Search Legislation

Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Cymru) 2004

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Teitl, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Cymru) 2004, maent yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 5 Mawrth 2004.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“Member State”) yw Gwladwriaeth sy'n aelod o'r Gymuned Ewropeaidd;

mae i “awdurdod bwyd” yr un ystyr â “food authority” yn adran 5(1A) a (3)(a) a (b) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “castan” (“chestnut”) yw ffrwyth y gastanwydden (Castanea sativa);

ystyr “Cyfarwyddeb 2001/113” (“Directive 2001/113”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/113/EC(1) ynglŷn â jamiau ffrwythau, jelïau a marmaledau a phiwrî castan a felyswyd a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl;

mae i “cylchrediad rhydd” yr un ystyr â “free circulation” yn Erthygl 24 o'r Cytuniad a sefydlodd y Gymuned Ewropeaidd;

mae i “cynhwysyn” yr ystyr a briodolir i “ingredient” yn Rheoliadau 1996;

ystyr “cynhwysyn ychwanegol a ganiateir” (“permitted additional ingredient”) yw cynhwysyn a ddisgrifir ym mharagraff 1 o Atodlen 2 ac sy'n cael ei ddefnyddio fel a bennir yn y paragraff hwnnw;

ystyr “cynnyrch jam penodedig neu gynnyrch tebyg penodedig” (“specified jam or similar product”), yn ddarostyngedig i baragraff (2), yw unrhyw gyfansoddiad bwyd a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 1 o'i darllen ynghyd â'r Nodiadau ynglŷn â'r Atodlen honno;

ystyr “Cytundeb AEE” (“EEA Agreement”) yw'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd(2) a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992 fel y'i haddaswyd gan y Protocol(3) a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “defnyddiwr olaf” (“ultimate consumer”) yw unrhyw berson sy'n prynu ac eithrio —

(a)

er mwyn ailwerthu;

(b)

at ddibenion sefydliad arlwyo; neu

(c)

at ddibenion busnes gweithgynhyrchu;.

ystyr “disgrifiad neilltuedig” (“reserved description”), o ran unrhyw gynnyrch jam penodedig neu gynnyrch tebyg penodedig yw unrhyw ddisgrifiad a bennir ynghylch y cynnyrch hwnnw yng ngholofn 1 o Atodlen 1 o'i darllen ynghyd â'r Nodiadau ynglŷn â'r Atodlen honno;

ystyr “echdynnyn dyfrllyd ffrwythau” (“aqueous extract of fruit”) yw echdynnyn dyfrllyd ffrwythau sydd, yn ddarostyngedig i'r colledion sy'n digwydd o reidrwydd mewn gweithgynhyrchu priodol, yn cynnwys pob un o gyfansoddion y ffrwythau a ddefnyddiwyd sy'n doddadwy mewn dŵ r;

ystyr “ffrwyth” (“fruit”) yw ffrwyth ffres ac iach, sy'n rhydd rhag dirywiad, sy'n cynnwys pob un o'i gyfansoddion hanfodol ac sy'n ddigon aeddfed i'w ddefnyddio, ar ôl ei lanhau, cael gwared ar unrhyw frychau sydd arno, torri'i ben a'i goesyn, ac mae'n cynnwys sinsir, tomatos, y rhannau bwytadwy o goesynnau rhiwbob, moron, tatws melys, cucumerau, pwmpenni, melonau a melonau dwr;

ystyr ffrwythau gwinwydd (“vine fruits”) yw mysgatelau, resins, syltanas, neu gyrains;

mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys cynnig i'w werthu neu ddangos i'w werthu ac mae'n cynnwys ei gael mewn meddiant i'w werthu, a dehonglir “gwerthu” yn unol â hynny;

ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State”) yw Gwladwriaeth sy'n Barti Contractiol i'r Cytundeb AEE;

mae i “label”, “labeli” a “labelu” yr ystyr a briodolir i “labelling” yn Rheoliadau 1996;

ystyr “melysydd a ganiateir” (“permitted sweetener”) yw unrhyw felysydd i'r graddau y mae ei ddefnyddio yn y cynnyrch jam neu'r cynnyrch tebyg penodedig wedi'i ganiatáu yn Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995(4);

ystyr “mwydion ffrwythau” (“fruit pulp”) yw'r rhan fwytadwy o ffrwyth cyfan, gyda neu heb y pilion, y croen, yr hadau neu'r dincod, fel y bo'n briodol, a'r ffrwyth hwnnw wedi'i sleisio neu wedi'i wasgu efallai ond heb ei leihau i biwrî;

