- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Wedi'i wneud
14 Gorffennaf 2004
Yn dod i rym
19 Gorffennaf 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 200 o Ddeddf lechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (Mesur Trosiannol sy'n Ymwneud â Phartneriaid Anghlinigol) (Cymru) 2004 a daw i rym ar 19 Gorffennaf 2004.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.
(3) Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “Deddf 1977” (“the 1977 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(2);
ystyr “partner anghlinigol” (“non-clinical partner”) yw partner mewn partneriaeth nad yw'n ymarferydd meddygol cofrestredig nac yn broffesiynolyn gofal iechyd;
dehonglir “partner anghlinigol perthnasol” (“relevant non-clinical partner”) yn unol ag erthygl 2;
ystyr “proffesiynolyn gofal iechyd” (“health care professional”) yw person sy'n aelod o broffesiwn a reoleiddir gan gorff a grybwyllir yn adran 25(3) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002(3); ac
ystyr “ymarferydd unigol” (“sole practitioner”) yw ymarferydd meddygol cofrestredig a oedd, cyn 1 Ebrill 2004, yn darparu gwasanaethau o dan adran 29 o Ddeddf 1977(4) (trefniadau a rheoliadau ar gyfer gwasanaethau meddygol cyffredinol) ond nid fel rhan o gymdeithas o ymarferwyr meddygol cofrestredig a oedd, fel practis grŵ p, yn cydlynu eu rhwymedigaethau priodol i ddarparu gwasanaethau o dan yr adran 29 a enwyd.
2. Os —
(a)bydd Bwrdd Iechyd Lleol yn ymrwymo neu wedi ymrwymo i gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol gydag ymarferydd meddygol cofrestredig fel un o ddau neu fwy o unigolion sy'n ymarfer mewn partneriaeth;
(b)oedd yr ymarferydd meddygol cofrestredig hwnnw yn rhedeg busnes ar 31 Mawrth 2004, ac os oedd yng nghwrs y busnes yn darparu gwasanaethau o dan adran 29 o Ddeddf 1977 (trefniadau a rheoliadau ar gyfer gwasanaethau meddygol cyffredinol) —
(i)mewn partneriaeth gydag un unigolyn a oedd yn bartner anghlinigol, neu gyda dau neu fwy o unigolion yr oedd un ohonynt yn bartner anghlinigol,
(ii)mewn partneriaeth gydag un neu fwy o ymarferwyr meddygol cofrestredig eraill neu unigolion eraill, a bod y bartneriaeth honno'n cyflogi person sydd neu a fydd yn bartner anghlinigol yn y bartneriaeth sy'n ymrwymo neu sydd wedi ymrwymo i gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol; neu
(iii)fel ymarferydd unigol a'i fod wedi cyflogi person sydd neu a fydd yn bartner anghlinigol yn y bartneriaeth sy'n ymrwymo neu sydd wedi ymrwymo i gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol; ac
(c)ar y dyddiad y mae'r Bwrdd Iechyd Lleol yn ymrwymo neu wedi ymrwymo i gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol y mae neu yr oedd—
(i)y partner anghlinigol a grybwyllir ym mharagraff (b)(i), neu
(ii)y person a grybwyllir ym mharagraff (b)(ii) neu (b)(iii),
yn bartner yn y bartneriaeth sy'n ymrwymo neu sydd wedi ymrwymo i gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol,
mae'r partner hwnnw yn y bartneriaeth, fel y crybwyllir yn is-baragraff (c), at ddibenion erthygl 3, yn “bartner anghlinigol perthnasol”.
3.—(1) Os —
(a)oedd partner anghlinigol perthnasol cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym yn bartner mewn partneriaeth a ymrwymodd i gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol a ddechreuodd fod yn effeithiol at ddibenion talu ar 1 Ebrill 2004; a
(b)oedd pob partner yn y bartneriaeth honno, ar wahân i'r partner anghlinigol perthnasol, yn unigolyn a oedd yn dod o fewn adran 28S(2)(a) neu (b) o Ddeddf 1977 ar yr adeg pan ymrwymodd y bartneriaeth i gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol,
mae paragraff (2) yn gymwys.
(2) Yn yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff (1), o'r dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym —
(a)rhaid trin y contract gwasanaethau meddygol cyffredinol y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw fel contract yr ymrwymodd partneriaeth iddo a'r bartneriaeth honno wedi'i ffurfio'n unig o unigolion sy'n dod o fewn adran 28S(2)(a) neu (b) o Ddeddf 1977; a
(b)os yw'r partner anghlinigol perthnasol y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw ar y dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym yn dal i fod yn bartner mewn partneriaeth sydd wedi ymrwymo i gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol, rhaid ei drin, o'r dyddiad hwnnw ymlaen, fel pe bai'n unigolyn sy'n dod o fewn adran 28S(2)(b)(iv) o Ddeddf 1977, ond rhaid peidio ag ymdrin ag ef felly os nad yw'n darparu gwasanaethau o'r math a grybwyllir yn adran 28D(1)(bc) o'r Ddeddf honno am gyfnod parhaus o chwe mis ar ôl y dyddiad hwnnw.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Gorffennaf 2004
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae pwerau gan Fyrddau Iechyd Lleol i ymrwymo i gontractau gwasanaethau meddygol cyffredinol gyda phartneriaethau, ar yr amod bod cyfansoddiad y bartneriaeth yn bodloni gofynion adran 28S o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977. Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer amgylchiadau lle caiff unigolion anghlinigol a oedd yn gweithio i bartneriaethau ymarferwyr cyffredinol cyn 1 Ebrill 2004 (y dyddiad cynharaf y caiff contract gwasanaethau meddygol cyffredinol fod yn effeithiol) ond nad ydynt fel arall yn bodloni gofynion adran 28S fod, serch hynny, yn rhan o bartneriaethau sy'n ymrwymo neu sydd wedi ymrwymo i gontractau gwasanaethau meddygol cyffredinol.
1977 p.49. Diddymwyd adran 29 ar 1 Ebrill 2004 ond cyn y diddymiad hwnnw cawsai ei diwygio gan: Deddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53), adran 7; Deddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983 (p.41), Atodlen 6, paragraff 2; Deddf Feddygol 1983 (p.54), Atodlen 5, paragraff 16(a); O.S. 1985, erthygl 7; Deddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17), Atodlen 1, paragraff 18; Deddf Feddygol (Perfformiad Proffesiynol) 1995 (p.51), yr Atodlen, paragraff 28; Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p.46), Atodlen 2, paragraffau 8 a 71, ac Atodlen 3, Rhan I; Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15), adran 23, ac Atodlen 6, Rhan 1; a Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17), Atodlen 2, paragraff 3, ac Atodlen 8, paragraff 2.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include: