- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
HAWLIAU TRAMWY, CYMRU
Wedi'u gwneud
10 Chwefror 2004
Yn dod i rym
1 Ebrill 2004
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Codi Rhwystrau oddi ar Briffyrdd (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Priffyrdd 1980 ac mae cyfeiriad at “adran” yn gyfeiriad at yr adran honno o'r Ddeddf;
ystyr “hysbysiad” (“notice”) yw hysbysiad ar ffurf a ragnodir gan y Rheoliadau hyn (neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi) ac mae cyfeiriad at ffurflen â Rhif yn gyfeiriad at ffurflen sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
3. Yr hysbysiad a ragnodir at ddibenion adran—
(a)130A(1) yw Ffurflen 1;
(b)130A(6)(a) yw Ffurflen 2;
(c)130A(6)(b) yw Ffurflen 3;
(ch)130C(1) yw Ffurflen 4; a
(d)130B(6) yw Ffurflen 5.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
10 Chwefror 2004
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi, mewn perthynas â Chymru, ffurf yr hysbysiadau sydd i'w cyflwyno o dan adrannau 130A, 130B a 130C o Ddeddf Priffyrdd 1980 (“y Ddeddf”). Mewnosodwyd yr adrannau hyn yn y Ddeddf gan adran 63 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.
Mae'r darpariaethau newydd yn galluogi person, sy'n credu bod awdurdod priffyrdd lleol yn methu â chyflawni ei ddyletswydd i atal hawl dramwy rhag cael ei rhwystro, i ofyn i'r awdurdod sicrhau bod y rhwystr yn cael ei godi.
Mae'n ofynnol cyflwyno hysbysiadau ar y ffurf a ragnodir gan y Rheoliadau hyn (neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi) pan gaiff y darpariaethau newydd eu harfer.
1980 p.66. Mewnosodwyd yr adrannau hyn yn y Ddeddf gan adran 63 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p.37).
Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672) ac adran 99(1) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: