- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin nad ydynt yn rhai IACS (Apelau) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2004.
2. Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “apelydd” (“appellant”) yw person y mae penderfyniad cychwynnol wedi'i wneud ynglŷn ag ef gan neu ar ran y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad â gweinyddu unrhyw un o'r Cynlluniau a restrir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn ac sy'n dymuno bod y penderfyniad cychwynnol hwnnw yn cael ei ailystyried gan neu ar ran y Cynulliad Cenedlaethol;
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru; ac
ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw'r dyddiad y cafodd y penderfyniad cychwynnol ei wneud.
3. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys ynghylch apelwyr yr oedd eu cyfeiriad masnachu, neu os oes mwy nag un cyfeiriad o'r fath, yr oedd eu prif gyfeiriad masnachu, yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol.
4.—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol sefydlu gweithdrefn, sydd i'w defnyddio ar gais unrhyw apelydd, ar gyfer ystyried ymhellach ar ran y Cynulliad Cenedlaethol benderfyniad cychwynnol a wnaed ynglŷn â'r apelydd mewn perthynas â gweinyddu unrhyw un o'r Cynlluniau a restrir yn yr Atodlen, a bod y weithdrefn honno yn gweithredu drwy gyfrwng apêl yn erbyn y penderfyniad cychwynnol.
(2) Caiff unrhyw weithdrefn a sefydlir felly ddarparu bod ystyriaeth o'r penderfyniad cychwynnol gan y personau (heb fod yn fwy na thri) sy'n cael eu penodi gan y Cynulliad Cenedlaethol at y diben hwnnw, a hynny gyda'r bwriad y byddent yn llunio adroddiad am eu casgliadau ynglŷn â'r penderfyniad cychwynnol ac argymhelliad ynglŷn â'r ffordd y dylai'r mater gael ei benderfynu'n derfynol ganddo
(3) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn sefydlu'r weithdrefn a grybwyllir ym mharagraff (2), caiff —
(a)talu i'r personau a benodir felly unrhyw dâl rhesymol am eu swyddogaethau o dan y weithdrefn honno, ac unrhyw lwfansau teithio a lwfansau eraill, y bydd yn penderfynu arnynt; a
(b)codi'r ffi (a honno heb fod yn uwch na £100) y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu arni ar unrhyw apelydd y mae ei apêl yn cael ei hystyried o dan y weithdrefn a sefydlwyd felly am y costau a dynnwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn rhinwedd rhoi'r weithdrefn honno ar waith mewn perthynas â'r apêl o dan sylw.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(1)
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Mawrth 2004
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: