- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
9.—(1) Os, ar ôl penderfynu ar gais cynrychioliadol, y mae cais dilynol yn cael ei wneud sy'n cynnwys unrhyw un o'r materion cyffredin y penderfynodd y tribiwnlys arno wrth benderfynu ar y cais cynrychioliadol, ac os yw'r ceisydd yn berson y rhoddwyd hysbysiad iddo o dan reoliad 8(1), rhaid i'r tribiwnlys roi hysbysiad i'r partïon i'r cais dilynol o —
(a)y materion sydd, ym marn y tribiwnlys, yn faterion cyffredin yn y cais dilynol a'r cais cynrychioladol;
(b)y penderfyniad a gofnodwyd mewn perthynas â'r materion cyffredin yn y cais cynrychioladol;
(c)y dyddiad pan roddwyd hysbysiad o dan reoliad 8(1) i'r ceisydd;
(ch)bwriad y tribiwnlys i gofnodi penderfyniad y tribiwnlys ar y materion cyffredin yn y cais dilynol mewn termau sydd yn union yr un fath â'r penderfyniad yn y cais cynrychioliadol;
(d)y cyfeiriad y gellir anfon gwrthwynebiadau i gynnig y tribiwnlys a'r dyddiad (sef nid llai na 21 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad pan anfonwyd yr hysbysiad) erbyn pryd y mae'n rhaid i'r tribiwnlys gael y gwrthwynebiadau; ac
(dd)datganiad bod rhaid i unrhyw wrthwynebiad gynnwys y sail dros ei wneud ac, yn benodol, a honnir na chafwyd yr hysbysiad o dan reoliad 8(1) gan y person sy'n gwrthwynebu.
(2) Os na ddaw gwrthwynebiad i law ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad neu cyn y dyddiad hwnnw —
(a)nid oes angen i'r tribiwnlys benderfynu ar y materion a grybwyllir ym mharagraff 1(a); a
(b)rhaid i benderfyniad y tribiwnlys mewn perthynas â'r materion cyffredin yn y cais cynrychioladol gael ei gofnodi fel penderfyniad y tribiwnlys mewn perthynas â'r materion cyffredin yn y cais dilynol.
(3) Pan ddaw gwrthwynebiad i gynnig y tribiwnlys ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad neu cyn y dyddiad hwnnw —
(a)rhaid i'r tribiwnlys ystyried y gwrthwynebiad wrth benderfynu ar y cais dilynol; a
(b)os yw'r tribiwnlys yn gwrthod gwrthwynebiad, caiff y tribiwnlys gofnodi'r penderfyniad ym mharagraff (1)(b) fel penderfyniad y tribiwnlys yn y cais dilynol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: