- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Wedi'i wneud
9 Tachwedd 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 105(3) a (6) o Ddeddf Dŵr 2003(1) (“y Ddeddf”), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Dŵr 2003 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2004.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
2. 11 Tachwedd 2004 yw'r diwrnod penodedig y daw darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym—
(a)adran 77 (cynlluniau llifogydd: cyforgronfeydd dŵr mawr);
(b)adran 78 (diogelwch y wlad);
(c)adran 80 (cymhwysiad i'r Goron);
(ch)adran 81 (dyletswydd i annog arbed dŵr);
(d)adran 86(2)(f), ac is-adran (1) i'r graddau y mae'n berthnasol i'r paragraff hwnnw (tir halogedig: llygru dyfroedd a reolir);
(dd)adran 101(1), i'r graddau y mae'n berthnasol i'r diwygiad a wneir gan baragraff 38 o Atodlen 7; ac
(e)adran 101(2), i'r graddau y mae'n berthnasol i adrannau 147 i 149 ac adran 222(1) o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991(2) ac adran 101(1) o Ddeddf Amgylchedd 1995(3) a bennir yn Atodlen 9.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Tachwedd 2004
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â rhai o ddarpariaethau Deddf Dŵr 2003 i rym yng Nghymru ar 11 Tachwedd 2004, sef adrannau 77, 78, 80, 81 ac 86(2)(f) (ac adran 86(1) i'r graddau y mae'n berthnasol i'r paragraff hwnnw).
Mae adrannau 77, 78 ac 80 yn diwygio Deddf Cronfeydd Dŵr 1975(5) (“Deddf 1975”).
Mae adran 77 yn mewnosod adran 12A newydd yn Neddf 1975, sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol (i'w ddehongli fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng Nghymru) i'w gwneud yn ofynnol i ymgymerwyr baratoi cynlluniau yn nodi'r camau y byddant yn eu cymryd pe bai cyforgronfeydd dŵr mawr yn gorlifo.
Mae adran 78 yn mewnosod adrannau 2(2A) a 12B newydd yn Neddf 1975, sy'n rhoi'r pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol, ar sail diogelwch y wlad, gyfarwyddo Asiantaeth yr Amgylchedd i beidio â chynnwys gwybodaeth benodol mewn cofrestrau a gedwir o dan Ddeddf 1975; i beidio ag ymgynghori â phersonau wrth baratoi'r cynlluniau y cyfeirir atynt yn adran 12A o Ddeddf 1975; ac i beidio â chyhoeddi'r fath gynlluniau.
Mae adran 80 yn mewnosod adran 27A newydd yn Neddf 1975, sy'n cymhwyso darpariaethau Deddf 1975 i'r Goron.
Mae adran 81 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd camau i annog arbed dŵr, ac yn ei alluogi i wneud Gorchymyn a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol iddo baratoi adroddiadau ar y fath gamau.
Mae adran 86 yn diwygio Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(6) fel y mae'n ymwneud â thir halogedig a llygru dyfroedd a reolir. Mae adran 86(2)(f) yn egluro'r diffiniad o ddyfroedd a reolir yn adran 78A(9)(a) o'r Ddeddf honno.
Mae adran 101(1) a (2) yn cychwyn yn rhannol Atodlen 7 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) ac Atodlen 9 (diddymiadau a dirymiadau).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Daeth darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn Nhabl 1 isod i rym yng Nghymru ac yn Lloegr drwy Orchymynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn —
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 6(1) (yn rhannol) | 1 Ebrill 2004 | 2004/641 |
Adran 9 | 1 Ebrill 2004 | 2004/641 |
Adran 10(11) | 1 Ebrill 2004 | 2004/641 |
Adran 15 | 1 Ebrill 2004 | 2004/641 |
Adran 16 (ar wahân i is-a drannau (4) a (5)) | 1 Ebrill 2004 | 2004/641 |
Adran 18 | 1 Ebrill 2004 | 2004/641 |
Adran 19(4) | 1 Ebrill 2004 | 2004/641 |
Adran 20 | 1 Ebrill 2004 | 2004/641 |
Adran 25(1) (yn rhannol), (2) a (4) | 1 Ebrill 2004 | 2004/641 |
Adran 26 | 1 Hydref 2004 | 2004/2528 |
Adran 27 | 1 Ebrill 2004 | 2004/641 |
Adrannau 28 a 29 | 1 Hydref 2004 | 2004/2528 |
Adran 31 | 1 Hydref 2004 | 2004/2528 |
Adran 37 | 1 Ebrill 2004 | 2004/641 |
Adran 38 (yn rhannol) | 1 Hydref 2004 | 2004/2528 |
Adran 48(1) (yn rhannol) | 1 Hydref 2004 | 2004/2528 |
Adran 49 | 1 Hydref 2004 | 2004/2528 |
Adran 50 | 1 Hydref 2004 | 2004/2528 |
Adran 53 | 1 Ebrill 2004 | 2004/641 |
Adrannau 54 a 55 | 1 Hydref 2004 | 2004/2528 |
Adran 56 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2004 | 2004/641 |
Adran 57 | 1 Ebrill 2004 | 2004/641 |
Adran 59 | 1 Hydref 2004 | 2004/2528 |
Adrannau 60 a 61 | 1 Ebrill 2004 | 2004/641 |
Adran 62 (yn rhannol) | 1 Hydref 2004 | 2004/2528 |
Adran 63 (yn rhannol) | 1 Hydref 2004 | 2004/2528 |
Adran 64 | 1 Ebrill 2004 | 2004/641 |
Adran 65 | 1 Ebrill 2004 | 2004/641 |
Adran 66 | 1 Ebrill 2004 | 2004/641 |
Adran 68 | 1 Ebrill 2004 | 2004/641 |
Adran 71 | 1 Ebrill 2004 | 2004/641 |
Adran 72 | 1 Ebrill 2004 | 2004/641 |
Adran 74 | 1 Hydref 2004 | 2004/2528 |
Adran 76 | 1 Hydref 2004 | 2004/2528 |
Adran 79 | 1 Hydref 2004 | 2004/2528 |
Adrannau 81 i 83 | 1 Ebrill 2004 | 2004/641 |
Adran 84 | 1 Ebrill 2004 | 2004/641 |
Adran 85 | 1 Ebrill 2004 | 2004/641 |
Adran 87 | 1 Hydref 2004 | 2004/2528 |
Adrannau 90 i 92 | 28 Mai 2004 | 2004/641 |
Adrannau 93 i 97 a 99 | 28 Mai 2004 | 2004/641 |
Adran 100(1) | 1 Hydref 2004 | 2004/2528 |
Adran 100(2) (yn rhannol) | 1 Ebrill 2004 a 28 Mai 2004 | 2004/641 |
Adran 100(2) (yn rhannol) | 1 Hydref 2004 | 2004/2528 |
Adran 100(3) (yn rhannol) | 1 Hydref 2004 | 2004/2528 |
Adran 100(4) (yn rhannol) | 1 Ebrill 2004 | 2004/641 |
Adran 100(4) (yn rhannol) | 1 Hydref 2004 | 2004/2528 |
Adran 100(5) | 1 Ebrill 2004 | 2004/641 |
Adran 100(6) a (7) (yn rhannol) | 17 Mawrth 2004, 1 Ebrill 2004 a 28 Mai 2004 | 2004/641 |
Adran 100(6) a (7) (yn rhannol) | 1 Hydref 2004 | 2004/2528 |
Adran 101(1) (yn rhannol) | 17 Mawrth 2004 a 1 Ebrill 2004 | 2004/641 |
Adran 101(1) (yn rhannol) | 1 Hydref 2004 | 2004/2528 |
Adran 101(2) (yn rhannol) | 17 Mawrth 2004, 1 Ebrill 2004 a 28 Mai 2004 | 2004/641 |
Adran 101(2) (yn rhannol) | 1 Hydref 2004 | 2004/2528 |
Atodlen 7 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2004 | 2004/641 |
Atodlen 7 (yn rhannol) | 1 Hydref 2004 | 2004/2528 |
Atodlen 8 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2004 | 2004/641 |
Atodlen 8 (yn rhannol) | 1 Hydref 2004 | 2004/2528 |
Atodlen 9 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2004 a 28 Mai 2004 | 2004/641 |
Atodlen 9 (yn rhannol) | 1 Hydref 2004 | 2004/2528 |
Daw darpariathau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn Nhabl 2 isod i rym yng Nghymru a Lloegr drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Daeth darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn Nhabl 3 isod i rym yng Nghymru drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 67 | 1 Ebrill 2004 | 2004/910 (Cy.93) |
Adran 69 | 1 Ebrill 2004 | 2004/910 (Cy.93) |
Adran 75 | 1 Ebrill 2004 | 2004/910 (Cy.93) |
Adran 101(1) (yn rhannol) | 1 Ebrill 2004 | 2004/910 (Cy.93) |
Atodlen 7 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2004 | 2004/910 (Cy.93) |
Atodlen 9 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2004 | 2004/910 (Cy.93) |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: