- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
BWYD, CYMRU
Wedi'u gwneud
26 Ebrill 2005
Yn dod i rym
30 Ebrill 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e) ac (f), 17, 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo(2), ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor(3) sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd â Ffytosterolau neu Ffytostanolau Ychwanegol (Labelu) (Cymru) 2005; deuant i rym ar 30 Ebrill 2005 a maent yn gymwys o ran Cymru yn unig.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
mae “bisgedi” (“biscuits”) yn cynnwys wafferi, bisgedi caled, bara ceirch a bara croyw;
ystyr “Cyfarwyddeb 2000/13” (“Directive 2003/13”) yw Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor(4) ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ynghylch labelu, cyflwyno a hysbysebu bwydydd, fel y'i diwygiwyd gan ddiwygiadau hyd at a chan gynnwys y rheini a effeithir gan Gyfarwyddeb 2003/89/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor(5).
ystyr “cyffaith blawd” (“flour confectionery”) yw unrhyw fwyd wedi'i goginio sy'n barod i'w fwyta heb ei baratoi ymhellach (heblaw ei aildwymo), y mae grawn mâl yn gynhwysyn sy'n nodweddiadol ohonno, gan gynnwys teisen frau, sbynjis, cramwyth, myffins, macarwns, rataffias, crwst a chasys crwst, ac mae'n cynnwys hefyd meringues, petits fours a chrwst a chasys crwst sydd heb eu coginio, ond nid yw'n cynnwys bara, pitsas, bisgedi, tafelli cras, bara gwastad allwthiedig nac unrhyw fwyd sy'n cynnwys llenwad y mae unrhyw gaws, cig, syrth, pysgod, pysgod cregyn, deunydd protein llysieuol neu ddeunydd protein microbig yn gynhwysyn ynddo;
ystyr “cynnyrch cyffaith” (“confectionery product”) yw unrhyw eitem o gyffaith siocled neu gyffaith siwgr;
ystyr “cynnyrch cyffaith ffansi” (“fancy confectionery product”) yw unrhyw gynnyrch cyffaith ar ffurf ffigwr, anifail, sigarét, neu wy neu ar unrhyw ffurf ffansi arall;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys cynnig neu ddangos rhywbeth i'w werthu ac mae'n cynnwys cael rhywbeth yn eich meddiant i'w werthu, a rhaid deall “gwerthiant” (“sale”) yn unol â hynny;
mae “iâ bwytadwy” (“edible ice”) yn cynnwys hufen iâ, iâ dŵr a iâ ffrwythau, p'un ai ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad, ac unrhyw fwyd tebyg;
ystyr “y manylion allweddol” (“the key particulars”) yw'r manylion hynny a bennir yn eitemau 1 a 5 yn ail is-baragraff Erthygl 2 o Reoliad 608/2004;
ystyr “y manylion penodedig” (“the specified particulars”) yw'r manylion sy'n ofynnol gan Erthygl 2 o Reoliad 608/2004.
mae “paratoi” (“preparation”) o ran bwyd yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw fath o brosesu neu drin;
ystyr “Rheoliad 608/2004” (“Regulation 608/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 608/2004(6) ynghylch labelu bwydydd a chynhwysion bwyd â ffytosterolau, esterau ffytosterol, ffytostanolau a/neu esterau ffytostanol ychwanegol; ac
ystyr “wedi'i ragbacio i'w werthu'n uniongyrchol” (“prepacked for direct sale”) yw —
o ran bwyd heblaw cyffaith blawd, bara ac iâ bwytadwy, wedi'i ragbacio gan fân-werthwr er mwyn i'r mân-werthwr hwnnw ei werthu yn y fangre lle y mae'r bwyd yn cael ei bacio neu o gerbyd neu o stondin a ddefnyddir gan y mân-werthwr hwnnw, a
o ran cyffaith blawd, bara ac iâ bwytadwy, wedi'i ragbacio gan fân-werthwr i'w werthu fel yn is-baragraff (a) o'r diffiniad hwn, neu wedi'i ragbacio gan gynhyrchydd y bwyd er mwyn i gynhyrchydd y bwyd ei werthu naill ai mewn mangre lle y cynhyrchwyd y bwyd neu mewn mangre arall y mae'r cynhyrchydd bwyd yn cynnal ei fusnes ohoni o dan yr un enw â'r busnes sy'n cael ei gynnal mewn mangre lle y mae'r bwyd yn cael ei gynhyrchu.
(2) Ystyrir bod bwyd wedi'i ragbacio at ddibenion y Rheoliadau hyn—
(a)os yw'n barod i'w werthu i'r defnyddiwr olaf neu i fasarlwywr, a
(b)os yw —
(i)wedi'i roi mewn pecyn cyn cael ei gynnig i'w werthu yn y fath ffordd ag i beidio â chaniatáu newid y bwyd, p'un a yw'r bwyd wedi'i amgáu'n gyfan gwbl neu'n rhannol yn unig, heb agor neu newid y pecyn, neu
(ii)wedi'i amgáu'n gyfan gwbl mewn pecyn cyn cael ei gynnig i'w werthu a bwriedir iddo gael ei goginio heb agor y pecyn,
ond ni fernir bod bwyd wedi'i ragbacio at ddibenion y Rheoliadau hyn os yw'n cynnwys melysyn neu siocled sydd wedi'i lapio'n unigol ac nad yw wedi'i amgáu mewn unrhyw becyn ychwanegol, ac nad yw wedi'i fwriadu ar gyfer ei werthu fel eitem unigol.
(3) Mae i ymadroddion Saesneg eraill a'r ymadroddion Cymraeg cyfatebol a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yng Nghyfarwyddeb 2000/13 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y Gyfarwyddeb honno.
3. Yn ddarostyngedig i reoliad 4, os bydd unrhyw berson —
(a)yn gwerthu unrhyw fwyd y mae gofynion labelu Rheoliad 608/2004 yn gymwys o'i ran ac nad yw wedi'i labelu â'r manylion penodedig, neu
(b)yn gwerthu unrhyw fwyd nad yw wedi'i labelu yn unol â rheoliad 5, 6 neu 7,
bydd yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
4. Yn achos —
(a)bwyd sydd heb ei ragbacio,
(b)bwyd sydd wedi'i ragbacio i'w werthu'n uniongyrchol, neu
(c)unrhyw gynnyrch cyffeithiol ffansi sydd wedi'i lapio'n unigol ac nad yw wedi'i amgáu mewn unrhyw becyn pellach sydd wedi'i fwriadu ar gyfer ei werthu fel eitem unigol,
nid oes angen labelu'r bwyd hwnnw ag unrhyw rai o'r manylion penodedig heblaw'r manylion allweddol.
5. Pan werthir unrhyw fwyd heblaw bwyd y mae rheoliad 6 yn gymwys iddo, mae unrhyw fanylion y mae'n ofynnol eu rhoi ar label y bwyd gan Reoliad 608/2004 i ymddangos —
(a)ar y pecyn,
(b)ar label sydd ynghlwm wrth y pecyn, neu
(c)ar label y gellir ei weld yn eglur drwy'r deunydd pecynnu,
ac eithrio pan werthir y bwyd hwnnw i unrhyw un heblaw'r defnyddiwr olaf, caiff y manylion hyn fel arall ymddangos ar y dogfennau masnachol ynglyn â'r bwyd yn unig, os oes modd gwarantu bod y dogfennau hynny sy'n cynnwys y manylion hyn i gyd, naill ai gyda'r bwyd y maent yn ymwneud ag ef neu wedi cael eu hanfon cyn i'r bwyd gael ei ddanfon, neu'r un pryd â hynny.
6.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i'r canlynol —
(a)bwyd sydd heb ei ragbacio;
(b)bwyd sydd wedi'i ragbacio i'w werthu'n uniongyrchol; ac
(c)unrhyw gynnyrch cyffeithiol ffansi sydd wedi'i lapio'n unigol ac nad yw wedi'i amgáu mewn unrhyw becyn arall ac y bwriedir ei werthu fel eitem unigol.
(2) Pan fydd unrhyw fwyd y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo yn cael ei werthu i'r defnyddiwr olaf, rhaid i'r manylion allweddol y mae Rheoliad 608/2004 yn ei gwneud yn ofynnol eu rhoi ar label y bwyd, fel y'i darllenir ynghyd â rheoliad 4, ymddangos —
(a)ar label sydd ynghlwm wrth y bwyd, neu
(b)ar fwydlen, hysbysiad, tocyn neu label y mae'n hawdd i ddarpar brynwr ei ddirnad yn y man lle y mae'n dewis y bwyd hwnnw.
(3) Pan fydd unrhyw fwyd y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo yn cael ei werthu ac eithrio i'r defnyddiwr olaf, rhaid i'r manylion allweddol y mae Rheoliad 608/2004 yn ei gwneud yn ofynnol eu rhoi ar label y bwyd, fel y'i darllenir ynghyd â rheoliad 4, ymddangos —
(a)ar label sydd ynghlwm wrth y bwyd, neu
(b)ar docyn neu hysbysiad y mae'n hawdd i ddarpar brynwr ei ddirnad yn y man lle y mae'n dewis y bwyd hwnnw, neu
(c)mewn dogfennau masnachol ynglyn â'r bwyd os oes modd gwarantu bod y dogfennau hynny naill ai gyda'r bwyd y maent yn ymwneud ag ef neu wedi cael eu hanfon cyn i'r bwyd gael ei ddanfon, neu'r un pryd â hynny.
7.—(1) Rhaid i'r manylion y mae rheoliad 5 a 6 yn ei gwneud yn ofynnol eu rhoi ar label y bwyd, neu sy'n ymddangos ar fwydlen, hysbysiad, tocyn neu label yn unol â'r rheoliad 6, fod yn hawdd i'w deall, yn hollol ddarllenadwy ac yn annileadwy a, phan fydd bwyd yn cael ei werthu i'r defnyddiwr olaf, rhaid i'r manylion a enwyd gael eu marcio mewn man amlwg mewn ffordd sy'n ei gwneud yn hawdd i'w gweld.
(2) Rhaid peidio â chuddio, tywyllu neu ymyrryd â'r manylion hynny ag unrhyw fater ysgrifenedig neu ddarluniadol arall.
(3) Rhaid peidio â chymryd bod paragraff (1) uchod yn atal rhoi manylion gan fasarlwywyr, ynglyn â bwydydd y mae eu hamrywiad a'u math yn cael eu newid yn rheolaidd, drwy gyfrwng dros dro (gan gynnwys defnyddio sialc ar fwrdd du).
8.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal.
(2) Rhaid i bob awdurdod iechyd porthladd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal o ran bwyd sydd wedi'i fewnforio.
9. Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, bydd yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir os gall brofi bod y bwyd yr honwyd bod tramgwydd wedi'i chyflawni mewn perthynas ag ef
(a)wedi'i fwriadu i'w allforio i wlad, heblaw Aelod-wladwriaeth, sydd â deddfwriaeth debyg i Reoliad 608/2004 a bod y bwyd yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honno; neu
(b)wedi'i fwriadu i'w allforio i Aelod-wladwriaeth, yn fwyd y mae Rheoliad 608/2004 yn gymwys iddo, a bod y bwyd yn cydymffurfio â darpariaethau'r Rheoliad hwnnw fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2000/13 fel y'i cymhwysir yn y Wladwriaeth honno.
10.—(1) Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad y dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —
(a)adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.);
(b)adran 3 (rhagdybio bod bwyd wedi'i fwriadu i bobl ei fwyta);
(c)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
(ch)adran 21 (amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 14 neu 15;
(d)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(dd)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau)(7) i'r graddau y mae'n berthnasol i dramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan baragraff (3) isod;
(e)adran 35(2) a (3) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (3) isod;
(f)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol).
(2) Wrth gymhwyso adran 32 o'r Ddeddf (pwerau mynediad) at ddibenion y Rheoliadau hyn, dehonglir y cyfeiriadau yn is-adran (1) i'r Ddeddf fel pe baent yn cynnwys cyfeiriadau at Reoliad 608/2004.
(3) Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad y dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf fel pe baent yn cynnwys cyfeiriad at y Rheoliadau hyn fel y'u darllenir gyda Rheoliad 608/2004 —
(a)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
(b)adran 33(2) gyda'r addasiad yr ystyrir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath ag a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (a) uchod;
(c)adran 44 (amddiffyniad swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(8).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Ebrill 2005
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn darparu ar gyfer gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004 (OJ Rhif L97, 1.4.2004, t.44) ynghylch labelu bwydydd a chynhwysion bwyd â ffytosterolau, esterau ffytosterol, ffytostanolau a/neu esterau ffytostanol ychwanegol. Mae'r Rheoliad hwnnw yn ei gwneud yn ofynnol labelu'r bwydydd a'r cynhwysion bwyd hynny â gwybodaeth ychwanegol, gan gynnwys y geiriau “with added plant sterols/plant stanols”.
Gwnaed Rheoliad 608/2004 yn unol â Chyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L109, 6.5.2000, t.29) ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ynghylch labelu, cyflwyno a hysbysebu bwydydd (“y Gyfarwyddeb”). O ganlyniad, y cynhyrchion y mae Rheoliad 608/2004 yn ymwneud â hwy yw bwydydd a chynhwysion bwyd sydd i'w cyflenwi felly i'r defnyddiwr olaf neu rai y bwriedir eu cyflenwi i fasarlwywyr. Yn rhinwedd Erthygl 13(4) o'r Gyfarwyddeb, mae pecynnau bach penodol a photeli gwydr penodol sydd wedi'u marcio'n annileadwy yn esempt rhag gofynion labelu Rheoliad 608/2004. Mae darpariaeth drosiannol yn Erthygl 3 o'r Rheoliad hwnnw.
Yn unol ag Erthyglau 14 a 15 o'r Gyfarwyddeb, mae'r Rheoliadau hyn yn cynnwys esemptiad rhag yr angen i gael eu labelu â rhai o'r manylion sy'n ofynnol gan Reoliad 608/2004 yn achos bwyd na chafodd ei ragbacio, rhai bwydydd tebyg a chynhyrchion cyffaith ffansi (rheoliad 4).
Yn unol ag Erthyglau 13(1) a (2) a 14 o'r Gyfarwyddeb, mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer y dull labelu yn achos y manylion sy'n ofynnol (rheoliadau 5 i 7).
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd —
(a)yn creu tramgwyddau ac yn rhagnodi cosb (rheoliad 3) ac yn pennu awdurdodau gorfodi (rheoliad 8);
(b)yn darparu amddiffyniad o ran allforion, yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC (OJ Rhif L186, 30.6.89, t. 23) ar reoli bwydydd yn swyddogol, fel y cânt eu darllen gyda'r nawfed croniclad i'r Gyfarwyddeb honno (rheoliad 9);
(c)yn ymgorffori darpariaethau penodol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 10).
Mae arfarniad rheoliadol yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi'i baratoi ar gyfer y rheoliadau hyn a'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru (ynghyd â Nodyn Trosi). Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.
Trosglwyddwyd swyddogaethau yr Ysgrifennydd Gwladol i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).
OJ Rhif L109, 6.5.2000, t.29, fel y mae wedi'i gywiro gan Gywiriad (OJ Rhif L124, 25.5.2000, t.66).
OJ Rhif L308, 25.11.2003, t.15.
OJ Rhif L97, 1.4.2004, t.44.
Diwygir adran 35(1) gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (2003 p.44), Atodlen 26, paragraff 42, o ddyddiad sydd i'w bennu
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: