- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi'u gwneud
13 Gorffennaf 2004
Yn dod i rym
1 Medi 2004
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Medi 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2004 neu wedyn.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau)1997(3) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(2), yn lle “£12,508” rhoddir “£12,846”.
(3) Yn lle rheoliad 2(3)(a) a (b) rhoddir —
“(a)£79 where the relevant income does not exceed £11,935; and
(b)£41 where that income exceeds £11,935 but does not exceed £12,846.”.
(4) Yn rheoliad 4 —
(a)ym mharagraff (3), yn lle “£11,639” rhoddir “£11,948”; a
(b)ym mharagraff (4) —
(i)yn lle “£11,639” rhoddir “£11,948”, a
(ii)yn lle “£11,460” rhoddir “£11,769”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Gorffennaf 2004
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) 1997 (“Rheoliadau 1997”) mewn perthynas â blwyddyn ysgol yn dechrau ar 1 Medi 2004 neu wedyn. Mae Rheoliadau 1997 yn darparu ar gyfer talu grantiau o ran mân dreuliau, ac ar gyfer gollwng mân dreuliau, mewn perthynas â disgyblion sy'n gymwys i barhau i gael lleoedd a gynorthwyir mewn ysgolion annibynnol yn rhinwedd adran 2 o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997, er bod y cynllun cymorth lleoedd wedi'i ddileu gan adran 1 o'r Ddeddf honno.
Mae'r Rheoliadau hyn yn llacio'r prawf moddion ariannol (a nodir yn rheoliad 2 o Reoliadau 1997) ac yn cynyddu swm y grant sy'n daladwy ar gyfer grant gwisg ysgol o ran gwariant ar ddillad a dynnwyd mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol 2004/2005 a'r blynyddoedd ysgol dilynol.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn llacio'r prawf moddion ariannol (a nodir yn rheoliad 4 o Reoliadau 1997) ar gyfer grantiau teithio ac yn cynyddu swm y grant a delir.
1997 p.59. Diwygiwyd adran 3 gan adran 130 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31).
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
O.S. 1997/1969, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/1585, O.S. 1999/1505, O.S. 2000/1939 (Cy.137), O.S. 2001/2708 (Cy.227), O.S. 2002/1880 (Cy.189) ac O.S. 2003/1779 (Cy.193).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include: