Search Legislation

Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Dull Mynediad, Apelau etc.) (Cymru) 2005

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 1270 (Cy.90)

CEFN GWLAD, CYMRU

Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Dull Mynediad, Apelau etc.) (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

4 Mai 2005

Yn dod i rym

6 Mai 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 32, 38(6) a 44(2) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (“y Ddeddf”)(1), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Dull Mynediad, Apelau etc.) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 6 Mai 2005.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr sydd i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000(2);

  • ystyr “cyfnod apelio” (“appeal period”) yw'r cyfnod a bennir yn rheoliad 4(2) neu reoliad 4(3), yn ôl y digwydd;

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • mae “dogfen” (“document”) yn cynnwys ffotograff, map neu blan;

  • ystyr “fforwm mynediad lleol perthnasol” (“relevant local access forum”) yw fforwm mynediad lleol a sefydlwyd o dan adran 94 o'r Ddeddf ar gyfer yr ardal lle y mae'r tir apêl wedi'i leoli;

  • ystyr “ffurflen apêl” (“appeal form”) yw'r ddogfen y gellir ei chael gan y Cynulliad Cenedlaethol, ac y mae'n rhaid i berson sy'n dymuno dwyn apêl o dan adran 38(1) o'r Ddeddf ei llenwi;

  • ystyr “Rheoliadau Gweithdrefnau Apelau” (“Appeals Procedures Regulations”) yw Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gweithdrefnau Apelau) (Cymru) 2002(3); ac

  • ystyr “tir apêl” (“appeal land”) yw'r tir sy'n destun yr apêl.

(2Oni ddatgenir yn wahanol, mae i eiriau neu ymadroddion yn y Rheoliadau hyn yr ystyr a roddir iddynt yn y Ddeddf neu, os rhoddwyd ystyr gwahanol i'r geiriau a'r ymadroddion hynny yn y Rheoliadau Gweithdrefnau Apelau, yr ystyr sydd iddynt yn y Rheoliadau hynny.

Defnyddio dull cyfathrebu electronig

3.—(1Caniateir bodloni unrhyw ofyniad a osodir o dan y Rheoliadau hyn am roi neu anfon hysbysiad neu ddogfen arall gan un person at berson arall drwy gyfathrebiad electronig—

(a)os bydd defnyddio dull cyfathrebu o'r fath yn peri bod yr wybodaeth a geir yn yr hysbysiad hwnnw neu yn y ddogfen honno ar gael i'r person arall, mewn pob manylyn o bwys, fel y byddai'n ymddangos mewn hysbysiad neu ddogfen a roddir neu a anfonir ar ffurf brintiedig; a

(b)os bydd y person arall wedi cydsynio i'r wybodaeth ddod i law drwy'r dull hwnnw.

(2O dan baragraff (1), os defnyddir dull cyfathrebu electronig at ddibenion rhoi neu anfon hysbysiad neu ddogfen—

(a)o ran cyfathrebiad electronig, bodlonir unrhyw ofyniad am i'r hysbysiad gael ei roi neu ei anfon neu i'r ddogfen gael ei rhoi neu ei hanfon erbyn amser penodol dim ond os bodlonir yr amodau a geir ym mharagraff (1) erbyn yr amser hwnnw; a

(b)caniateir cydymffurfio ag unrhyw ofyniad am i fwy nag un o gopïau gael eu hanfon ar unrhyw un adeg drwy anfon un cyfathrebiad o'r fath.

(3At ddibenion paragraff (1)(a), ystyr “mewn pob manylyn o bwys” yw ym mhob manylyn sydd o bwys er mwyn atgynhyrchu'n union gynnwys yr wybodaeth fel y byddai'n ymddangos mewn hysbysiad a roddir neu a anfonir ar ffurf brintiedig.

Ym mha ddull ac o fewn pa gyfnod y mae'n rhaid dwyn apêl

4.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caniateir dwyn apêl gerbron y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 38(1) o'r Ddeddf (apelau yn erbyn hysbysiadau o dan adran 36(3) neu 37(1) o'r Ddeddf sy'n ymwneud â gwaith sy'n gysylltiedig â dull mynediad) dim ond os hysbysir y Cynulliad Cenedlaethol drwy anfon neu draddodi—

(a)ffurflen apêl wedi'i llenwi i'r Cynulliad Cenedlaethol cyn diwedd y cyfnod apelio; a

(b)copi o'r ffurflen apêl honno wedi'i llenwi i'r awdurdod mynediad yr un pryd ag yr anfonir neu y traddodir yr hysbysiad hwnnw i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan is-baragraff (a).

(2Os caiff apêl ei dwyn yn erbyn hysbysiad a roddir o dan adran 36(3) o'r Ddeddf, y cyfnod apelio yw'r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad hwnnw yn gyfnod y mae'n ofynnol cyflawni'r gwaith a bennir yn yr hysbysiad hwnnw o'i fewn.

(3Os caiff apêl ei dwyn yn erbyn hysbysiad a roddir o dan adran 37(1) o'r Ddeddf, y cyfnod apelio yw'r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad hwnnw yn gyfnod y mae'r awdurdod mynediad yn bwriadu cyflawni'r gwaith a bennir yn yr hysbysiad hwnnw ar ôl iddo ddod i ben.

(4Os yw person sy'n dymuno dwyn apêl yn anfon neu'n traddodi i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysiad ysgrifenedig o'r dymuniad hwnnw fel bod y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gael cyn diwedd y cyfnod apelio, yna, ar yr amod bod y person yn anfon neu'n traddodi ffurflen apêl wedi'i llenwi i'r Cynulliad Cenedlaethol, a hynny o fewn unrhyw gyfnod pellach y gall y Cynulliad Cenedlaethol, yn ysgrifenedig, ei wneud yn ofynnol, rhaid ymdrin â'r ffurflen apêl honno fel pe bai wedi dod i law cyn diwedd y cyfnod apelio.

(5Caniateir llenwi ffurflen apêl naill ai yn Saesneg neu yn Gymraeg, ond, os yw'r apelydd yn dymuno i'r apêl gael ei thrin yn gyfan gwbl neu'n rhannol drwy gyfrwng iaith ac eithrio iaith a ddefnyddiwyd wrth lenwi'r ffurflen apêl, dylai'r ffurflen apêl gynnwys cais i'r perwyl hwnnw, neu dylai fod cais i'r perwyl hwnnw gyda'r ffurflen.

Diwygio Rheoliadau Gweithdrefnau Apelau

5.  Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Dehongli)—

(a)yn y diffiniad o “apêl” (“appeal”), dileer “38(3)” a rhodder “38(1)” yn ei le; a

(b)yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—

ystyr “fforwm mynediad lleol perthnasol” (“relevant local access forum”) yw'r fforwm mynediad lleol a sefydlwyd o dan adran 94 o'r Ddeddf ar gyfer yr ardal lle y mae'r tir sy'n destun yr apêl wedi'i leoli;; ac

(c)yn y diffiniad o “atebydd” (“respondent”), ar ôl “benderfyniad”, mewnosoder “ neu, yn achos apêl o dan adran 38(1) o'r Ddeddf, yr awdurdod mynediad y mae ei hysbysiad”.

6.  Dileer rheoliad 3 o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Camau gan y Cynulliad Cenedlaethol pan ddaw ffurflen apêl i law) a rhodder yn ei le—

3.  Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i ffurflen apêl wedi ei llenwi ddod i law,—

(a)ac eithrio yn achos apêl o dan adran 38(1) o'r Ddeddf, anfon copi o'r ffurflen apêl at yr atebydd; a

(b)yn achos apêl o dan adran 38(1) o'r Ddeddf, anfon holiadur at yr atebydd yn gofyn am yr wybodaeth sy'n ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol ei chael i'w alluogi i ystyried yr apêl..

7.  Ar ôl rheoliad 4(2) o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Ymateb gan atebydd i apêl), mewnosoder—

(3) Yn achos apêl o dan adran 38(1) o'r Ddeddf, rhaid i'r atebydd, yn ychwanegol at gydymffurfio â pharagraff (1), ac o fewn y cyfnod a bennir yn y paragraff hwnnw, sicrhau—

(a)bod y Cynulliad Cenedlaethol yn cael—

(i)yr holiadur wedi'i lenwi a anfonodd y Cynulliad Cenedlaethol at yr atebydd o dan reoliad 3(b) (y mae'n rhaid bod y dyddiad pryd y'i hanfonir i'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i ddatgan arno) ynghyd â chopi o bob dogfen y cyfeirir ati ynddo,

(ii)enw a chyfeiriad unrhyw berson y rhoddwyd iddo gopi o hysbysiad o dan adran 37(3) o'r Ddeddf neu baragraff (3)(b),

(iii)enw a chyfeiriad unrhyw berson a wnaeth sylwadau i'r atebydd ynghylch penderfyniad yr atebydd y mae'r apêl yn ymwneud ag ef,

(iv)cyfeiriad y fforwm mynediad lleol perthnasol, a

(v)manylion ynghylch ar ba adegau ac ymhle y mae'r awdurdod mynediad yn bwriadu sicrhau bod y dogfennau ar gael i'w harchwilio; a

(b)ei fod yn anfon copi o'r hysbysiad hwnnw at bob un o berchenogion a meddianwyr y tir (ac eithrio'r person y rhoddwyd iddo hysbysiad o dan adran 36(3))..

8.  Yn rheoliad 5 o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Hysbysu partïon o'r weithdrefn apêl)—

(a)dileer paragraffau (2) a (3) a rhodder yn eu lle—

(2) O ran hysbysiad o dan baragraff (1)—

(a)rhaid peidio â'i roi cyn pen cyfnod o 35 o ddiwrnodau yn cychwyn ar y dyddiad pryd yr anfonodd y Cynulliad Cenedlaethol gopi o'r ffurflen apêl wedi'i llenwi at yr atebydd yn unol â rheoliad 3; neu

(b)yn achos apêl o dan adran 6 o'r Ddeddf, rhaid peidio â'i roi cyn pen cyfnod o dri mis yn cychwyn ar y dyddiad y dyroddir y map dros dro y mae'r apêl yn ymwneud ag ef (os yw'r dyddiad y daw'r cyfnod hwn i ben yn ddiweddarach na'r dyddiad a bennir yn is-baragraff (a)); neu

(c)yn achos apêl o dan adran 38(1) o'r Ddeddf, rhaid ei roi cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol gael gan yr atebydd y dogfennau a'r wybodaeth y mae'n ofynnol i'r atebydd eu darparu ar ei gyfer o dan reoliad 4.

(3) Rhaid bod dyddiad ar yr hysbysiad a roddir o dan baragraff (1) a rhaid iddo ddatgan—

(a)ym mhob achos, p'un a yw'r apêl i fod ar ffurf—

(i)ymchwiliad lleol,

(ii)gwrandawiad, neu

(iii)nac (a) na (b) a chan hynny caiff ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig; a

(b)yn achos apêl o dan adran 38(1) o'r Ddeddf—

(i)p'un a yw'r apêl yn ymwneud â hysbysiad a roddir o dan adran 36(3) neu 37(1) o'r Ddeddf, yn ôl y digwydd, a

(ii)ar ffurf disgrifiad beth yw'r gwaith a bennir yn yr hysbysiad hwnnw..

9.—(1Yn rheoliad 6(1)(a) o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Hysbysu'r cyhoedd), ar ôl “30(3)”, mewnosoder—

neu 38(1).

(2Ar ddiwedd rheoliad 6(1)(ch), dileer yr atalnod llawn a rhodder—

;

(d)yn achos apêl o dan adran 38(1) o'r Ddeddf, hysbysu—

(i)y fforwm mynediad lleol perthnasol,

(ii)unrhyw berson y rhoddwyd iddo gopi o hysbysiad o dan adran 37(3) o'r Ddeddf neu reoliad 4(3)(b),

(iii)unrhyw berson a wnaeth sylwadau i'r atebydd mewn cysylltiad â'r mater sy'n destun yr apêl, a

(iv)unrhyw berson arall y mae'n briodol rhoi hysbysiad iddo ym marn y Cynulliad Cenedlaethol..

(3Yn rheoliad 6(2),—

(a)yn y frawddeg gyntaf, dileer “paragraff (1)(c) neu (1)(ch)” a rhodder “paragraff (1)(c), (ch) neu (d)” yn eu lle;

(b)yn is-baragraff (a), ar ôl “apelydd”, ychwaneger “ ac, yn achos cyfeiriad o dan adran 29(2) o'r Ddeddf, neu apêl o dan adran 30(3) neu 38(1) o'r Ddeddf, enw'r atebydd;”;

(c)yn is-baragraff (e), ar ôl “paragraff (1)(a) neu (b)”, ychwaneger “(pa un bynnag sydd gynharaf) neu, yn achos apêl o dan adran 38(1) o'r Ddeddf, y dyddiad yr anfonir yr hysbysiad yn unol â pharagraff (1)(c), (ch) neu (d)”; ac

(ch)ar ddiwedd is-baragraff (g), dileer “ac” ac, ar ddiwedd is-baragraff (ng), dileer yr atalnod llawn a rhodder—

; ac

(h)yn achos apêl o dan adran 38(1) o'r Ddeddf—

(i)p'un a yw'r apêl yn ymwneud â hysbysiad a roddwyd o dan adran 36(3) neu 37(1) o'r Ddeddf, yn ôl y digwydd, a

(ii)ar ffurf disgrifiad beth yw'r gwaith a bennir yn yr hysbysiad hwnnw.

(4Yn rheoliad 6(3), dileer “paragraff (1)(c)” a rhodder “paragraff (1)(c), (ch) neu (d)” yn ei le.

(5Yn rheoliad 6(4), yn lle “neu a anfonir yn unol â pharagraff (1)(a), (b), (c) neu (ch)” rhodder “o dan baragraff (a) neu (b) neu a anfonir o dan baragraff (1)(c), (ch) neu (d)”.

10.  Yn rheoliad 9(2) o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Penderfyniad ar apêl a benderfynir drwy gyfnewid sylwadau ysgrifenedig), ar ddiwedd is-baragraff (c), dileer “ac” ac, ar ddiwedd is-baragraff (ch), dileer yr atalnod llawn ac ychwaneger—

; a

(d)yn achos apêl o dan adran 38(1) o'r Ddeddf—

(i)i bob person a hysbyswyd o dan adran 37(3) o'r Ddeddf neu reoliad 4(3)(b), a

(ii)i'r fforwm mynediad lleol perthnasol..

11.  Yn rheoliad 12(1) o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Dyddiad a hysbysiad y gwrandawiad)—

(a)ar ddiwedd is-baragraff (c), dileer “a”;

(b)yn is-baragraff (ch), ar ôl “30(3)”, ychwaneger “ neu 38(1)”;

(c)ar ddiwedd is-baragraff (ch), dileer yr atalnod llawn ac ychwaneger—

; a

(d)yn achos apêl o dan adran 38(1) o'r Ddeddf—

(i)cyhoeddi hysbysiad o'r gwrandawiad ar wefan a gynhelir ganddo, a

(ii)os yw'n barnu bod hynny'n angenrheidiol mewn achos penodol, ei gwneud yn ofynnol i'r atebydd—

(aa)heb fod yn llai na 2 wythnos cyn y dyddiad a bennir ar gyfer y gwrandawiad, gyhoeddi hysbysiad o'r gwrandawiad mewn un papur newydd neu fwy sy'n cylchredeg yn y gymdogaeth lle y mae'r tir wedi'i leoli, a

(bb)gosod hysbysiad o'r gwrandawiad yn gadarn ar y tir apêl neu ar wrthrych ar neu'n agos at y tir hwnnw a hynny yn y fath fodd fel ei fod yn hollol weladwy a darllenadwy gan aelodau o'r cyhoedd; a rhaid i'r atebydd beidio â symud yr hysbysiad oddi yno, neu beri iddo gael ei symud oddi yno am gyfnod, cyn y gwrandawiad, y gall y Cynulliad Cenedlaethol ei bennu..

12.  Yn rheoliad 16(1) o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Hysbysu'r penderfyniad), ar ddiwedd is-baragraff (c), ychwaneger—

; ac

(ch)yn achos apêl o dan adran 38(1) o'r Ddeddf—

(i)i bob person a hysbysir o dan adran 37(3) o'r Ddeddf neu reoliad 4(3)(b), a

(ii)i'r fforwm mynediad lleol perthnasol..

13.  Yn rheoliad 22(6) o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Dyddiad a hysbysiad yr ymchwiliad)—

(a)yn is-baragraff (a), ar ôl “30(3)”, mewnosoder—

neu 38(1); a

(b)ar ddiwedd is-baragraff (b), ychwaneger—

; ac

(c)yn achos apêl o dan adran 38(1) o'r Ddeddf—

(i)cyhoeddi hysbysiad o'r ymchwiliad ar wefan a gynhelir ganddo, a

(ii)onid yw o'r farn nad oes angen hynny mewn achos penodol, ei gwneud yn ofynnol i'r atebydd—

(aa)heb fod yn llai na 2 wythnos cyn y dyddiad a bennir ar gyfer y gwrandawiad, gyhoeddi hysbysiad o'r gwrandawiad mewn un papur newydd neu fwy sy'n cylchredeg yn y gymdogaeth lle y mae'r tir wedi'i leoli, a

(bb)gosod hysbysiad o'r gwrandawiad yn gadarn ar y tir apêl neu ar wrthrych ar neu'n agos at y tir hwnnw a hynny yn y fath fodd fel ei fod yn hollol weladwy a darllenadwy gan aelodau o'r cyhoedd; a rhaid i'r atebydd beidio â symud yr hysbysiad oddi yno, neu beri iddo gael ei symud oddi yno am gyfnod, cyn y gwrandawiad, y gall y Cynulliad Cenedlaethol ei bennu..

14.  Yn rheoliad 28(1) o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Hysbysu'r penderfyniad), ar ddiwedd is-baragraff (c), dileer “ac” ac, ar ddiwedd is-baragraff (ch), dileer yr atalnod llawn ac ychwaneger—

; a

(d)yn achos apêl o dan adran 38(1) o'r Ddeddf—

(i)i bob person a hysbysir o dan adran 37(3) o'r Ddeddf neu reoliad 4(3)(b), a

(ii)i'r fforwm mynediad lleol perthnasol..

15.  Yn rheoliad 29(2) o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Tynnu apêl yn ôl), ar ôl “rheoliad 5(1)”, ychwaneger—

ac, yn achos apêl o dan adran 38(1) o'r Ddeddf, i'r personau a'r cyrff a bennir ym mharagraff (3).

(3) Y canlynol yw'r personau a bennir at ddibenion paragraff (2)—

(a)pob un o berchenogion neu feddianwyr eraill y tir apêl y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwybod ei gyfeiriad; a

(b)y fforwm mynediad lleol, os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn gwybod ei gyfeiriad..

16.  Yn rheoliad 36(b) o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Cyhoeddi penderfyniadau ar apelau), ar ôl “30(3)”, mewnosoder—

neu 38(1).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

4 Mai 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rhan I (adrannau 1 i 46) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (“y Ddeddf”) yn gwneud darpariaeth ar gyfer mynediad i gefn gwlad.

Mae adran 35 o'r Ddeddf yn ymwneud â chytundebau rhwng awdurdodau mynediad a pherchenogion a meddianwyr tir o ran y dull mynediad i dir y mae hawl mynediad i'r cyhoedd o dan adran 2 o'r Ddeddf yn perthyn iddo (“tir mynediad”).

Mae adran 36(3) o'r Ddeddf yn darparu y caiff yr awdurdod mynediad, os yw perchennog neu feddiannydd yn methu cydymffurfio ag unrhyw gyfyngiad mewn cytundeb o dan adran 35 o'r Ddeddf, roi i'r person y mae wedi ymrwymo i'r cytundeb gydag ef hysbysiad yn dweud wrtho am gyflawni gwaith i wneud iawn am dorri'r cyfyngiad.

Mae adran 37 o'r Ddeddf yn galluogi awdurdod mynediad i gyflawni gwaith i ddarparu dull mynediad i dir mynediad os yw'r awdurdod wedi'i fodloni nad yw'n gallu dod i gytundeb o dan adran 35 o'r Ddeddf ar delerau rhesymol. Cyn cyflawni'r gwaith hwnnw, rhaid i'r awdurdod mynediad, o dan adran 37(1) o'r Ddeddf, hysbysu pob perchennog a phob meddiannydd fod yr awdurdod yn bwriadu cyflawni'r gwaith a bennir yn yr hysbysiad.

Mae adran 38(1) o'r Ddeddf yn rhoi i'r perchennog a'r meddiannydd yr hawl i apelio yn erbyn hysbysiad o dan adran 36(3) neu 37(1) ac mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer camau cyntaf apêl o'r fath.

Mae rheoliad 3 yn galluogi ymdrin â chamau cyntaf apêl drwy ddulliau electronig.

Mae rheoliad 4 yn nodi'r dull y mae'n rhaid ei ddefnyddio wrth ddwyn apêl o dan adran 38(1), ac yn pennu cyfnod o amser yn gyfnod y mae'n rhaid dwyn apêl o'i fewn.

Mae rheoliadau 5 i 16 yn gwneud y diwygiadau angenrheidiol i Reoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gweithdrefnau Apelau) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/1794) (Cy.169)

(a)i alluogi'r Rheoliadau hynny i fod yn gymwys i apêl a gaiff ei dwyn o dan adran 38(1) o'r Ddeddf yn ychwanegol at apelau eraill a gaiff eu dwyn o dan Ran I o'r Ddeddf; a

(b)i'w gwneud yn glir beth yw'r gofynion hysbysu sy'n bod eisoes ac a geir yn rheoliad 6(2) o'r Rheoliadau hynny.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources