- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Wedi'u gwneud
14 Ionawr2004
Yn dod i rym
31 Ionawr 2004
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trwyddedu Rheoli Gwastraff (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 31 Ionawr 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2. Mae Rheoliadau Trwyddedu Rheoli Gwastraff 1994(3) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
3. Yn rheoliad 10 (manylion i'w cynnwys mewn cofrestrau cyhoeddus), ar ddiwedd paragraff (1)(g) rhodder:
“(iv)the scores which result from any risk appraisal relating to a site which is subject to a waste management licence;”.
4.—(1) Yn rheoliad 12 (offer symudol) —
(a)ym mharagraff (1) —
(i)rhodder, yn lle is-baragraff (d), —
“(d)plant for the treatment of clinical waste;”;
(ii)ar ôl is-baragraff (e), rhodder —
“(f)plant for the dewatering of muds, sludges, soils and dredgings;
(g)plant for the treatment by lime stabilisation of sludge;
(h)plant for the treatment of contaminated material, substances or products, for the purpose of remedial action with respect to land or controlled waters;”; a
(b)rhodder, ar ôl paragraff (2) —
“(3) For the purposes of paragraph (1)(h), “controlled waters” has the meaning given by section 104 of the Water Resources Act 1991(4).”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Ionawr 2004
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau Trwyddedu Diwygio Gwastraff 1994 (“Rheoliadau 1994”) mewn perthynas â Chymru.
Mae rheoliad 10 o Reoliadau 1994 yn rhagnodi'r manylion y mae'n rhaid i bob awdurdod rheoli gwastraff eu rhoi ar y gofrestr gyhoeddus y mae'n ei chadw o dan adran 64(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Mae rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn yn ychwanegu categori pellach i'r manylion hynny, sef y sgoriau a ddaw allan o unrhyw werthusiad risg ar gyfer safle y mae trwydded rheoli gwastraff yn perthyn iddo.
Mae rheoliad 12 o Reoliadau 1994 yn rhagnodi mathau o offer sydd i'w trin fel offer symudol at ddibenion Rhan II o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Mae rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r disgrifiad o'r math o offer a ragnodir yn rheoliad 12(1)(d) o Reoliadau 1994 ac yn ychwanegu'r mathau canlynol:
(a)offer ar gyfer tynnu dŵ r o fwd, llaid, priddoedd a charthion;
(b)offer ar gyfer trin llaid drwy ei sefydlogi â chalch; a
(c)offer ar gyfer trin deunydd, sylweddau neu gynnyrch halogedig at ddibenion gwaith adferol mewn perthynas â thir neu ddyfroedd rheoledig.
1990 p.43. Diffinnir “prescribed”, at ddibenion adran 64(1), yn adran 64(8).
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn perthynas â Chymru, yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.
O.S. 1994/1056; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1995/288 ac O.S. 1996/634.
1991 p.57; addaswyd adran 104(1) gan O.S. 1996/3001, O.S.1997/1331 ac O.S. 1997/1332.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: