Offerynnau Statudol Cymru
2004 Rhif 3221 (Cy.277)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004
Wedi'u gwneud
7 Rhagfyr 2004
Yn dod i rym
17 Rhagfyr 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi() at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972() mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu bwyd crai a mesurau sy'n ymwneud â bwyd anifeiliad a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd neu fwyd anifeiliaid a roddir yn fwyd i anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd a rheoli a rheoleiddio'r canlynol, sef: gollwng yn fwriadol organeddau a addaswyd yn enetig, eu rhoi ar y farchnad neu eu symud ar draws ffiniau, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1. O ran y Rheoliadau hyn —
(a)eu henw yw Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004;
(b)deuant i rym ar 17 Rhagfyr 2004; ac
(c)maent yn gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn:
ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodwyd gan awdurdod gorfodi o dan adran 67(3) o'r Ddeddf;
ystyr “awdurdod gorfodi” (“enforcement authority”) yw pob cyngor sir a phob cyngor bwrdeistref sirol;
ystyr “darpariaeth Gymunedol benodedig” (“specified Community provision”) yw darpariaeth yn Rheoliad 1829/2003 a bennir yng Ngholofn 1 ac a ddisgrifir yng Ngholofn 2 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn;
ystyr y “Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Amaethyddiaeth 1970();
ystyr “Rheoliad 1829/2003” (“Regulation 1829/2003”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig().
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
(a)mae unrhyw gyfeiriad at erthygl â Rhif yn gyfeiriad at yr erthygl sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn Rheoliad 1829/2003;
(b)mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â Rhif , oni nodir i'r gwrthwyneb, yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn;
(c)mae unrhyw gyfeiriad at Atodlen yn gyfeiriad at yr Atodlen yn y Rheoliadau hyn oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall.
(3) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag a roddir i'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn Rheoliad 1829/2003.
Cyflwyno ceisiadau am gael awdurdodiad i farchnata cynhyrchion
3. Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yw'r awdurdod cymwys cenedlaethol at ddibenion Pennod III o Reoliad 1829/2003().
Gorfodi
4. Rhaid i bob awdurdod gorfodi, o fewn ei ardal, orfodi a gweithredu darpariaethau'r Rheoliadau hyn a darpariaethau Pennod III o Reoliad 1829/2003.
Tramgwyddau a Chosbau
5.—(1) Mae unrhyw berson sydd yn mynd yn groes i'r ddarpariaeth Gymunedol benodedig y cyfeirir ati yn Rhan I o'r Atodlen neu'n methu â chydymffurfio â hi yn euog o dramgwydd ac yn agored —
(a)o'i gollfarnu'n ddiannod i gyfnod mewn carchar nad yw'n hwy na thri mis, neu i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol, neu i'r ddau; neu
(b)o'i gollfarnu ar dditiad i gyfnod mewn carchar nad yw'n hwy na dwy flynedd neu i ddirwy, neu i'r ddau.
(2) Mae unrhyw berson sydd yn mynd yn groes i unrhyw un o'r darpariaethau Cymunedol penodedig y cyfeirir atynt yn Rhan II o'r Atodlen, neu'n methu â chydymffurfio â hi, yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i gyfnod mewn carchar nad yw'n hwy na thri mis neu i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol, neu i'r ddau.
(3) Mae unrhyw berson sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 8(2) yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i gyfnod yn y carchar nad yw'n hwy na thri mis neu i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol, neu i'r ddau.
Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau'r Ddeddf
6.—(1) Mae darpariaethau'r Ddeddf a restrir ym mharagraff (2) isod yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn a Rheoliad 1829/2003 a hynny'n ddarostyngedig i'r addasiad a nodir ym mharagraff (2)(a) ac fel petai —
(a)unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at “feeding stuff” yn gyfeiriad at “feed”;
(b)unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu unrhyw Ran ohoni yn gyfeiriad at y Rheoliadau hyn a Rheoliad 1829/2003;
(c)unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at “samples taken in a prescribed manner” yn gyfeiriad at samplau a gymerwyd mewn modd a ragnodir yn Rhan II o Atodlen 1 o Reoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi) 1999();
(ch)unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at “prescribed method of analysis”—
(i)mewn perthynas â chanfod bod organedd awdurdodedig penodol a addaswyd yn enetig wedi'i ddefnyddio, yn gyfeiriad at y dull a ddisgrifir yn Erthygl 17(3)(i) o Reoliad 1829/2003 ar gyfer canfod ac adnabod y digwyddiad trawsnewid, neu
(ii)pan nad oes unrhyw ddull o'r fath yn bodoli, neu pan fo'r organedd penodol a addaswyd yn enetig heb ei awdurdodi, yn gyfeiriad at unrhyw ddull sy'n bodloni rheoliad 6(4)(b) o Reoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi) 1999().
(2) Y darpariaethau hynny y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw —
(a)adran 76 (pwer arolygydd i fynd i mewn i fangre a chymryd samplau), sy'n gymwys fel petai paragraff (b) o is-adran (2) o'r adran honno yn cynnwys pwer i'w gwneud yn ofynnol bod unrhyw ddogfennau sy'n ymwneud â'r bwyd anifeiliaid yn cael eu dangos a phwer i gymryd copïau o'r dogfennau hynny;
(b)adran 77 (rhannu samplau a'u dadansoddi gan ddadansoddydd amaethyddol);
(c)adran 78(2), (3), (4), (5), (6), (7), (8) a (10) (dadansoddiad pellach gan Fferyllydd y Llywodraeth);
(ch)adran 79(4), (5), (6), (8) a (10) (darpariaethau atodol ynglyn â samplau a dadansoddi);
(d)adran 80 (cychwyn erlyniadau);
(dd)adran 81 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
(e)adran 82 (amddiffyniad camgymeriad, damwain, etc.);
(f)adran 83 (arfer pwerau gan arolygwyr);
(ff)adran 110 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol).
Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi) 1999
7.—(1) Mae darpariaethau Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi) 1999() a restrir ym mharagraff (2) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn a Rheoliad 1829/2003 yn ddarostyngedig i'r addasiadau a nodir yn y paragraff hwnnw ac fel petai unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at “feeding stuff” yn gyfeiriad at “feed”.
(2) Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw —
(a)rheoliad 3(a) (dull cymryd samplau a'u selio);
(b)rheoliad 4 (dull anfon samplau), sy'n gymwys fel petai'r cyfeiriad at “subsection (1)(b) or (2) of section 77 of the Act” yn gyfeiriad at y Rheoliadau hyn a Rheoliad 1829/2003;
(c)rheoliad 5 (cymwysterau dadansoddydd amaethyddol), sy'n gymwys fel petai'r cyfeiriad at “the prescribed qualifications for an agricultural analyst or a deputy agricultural analyst for the purposes of section 67(5) of the Act insofar as it relates to feeding stuffs” yn gyfeiriad at y cymwysterau y mae eu hangen ar berson sy'n dadansoddi bwyd anifeiliaid at ddibenion y Rheoliadau hyn a Rheoliad 1829/2003;
(ch)rheoliad 6(4) (dulliau dadansoddi), sy'n gymwys fel petai'r cyfeiriad at “the Act” yn gyfeiriad at y Rheoliadau hyn a Rheoliad 1829/2003;
(d)rheoliad 7 (tystysgrif i'w defnyddio ar gyfer canlyniadau dadansoddiad), sy'n gymwys fel petai'r cyfeiriad at “section 77(4) of the Act” yn gyfeiriad at adran 77(4) o'r Ddeddf fel y'i cymhwysir gan y Rheoliadau hyn;
(dd)rheoliad 8 (terfyn amser ar gyfer dadansoddi'r cynnwys olew mewn bwyd anifeiliaid) sy'n gymwys fel petai'r cyfeiriad at sampl a gymerwyd “in the prescribed manner” yn gyfeiriad at sampl a gymerwyd yn unol â'r Rheoliadau hyn;
(e)Atodlen 1 (rheolau manwl ar gyfer samplu);
(f)Atodlen 3 (ffurf safonol ar dystysgrif i'w defnyddio ar gyfer canlyniadau dadansoddiad) sy'n gymwys fel petai'r cyfeiriad at “Part IV of the Agriculture Act 1970” yn gyfeiriad at Reoliadau Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004.
Arolygu, atafaelu a dal gafael ar fwyd anifeiliaid a amheuir
8.—(1) Caiff arolygydd arolygu ar bob adeg resymol unrhyw ddeunydd sydd wedi'i fwriadu ar gyfer ei ddefnyddio fel bwyd anifeiliaid ac sydd —
(a)wedi'i roi ar y farchnad;
(b)ym meddiant unrhyw berson, neu sydd wedi'i adneuo gydag ef neu wedi'i draddodi iddo er mwyn ei roi ar y farchnad neu er mwyn ei baratoi i'w roi ar y farchnad,
ac mae paragraffau (2) i (9) isod yn gymwys pan fo'n ymddangos i'r arolygydd, wrth gymryd yr holl wybodaeth sydd ar gael iddo i ystyriaeth, y gall y deunydd fethu â chydymffurfio â darpariaeth Gymunedol benodedig.
(2) Caiff yr arolygydd naill ai —
(a)hysbysu'r person y mae'r deunydd o dan ei ofal na ddylid gwneud y canlynol gyda'r deunydd nac unrhyw gyfran benodedig ohono nes bod yr hysbysiad wedi'i dynnu'n ôl—
(i)ei ddefnyddio fel bwyd anifeiliaid; na
(ii)ei symud neu ei symud ac eithrio i rywle a bennir yn yr hysbysiad; neu
(b)atafaelu'r deunydd a'i symud er mwyn trefnu bod ynad heddwch yn ymdrin ag ef;
ac mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i ofynion hysbysiad o dan is-baragraff (a) uchod, gan wybod hynny, yn euog o dramgwydd.
(3) Pan fo'r arolygydd yn arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff (2)(a) uchod, mae i fod i benderfynu, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a beth bynnag o fewn 21 diwrnod, a yw wedi'i fodloni bod y deunydd yn cydymffurfio â'r darpariaethau Cymunedol penodedig neu beidio ac —
(a)os caiff ei fodloni ynglyn â hynny, mae i fod i dynnu'r hysbysiad yn ôl ar unwaith;
(b)os na chaiff ei fodloni ynglyn â hynny, mae i fod i atafaelu'r deunydd a'i symud oddi yno er mwyn trefnu bod ynad heddwch yn ymdrin â'r deunydd hwnnw.
(4) Pan fo'r arolygydd yn arfer y pwerau a roddir gan baragraffau (2)(b) neu (3)(b) uchod, mae i fod i hysbysu'r person y mae'r deunydd o dan ei ofal o'i fwriad i drefnu bod ynad heddwch yn ymdrin â'r deunydd ac —
(a)mae gan unrhyw berson, a allai o dan reoliad 5 fod yn agored i erlyniad mewn perthynas â'r deunydd, hawl i gael gwrandawiad ac i alw tystion, os yw'n mynd gerbron yr ynad heddwch y mae'n dod i'w ran i ymdrin â'r deunydd; a
(b)caiff yr ynad heddwch hwnnw fod yn aelod o'r llys y mae unrhyw berson wedi'i gyhuddo ger ei fron o dramgwydd mewn perthynas â'r deunydd hwnnw ond nid oes rhaid iddo fod yn aelod o'r llys hwnnw.
(5) Os yw'n ymddangos i ynad heddwch, ar sail unrhyw dystiolaeth y mae'n barnu ei bod yn briodol o dan yr amgylchiadau, fod unrhyw ddeunydd y mae'n dod i'w ran i ymdrin ag ef o dan y rheoliad hwn yn methu â chydymffurfio â darpariaeth Gymunedol benodedig, yna, yn ddarostyngedig i baragraff (6) isod, mae i fod i gondemnio'r deunydd a gorchymyn —
(a)bod y deunydd i gael ei ddinistrio neu ei waredu yn y fath fodd ag i'w atal rhag cael ei ddefnyddio ar gyfer ei fwyta gan bobl, neu ar gyfer bwyd anifeiliaid; a
(b)bod unrhyw dreuliau a dynnwyd yn rhesymol mewn cysylltiad â'r gwaith dinistrio neu waredu i fod i gael eu talu gan y gweithredydd.
(6) Yn achos deunydd y cyfeirir ato yn Erthygl 15.1 sy'n destun awdurdodiad a roddwyd o dan Reoliad 1829/2003 ac sydd wedi'i gynhyrchu yn unol ag unrhyw amodau sy'n ymwneud â'r awdurdodiad hwnnw, ond nad yw'n dwyn y label priodol sy'n ofynnol o dan Erthygl 25, caiff yr ynad heddwch, yn ôl ei ddisgresiwn, orchymyn —
(a)bod y deunydd yn cael ei labelu'n briodol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ac ar draul y gweithredydd; a
(b)bod y deunydd yn cael ei ryddhau a'i roi yng ngafael y gweithredydd.
(7) Os yw hysbysiad o dan baragraff (2)(a) uchod yn cael ei dynnu'n ôl, neu os yw'r ynad heddwch y mae'n dod i'w ran i ymdrin ag unrhyw ddeunydd o dan y rheoliad hwn yn gwrthod ei gondemnio, neu'n gwrthod gwneud gorchymyn i'r deunydd gael ei labelu'n briodol, mae'r awdurdod gorfodi i fod i dalu iawndal i berchennog y deunydd am unrhyw ddibrisiant yn ei werth sy'n deillio o'r camau a gymerwyd gan yr arolygydd.
(8) Pan fo unrhyw ddeunydd sy'n methu â chydymffurfio â darpariaeth Gymunedol benodedig yn rhan o swp, cyfran neu lwyth o fwyd anifeiliaid o'r un dosbarth neu ddisgrifiad, dylid rhagdybio at ddibenion y rheoliad hwn, nes y profir i'r gwrthwyneb, fod yr holl fwyd anifeiliaid yn y swp hwnnw, y gyfran honno neu'r llwyth hwnnw yn methu â chydymffurfio â'r ddarpariaeth Gymunedol benodedig honno.
(9) Mae unrhyw gwestiwn y mae dadl yn ei gylch ynghylch yr hawl i gael iawndal neu swm unrhyw iawndal sy'n daladwy o dan baragraff (7) i fod i gael ei benderfynu drwy gymrodeddu.
9. O ran unrhyw hysbysiad sydd i'w roi o dan reoliad 8 —
(a)rhaid iddo gael ei lofnodi gan arolygydd sy'n gweithredu ar ran yr awdurdod gorfodi;
(b)os yw'n honni ei fod yn dwyn llofnod swyddog y mae'r hysbysiad yn datgan ei fod yn arolygydd (ac mae llofnod yn cynnwys ffacsimili o lofnod drwy ba fodd bynnag y mae wedi'i atgynhyrchu), mae i'w ystyried, oni phrofir i'r gwrthwyneb, yn hysbysiad sydd wedi'i ddyroddi'n briodol gan yr arolygydd;
(c)mae i fod i gael ei roi i'r person y mae'r deunydd o dan ei ofal —
(i)drwy ei drosglwyddo i'r person hwnnw;
(ii)drwy ei adael yn ei swyddfa, neu ei anfon mewn llythyr rhagdaledig sydd wedi'i gyfeirio ato yn y swyddfa honno;
(iii)yn achos cwmni neu gorff corfforaethol, drwy ei drosglwyddo i'w ysgrifennydd neu i'w glerc yn ei swyddfa gofrestredig neu ei brif swyddfa, neu drwy ei anfon mewn llythyr rhagdaledig sydd wedi'i gyfeirio at yr ysgrifennydd neu'r clerc yn y swyddfa honno;
(iv)yn achos unrhyw berson arall, drwy ei adael neu ei anfon mewn llythyr rhagdaledig sydd wedi'i gyfeirio ato yn ei breswylfan arferol neu ei breswylfan hysbys ddiwethaf;
(v)pan nad yw'n ymarferol canfod, ar ôl ymchwiliad rhesymol, enw a chyfeiriad y person y dylid cyflwyno'r hysbysiad iddo, neu pan fo'r fangre lle mae bwyd anifeiliaid yn cael ei gadw heb ei meddiannu, caniateir i'r hysbysiad gael ei gyfeirio at “berchennog” neu “feddiannydd” y fangre lle mae'r bwyd anifeiliaid, a'i drosglwyddo i ryw berson yn y fangre honno, neu os nad oes unrhyw berson yn y fangre y gellir ei drosglwyddo iddo, drwy ei osod neu osod copi ohono ar ryw ran amlwg o'r fangre.
Y terfyn amser ar gyfer erlyniadau
10. Ni ddylid cychwyn unrhyw erlyniad am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn ar ôl i'r naill neu'r llall o'r cyfnodau canlynol ddod i ben —
(a)tair blynedd o ddyddiad cyflawni'r tramgwydd; neu
(b)blwyddyn o ddyddiad ei ddarganfod gan yr erlynydd,
p'un bynnag yw'r cynharaf.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998().
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
7 Rhagfyr 2004
Rheoliadau 2 a 5
YR ATODLENDARPARIAETHAU CYMUNEDOL PENODEDIG
RHAN I
Y Ddarpariaeth yn Rheoliad 1829/2003 | Y Pwnc |
---|
Erthygl 16.2 | Gwahardd rhoi ar y farchnad, defnyddio neu brosesu cynnyrch y cyfeirir ato yn Erthygl 15.1 onid oes awdurdodiad ar ei gyfer a bod y cynnyrch yn bodloni amodau perthnasol yr awdurdodiad. |
RHAN II
Y Ddarpariaeth yn Rheoliad 1829/2003 | Y Pwnc |
---|
Erthygl 20.6 | Gofyniad bod cynhyrchion y mae'r Comisiwn wedi mabwysiadu mesur mewn perthynas â hwy o dan Erthygl 20.6 yn cael eu tynnu oddi ar y farchnad. |
Erthygl 21.1 | Gofyniad bod rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad a'r partïon o dan sylw gydymffurfio â'r amodau neu'r cyfyngiadau a osodir ar awdurdodiad ar gyfer y cynnyrch hwnnw, a bod rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad gydymffurfio â gofynion monitro ar ôl i'r cynnyrch fod ar y farchnad. |
Erthygl 21.3 | Gofyniad bod deiliad awdurdodiad yn hysbysu'r Comisiwn o unrhyw wybodaeth wyddonol neu dechnegol newydd sy'n ymwneud â chynnyrch, a allai ddylanwadu ar werthuso diogelwch y bwyd anifeiliaid wrth ei ddefnyddio neu o unrhyw waharddiad neu gyfyngiad ar y bwyd anifeiliaid mewn trydedd wlad |
Erthygl 25 | Gofyniad am fynegiadau labelu penodol. |
Nodyn Esboniadol
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn darparu ar gyfer gorfodi a gweithredu rhai darpariaethau penodedig (sy'n ymwneud â bwyd anifeiliaid) yn Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig (OJ Rhif L268, 18.10.2003, t.1). Mae Rheoliadau ar wahân yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi'r rhan honno o Reoliad (EC) Rhif 1829/2003 sy'n ymwneud â bwyd.
Yn benodol mae'r Rheoliadau hyn —
(a)yn dynodi'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn ffurfiol fel yr awdurdod cymwys cenedlaethol i gael ceisiadau am awdurdodi'r organeddau newydd a addaswyd yn enetig i'w defnyddio ar gyfer bwyd anifeiliaid, bwyd anifeiliaid sy'n cynnwys organeddau a addaswyd yn enetig neu sydd wedi'i ffurfio ohonynt, neu fwyd anifeiliaid a gynhyrchir o organeddau a addaswyd yn enetig (rheoliad 3);
(b)yn darparu bod awdurdodau gorfodi yn gorfodi darpariaethau'r Rheoliadau hyn a darpariaethau Pennod III o Reoliad (EC) Rhif 1829/2003 (rheoliad 4);
(c)yn pennu cosbau am fethu â chydymffurfio â rhai darpariaethau penodedig yn Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003 (rheoliad 5 a'r Atodlen);
(ch)yn cymhwyso amrywiol ddarpariaethau Deddf Amaethyddiaeth 1970 gydag addasiad at ddibenion y Rheoliadau hyn (rheoliad 6);
(d)yn cymhwyso amrywiol ddarpariaethau Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi) 1999 (rheoliad 7);
(dd)yn darparu pwerau a gweithdrefn ar gyfer arolygu, atafaelu a dal gafael ar fwyd anifeiliaid a amheuir ac ar gyfer ei ddinistrio neu ei waredu drwy orchymyn ynad heddwch os nad yw'n cydymffurfio â darpariaethau penodedig Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003 (rheoliadau 8 a 9);
(e)yn darparu terfyn amser o dair blynedd o ddyddiad cyflawni'r tramgwydd neu flwyddyn o ddyddiad ei ddarganfod gan yr erlynydd, a hwnnw'n derfyn amser y mae rhaid cychwyn erlyniadau am dramgwyddau o dan y Rheoliadau o'i fewn (rheoliad 10).
Mae arfarniad rheoleiddiol yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi'i baratoi ar gyfer y rheoliadau hyn a'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.