mae “paratoi” (“preparation”) yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw ffurf ar brosesu neu drin a rhaid dehongli “a baratowyd” yn unol â hynny;

ystyr “piwrî ffrwythau” (“fruit purée”) yw'r rhan fwytadwy o ffrwyth cyfan, gyda neu heb y pilion, y croen, yr hadau neu'r dincod, fel y bo'n briodol, a'r ffrwyth hwnnw wedi'i leihau i biwrî drwy gael ei hidlo neu drwy beri iddo fynd drwy broses debyg;

ystyr “Rheoliadau 1996” (“the 1996 Regulations”) yw Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(5);

ystyr “sefydliad arlwyo” (“catering establishment”) yw bwyty, ffreutur, clwb, tafarn, ysgol, ysbyty neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu symudol) os yw bwyd, wrth gynnal busnes, yn cael ei baratoi i'w gyflenwi i'r defnyddiwr olaf ac yn barod i'w fwyta heb waith paratoi pellach;

ystyr “sinsir” (“ginger”) yw gwreiddyn bwytadwy'r planhigyn sinsir mewn cyflwr ffres neu wedi'i breserfio ac y gall fod wedi'i sychu neu wedi'i breserfio mewn surop; ac

ystyr “siwgrau” (“sugars”) yw cynnyrch siwgr a ddiffinnir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 2001/111/EC ynglŷn â siwgrau penodol a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl(6) surop ffrwctos, siwgr a echdynnwyd o ffrwythau neu siwgr brown neu unrhyw gyfuniad ohonynt.

(2Nid yw bwyd a ddisgrifir yng ngholofn 2 unrhyw un o eitemau 1 i 7 yn Atodlen 1 yn gynnyrch jam penodedig na'n gynnyrch tebyg penodedig o fewn ystyr y Rheoliadau hyn os —

(a)y mae'n cynnwys unrhyw gynhwysyn ychwanegol ac eithrio cynhwysyn ychwanegol a ganiateir;

(b)y parwyd i unrhyw ddeunydd crai, y mae paragraffau 2 i 4 o Atodlen 2 yn cyfeirio ato, ac a ddefnyddiwyd wrth baratoi'r bwyd hwnnw, gael unrhyw driniaeth heblaw triniaeth a awdurdodir yn y paragraffau hynny.

(3Mae i unrhyw ymadrodd arall sy'n cael ei ddefnyddio yn y Rheoliadau hyn ac y mae'r ymadrodd Saesneg cyfatebol yn cael ei ddefnyddio yng Nghyfarwyddeb 2001/113 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn â'r ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Gyfarwyddeb honno.

Cwmpas y Rheoliadau

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gynhyrchion jam penodedig a chynhyrchion tebyg penodedig, a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl ac sy'n barod i'w cyflwyno i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo.

(2Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw gynnyrch jam penodedig neu gynnyrch tebyg penodedig a fwriedir ar gyfer gweithgynhyrchu mân gynnyrch popty, crystiau neu fisgedi.

(3Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw gynnyrch sy'n dwyn y disgrifiad a nodir yn eitemau 8 i 11 o golofn 1 Atodlen 1 ac —

(a)y daethpwyd ag ef i mewn i Gymru —

(i)o Wladwriaeth AEE (ac eithrio'r Deyrnas Unedig), neu

(ii)o ran arall o'r Deyrnas Unedig, lle cafodd ei werthu'n gyfreithlon, ar ôl cael ei gynhyrchu'n gyfreithlon mewn Gwladwriaeth AEE; neu

(b)y daethpwyd ag ef i mewn i Gymru —

(i)o Aelod-wladwriaeth (ac eithrio'r Deyrnas Unedig), neu

(ii)o ran arall o'r Deyrnas Unedig, lle cafodd ei werthu'n gyfreithlon, ar ôl cael ei gynhyrchu'n gyfreithlon mewn Aelod-wladwriaeth, neu lle'r oedd mewn cylchrediad rhydd ac yn cael ei werthu'n gyfreithlon.

Disgrifiadau neilltuedig

4.  Ni chaiff neb werthu unrhyw fwyd â label, p'un a yw wedi'i gysylltu â'r deunydd lapio neu'r cynhwysydd neu wedi'i argraffu arno neu beidio, a'r label hwnnw'n dwyn arno, yn ffurfio neu'n cynnwys unrhyw ddisgrifiad neilltuedig neu unrhyw ddisgrifiad sy'n deillio ohono neu unrhyw air neu ddisgrifiad sy'n sylweddol debyg iddo oni bai —

(a)bod bwyd o'r fath yn gynnyrch jam neu gynnyrch tebyg penodedig y mae'r disgrifiad neilltuedig yn berthnasol iddo;

(b)bod disgrifiad, disgrifiad sy'n deillio ohono neu air o'r fath yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun o'r fath er mwyn dangos yn bendant neu drwy oblygiad clir mai dim ond cynhwysyn yn y bwyd hwnnw yw'r sylwedd y mae'n berthnasol iddo; neu

(c)bod disgrifiad o'r fath yn cael ei ddefnyddio yn ychwanegol at enw'r bwyd ac yn unol ag arferion sy'n cael eu defnyddio i ddynodi cynhyrchion eraill nad oes modd drysu rhyngddynt a'r rhai sydd wedi'u diffinio yng ngholofn 2 o Atodlen 1.

Labelu a disgrifio cynhyrchion jam penodedig

5.—(1Heb ragfarnu cyffredinolrwydd Rhan II o Reoliadau 1996, ni chaiff neb werthu unrhyw gynnyrch jam penodedig neu gynnyrch tebyg penodedig onid yw wedi'i farcio neu wedi'i labelu â'r manylion canlynol —

(a)disgrifiad neilltuedig y cynnyrch;

(b)pan fydd unrhyw gynnyrch jam penodedig neu gynnyrch tebyg penodedig yn cynnwys mwy na 10 miligram fesul cilogram o sylffwr deuocsid gweddilliol, yna, yn ychwanegol at unrhyw fanylyn y mae'n ofynnol ei nodi mewn rhestr gynhwysion o dan Reoliadau 1996, rhaid nodi'r cynnwys gweddilliol hwnnw yn y rhestr gynhwysion yn ôl y ganran yn ôl pwysau o'r gweddillion yn y cynnyrch yn “sulphur dioxide”.

(2Heb ragfarnu cyffredinolrwydd Rhan II o Reoliadau 1996, ni chaiff neb werthu unrhyw gynnyrch a bennir yn eitemau 1-7 o Atodlen 1 onid yw wedi'i farcio neu wedi'i labelu â'r manylion canlynol —

(a)yn achos —

(i)cynnyrch a baratowyd o un math o ffrwyth, mynegiad o'r math hwnnw o ffrwyth;

(ii)cynnyrch a baratowyd o ddau fath o ffrwyth, mynegiad o'r mathau hynny o ffrwyth yn nhrefn ddisgynnol pwysau'r mwydion ffrwythau, y piwrî ffrwythau, y sudd ffrwythau, y pilion ffrwythau a'r echdynnyn dyfrllyd ffrwythau a ddefnyddiwyd wrth baratoi'r cynnyrch; a

(iii)cynnyrch a baratowyd o dri math o ffrwyth neu fwy, mynegiad o'r mathau hynny o ffrwyth yn nhrefn ddisgynnol pwysau'r mwydion ffrwythau, y piwrî ffrwythau, y pilion ffrwythau a'r echdynnyn dyfrllyd ffrwythau a ddefnyddiwyd wrth baratoi'r cynnyrch neu fel arall y geiriau “mixed fruit” neu eiriad tebyg neu nifer y mathau o ffrwyth a ddefnyddiwyd i baratoi'r cynnyrch hwnnw;

(b)mynegiad o'r gyfran o ffrwythau a ddefnyddiwyd wrth baratoi'r cynnyrch ar y ffurf “prepared with Xg of fruit per 100 g”, gan fewnosod yn lle “X” y maint mewn gramau o ffrwythau y deilliodd y mwydion ffrwythau, y piwrî ffrwythau, y sudd ffrwythau, y pilion ffrwythau a'r echdynnyn dyfrllyd ffrwythau a ddefnyddiwyd am bob can gram o'r cynnyrch gorffenedig; ac

(c)ac eithrio pan fydd honiad ynglŷn â maeth yn cael ei wneud am y cynnyrch siwgr a bod y cynnyrch wedi'i farcio neu wedi'i labelu, o ran cynnwys siwgr, â'r label maethiad rhagnodedig fel a nodwyd yn Atodlen 7 i Reoliadau 1996, mynegiad o gyfanswm y cynnwys siwgr ar y ffurf “total sugar content: Yg per 100 g”, gan fewnosod yn lle “Y” y cynnwys mewn gramau o solidau toddadwy ym mhob can gram o'r cynnyrch, fel y penderfynir arno drwy reffractomedr ar 20°C, a'r cynnwys a ddangosir yn gywir hyd at +/− 3 gradd reffractometrig.

(3Rhaid i'r manylion y mae'n ofynnol marcio neu labelu'r cynnyrch â hwy yn unol â pharagraff 2(b) ac (c) ymddangos ar labeli'r bwyd yn yr un cylch golwg ag enw'r cynnyrch ac mewn arwyddnodau y gellir eu gweld yn eglur.

Dull marcio neu labelu

6.  Bydd Rheoliadau 35, 36(1) a (5) a 38 o Reoliadau 1996 (sy'n ymwneud â dull marcio neu labelu bwyd) yn gymwys i'r manylion y mae'n ofynnol marcio neu labelu cynnyrch jam penodedig neu gynnyrch tebyg penodedig â hwy o dan reoliad 5 o'r Rheoliadau hyn fel petaent yn fanylion y byddai'n ofynnol marcio neu labelu bwyd â hwy o dan Reoliadau 1996.

Cosbi a gorfodi

7.—(1Bydd unrhyw berson sy'n torri rheoliad 4 neu 5 o'r Rheoliadau hyn neu'n methu cydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd a bydd yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(2Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal.

Amddiffyniad mewn perthynas ag allforion

8.  Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i unrhyw berson a gyhuddir brofi —

(a)bod y bwyd yr honnir bod tramgwydd wedi'i gyflawni mewn perthynas ag ef wedi'i fwriadu ar gyfer ei allforio i wlad a chanddi ddeddfwriaeth gyfatebol i'r Rheoliadau hyn a bod y bwyd yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honno; a

(b)yn achos allforio i Wladwriaeth AEE, bod y ddeddfwriaeth yn cydymffurfio â darpariaethau Cyfarwyddeb 2001/113/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n ymwneud â ffrwythau, jamiau, jelïau a marmaledau, a phiwrî castan a felyswyd, a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl(7).

Cymhwyso amryw o ddarpariaethau'r Ddeddf

9.—(1Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad y bydd unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu unrhyw Ran ohoni yn cael eu dehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —

(a)adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.);

(b)adran 3 (rhagdybiaeth bod bwyd wedi'i fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl);

(c)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

(ch)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy), fel y mae'n gymwys at ddibenion adrannau 8, 14 neu 15 o'r Ddeddf;

(d)adran 22 (amddiffyniad o gyhoeddi wrth gynnal busnes);

(dd)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(e)adran 33(1) (rhwystro swyddogion etc.);

(f)adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection 1(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofynion o'r fath a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e) uchod;

(ff)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e) uchod;

(g)adran 35(2) a (3), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (f) uchod;

(ng)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac

(h)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

Diwygio a dirymu

10.—(1Dirymir Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg 1981(8) a Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Diwygio)1990(9), i'r graddau y mae pob un yn gymwys i Gymru.

(2Hepgorir y cofnodion canlynol sy'n ymwneud â Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg 1981 (i'r graddau y mae'r Rheoliadau canlynol yn gymwys i Gymru) —

(a)yn Rheoliadau Bwyd (Adolygu Cosbau) 1982(10), yn Atodlen 1;

(b)yn Rheoliadau Bwyd (Adolygu Cosbau) 1985(11)), yn Atodlen 1, Rhan 1;

(c)yng Ngorchymyn Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (Addasiadau Canlyniadol) (Lloegr a Chymru) 1990(12), yn Atodlen 1, Rhan 1, Atodlen 3, Rhan 1 ac Atodlen 6 ;

(ch)yn Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Allforion) 1991(13)), yn Atodlen 1, Rhan 1;

(d)yn Rheoliadau Bwyd (Esemptiadau'r Lluoedd) (Dirymu) 1992(14), yn Rhan 1 o'r Atodlen;

(dd)yn Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(15), yn Atodlen 9.

(3Yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995(16)) (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru), yn Atodlenni 2, 3 a 7 yn lle'r geiriau “Directive 79/693/EEC” ym mhob man y maent yn ymddangos rhoddir y geiriau “Directive 2001/113/EC” relating to fruit jams, jellies and marmalades and sweetened chestnut purée intended for human consumption”.

Darpariaethau trosiannol

11.  Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i unrhyw berson a gyhuddir brofi —

(a)bod y bwyd dan sylw wedi'i farcio neu wedi'i labelu cyn 12 Gorffennaf 2004, a

(b)na fyddai'r materion sy'n dramgwydd honedig wedi bod yn dramgwydd o dan Reoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg 1981 fel yr oeddent yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(17)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

2 Mawrth 2004

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources