
2. Cofnod o'r holl bersonau sy'n gweithio at ddibenion y cynllun, y mae'n rhaid iddo gynnwys mewn perthynas â pherson y mae tystysgrif yn ofynnol ar ei gyfer fel a grybwyllir ym mharagraff 2 o Atodlen 3, y materion a ganlyn —
(a)enw llawn;
(b)rhyw;
(c)dyddiad geni;
(ch)cyfeiriad cartref;
(d)cymwysterau sy'n berthnasol i waith sy'n cynnwys oedolion hawdd eu niweidio a phrofiad o'r gwaith hwnnw;
(dd)cadarnhad ysgrifenedig bod yr wybodaeth y cyfeirir ati yn Atodlen 3 ar gael mewn perthynas â'r person.
3. Cofnod o'r holl ofalwyr lleoliadau oedolion y mae oedolyn wedi'i leoli gyda hwy gan gynnwys —
(a)enw llawn;
(b)rhyw;
(c)dyddiad geni;
(ch)cyfeiriad;
(d)cymwysterau sy'n berthnasol i waith sy'n cynnwys oedolion hawdd eu niweidio a phrofiad o'r gwaith hwnnw;
(dd)copi o'r cytundeb lleoli oedolion;
(e)cofnod o'r monitro a wnaed mewn perthynas â'r lleoliad o dan reoliad 14;
(f)cadarnhad ysgrifenedig bod yr wybodaeth y cyfeirir ati yn Atodlen 3 ar gael mewn perthynas â'r gofalwr.
4. Cofnod o —
(a)pob digwyddiad sy'n cynnwys oedolyn a leolir o dan y cynllun;
(b)unrhyw ddefnydd o ddulliau atal yn gorfforol oedolyn a leolir o dan y cynllun rhag symud; ac
(c)unrhyw honiad o gamdriniaeth, esgeulustod
neu niwed a wnaed gan oedolyn a leolir o dan y cynllun, neu mewn perthynas ag oedolyn o'r fath.
5. Cofnod o —
(a)unrhyw gwynion a wneir yn unol â rheoliad 21(1); a
(b)y camau (os oes rhai) a gymerir mewn ymateb i gŵ yn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include: