- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 3
1. Ceisiadau o dan —
(a)adran 21 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967(1) ;
(b)adran 13 o Ddeddf 1987;
(c)adran 31 o'r Ddeddf honno;
(ch)adran 24 o Ddeddf 1993;
(d)adran 25 o'r Ddeddf honno;
(dd)adran 27 o'r Ddeddf honno;
(e)adran 48 o'r Ddeddf honno;
(f)adran 51 o'r Ddeddf honno;
(ff)adran 88 o'r Dddeddf honno;
(g)adran 91 o'r Ddeddf honno;
(ng)adran 94 o'r Ddeddf honno; a
(h)paragraff 2 o Atodlen 14 i'r Ddeddf honno.
2. Ceisiadau o dan —
(a)adran 20ZA o Ddeddf 1985(2);
(b)adran 27A o'r Ddeddf honno(3);
(c)paragraff 8 o'r Atodlen i'r Ddeddf honno(4));
(ch)adran 159 o Ddeddf 2002;
(d)paragraff 3 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno; a
(dd)paragraff 5 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno.
3. Ceisiadau o dan Bennod 4 o Ran 1 i Ddeddf 1993.
4. Ceisiadau o dan —
(a)adran 84 o Ddeddf 2002;
(b)adran 85 o'r Ddeddf honno;
(c)adran 88 o'r Ddeddf honno;
(ch)adran 94 o'r Ddeddf honno;
(d)adran 99 o'r Ddeddf honno; a
(dd)paragraff 5 o Atodlen 6 i'r Ddeddf honno.
5. Ceisiadau o dan —
(a)adran 22 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987; a
(b)adran 24 o'r Ddeddf honno.
6. Ceisiadau o dan Ran 4 o Ddeddf 1987.
7. Ceisiadau o dan adran 20C o Ddeddf 1985.
Rheoliad 3
1.—(1) Copi o unrhyw hysbysiad a gyflwynir mewn perthynas â'r rhyddfraint.
(2) Enw a chyfeiriad y rhydd-ddeiliad ac unrhyw landlord canol.
(3) Enw a chyfeiriad unrhyw berson sydd â morgais neu unrhyw arwystl arall dros fuddiant yn y tir a'r adeiladau sy'n destun y cais ac a ddelir gan y rhydd-ddeiliad neu unrhyw landlord arall.
(4) Pan wneir cais o dan adran 21(2) o'r Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967(5), enw a chyfeiriad yr is-denant, a chopi o unrhyw gytundeb ar gyfer yr is-denantiaeth.
(5) Pan wneir cais o dan adran 13 o Ddeddf 1987(6), y dyddiad pryd cafodd y landlord yr eiddo a thelerau'r caffael gan gynnwys unrhyw symiau a dalwyd.
2.—(1) Pan wneir cais o dan adran 27A o Ddeddf 1985, enw a chyfeiriad ysgrifennydd unrhyw gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig.
(2) Pan wneir cais o dan baragraff 3 o Atodlen 11 i Ddeddf 2002, drafft o'r amrywiad arfaethedig.
(3) Copi o'r les neu, pan fydd yn briodol, copi o'r cynllun rheoli ystad.
3.—(1) Copi o unrhyw gytundeb rheoli ystâd neu'r cynllun rheoli ystad arfaethedig.
(2) Datganiad bod y ceisydd naill ai —
(a)yn fod dynol;
(b)yn gorff cynrychioladol o fewn ystyr adran 71(3) o Ddeddf 1993; neu
(c)yn awdurdod perthnasol o fewn ystyr adran 73(5) o'r Ddeddf honno.
(3) Pan wneir cais o dan adran 70 o Ddeddf 1993, copi o'r hysbysiad a roddir gan y ceisydd o dan adran 70(4) o'r Ddeddf honno.
(4) Os digwydd y canlynol—
(a)bod cais i gymeradwyo'r cynllun;
(b)bod cais i gymeradwyo addasu ardal cynllun sydd eisoes yn bodoli; neu
(c)bod cais i gymeradwyo amrywio cynllun sydd eisoes yn bodoli,
disgrifiad o ardal —
(i)y cynllun arfaethedig;
(ii)yr addasiad arfaethedig; neu
(iii)yr amrywiad arfaethedig,
gan gynnwys dull o adnabod yr ardal drwy gyfrwng map neu blan.
(5) Pan wneir cais o dan adran 70 o Ddeddf 1993, copi o unrhyw gydsyniad a roddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 72(1) o'r Ddeddf honno.
4.—(1) Enw a chyfeiriad ar gyfer cyflwyno i'r cwmni Hawl i Reoli (o fewn ystyr Pennod 1 o Ran 2 o Ddeddf 2002)(7).
(2) Enw a chyfeiriad y rhydd-ddeiliad, unrhyw landlord canol ac unrhyw reolwr.
(3) Copi o femoradwm ac erthyglau cymdeithasiad y cwmni Hawl i Reoli.
(4) Pan wneir cais o dan adran 84(3) o Ddeddf 2002, copi o'r hysbysiad hawlio a chopi o'r gwrth-hysbysiad sy'n dod i law.
(5) Pan wneir cais o dan adran 85(2) o Ddeddf 2002 —
(a)datganiad bod gofynion adrannau 78 a 79 o Ddeddf 2002 wedi cael eu cyflawni;
(b)copi o'r hysbysiad a roddir o dan adran 85(3) o Ddeddf 2002 ynghyd â datganiad bod yr hysbysiad hwnnw wedi cael ei gyflywno i bob un o'r tenantiaid cymwys;
(c)datganiad sy'n disgrifio'r amgylchiadau pan na ellir cadarnhau pwy yw'r landlord neu pan na ellir dod o hyd iddo.
(6) Pan wneir cais o dan adran 94(3) o Ddeddf 2002, amcangyfrif o swm y taliadau gwasanaeth sydd heb eu neilltuo sydd wedi cronni.
(7) Pan wneir cais o dan adran 99(1) o Ddeddf 2002, disgrifiad o'r gymeradwyaeth a chopi o'r les berthnasol.
(8) Pan fydd cais o ddisgrifiad a bennir ym mharagraff 5 o Atodlen 6 i Ddeddf 2002, y dyddiad a'r amgylchiadau pryd peidiodd yr hawl i arfer yr hawl i reoli o fewn y pedair blynedd ddiwethaf.
5.—(1) Ac eithrio pan wneir cais o dan adran 22(3) o Ddeddf 1987, copi o'r hysbysiad a gyflwynir o dan adran 22 o'r Ddeddf honno.
(2) Pan wneir cais o dan adran 24(9) o'r Ddeddf honno, copi o'r gorchymyn rheoli.
6.—(1) Enwau a chyfeiriadau unrhyw berson y cyflwynir hysbysiad iddo yn unol â Rheoliad 4 o'r rheoliadau hyn.
(2) Drafft o'r amrywiad a geisir.
Mewnosodwyd gan adran 151 o Ddeddf 2002 o 30 Mawrth 2004 (O.S. 2004/669 (Cy.62) (C.25)).
Mewnosodwyd gan adran 155 o Ddeddf 2002 o 30 Mawrth 2004 (O.S. 2004/669 (Cy.62) (C.25)).
Diwygiwyd gan adran 180 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 14 iddi o 30 Mawrth 2004 (O.S. 2004/669 (Cy.62) (C.25)).
Diwygiwyd gan adran 142 o Ddeddf Tai 1980 ac Atodlen 22 iddi.
Mewnosodwyd gan adran 92(1) ac Atodlen 6 i Ddeddf Tai 1996 (p. 52).
Gweler adran 73 o Ddeddf 2002.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: