- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y DRETH GYNGOR, CYMRU
Wedi'u gwneud
24 Chwefror 2004
Yn dod i rym
25 Chwefror 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 43(7)(a), 44(4) a 113, o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(1) ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru(2).
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Gofynnol) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 25 Chwefror 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
(3) Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at adran â Rhif yn gyfeiriad at adran o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
2. Mae'r rhannau o'r cyfrifiad sydd i'w wneud o dan adran 43(3) yn cael eu haddasu ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd yn dechrau ar 1 Ebrill 2004 i'r graddau y bydd paragraff (a)(i) yn cael effaith fel petai'n cynnwys, yn ychwanegol at y materion sydd eisoes wedi'u pennu ynddo, unrhyw daliadau refeniw heb eu clustnodi eraill a wneir i awdurdod heddlu gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros y Swyddfa Gartref ar gyfer y flwyddyn honno.
3. O ganlyniad i'r ddarpariaeth a wnaed gan reoliad 2 uchod, mae'r rhannau o'r cyfrifiad sydd i'w wneud o dan adran 44(1) yn cael eu haddasu ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd yn dechrau ar 1 Ebrill 2004 i'r graddau y bydd y diffiniad o “P” yn cael effaith fel petai'n cynnwys, yn ychwanegol at y materion sydd eisoes wedi'u pennu ynddo, unrhyw daliadau refeniw heb eu clustnodi eraill a wneir i awdurdod heddlu gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros y Swyddfa Gartref ar gyfer y flwyddyn honno.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Chwefror 2004
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae adrannau 43 a 44 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”) yn rhagnodi'r rheolau y mae'n rhaid i'r prif awdurdodau praeseptio lynu wrthynt wrth gyfrifo'u hanghenion cyllideb a swm sylfaenol eu treth gyngor ar gyfer pob blwyddyn ariannol. Wrth wneud y cyfrifiadau hyn, rhaid i awdurdodau gymryd i ystyriaeth symiau penodol y maent yn amcangyfrif y byddant yn daladwy iddynt ar gyfer y flwyddyn.
Mae'r Rheoliadau hyn yn addasu adrannau 43 a 44 o Ddeddf 1992 fel bod rhaid i awdurdodau heddlu yng Nghymru (sy'n brif awdurdodau praeseptio at ddibenion Deddf 1992) gymryd i ystyriaeth unrhyw symiau ar ffurf taliadau refeniw heb eu clustnodi ychwanegol y mae'n bosibl y byddant yn eu cael oddi wrth y Swyddfa Gartref ar gyfer y flwyddyn ariannol 2004/5 (yn ogystal â'r symiau eraill y cyfeirir atynt yn yr adrannau hyn) wrth wneud eu cyfrifiadau ynglyn â'u hanghenion cyllidebol a'u cyfrifiadau treth gyngor am y flwyddyn honno.
Gweler O.S. 1999/672, sef Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Cymru) 1999.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:
The data on this page is available in the alternative data formats listed: