Search Legislation

Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) 2004

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) 2004

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) Instrument yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol. Help about Status

Close

Statws

Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:

  1. os nad yw'r ddarpariaeth (Rhan, Pennod neu adran) erioed wedi dod i rym neu;
  2. pan fo testun y ddarpariaeth wedi'i newid, ond nad oes dyddiad wedi'i bennu eto gan y person neu'r corff priodol i'r newidiadau hynny i ddod i rym.

Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) 2004. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):

Rhagolygol

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 314 (Cy.32)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud

10 Chwefror 2004

Yn dod i rym

6 Mawrth 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 6(4), 16(1)(a), (e) ac (f), (17)(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo(2), ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor(3) sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Rhagolygol

Enwi, cymhwyso a chychwynLL+C

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) 2004; maent yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 6 Mawrth 2005.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

DehongliLL+C

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

mae i “awdurdod bwyd” yr un ystyr â “food authority” yn adran 5(1A) a (3) o'r Ddeddf i'r graddau y gall is-adran 3 fod yn gymwys i Gymru;

ystyr “babanod” (“infants”) yw plant o dan ddeuddeng mis oed;

ystyr “bwyd babanod” (“baby foods”) yw bwydydd sydd i'w defnyddio at ddiben maethol penodol, sy'n bodloni gofynion penodol babanod a phlant ifanc mewn iechyd da ac sydd wedi'u bwriadu i'w defnyddio gan fabanod tra'u bod yn cael eu diddyfnu, a chan blant ifanc fel ychwanegyn at eu deiet neu ar gyfer eu hymaddasiad graddol i fwyd cyffredin, ond nad ydynt yn cynnwys bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn;

ystyr “bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn” (“processed cereal-based foods”) yw bwydydd sydd i'w defnyddio at ddiben maethol penodol o fewn y categorïau a bennir yn Rhan I o Atodlen 1, sy'n bodloni gofynion penodol babanod a phlant ifanc mewn iechyd da ac sydd wedi'u bwriadu i'w defnyddio gan fabanod tra'u bod yn cael eu diddyfnu, a chan blant ifanc fel ychwanegyn at eu deiet neu ar gyfer eu hymaddasiad graddol i fwyd cyffredin;

ystyr “Cytundeb AEE” (“EEA Agreement”) yw'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd(4) a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992 fel y'i haddaswyd gan y Protocol(5) a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “gweddill plaleiddiad” (“pesticide residue”) yw'r gweddill mewn bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn neu mewn bwydydd babanod a hwnnw'n weddill cynnyrch amddiffyn planhigion fel y diffinnir “plant protection product” ym mhwynt 1 o Erthygl 2 o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/414/EEC(6) ynglŷn â gosod cynhyrchion amddiffyn planhigion ar y farchnad, gan gynnwys ei fetabolion a chynhyrchion sy'n deillio o'r cynnyrch hwnnw wrth iddo ddiraddio neu adweithio;

mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys meddu i werthu a chynnig, dangos neu hysbysebu i'w werthu;

ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State”) yw Gwladwriaeth sy'n Barti Contractio i'r Cytundeb AEE;

ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 96/5/EC(7)) ar fwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn a bwydydd babanod ar gyfer babanod a phlant ifanc, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 1998/36/EC(8), Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/39/EC(9)) a Chyfarwyddeb y Comisiwn 2003/13/EC(10); ac

ystyr “plant ifanc” (“young children”) yw plant rhwng un a thair blwydd oed.

(2Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn a'r ymadroddion cyfatebol yn y Gyfarwyddeb yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag ystyr yr ymadroddion cyfatebol yn y Gyfarwyddeb.

(3Os yw unrhyw Atodlen yn cynnwys unrhyw nodyn, rhaid i ddarpariaethau'r Atodlen honno gael eu dehongli a'u cymhwyso yn unol â'r nodyn hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

EsemptiadLL+C

3.  Ni fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw fwyd babanod sy'n llaeth sydd wedi'i fwriadu ar gyfer plant ifanc.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

Cyfyngiadau ar werthu bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn a bwydydd babanodLL+C

4.  Ni chaiff neb werthu unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn nac unrhyw fwyd babanod oni bai bod y bwyd hwnnw —

(a)yn cydymffurfio â gofynion rheoliadau 5 i 7 o ran gweithgynhyrchu a chyfansoddiad; a

(b)wedi'i labelu yn unol â rheoliad 8.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

Gofynion cyffredinol o ran gweithgynhyrchu a chyfansoddiadLL+C

5.—(1Rhaid peidio â gweithgynhyrchu unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn nac unrhyw fwyd babanod o unrhyw gyfansoddyn ac eithrio'r rhai y mae eu haddasrwydd sydd i'w defnyddio at ddiben maethol penodol gan fabanod a phlant ifanc wedi'i gadarnhau drwy ddata gwyddonol sydd wedi'u derbyn yn gyffredinol.

(2Rhaid i unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn neu unrhyw fwyd babanod beidio â chynnwys cymaint o unrhyw sylwedd ag i beryglu iechyd babanod neu blant ifanc.

(3Rhaid i gyfansoddiad bwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn gydymffurfio â'r meini prawf a bennir yn Rhan II o Atodlen 1 o'i darllen ynghyd ag Atodlen 2.

(4Rhaid i gyfansoddiad bwyd babanod gydymffurfio â'r meini prawf a bennir yn Atodlen 3.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

Sylweddau maethol a maetholion sydd wedi'u hychwaneguLL+C

6.—(1Wrth weithgynhyrchu unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn neu unrhyw fwyd babanod, rhaid peidio ag ychwanegu unrhyw sylwedd maethol ac eithrio sylwedd maethol a bennir yn Atodlen 4.

(2Rhaid i unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn nac unrhyw fwyd babanod beidio â chynnwys cymaint o unrhyw faetholyn wedi'i ychwanegu a bennir yng ngholofn 1 o Ran I o Atodlen 5 ag i fynd dros y terfyn uchaf a bennir gyferbyn â'r maetholyn hwnnw yng ngholofn 2 o'r Rhan honno.

(3Rhaid i unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn nac unrhyw fwyd babanod a bennir yng ngholofn 1 o Ran II o Atodlen 5 beidio â chynnwys unrhyw faetholyn wedi'i ychwanegu a bennir gyferbyn â'r bwyd hwnnw yng ngholofn 2 o'r Rhan honno ag i fynd dros y terfyn uchaf a bennir yng ngholofn 3 o'r rhan honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

Gweddillion plaleiddiaidLL+C

7.—(1Rhaid i unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn neu unrhyw fwyd babanod beidio â chynnwys —

(a)unrhyw weddill plaleiddiad o blaleiddiad a bennir yn Atodlen 6; na

(b)unrhyw omethoad, pan yw'n fetabolyn plaleiddiad nas pennir yn Atodlen 6, nac unrhyw gynnyrch sy'n deillio o ddiraddiant neu ymadwaith y metabolyn hwnnw,

ar lefel sy'n uwch na 0.003 mg/kg.

(2Rhaid i unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn neu fwyd babanod beidio â chynnwys unrhyw weddill plaleiddiad o blaleiddiad a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 7 ar lefel uwch na'r lefel a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno mewn perthynas â'r plaleiddiad hwnnw.

(3Rhaid i unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn neu fwyd babanod beidio â chynnwys unrhyw weddill plaleiddiad o unrhyw blaleiddiad unigol nas pennir yn Atodlen 6 neu golofn 1 Atodlen 7 ar lefel sy'n uwch na 0.01 mg/kg.

(4Mae'r lefelau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) to (3) yn gymwys i'r bwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn neu'r bwyd babanod —

(a)sydd wedi'i weithgynhyrchu fel bwyd sy'n barod i gael ei fwyta, neu

(b)os nad yw wedi'i weithgynhyrchu felly, fel y'i hailansoddiwyd yn unol â chyfarwyddiadau'i weithgynhyrchydd.

(5Rhaid i'r dulliau dadansoddi ar gyfer penderfynu lefelau gweddillion plaleiddiaid at ddibenion y rheoliad hwn fod yn ddulliau safonedig sydd wedi'u derbyn yn gyffredinol.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

LabeluLL+C

8.—(1Heb leihau effaith gyffredinol Rhan II o Reoliadau Labelu Bwyd 1996(11), rhaid i fwydydd proses sydd wedi'i seilio ar rawn a bwydydd babanod gael eu labelu â'r manylion canlynol —

(a)datganiad ynghylch o ba oedran priodol (y mae'n rhaid iddo beidio â bod yn llai na phedwar mis) y caniateir defnyddio'r bwyd, o ystyried ei gyfansoddiad, ei ansawdd ffisegol neu ei nodweddion penodol eraill;

(b)gwybodaeth am bresenoldeb neu absenoldeb glwten os yw'r oedran sydd wedi'i ddatgan yn unol ag is-baragraff (a) yn llai na chwe mis;

(c)gwerth yr ynni sydd ar gael a hwnnw wedi'i fynegi mewn kJ a kcal, a'r cynnwys o ran protein, carbohydradau a braster, wedi'i fynegi ar ffurf rifiadol, fesul 100 g neu 100 ml o'r bwyd fel y mae'n cael ei werthu ac, os yw'n briodol, fesul maint penodedig o'r bwyd fel y mae wedi'i fwriadu i gael ei fwyta neu ei yfed;

(ch)y maint cyfartalog, wedi'i fynegi ar ffurf rifiadol, fesul 100 g neu 100 ml o'r bwyd fel y mae'n cael ei werthu ac, os yw'n briodol, fesul maint penodedig o'r bwyd fel y mae wedi'i fwriadu i gael ei fwyta neu ei yfed, o bob sylwedd mwynol ac o bob fitamin y mae gofyniad o ran uchafswm neu isafswm ei gyfansoddiad wedi'i bennu yn —

(i)Rhan II o Atodlen 1 yn achos bwydydd proses wedi'u seilio ar rawn; a

(ii)Atodlen 3 yn achos bwydydd babanod; a

(d)os yw'n angenrheidiol paratoi'r bwyd, cyfarwyddiadau priodol ar gyfer ei baratoi a datganiad ynglŷn â phwysigrwydd dilyn y cyfarwyddiadau hynny.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (1)(ch), rhaid peidio â labelu unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn nac unrhyw fwyd babanod â maint cyfartalog unrhyw faetholyn a bennir yn Atodlen 4 oni bai —

(a)bod y maint cyfartalog yn cael ei fynegi ar ffurf rifiadol, fesul 100 g neu 100 ml o'r bwyd fel y mae'n cael ei werthu ac, os yw'n briodol, fesul maint penodedig o'r bwyd fel y mae wedi'i fwriadu i'w fwyta neu i'w yfed; a

(b)yn achos sylwedd mwynol neu fitamin, fod hwnnw'n sylwedd mwynol neu'n fitamin ac eithrio'r un y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1)(ch).

(3Os, yn unol â pharagraff (1)(ch) neu baragraff (2), y mae unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn neu unrhyw fwyd babanod wedi'i labelu â'r maint cyfartalog, fesul 100 g neu 100 ml o'r bwyd fel y mae'n cael ei werthu ac, os yw'n briodol, fesul maint penodedig o'r bwyd fel y mae wedi'i fwriadu i'w fwyta neu i'w yfed, o unrhyw fitamin neu fwyn a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 8, rhaid i label y bwyd beidio â mynegi'r maint cyfartalog hwnnw fel canran o'r gwerth cyfeiriadol a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 8 mewn perthynas â fitamin neu'r mwyn hwnnw oni bai bod y maint sy'n bresennol yn hafal i 15 y cant neu fwy o'r gwerth cyfeiriadol.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

GorfodiLL+C

9.—(1Ac eithrio os yw paragraff (2) yn gymwys, rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal.

(2 Rhaid i bob awdurdod iechyd porthladd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal o ran bwyd sydd wedi'i fewnforio.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

Tramgwydd a chosbLL+C

10.  Os bydd unrhyw berson yn mynd yn groes i reoliad 4, bydd yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

Amddiffyniad ynglŷn ag allforionLL+C

11.  Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir brofi —

(a)bod y bwyd, yr honnir bod y tramgwydd wedi'i gyflawni mewn perthynas ag ef, wedi'i fwriadu i'w allforio i wlad sydd â deddfwriaeth debyg i'r Rheoliadau hyn a bod y bwyd yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honno; a

(b)yn achos allforio i un o Wladwriaethau'r AEE, bod y ddeddfwriaeth yn cydymffurfio â darpariaethau'r Gyfarwyddeb(12).

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 11 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

Cymhwyso darpariaethau amrywiol y DdeddfLL+C

12.  Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —

(a)adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.);

(b)adran 3 (rhagdybiaethau fod bwyd wedi'i fwriadu i'w fwyta gan bobl);

(c)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

(ch)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy), fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 8, 14 neu 15;

(d)adran 22 (amddiffyn cyhoeddi wrth gynnal busnes);

(dd)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(e)adran 33(1) (rhwystro swyddogion etc.);

(f)adran 33(2), gyda'r addasiad bod rhaid barnu bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan baragraff (e) uchod;

(ff)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y cymhwysir hi gan baragraff (e) uchod;

(g)adran 35(2) a (3) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y cymhwysir hi gan baragraff (f) uchod;

(ng)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac

(h)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 12 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

DirymuLL+C

13.—(1Dirymir Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc 1997(13) a Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Diwygio) 1999(14) mewn perthynas â Chymru.

(2Dirymir Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Diwygio) (Cymru) 2001(15).

Gwybodaeth Cychwyn

I13Rhl. 13 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

DiwygiadLL+C

14.—(1Diwygir Rheoliadau Tryptoffan mewn Bwyd 1990(16))(i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru) yn unol â pharagraff (2).

(2 Yn rheoliad 2(7) (gwahardd gwerthu etc fwyd sy'n cynnwys tryptoffan), yn y diffiniadau o “processed cereal-based food” a “baby food” yn lle'r geiriau “the Processed Cereal-based Foods and Baby Foods for Infants and Young Children Regulations 1997” rhowch y geiriau “the Processed Cereal-based Foods and Baby Foods for Infants and Young Children (Wales) Regulations 2004”.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Rhl. 14 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(17)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

10 Chwefror 2004

Rhagolygol

Rheoliadau 2(1), 5(3) ac 8(1)(ch)

ATODLEN 1LL+CBWYDYDD SYDD WEDI'U SEILIO AR RAWN

RHAN ILL+CCategorïau o fwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn

1.  Grawn syml sydd i'w hailansoddi neu y mae rhaid eu hailansoddi â llaeth neu hylifau maethlon priodol eraill.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 1 Rhn. I para. 1 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

2.  Grawn â bwyd uchel mewn protein sydd wedi'i ychwanegu ac sydd i'w hailansoddi neu y mae rhaid eu hailansoddi â dwr neu hylif arall heb brotein.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 1 Rhn. I para. 2 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

3.  Pastau sydd i'w defnyddio ar ôl eu coginio mewn dwr berwedig neu hylifau priodol eraill.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 1 Rhn. I para. 3 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

4.  Bisgedi caled a bisgedi eraill sydd i'w defnyddio naill ai'n uniongyrchol neu, ar ôl eu malu'n fân, gan ychwanegu dwr, llaeth neu hylifau addas eraill atynt.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 1 Rhn. I para. 4 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

RHAN IILL+CCyfansoddiad hanfodol bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn

Mae'r gofynion ynglŷn â maetholion yn cyfeirio at y cynnyrch sy'n barod i'w defnyddio, sy'n cael eu marchnata fel y cyfryw neu sydd i'w hailansoddi yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchydd.

Y cynnwys o ran grawnLL+C

1.  Mae bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn yn cael eu paratoi'n bennaf o un neu ragor o ydau grawn wedi'u malu a/neu gynhyrchion gwreiddiau startslyd.

Rhaid i gyfanswm yr ydau grawn a/neu'r cynnyrch gwreiddiau startslyd beidio â bod yn llai na 25 y cant o'r cymysgedd terfynol o gymharu pwysau sych y naill a phwysau sych y llall.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 1 Rhn. II para. 1 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

ProteinLL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 1 Rhn. II para. 2 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

2.1.  Yn achos cynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraffau 2 a 4 o Ran I, rhaid i'r cynnwys o ran protein beidio â bod yn fwy nag 1.3 g /100 kJ (5.5 g / 100 kcal).

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 1 para. 2.1 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

2.2.  Yn achos cynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraff 2 o Ran I, rhaid i'r protein sydd wedi'i ychwanegu beidio â bod yn llai na 0.48 g /100 kJ (2 g / 100 kcal).

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 1 para. 2.2 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

2.3.  Yn achos bisgedi a grybwyllwyd ym mharagraff 4 o Ran I sydd wedi'u gwneud drwy ychwanegu bwyd uchel mewn protein, ac sy'n cael eu cyflwyno fel y cyfryw, rhaid i'r protein sydd wedi'i ychwanegu beidio â bod yn llai na 0.36 g /100 kJ (1.5 g / 100 kcal).

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 1 para. 2.3 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

2.4.  Rhaid i fynegrif cemegol y protein sydd wedi'i ychwanegu fod yn hafal i 80 y cant o leiaf o'r protein cyfeiriadol (casein fel y'i diffinnir yn Atodlen 2), neu mae'n rhaid i gymhareb effeithlonrwydd protein (PER) y protein yn y cymysgedd fod yn hafal i 70 y cant o leiaf o'r protein cyfeiriadol hwnnw. Ym mhob achos, dim ond at ddibenion gwella gwerth maethol y cymysgedd sy'n cynnwys y protein , a dim ond yn ôl y cyfrannau sy'n angenrheidiol at y diben hwnnw y caniateir ychwanegu asidau amino.

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. 1 para. 2.4 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

CarbohydradauLL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 1 Rhn. II para. 3 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

3.1.  Os yw swcros, ffrwctos, glwcos, suropau glwcos neu fêl yn cael eu hychwanegu at gynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraffau 1 a 4 o Ran I:

  • rhaid i gyfanswm y carbohydradau sydd wedi'u hychwanegu o'r ffynonellau hyn beidio â bod yn fwy nag 1.8 g / 100 kJ (7.5 g / 100 kcal),

  • rhaid i gyfanswm y ffrwctos sydd wedi'i ychwanegu beidio â bod yn fwy na 0.9 g / 100 kJ (3.75 g / 100 kcal).

Gwybodaeth Cychwyn

I26Atod. 1 para. 3.1 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

3.2.  Os yw swcros, ffrwctos, suropau glwcos neu fêl yn cael eu hychwanegu at gynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraff 2 o Ran I:

  • rhaid i gyfanswm y carbohydradau sydd wedi'u hychwanegu o'r ffynonellau hyn beidio â bod yn fwy nag 1.2 g / 100 kJ (5 g / 100 kcal),

  • rhaid i gyfanswm y ffrwctos sydd wedi'i ychwanegu beidio â bod yn fwy na 0.6 g / 100 kJ (2.5 g / 100 kcal).

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 1 para. 3.2 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

BrasterLL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I28Atod. 1 Rhn. II para. 4 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

4.1.  Yn achos cynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraffau 1 a 4 o Ran I, rhaid i'r cynnwys o ran braster beidio â bod yn fwy na na 0.8 g / 100 kJ (3.3 g / 100 kcal).

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 1 para. 4.1 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

4.2.  Yn achos cynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraff 2 o Ran I, rhaid i'r cynnwys o ran braster beidio â bod yn fwy na nag 1.1 g / 100 kJ (4.5 g / 100 kcal). Os yw'r cynnwys o ran braster yn fwy na 0.8 g / 100 kJ (3.3 g / 100 kcal):

(a)rhaid i gyfanswm yr asid lawrig beidio â bod yn fwy na 15 y cant o gyfanswm y cynnwys o ran braster;

(b)rhaid i gyfanswm yr asid myristig beidio â bod yn fwy na 15 y cant o gyfanswm y cynnwys o ran braster;

(c)rhaid i gyfanswm yr asid linolëig (ar ffurf glyseridau = linoleadau) beidio â bod yn llai na 70 mg / 100 kJ (300 mg / 100 kcal) a pheidio â bod yn fwy na 285 mg / 100 kJ (1200 mg / 100 kcal).

Gwybodaeth Cychwyn

I30Atod. 1 para. 4.2 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

MwynauLL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

SodiwmLL+C

  • 5.1.  dim ond at ddibenion technolegol y caniateir ychwanegu halwynau sodiwm at fwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn,

  • rhaid i'r sodiwm sydd wedi'i gynnwys mewn bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn beidio â bod yn fwy na 25 mg /100 kJ (100 mg / 100 kcal).

Gwybodaeth Cychwyn

I32Atod. 1 para. 5.1 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

CalsiwmLL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I33Atod. 1 para. 5.2 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

5.2.1.  Yn achos cynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraff 2 o Ran I, rhaid i gyfanswm y calsiwm beidio â bod yn llai nag 20 mg /100 kJ (80 mg / 100 kcal).

Gwybodaeth Cychwyn

I34Atod. 1 para. 5.2.1 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

5.2.2.  Yn achos cynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraff 4 o Ran I sy'n cael eu gweithgynhyrchu drwy ychwanegu llaeth (bisgedi llaeth) atynt ac yn cael eu cyflwyno fel y cyfryw, rhaid i gyfanswm y calsiwm beidio â bod yn llai na 12 mg /100 kJ (50 mg / 100 kcal).

Gwybodaeth Cychwyn

I35Atod. 1 para. 5.2.2 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

FitaminauLL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I36Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

6.1.  Yn achos bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn, rhaid i gyfanswm thiamin beidio â bod yn llai na 25 μg / 100 kJ (100 μg / 100 kcal).

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 1 para. 6.1 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

6.2.  Yn achos cynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraff 2 o Ran I:

  • Mae'r terfynau canlynol yn gymwys:

  • Fesul 100 kJFesul 100 kcal
    IsafswmMwyafswmLleiafswmMwyafswm
    (1)

    RE = pob cyfwerthydd traws-retinol

    (2)

    Ar ffurf colecalsifferol, y mae 10 μg ohono = 400 i.u. o Fitamin D

    Fitamin A (μg RE)(1)144360180
    Fitamin D (μg)(2)0.250.7513
  • Mae'r terfynau hyn yn gymwys hefyd os yw fitaminau A a D yn cael eu hychwanegu at fwydydd proses eraill sydd wedi'u seilio ar rawn.

Gwybodaeth Cychwyn

I38Atod. 1 para. 6.2 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

Rheoliad 5(3) ac Atodlen1, Rhan II, Paragraff 2.4

ATODLEN 2LL+CCYFANSODDIAD CASEIN O RAN ASIDAU AMINO

Gwybodaeth Cychwyn

I39Atod. 2 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

Asid Amino(g fesul 100 g o brotein)
Arginin3.7
Cystin0.3
Histidin2.9
Isolewcin5.4
Lewcin9.5
Lysin8.1
Methionin2.8
Ffenylalanin5.2
Threonin4.7
Tryptoffan1.6
Tyrosin5.8
Falin6.7

Rheoliadau 5(4) ac 8(1)(ch)

ATODLEN 3LL+CCYFANSODDIAD HANFODOL BWYDYDD BABANOD

Mae'r gofynion ynglŷn â maetholion yn cyfeirio at y cynhyrchion sy'n barod i'w defnyddio, sydd wedi'u marchnata fel y cyfryw neu neu wedi'u hailansoddi yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchydd.

ProteinLL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I40Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

1.1.  Os cig, dofednod, pysgod, syrth neu ffynhonnell draddodiadol arall o brotein yw'r unig gynhwysion sydd wedi'u crybwyll yn enw'r cynnyrch, yna:

  • rhaid i gyfanswm y cig, dofednod, pysgod, syrth neu ffynhonnell draddodiadol arall o brotein a enwir beidio â ffurfio llai na 40 y cant, yn ôl pwysau, o'r cynnyrch cyfan,

  • rhaid i bob cig, dofednod, pysgodyn, syrth neu ffynhonnell draddodiadol arall o brotein a enwir beidio â ffurfio llai na 25 y cant, yn ôl pwysau, o gyfanswm y ffynonellau protein a enwir,

  • rhaid i gyfanswm y protein o'r ffynonellau a enwir beidio â bod yn llai nag 1.7 g / 100 kJ (7g / 100 kcal).

Gwybodaeth Cychwyn

I41Atod. 3 para. 1.1 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

1.2.  Os crybwyllir cig, dofednod, pysgod, syrth neu ffynhonnell draddodiadol arall o brotein, yn unigol neu'n gyfunol, yn gyntaf yn enw'r cynnyrch, p'un a yw'r cynnyrch yn cael ei gyflwyno fel pryd bwyd neu beidio, yna:

  • rhaid i gyfanswm y cig, dofednod, pysgod, syrth neu ffynhonnell draddodiadol arall o brotein a enwir beidio â ffurfio llai na 10 y cant, yn ôl pwysau, o'r cynnyrch cyfan,

  • rhaid i bob cig, dofednod, pysgod, syrth neu ffynhonnell draddodiadol arall o brotein a enwir beidio â ffurfio llai na 25 y cant yn ôl pwysau o gyfanswm y ffynonellau protein a enwir,

  • rhaid i gyfanswm y protein o'r ffynonellau a enwir beidio â bod yn llai nag 1 g / 100 kJ (4g / 100 kcal).

Gwybodaeth Cychwyn

I42Atod. 3 para. 1.2 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

1.3.  Os crybwyllir cig, dofednod, pysgod, syrth neu ffynhonnell draddodiadol arall o brotein, yn unigol neu'n gyfunol, yn enw'r cynnyrch, ond nid yn gyntaf, p'un a yw'r cynnyrch yn cael ei gyflwyno fel pryd bwyd neu beidio, yna:

  • rhaid i gyfanswm y cig, dofednod, pysgod, syrth neu ffynhonnell draddodiadol arall o brotein a enwir beidio â ffurfio llai nag 8 y cant, yn ôl pwysau, o'r cynnyrch cyfan,

  • rhaid i bob cig, dofednod, pysgod, syrth neu ffynhonnell draddodiadol arall o brotein a enwir beidio â ffurfio llai na 25 y cant, yn ôl pwysau, o gyfanswm y ffynonellau protein a enwir,

  • rhaid i gyfanswm y protein o'r ffynonellau a enwir beidio â bod yn llai na 0.5 g / 100 kJ (2.2g / 100 kcal),

  • rhaid i gyfanswm y protein yn y cynnyrch o bob ffynhonnell beidio â bod yn llai na 0.7 g / 100 kJ (3g / 100 kcal).

Gwybodaeth Cychwyn

I43Atod. 3 para. 1.3 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

1.4.  Os yw caws wedi'i grybwyll ynghyd â chynhwysion eraill yn enw cynnyrch sawrus, p'un a yw'r cynnyrch yn cael ei gyflwyno fel pryd bwyd neu beidio, yna:

  • rhaid i'r protein o'r ffynonellau llaeth beidio â bod yn llai na 0.5 g / 100 kJ (2.2 g / 100kcal),

  • rhaid i gyfanswm y protein yn y cynnyrch o bob ffynhonnell beidio â bod yn llai na 0.7 g / 100 kJ (3g / 100 kcal).

Gwybodaeth Cychwyn

I44Atod. 3 para. 1.4 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

1.5.  Os yw'r cynnyrch wedi'i ddynodi'n bryd bwyd ar y label, ond nad cig, dofednod, pysgod, syrth neu ffynhonnell brotein draddodiadol arall wedi'u crybwyll yn enw'r cynnyrch, rhaid i gyfanswm y protein yn y cynnyrch o bob ffynhonnell beidio â bod yn llai na 0.7 g / 100 kJ (3g / 100 kcal).

Gwybodaeth Cychwyn

I45Atod. 3 para. 1.5 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

1.6.  Mae sawsiau sy'n cael eu cyflwyno'n gyfwydydd pryd bwyd yn esempt rhag gofynion paragraff 1.1 i 1.5.

Gwybodaeth Cychwyn

I46Atod. 3 para. 1.6 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

1.7.  Rhaid i seigiau melus, y mae cynhyrchion llaeth wedi'u crybwyll yn gynhwysyn cyntaf neu'n unig gynhwysyn yn enwau'r seigiau hynny, beidio â chynnwys llai na 2.2 g o brotein llaeth / 100 kcal. Mae pob saig felus arall yn esempt rhag y gofynion ym mharagraffau 1.1 i 1.5.

Gwybodaeth Cychwyn

I47Atod. 3 para. 1.7 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

1.8.  Dim ond er mwyn gwella gwerth maethol y protein sy'n bresennol, a dim ond yn ôl y cyfrannau sy'n angenrheidiol at y diben hwnnw, y caniateir ychwanegu asidau amino.

Gwybodaeth Cychwyn

I48Atod. 3 para. 1.8 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

CarbohydradauLL+C

2.  Rhaid i feintiau'r carbohydradau cyfan sy'n bresennol mewn suddau a neithdarau ffrwythau a llysiau, seigiau ffrwythau-yn-unig, a melysfwydydd neu bwdinau beidio â bod yn fwy na'r canlynol:

  • 10 g / 100 ml ar gyfer suddau llysiau a diodydd sydd wedi'u seilio arnynt,

  • 15 g / 100 ml ar gyfer suddau a neithdarau ffrwythau a diodydd sydd wedi'u seilio arnynt,

  • 20 g / 100 g ar gyfer seigiau ffrwythau-yn-unig,

  • 25 g / 100 g ar gyfer melysfwydydd a phwdinau,

  • 5 g / 100 g ar gyfer diodydd eraill nad ydynt wedi'u seilio ar laeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I49Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

BrasterLL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I50Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

3.1.  Yn achos cynhyrchion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 1.1, os cig neu gaws yw'r unig gynhwysion neu os hwy sydd wedi'u crybwyll gyntaf yn enw cynnyrch, rhaid i gyfanswm y braster yn y cynnyrch o bob ffynhonnell beidio â bod yn fwy nag 1.4 g / 100 kJ (6g / 100 kcal).

Gwybodaeth Cychwyn

I51Atod. 3 para. 3.1 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

3.2.  Yn achos pob cynnyrch arall rhaid i gyfanswm y braster yn y cynnyrch o bob ffynhonnell beidio â bod yn fwy nag 1.1 g / 100 kJ (4.5 g / 100 kcal).

Gwybodaeth Cychwyn

I52Atod. 3 para. 3.2 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

SodiwmLL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I53Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

4.1.  Rhaid i'r cynnwys terfynol o ran sodiwm yn y cynnyrch naill ai beidio â bod yn fwy nag 48 mg /100 kJ (200 mg / 100 kcal) neu beidio â bod yn fwy na 200 mg fesul 100 g. Er hynny, os caws yw'r unig gynhwysyn sydd wedi'i grybwyll yn enw'r cynnyrch, rhaid i'r cynnwys terfynol o ran sodiwm yn y cynnyrch beidio â bod yn fwy na 70 mg / 100 kJ (300 mg / 100 kcal).

Gwybodaeth Cychwyn

I54Atod. 3 para. 4.1 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

4.2.  Ni chaniateir ychwanegu halwynau sodiwm at gynhyrchion sydd wedi'u seilio ar ffrwythau, nac at felysfwydydd neu bwdinau ac eithrio at ddibenion technolegol.

Gwybodaeth Cychwyn

I55Atod. 3 para. 4.2 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

FitaminauLL+C

5.  Fitamin C —

  • Mewn sudd ffrwythau, neithdar, neu sudd llysiau rhaid i'r cynnwys terfynol o ran fitamin C yn y cynnyrch naill ai beidio â bod yn llai na 6 mg /100 kJ (25 mg / 100 kcal) neu beidio â bod yn llai na 25 mg fesul 100 g.

  • Mewn suddion llysiau, rhaid i'r cynnwys terfynol o ran fitamin A yn y cynnyrch beidio â bod yn llai na 25 μg RE/100 kJ (100 μg RE/100 kcal) ac, at ddibenion y paragraff hwn, RE = pob cyfwerthydd traws-retinol.

  • Fitamin A —

  • Rhaid peidio ag ychwanegu fitamin A at fwydydd babanod eraill.

  • Fitamin D —

  • Rhaid peidio ag ychwanegu fitamin D at fwydydd babanod.

Gwybodaeth Cychwyn

I56Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

Rheoliadau 6(1) ac 8(2)

ATODLEN 4LL+CSYLWEDDAU MAETHOL

1.  FitaminauLL+C

  • Fitamin A

  • Retinol

  • Retinyl asetad

  • Retinyl palmitad

  • Beta-caroten

  • Fitamin D

  • Fitamin D2 (= ergocalsifferol)

  • Fitamin D3 (= colecalsifferol)

  • Fitamin B1

  • Thiamin hydroclorid

  • Thiamin mononitrad

  • Fitamin B2

  • Ribofflafin

  • Ribofflafin-5'-ffosffad, sodiwm

  • Nïacin

  • Nicotinamid

  • Asid nicotinig

  • Fitamin B6

  • Pyridocsin hydroclorid

  • Pyridocsin-5-ffosffad

  • Pyridocsin deupalmitad

  • Asid pantothenig

  • D-pantothenad, calsiwm

  • D-pantothenad, sodiwm

  • Decspanthenol

  • Ffolad

  • Asid ffolig

  • Fitamin B12

  • Cyanocobalamin

  • Hydrocsocobalamin

  • Biotin

  • D-biotin

  • Fitamin C

  • L-asid asgorbig

  • Sodium L-asgorbad

  • Calsiwm L- asgorbad

  • 6-palmityl-L- asid asgorbig (ascorbyl palmitad)

  • Potasiwm asgorbad

  • Fitamin K

  • Ffylocwinon (ffytomenadion)

  • Fitamin E

  • D-alffa tocofferol

  • DL- alffa tocofferol

  • D- alffa tocofferol asetad

  • DL- alffa tocofferol asetad

Gwybodaeth Cychwyn

I57Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

Asidau aminoLL+C

2.  L-arginin }

  • L-cystin }

  • L-histidin } a'u hydrocloridau

  • L-isolewcin }

  • L-lewcin }

  • L-lysin }

  • L-cystein }

  • L-methionin

  • L-ffenylalanin

  • L-threonin

  • L-tryptoffan

  • L-tyrosin

  • L-falin

Gwybodaeth Cychwyn

I58Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

EraillLL+C

3.  Colin

  • Colin clorid

  • Colin citrad

  • Colin bitartrad

  • Inositol

  • L-carnitin

  • L-carnitin hydroclorid

Gwybodaeth Cychwyn

I59Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

Halwynau mwynau ac elfennau hybrinLL+C

4.  Calsiwm

  • Calsiwm carbonad

  • Calsiwm clorid

  • Halwynau calsiwm asid citrig

  • Calsiwm glwconad

  • Calsiwm glyseroffosffad

  • Calsiwm lactad

  • Calsiwm ocsid

  • Calsiwm hydrocsid

  • Halwynau calsiwm asid orthoffosfforig

  • Magnesiwm

  • Magnesiwm carbonad

  • Magnesiwm clorid

  • Halwynau magnesiwm asid citrig

  • Magnesiwm glwconad

  • Magnesiwm ocsid

  • Magnesiwm hydrocsid

  • Halwynau magnesiwm asid orthoffosfforig

  • Magnesiwm sylffad

  • Magnesiwm lactad

  • Magnesiwm glyseroffosffad

  • Potasiwm

  • Potasiwm clorid

  • Halwynau potasiwm asid citrig

  • Potasiwm glwconad

  • Potasiwm lactad

  • Potasiwm glyseroffosffad

  • Haearn

  • Citrad fferrus

  • Amoniwm citrad fferrig

  • Glwconad fferrus

  • Lactad fferrus

  • Sylffad fferrus

  • Ffwmarad fferrus

  • Deuffosffad fferrig (pyroffosffad fferrig)

  • Haearn elfennol (carbonyl + electrolytig + wedi'i rydwytho â hydrogen)

  • Sacarad fferrig

  • Sodiwm ferrig deuffosffad

  • Carbonad fferrus

  • Copr

  • Cymhligyn Copr-lysin

  • Carbonad cwprig

  • Citrad cwprig

  • Glwconad cwprig

  • Sylffad Cwprig

  • Zinc

  • Zinc asetad

  • Zinc citrad

  • Zinc lactad

  • Zinc sylffad

  • Zinc ocsid

  • Zinc glwconad

  • Manganîs

  • Manganîs carbonad

  • Manganîs clorid

  • Manganîs citrad

  • Manganîs glwconad

  • Manganîs sylffad

  • Manganîs glyseroffosffad

  • Ïodin

  • Sodiwm ïodid

  • Potasiwm ïodid

  • Potasiwm ïodad

  • Sodiwm ïodad

Gwybodaeth Cychwyn

I60Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

Rheoliad 6(2) a (3)

ATODLEN 5LL+CY TERFYNAU UCHAF AR GYFER FITAMINAU, MWYNAU AC ELFENNAU HYBRIN, OS YDYNT WEDI'U HYCHWANEGU, MEWN BWYDYDD PROSES SYDD WEDI'U SEILIO AR RAWN A BWYDYDD BABANOD

RHAN ILL+CCyffredinol

Gwybodaeth Cychwyn

I61Atod. 5 Rhn. I mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

Colofn 1Colofn 2
MaetholynY terfyn uchaf fesul 100 kcal(1)
(1)

Oni ddywedir fel arall yng ngholofn 2 o Ran I neu golofn 3 o Ran II, mae'r terfynau uchaf a bennir yn y colofnau hynny yn gymwys i fwyd sy'n barod i'w ddefnyddio, p'un a yw'n cael ei farchnata fel y cyfryw neu i'w ailansoddi yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchydd.

Fitamin E3 mg a-TE
Ribofflafin0.4 mg
Nïasin4.5 mg NE
Fitamin B60.35 mg
Asid ffolig50 μg
Fitamin B120.35 μg
Asid pantothenig acid1.5 mg
Biotin10 μg
Potasiwm160 mg (o'r bwyd fel y mae'n cael ei werthu)
Magnesiwm40 mg
Haearn3 mg
Zinc2 mg
Copr40 μg
Ïodin35 μg
Manganîs0.6 mg

RHAN IILL+CBwydydd Penodedig

Gwybodaeth Cychwyn

I62Atod. 5 Rhn. II mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
BwydMaetholynTerfyn uchaf fesul 100 kcal(1)
(1)

Oni ddywedir fel arall yng ngholofn 2 o Ran I neu golofn 3 o Ran II, mae'r terfynau uchaf a bennir yn y colofnau hynny yn gymwys i fwyd sy'n barod i'w ddefnyddio, p'un a yw'n cael ei farchnata fel y cyfryw neu i'w ailansoddi yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchydd.

(2)

RE = pob cyfwerthydd traws-retinol.

1.  Suddau llysiau sy'n fwydydd babanod

Fitamin A180 μg RE(2)

2.  Bwyd wedi'i atgyfnerthu â haearn

Fitamin C25 mg

3.  Seigiau wedi'u seilio ar ffrwythau, suddau ffrwythau, neithdarau neu suddau llysiau

Fitamin C125 mg

4.  Bwyd ac eithrio bwyd o o dan eitem Rhif 2 neu 3 uchod

Fitamin C12.5 mg

5.  Bwyd proses wedi'i seilio ar rawn

Thiamin0.5 mg

6.  Bwyd babanod

Thiamin0.25 mg

7.  Bwyd o fewn paragraff 1 neu 2 o Ran I o Atodlen 1

Calsiwm180 mg (o'r bwyd fel y mae'n cael ei werthu)

8.  Bwyd o fewn paragraff 4 o Ran I o Atodlen 1

Calsiwm100 mg (o'r bwyd fel y mae'n cael ei werthu)

9.  Bwyd ac eithrio bwyd o f ewn eitem Rhif 7 neu 8 uchod

Calsiwm80 mg (o'r bwyd fel y mae'n cael ei werthu)

Rheoliad 7(1) a (3)

ATODLEN 6LL+CPLALEIDDIAID Y MAE RHAID I'W GWEDDILLION BEIDIO Å BOD YN BRESENNOL MEWN BWYDYDD PROSES SYDD WEDI'U SEILIO AR RAWN NEU FWYDYDD BABANOD AR LEFEL SY'N UWCH NA 0.003 MG/KG

Gwybodaeth Cychwyn

I63Atod. 6 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

Enw cemegol

  • Aldrin a deueldrin, wedi'u mynegi fel deueldrin

  • Deusylffoton (swm deusylffoton, deusylffoton sylffocsid a deusylffoton sylffon wedi'u mynegi fel deusylffoton)

  • Endrin

  • Ffenswlffothion (swm ffenswlffothion, ei gydwedd ocsigen a'u sylffonau, wedi'u mynegi fel ffenswlffothion)

  • Ffentin, wedi'i fynegi fel triffenyltin cation

  • Halocsyffop (swm halocsyffop, ei halwynau a'i esterau gan gynnwys cyfiau, wedi'u mynegi fel halocsyffop)

  • Heptaclor a thraws-heptaclor epocsid, wedi'u mynegi fel heptaclor

  • Hecsaclorobensen

  • Nitroffen

  • Omethoad

  • Terbwffos (swm terbwffos, ei sylffocsid a'i sylffon, wedi'u mynegi fel terbwffos)

Rheoliad 7(2) a (3)

ATODLEN 7LL+CLEFELAU GWEDDILLION UCHAF PENODOL PLALEIDDIAID PENODOL MEWN BWYDYDD PROSES SYDD WEDI'U SEILIO AR FWYD NEU FWYDYDD BABANOD

Gwybodaeth Cychwyn

I64Atod. 7 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

Colofn 1Colofn 2
Enw cemegol y sylweddY lefel weddillion uchaf(mg/kg)
Cadwsaffos0.006
Demeton-S-methyl /demeton-S-methyl sylffon/ocsydemeton-methyl (yn unigol neu'n gyfunol, wedi'i fynegi fel demeton-S-methyl)0.006
Ethoproffos0.008
Ffipronil (swm ffipronil a ffipronil-desylffinyl, wedi'u mynegi fel ffipronil)0.004
Propineb/propylenethiowrea (swm propineb a phropylenethiowrea)0.006

Rheoliad 8(3)

ATODLEN 8LL+CGWERTHOEDD CYFEIRIADOL AR GYFER LABELI MAETH AR GYFER BWYDYDD SYDD WEDI'U BWRIADU AR GYFER BABANOD A PHLANT IFANC

Gwybodaeth Cychwyn

I65Atod. 8 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

Colofn 1Colofn 2
MaetholynGwerth cyfeiriadol ar gyfer labeli
Fitamin A(μg) 400
Fitamin D(μg) 10
Fitamin C(mg) 25
Thiamin(mg) 0.5
Ribofflafin(mg) 0.8
Cyfwerthyddion nïacin equivalents(mg) 9
Fitamin B6(mg) 0.7
Ffolad(μg) 100
Fitamin B12(μg) 0.7
Calsiwm(mg) 400
Haearn(mg) 6
Zinc(mg) 4
Ïodin(μg) 70
Seleniwm(μg) 10
Copr(mg) 0.4

Rhagolygol

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer parhau i weithredu yng Nghymru Gyfarwyddeb y Comisiwn 96/5/EC ynglŷn â bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn a bwydydd ar gyfer babanod a phlant ifanc, fel y diwygiwyd y Gyfarwyddeb honno gan Gyfarwyddebau'r Comisiwn 1998/36/EC a 1999/39/EC ac fel y'i diwygiwyd ymhellach yn awr gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2003/13/EC. Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli mewn perthynas â Chymru Reoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc 1997, fel y'u diwygiwyd.LL+C

2.  Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Mawrth 2005. Maent —LL+C

(a)yn gwahardd gwerthu bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn a bwydydd babanod ar gyfer babanod a phlant ifanc oni bai eu bod yn cydymffurfio â'r gofynion ynglŷn â gweithgynhyrchu a chyfansoddiad yn rheoliadau 5 i 7 a'r gofynion ynghylch labelu yn rheoliad 8 (rheoliad 4);

(b)yn esemptio unrhyw fwyd babanod sy'n llaeth sydd wedi'i fwriadu ar gyfer plant ifanc rhag gofynion y Rheoliadau hyn (rheoliad 3);

(c)yn pennu'r awdurdodau gorfodi (rheoliad 9);

(ch)yn creu tramgwydd ac yn rhagnodi cosb (rheoliad 10);

(d)yn darparu amddiffyniad ynglŷn ag allforion yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC (OJ Rhif L186, 30.6.89, t.23) ar reolaeth swyddogol ar fwydydd (rheoliad 11);

(dd)yn cymhwyso darpariaethau penodol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 12); a

(e)yn cynnwys darpariaeth ddirymu (rheoliad 13) ac yn gwneud diwygiad canlyniadol (rheoliad 14).

3.  Er mwyn gweithredu Cyfarwyddeb 2003/13/EC mae'r Rheoliadau hyn yn gwahardd gwerthu bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn a bwydydd babanod ar gyfer babanod a phlant ifanc os yw'r bwydydd hynny yn cynnwys gweddillion plaleiddiaid uwchlaw lefelau penodol. Mae lefelau gwahanol wedi'u pennu, yn dibynnu ar y plaleiddiad o dan sylw (rheoliad 7 ac Atodlenni 6 a 7). Er mwyn gweithredu brawddeg olaf Erthygl 6(2) o Gyfarwyddeb 96/5/EEC fel y'i hamnewidiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 1999/39/EC, mae darpariaeth yn cael ei gwneud ynglŷn â dulliau dadansoddiadol (rheoliad 7(5)).LL+C

4.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud rhai mân newidiadau, newidiadau drafftio a newidiadau technegol hefyd, yn enwedig i'r ddarpariaeth sy'n cymhwyso darpariaethau penodol yn Neddf 1990 (rheoliad 12). Mae gan awdurdodau iechyd porthladdoedd rôl bellach ym maes gorfodi (rheoliad 9). Dim ond â mynd yn groes i'r cyfyngiadau ar werthu yn rheoliad 4 y mae'r ddarpariaeth ynglŷn â thramgwyddo yn ymwneud bellach (rheoliad 10).LL+C

5.  Mae arfarniad rheoliadol llawn o effaith yr offeryn hwn ar gostau busnes wedi'i baratoi a'r roi yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi sy'n dangos sut mae prif elfennau Cyfarwyddeb 2003/13/EC yn cael eu trosi yn y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.LL+C

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Secretary of State” i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.

(4)

OJ Rhif L1, 3.1.94, t.1.

(5)

OJ No. L1, 3.1.94, t.571.

(6)

OJ No. L230, 19.8.91, t.1.

(7)

OJ Rhif L49, 28.2.96, t.17.

(8)

OJ Rhif L167, 12.6.98, t.23.

(9)

OJ Rhif L124, 18.5.1999, t.8.

(10)

OJ Rhif L41, 14.2.2003, t.33.

(12)

Fel y'i mabwysiadwyd drwy Benderfyniad Cyd-bwyllgor AEE Rhif 32/2002 (OJ Rhif L154, 13.6.2002, t.12) a 107/2003.

(16)

O.S. 1990/1728; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 2002/2939 (Cy.280).

(17)

1998 p.38.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources